British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Taliadau S<IMG SRC="images/wcirc.gif">n Priffyrdd (Cartrefi Symudol) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010604w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 604 (Cy.27)
ADEILADU AC ADEILADAU, CYMRU
Rheoliadau Taliadau S
n Priffyrdd (Cartrefi Symudol) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
27 Chwefror 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2001 | |
TREFN Y RHEOLIADAU
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 20A o Ddeddf Iawndal Tir 1973[
1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: -
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau S
n Priffyrdd (Cartrefi Symudol) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "yr awdurdod" ("the authority") mewn perthynas â phriffordd yw'r awdurdod priffyrdd a adeiladodd neu a newidiodd neu sy'n bwriadu adeiladu neu newid y briffordd honno;
mae i "cartref cymwys" ("eligible home") yr ystyr a nodir yn rheoliad 7;
ystyr "cartref symudol" ("moveable home") yw -
(a) carafán o fewn ystyr "caravan" fel y'i diffinir yn Rhan 1 o Ddeddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960[3] ac adran 13 o Ddeddf Safleoedd Carafanau 1968 (gan anwybyddu darpariaethau is-adran (2) o adran 13)[4], neu
(b) cwch preswyl;
ystyr "Cod 1988" ("the 1988 Code") yw'r cyngor a'r cyfarwyddyd sydd wedi'u cynnwys yn y memorandwm technegol sy'n dwyn y teitl "Calculations of Road Traffic Noise" a gyhoeddwyd gan Wasg Ei Mawrhydi (1988);
ystyr "cwch preswyl" ("houseboat") yw cwch neu strwythur tebyg sydd wedi'i ddylunio neu wedi'i addasu i'w ddefnyddio fel cartref;
mae i "cyfnod cymhwyso" ("qualifying period") yr ystyr a nodir yn rheoliad 8;
mesuriad yw "dB(A)" o lefel y pwysedd s
n (pwysoliad "A") mewn desibelau sy'n cael ei dangos gan offer mesur sy'n cydymffurfio â Manyleb y Safon Brydeinig ar gyfer mesurydd lefel swn manwl-gywir a gyhoeddwyd ar 14 Medi 1967 o dan rif B.S. 4197:1967;
ystyr "dyddiad cychwyn" ("commencement date") yw'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym;
ystyr "dyddiad perthnasol" ("relevant date") yw'r dyddiad yr oedd priffordd ar agor i draffig cyhoeddus am y tro cyntaf neu, yn achos priffordd sydd wedi'i newid, y dyddiad yr oedd ar agor i draffig cyhoeddus am y tro cyntaf ar ôl adeiladu'r newid;
ystyr "gwaith perthnasol"("relevant works") yw'r gwaith ar gyfer adeiladu neu newid priffordd sy'n achosi'r s
n neu y disgwylir iddo ei achosi;
lefel y swn mewn dB(A) yr eir y tu hwnt iddi am ddegfed ran o gyfnod o un awr yw "L10";
cymedr rhifyddol pob lefel L10 yn ystod cyfnod o 0600 hyd at 2400 o'r gloch ar ddiwrnod gweithio arferol yw "L10 (18-awr)" ("L10(18-hour)");
ystyr "lefel benodedig" ("specified level") yw lefel swn L10 (18-awr) o 68dB(A);
ystyr "lefel s
n, wedi'i mynegi fel lefel L10 (18-awr), un metr o flaen yr un mwyaf di-amddiffyn o unrhyw ffenestr neu ddrws ar wyneb mwyaf diamddiffyn unrhyw gartref symudol sy'n cael ei achosi gan draffig sy'n defnyddio unrhyw briffordd yn union cyn i waith adeiladu neu newid y briffordd ddechrau;
ystyr "lefel s
n, wedi'i mynegi fel lefel L10 (18-awr), un metr o flaen yr un mwyaf diamddiffyn o unrhyw ffenestr neu ddrws ar wyneb mwyaf diamddiffyn cartref symudol sy'n cael ei achosi gan draffig sy'n defnyddio priffordd berthnasol neu y disgwylir y bydd yn cael ei achosi ganddo;
ystyr "newid" ("alteration") mewn perthynas â phriffordd yw newid yn lleoliad, lled neu lefel lôn gerbydau sy'n rhan o'r briffordd honno (heblaw drwy osod wyneb newydd arni) neu adeiladu lôn gerbydau ychwanegol wrth ochr lôn gerbydau sy'n bodoli eisoes neu uwch ei phen neu islaw iddi ac mae "newid" ("alter") ac "wedi'i newid" ("altered") i'w dehongli yn yr un modd;
mae "priffordd" ("highway") yn cynnwys unrhyw ran o briffordd a'i ystyr yw priffordd neu ran o briffordd y gellir ei chynnal ar gost y cyhoedd fel y'i diffinnir yn adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980[5];
ystyr "priffordd berthnasol" ("relevant highway") yw priffordd y digwyddodd y dyddiad perthnasol ar ei chyfer ar ôl 25 Medi 1990;
mae i "taliad s
n" ("noise payment") yr ystyr a nodir yn rheoliad 3(5).
