Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] a pharagraff 3(2) o Atodlen 6 iddi, ac a freiniwyd ynddo bellach i'r graddau y mae'n arferadwy yng Nghymru[2]. Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn BG plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000 (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn -
Gwerth ardrethol
(b) unrhyw ddarpariaeth a wnaed o dan reoliadau a wnaed o dan adran 58[6] o'r Ddeddf (darpariaeth arbennig ar gyfer 1995 ymlaen) yngln â'r swm taladwy am hereditament am gyfnod perthnasol fel y'i ddiffinnir yn yr adran honno.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) O dan baragraff 3(2) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol drwy orchymyn ddarparu, yn achos hereditamentau annomestig sydd i'w dangos ar y rhestr ardrethu canolog i Gymru nad yw rheolau arferol prisio ar gyfer ardrethu a gynhwysir ym mharagraffau 2 i 2B o'r Atodlen honno yn gymwys, ac yn lle hynny eu gwerth ardrethol fydd y swm a bennir yn y gorchymyn neu'r hyn a benderfynir yn unol â rheolau a ragnodir. Breinir y pwerau hyn bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'n ofynnol i hereditamentau nwy a feddiennir (neu, os nas meddiennir, a berchnogir) gan BG plc (sydd wedi disodli British Gas plc at y dibenion hyn) i gael eu dangos ar y rhestr ardrethu canolog a luniwyd ar 1 Ebrill 2000, yn rhinwedd Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999. Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu nad yw paragraffau 2 i 2B yn gymwys i'r hereditamentau hynny. Ar gyfer y flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 pennir £32,059,000 fel gwerth ardrethol yr hereditamentau nwy a leolir yng Nghymru. Bydd y gwerth ardrethol hwn yn gymwys hefyd am y blynyddoedd sy'n dilyn. Mae Erthygl 3(1) yn diddymu Gorchymyn British Gas plc (Gwerthoedd Ardrethol) 1994 o'r 1 Ebrill 2000 ymlaen. Bydd y darpariaethau hyn yn dal i fod yn weithredol i'r dibenion a grybwyllir yn erthygl 3(2). Notes: [1] 1988 c.41. Section 143(2) is amended by paragraph 72(2) of Schedule 5 to the Local Government and Housing Act 1989 (c.42). Paragraph 3(2) of Schedule 6 is amended by paragraph 38(13) of Schedule 5 to the 1989 Act. See section 146(6) of the 1988 Act for the definition of "prescribed".back [2] See the National Assembly for Wales (Transfer of Functions) Order 1999 (S.I. 1999/672).back [4] Paragraph 2 is amended by, and paragraphs 2A and 2B are inserted by, paragraph 38(3) to (11) of Schedule 5 to the Local Government and Housing Act 1989.back [6] Section 58 is amended by paragraph 68 of Schedule 13 to the Local Government Finance Act 1992 (c.14) and section 2 of the Non-Domestic Rating Act 1994.back
|