British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Offerynnau Statudol 2001 Rhif 140 (Cy. 6 )
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010140w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 140 (Cy. 6 )
PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU
Rheoliadau Diwygio Cartrefi Plant (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
23 Ionawr 2001 | |
|
Yn dod i rym |
28 Chwefror 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 63(3) o Ddeddf Plant 1989[
1] ac sy'n arferadwy ganddo bellach mewn perthynas â Chymru[
2].
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Cartrefi Plant (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y Ddeddf" yw Deddf Plant 1989.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygio Rheoliadau Cartrefi Plant 1991
2.
- (1) Diwygir Rheoliadau Cartrefi Plant 1991[
3] drwy fewnosod y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 3A -
"
Exemption from registration as a children's home
3B.
- (1) Subject to section 63(12) and Schedule 7 to the Act (Foster parents: limits on number of foster children), any home in which a child is cared for and accommodated by a person who -
(a) is a local authority foster parent in relation to the child; or
(b) is a foster parent with whom the child has been placed by a voluntary organisation; or
(c) fosters the child privately,
is so far as the provision of care and accommodation for that child is concerned, exempt from the definition of a "children's home" in section 63(3) of the Act."
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Ionawr 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cartrefi Plant 1991 mewn perthynas â Chymru o ganlyniad i ddwyn i rym, hefyd ar 28 Chwefror 2001, adran 40 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (2000 p.14). Mae adran 40 yn diwygio adran 63(3)(a) o Ddeddf Plant 1989 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gartrefi plant sy'n cael eu rhedeg yn breifat ac sy'n lletya a gofalu am lai na phedwar o blant i gael eu cofrestru gyda'r awdurdod lleol y lleolir hwy yn ei ardal yn yr un modd â chartrefi mwy i blant. Effaith y Rheoliadau hyn, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau presennol ar berson sy'n maethu mwy na thri o blant, yw esemptio cartrefi y caiff plant eu lletya ynddynt fel plant maeth o'r gofyniad i gofrestru fel cartref plant.
Notes:
[1]
1989 p.41.back
[2]
Yn gyffredin â holl swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y Ddeddf i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru trosglwyddwyd y p er yn arferadwy o hyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.back
[3]
O.S. 1991 Rhif 1506. Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1993 Rhif 3069.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0-11-090156-8
|
Prepared
15 February 2001