British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Offerynnau Statudol 2001 Rhif 495 (Cy. 22 )
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010495w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 495 (Cy. 22 )
ADDYSG , CYMRU
Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
15 Chwefror 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Mawrth 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 46(2) a (3) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2].
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2001.
(2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Ni fydd y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ariannu ysgolion a gynhelir mewn unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2001.
Diwygio Rheoliadau
2.
- (1) Mae Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999[
3] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)(b) yn lle "28(a) to (d)" rhowch "28(a), (b) and (d)".
(3) Yn rheoliad 3, dilëwch yr "and" yn union o flaen paragraff (f) ac ar ôl y paragraff hwnnw mewnosodwch -
"
(g) expenditure in connection with the administration of committees dealing with education; and
(h) expenditure in connection with external audit.".
(4) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 28 hepgorwch is-baragraff (c) ac yn lle is-baragraff (d) rhowch "(d) revenue budget preparation and the production and publication of accounts.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Chwefror 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999 (sydd erbyn hyn yn gymwys i Gymru yn unig), a hynny i weithredu penderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol nad yw'n briodol i wariant ar weinyddiaeth pwyllgorau addysg na gwariant ar archwiliadau allanol gael eu cynnwys yng nghyllideb ysgolion lleol awdurdod addysg lleol. Gan hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau 2 a 3 o Reoliadau 1999 (sy'n nodi pa wariant sydd wedi'i gynnwys a pha wariant sydd heb ei gynnwys yn y gyllideb honno) er mwyn adlewyrchu'r penderfyniad hwnnw.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Atodlen 2 i Reoliadau 1999 (sy'n pennu dosbarthiadau a disgrifiadau o wariant a all gael eu tynnu oddi ar gyllideb ysgolion lleol awdurdod addysg lleol er mwyn cyfrif eu cyllideb ysgolion unigol) a hynny i ddileu cyfeiriadau at y ddau gategori gwariant y cyfeirir atynt uchod.
Notes:
[1]
1998 p.31. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 142(1).back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1999/101 a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/911(Cy.40). Yn wreiddiol yr oedd y Rheoliadau hynny yn gymwys i Gymru a Lloegr ill dwy ond cawsant eu diddymu mewn perthynas â Lloegr gan O.S. 2000/478.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0-11-090160-6
|
Prepared
14 March 2001