Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gweud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 156(4) o Ddeddf Tai 1985[1] ac a freiniwyd iddo i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru:[2] Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 20 Ionawr 2000. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig. Cyrff a bennir 2. Pennir y cyrff canlynol yn sefydliadau benthyg cymeradwy i ddibenion adran 156[3] o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon) -
(b) Mortgages 2 Limited - Rhif y Cwmni 3587558 (c) Mortgages 4 Limited - Rhif y Cwmni 3695068
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu tri chorff yn sefydliadau benthyg cymeradwy i ddibenion adran 156 o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau o dan yr hawl i brynu). Pennwyd cyrff eraill drwy orchmynion blaenorol. Mae'r cyrff hyn hefyd yn dod yn sefydliadau benthyg cymeradwy i ddibenion adran 36 o Ddeddf 1985 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau gwirfoddol gan awdurdodau lleol) ac adran 12 o Ddeddf Tai 1996 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau gwirfoddol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig). Yn ychwanegol, gan fod adran 156 o Ddeddf Tai 1985 yn cael ei chymhwyso gan adran 171A o'r Ddeddf honno at achosion lle diogelir hawl tenant i brynu a chan adran 17 o Ddeddf Tai 1996 at achosion lle mae gan denant hawl i gaffael o dan adran 16 o'r Ddeddf honno, daw'r cyrff a benwyd yn sefydliadau benthyg cymeradwy i ddibenion yr hawliau hynny. Notes: [1] 1985 c.68; section 156(4) was amended by the Housing Act 1988 (c.50), Schedule 17, paragraph 106 and by Part XIII of Schedule 19 to the Housing Act 1996 (c.52).back [2] See the National Assembly for Wales (Transfer of Functions) Order 1999 (S.I. 1999/672.)back [3] Section 156 was also amended by the Housing and Planning Act 1986 (c.63), Schedule 5, paragraph 1(2) and (5) and by section 120(3) and (4) of the Leasehold Reform, Housing and Urban Development Act 1993 (c.28).back
|