Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") wedi cael cynnig gan Gyngor Cyllido Addysg Bellach Cymru, wedi'i wneud yn unol ag adran 51 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[1] ("y Ddeddf"), i ddiddymu'r gorfforaeth addysg bellach a adwaenir fel Coleg Pencoed[2] ("y Trosglwyddwr") o dan adran 27 o'r Ddeddf; Drwy arfer y p ![]() 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Coleg Pencoed (Diddymu) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000. 2. Ar 1 Ebrill 2000 diddymir y Trosglwyddwr a throsglwyddir ei holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i'r Trosglwyddai, sydd yn gorfforaeth gorfforedig a sefydlwyd at ddibenion sy'n cynnwys darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysg. 3. Bydd adran 26(2), (3) a (4) o'r Ddeddf yn gymwys i unrhyw berson a gyflogid gan y Trosglwyddwr yn union cyn 1 Ebrill 2000 fel petai'r cyfeiriadau yn yr adran honno -
(b) at y dyddiad gweithredol yn gyfeiriad at 1 Ebrill 2000; (c) at y trosglwyddwr yn gyfeiriad at y Trosglwyddwr; ac (ch) at y gorfforaeth yn gyfeiriad at y Trosglwyddai.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu'r gorfforaeth addysg bellach a sefydlwyd i redeg Coleg Pencoed. Mae'n darparu ar gyfer trosglwyddo ei heiddo, ei hawliau a'i rhwymedigaethau i Gorfforaeth Addysg Bellach Coleg Technoleg Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae'n sicrhau hawliau ei gweithwyr trwy gymhwyso adran 26(2) i (4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992. Notes: [1] 1992 p.13. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 51 i'r Cynulliad Cenedlaethol gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [2] Sefydlwyd gan Orchymyn Addysg (Corfforaethau Addysg Bellach) 1992 (O.S.1992/2097).back [4] Sefydlwyd gan O.S. 1992/2097 hefyd.back
|