Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 49(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[1] ac a freiniwyd ynddo bellach[2]: 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Gostyngiad ar gyfer 2000/2001) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000. 2. 7.5 y cant fydd cyfradd ganrannol y gostyngiad a ragnodir ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 at ddibenion diffinio "r" yn adran 49(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]. Dafydd Elis Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 13 Mawrth 2000 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Rhan IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn darparu ar gyfer cyllid cyfalaf awdurdodau lleol. Mae adran 49(2) yn nodi fformwla ar gyfer penderfynu, at ddibenion Rhan IV, gwerth y gydnabyddiaeth sydd i'w rhoi gan awdurdod lleol o dan drefniant credyd mewn unrhyw flwyddyn ariannol ar ôl y flwyddyn y daw'r trefniant i fodolaeth. Un o'r ffactorau y cyfeirir ato yn y fformwla yw cyfradd ganrannol y gostyngiad a ragnodir ar gyfer blwyddyn ariannol. Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi 7.5 y cant, sef 0.9 y cant yn llai na chyfradd y gostyngiad a ragnodwyd ar gyfer 1999/2000. Notes: [1] 1989 p.42.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
|