Y p
n
3.
- (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy, os yw defnyddio priffordd berthnasol yn achosi s
n o'r fath, caiff yr awdurdod wneud taliad o dan y paragraff hwn o'r rheoliad hwn.
(2) At ddibenion paragraff (1) o'r rheoliad hwn mae defnyddio priffordd berthnasol yn achosi s
n o'r fath -
(3) Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy, os yw gwaith ar gyfer adeiladu neu newid priffordd ar unrhyw bryd ar ôl y dyddiad cychwyn, yn achosi s
n ar lefel sydd, ym marn yr awdurdod, wedi cael effaith andwyol ddifrifol ar fwynhad cartref cymwys dros gyfnod di-dor o nid llai na chwe mis, caiff yr awdurdod wneud taliad o dan y paragraff hwn o'r rheoliad hwn.
(4) Pan ddaw priffordd yn briffordd y gellir ei chynnal ar gost y cyhoedd o fewn ystyr adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980[6] o fewn tair blynedd ar ôl y dyddiad perthnasol, caiff yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y briffordd wneud taliad o dan baragraffau (1) neu (3) o'r rheoliad hwn mewn perthynas â chartref cymwys os byddai p
er i wneud hynny wedi codi petai'r briffordd wedi bod yn briffordd y gellid ei chynnal ar gost y cyhoedd ar y dyddiad perthnasol a phetai gwaith adeiladu neu newid y briffordd wedi'i gyflawni gan yr awdurdod priffyrdd hwnnw.
(5) Cyfeirir at daliad o dan y rheoliad hwn fel "taliad s
n" yn y Rheoliadau hyn.
Sut i asesu lefelau s
n
4.
At ddibenion rheoliad 3(2) rhaid i'r lefel s
n berthnasol sy'n cael ei achosi neu y disgwylir iddo gael ei achosi gan draffig sy'n defnyddio priffordd neu y disgwylir iddo ei defnyddio gael eu hasesu yn unol â Chod 1988.
Swm y taliadau s
n
5.
Swm taliad s
n yw'r swm y mae'r awdurdod yn penderfynu arno yn ôl ei ddisgresiwn ond ni chaiff fod yn fwy na £1,650.
Adegau pan na chaniateir gwneud taliadau s
n
6.
Os oes taliad s
n mewn perthynas â'r cartref cymwys hwnnw yn codi yn sgil y newid hwnnw i'r briffordd neu ei defnyddio fel y'i newidiwyd felly.
Cartrefi cymwys
7.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) o'r rheoliad hwn, mae cartref cymwys yn gartref symudol sydd, drwy gydol y cyfnod cymhwyso -
(a) yn achos carafán, wedi'i lleoli'n gyfreithlon ar safle gwarchodedig o fewn ystyr adran 1(2) o Ddeddf Safleoedd Carafanau 1968[7];
(b) yn achos cwch preswyl, wedi'i fwrio'n gyfreithlon neu wedi'i glynu'n sownd fel arall wrtho gydag unrhyw gydsyniad sy'n angenrheidiol ar gyfer y lleoliad o dan sylw oddi wrth unrhyw awdurdod mordwyo, ymgymeriad harbyrau neu ymgymeriad camlesi sy'n gyfrifol am y d
r y mae wedi'i leoli ynddo a chyda chydsyniad y person sy'n meddiannu unrhyw dir y mae wedi'i fwrio neu wedi'i glynu'n sownd wrtho;
(c) sydd wedi'i leoli yn y fath fan neu fannau fel bod rhyw ran ohono, ar ôl adeiladu neu newid y briffordd berthnasol, heb fod yn fwy na 300 metr o'r pwynt agosaf ar lon gerbydau'r briffordd honno.
(2) Nid yw cartref symudol yn gartref cymwys os oedd yn gerbyd modur o fewn ystyr adran 185(1) o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988[8] neu os oedd yn adeilad neu'n rhan o adeilad ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cymhwyso.
(3) At ddibenion taliad s
n sy'n codi o waith perthnasol nid yw cartref symudol yn gartref cymwys -
(a) os cafodd ei feddiannu gyntaf ar ôl y dyddiad perthnasol mewn perthynas â'r gwaith hwnnw;
(b) os yw wedi'i leoli adeg gwneud cais am daliad s
n hwnnw yn deillio o'r un gwaith perthnasol.
Y cyfnod cymhwyso
8.
