Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1]: Enwi, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2000. (2) Yn y Gorchymyn hwn -
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru. Adran 72 (Comisiynydd Plant Cymru) Atodlen 2 Adran 54(1),(3)-(7) (Cynghorau Gofal) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r Cyngor Adran 55 (Dehongli) Adran 113 (2)-(4) (Pwerau diofyn y Gweinidog priodol) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r Cyngor Adran 114 (Cynlluniau ar gyfer trosglwyddo staff) i'r graddau y mae'n ymwneud â Gorchymyn gan y Cyfrin Gyngor, neu argymhelliad i'w Mawrhydi i wneud Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, o dan Adran 70 o'r Ddeddf (Dileu y Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Cymdeithasol) yn cynnwys cynllun ar gyfer trosglwyddo staff o'r Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Cymdeithasol i'r Cyngor Atodlen 1 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r Cyngor (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu dydd i rai o ddarpariaethau penodol Deddf Safonau Gofal 2000 ("y Ddeddf") ddod i rym. Mae'r Gorchymyn yn gymwys i Gymru. Mae'r Gorchymyn yn darparu y daw'r darpariaethau canlynol yn Rhan V o'r Ddeddf i rym ar 13 Tachwedd 2000:
(b) Atodlen 2, sy'n gwneud darpariaeth ynghylch rhai o swyddogaethau gweithredol penodol y swydd megis ei statws, penodi iddi a'i thâl, ei phwerau cyffredinol, ei chyfrifon, ei hatebolrwydd a'i hadroddiadau.
Mae'r Gorchymyn yn darparu y daw'r darpariaethau canlynol yn Rhan IV o'r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2001 i'r graddau y maent yn ymwneud â Chyngor Gofal Cymru ("y Cyngor"):
(b) adran 55 sy'n gwneud darpariaeth ynghylch dehongli Rhan IV o'r Ddeddf; (c) adran 113 (2)-(4) sy'n darparu bod gan y Cynulliad bwerau diofyn mewn perthynas â'r Cyngor; (ch) adran 114 sy'n gwneud darpariaeth ynghylch Gorchmynion y Cyfrin Gyngor a wneir o dan adran 70 o'r Ddeddf sy'n trosglwyddo staff o'r Cyngor Canolog Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Cymdeithasol i'r Cyngor; (d) Atodlen 1 sy'n gwneud darpariaeth ynghylch rhai o swyddogaethau gweithredol penodol y Cyngor megis ei statws, ei bwerau cyffredinol, ei aelodaeth a phenodi iddo, ei weithdrefnau, ei staff, ei gyfrifon a'i adroddiadau. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daethpwyd â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym mewn perthynas â Chymru, yn ogystal â Lloegr, drwy O.S. 2000/2544 (C.72). Notes: [1] 2000 p.14. Mae'r per yn aferadwy gan y Gweinidog priodol. Yn unol â'r diffiniad o "the appropriate Minister" ("y Gweinidog priodol") yn adran 121(1) ystyr "y Gweinidog priodol" mewn perthynas â Chymru yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru; mewn perthynas â'r Alban, Gog;edd Iwerddon neu Loegr, ystyr "y Gweinidog priodol" yw'r Ysgrifennydd Gwladol.back
|