Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 66(8) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd o'r Ysgol) (Cyfnodau Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2001. Diwygio 2. Yn rheoliad 3(2)(c) o Reoliadau Addysg (Gwahardd o'r Ysgol) (Cyfnodau Rhagnodedig) 1999[3] (cyflawni dyletswyddau'r corff llywodraethu), yn gymaint â'i fod yn ymwneud â Chymru, rhoddir "50" yn lle "30". Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]). John Marek Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol 9 Tachwedd 2000 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwahardd o'r Ysgol) (Cyfnodau Rhagnodedig) 1999 mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Os byddai disgybl mewn ysgol o'r fath, yn sgil gwaharddiad, yn cael ei wahardd am gyfnod penodedig o fwy na phump ond heb fod yn fwy na 15 diwrnod ysgol o ran cyfanswm mewn unrhyw un tymor, mae Rheoliad 2 yn darparu bod rhaid fel rheol i'r corff llywodraethu gymryd pob un o'r camau y cyfeirir atynt yn adran 66(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 heb fod yn hwyrach na 50 diwrnod ysgol ar ôl cael hysbysiad o'r gwaharddiad (yn hytrach na 30 diwrnod ysgol fel o'r blaen). Notes: [1] 1998 p.31.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
|