- (1) Os oes taliad s
n o dan reoliad 3(1) yn cael ei wneud o ganlyniad i waith perthnasol y mae'r dyddiad perthnasol ar ei gyfer yn digwydd cyn y dyddiad cychwyn, y cyfnod o dair blynedd sy'n dod i ben ar y dyddiad cychwyn yw'r cyfnod cymhwyso.
(2) Os oes taliad s
n o dan reoliad 3(1) yn cael ei wneud o ganlyniad i waith perthnasol y mae'r dyddiad perthnasol ar ei gyfer yn digwydd un flwyddyn ar ôl, y dyddiad cychwyn neu o fewn un flwyddyn ar ei ôl, y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy'n dod i ben ddwy flynedd ar ôl y dyddiad perthnasol yw'r cyfnod cymhwyso.
(3) Os oes taliad s
n o dan reoliad 3(1) yn cael ei wneud o ganlyniad i waith perthnasol y mae'r dyddiad perthnasol ar ei gyfer yn digwydd fwy na blwyddyn ar ôl y dyddiad cychwyn, y cyfnod sy'n dechrau un flwyddyn cyn y dyddiad perthnasol ac sy'n dod i ben ddwy flynedd ar ôl y dyddiad perthnasol yw'r cyfnod cymhwyso.
(4) Os oes taliad s
n sy'n cael ei achosi gan y gwaith hwnnw wedi cael effaith andwyol ddifrifol ar fwynhad y cartref cymwys dros gyfnod di-dor o chwe mis yw'r cyfnod cymhwyso.
Y personau y gellir gwneud taliadau s
n iddynt
9.
- (1) Dim ond i'r personau canlynol y gellir gwneud taliad s
n -
(2) Os yw'n ymddangos i'r awdurdod, mewn perthynas â chartref cymwys, fod yna fwy nag un person y byddai paragraff (1) o'r rheoliad hwn yn awdurdodi gwneud taliad swn iddynt, caiff yr awdurdod, yn ôl ei ddisgresiwn, ddyrannu unrhyw daliad s
n y mae'n penderfynu ei wneud rhwng y personau hynny ac, os yw'n gwneud hynny, ymdrinnir â thaliadau y mae'n eu gwneud i bersonau gwahanol o dan yr is-baragraff hwn at ddibenion rheoliad 5 fel un taliad o gyfanswm y taliadau hynny.
Y weithdrefn ar gyfer gwneud cais am daliadau s
n
10.
- (1) Gall yr awdurdod ystyried cais am daliad s
n os yw'n cael ei wneud yn ystod y cyfnod o chwe blynedd sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod cymhwyso.
(2) Rhaid i gais am daliad s
n gael ei gyflwyno yn ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth ganlynol -
(3) Rhaid i gais o dan y rheoliad hwn gael ei lofnodi gan y ceisydd a rhaid iddo ymgorffori datganiad gan y ceisydd fod yr wybodaeth y mae'n ei chynnwys yn gywir hyd eithaf gwybodaeth a chred y ceisydd.
(4) Ni fernir bod cais o dan y rheoliad hwn wedi'i wneud oni bai ei fod yn cynnwys yr holl wybodaeth a ragnodir gan y rheoliad hwn a'i fod yn ymgorffori'r datganiad sy'n ofynnol gan baragraff (3) o'r rheoliad hwn ac ni fernir ei fod wedi'i wneud nes i'r awdurdod y bwriedir ei gyflwyno iddo ei gael mewn gwirionedd.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9]
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Chwefror 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi p
n 1975 (O.S. 1975/1763 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1988/2000). Am resymau ymarferol ni ellir cymhwyso'r darpariaethau hynny at gartrefi symudol.
Gellir cael y memorandwm sy'n dwyn y teitl "Calculation of Traffic Noise" a gyhoeddwyd gan Wasg Ei Mawrhydi (1988) o Siop Lyfrau Oriel, 18-19 Heol Fawr, Caerdydd CF10 2BZ.
Gellir cael Safon Brydeinig 4197:1967 o unrhyw fan werthu sy'n cael ei gweithredu gan y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) neu drwy'r post o'r BSI yn 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.
Notes:
[1]
1973 p.26; mewnosodwyd adran 20A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34), adran 70 ac Atodlen 15, paragraff 5(1). Mae'r p
er i wneud rheoliadau o adran 20A o Ddeddf Iawndal Tir 1973 wedi'i ddatganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, erthygl 2 ac Atodlen 1 (O.S. 1999/672).back
[2]
1973 p.26.back
[3]
1960 p.62.back
[4]
1968 p. 52.back
[5]
1980 p.66.back
[6]
1980 p.66.back
[7]
1968 p.62.back
[8]
1988 p.52.back
[9]
998 p.38back
English version
ISBN
0-11-090179-7
Prepared
19 April 2001