Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (b), (c), (d) ac (f), (2)(a) a (3), 17(1), 19(1)(a), 26 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1], a pharagraffau 2(1), 3(1), 5 a 6(1)(a) o Atodlen 1 iddi, sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan roi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig (Diwygio) (Cymru) 2000; maent yn gymwys i Gymry yn unig, a deuant i rym ar 1 Hydref 2000. Diwygiadau i Reoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997 2. - (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, mae Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997[3] wedi'u diwygio yn unol â'r paragraffau canlynol yn y rheoliad hwn. (2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) mae'r diffiniadau o "class I specified risk material" a "class II specified risk material" wedi'u diddymu. (3) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 mae'r diffiniad canlynol yn disodli'r diffiniad o "specified risk material" -
(b) specified sheep or goat material; (c) any part of the animal remaining attached to specified bovine material or specified sheep or goat material after dissection of the carcase; (d) any animal material which comes into contact with specified bovine material or specified sheep or goat material after it has been removed from the carcase; and (e) specified solid waste;".
(4) Ym mharagraff (1) o reoliad 3 (deunydd defaid neu eifr penodedig) mae'r ymadrodd "class I" wedi'i ddiddymu.
(b) mae'r geiriau "or incinerated" wedi'u mewnosod rhwng "rendered" a "whole".
(7) Mae'r paragraff canlynol yn disodli paragraffau (1) a (2) o reoliad 4 (deunydd penodedig o fucholion) -
(ii) the thymus, (iii) the spleen, (iv) the intestines from the duodenum to the rectum, and (v) the spinal cord;
(b) in relation to a bovine animal which was slaughtered or has died in the United Kingdom or Portugal at an age greater than 30 months (other than a bovine animal which was accompanied at the time of slaughter by a slaughter certificate issued under the Beef Assurance Scheme as described in Schedule 1 to the Fresh Meat (Beef Controls) (No. 2) Regulations 1996[4]), the vertebral column (including dorsal root ganglia); and
(ii) the tonsils, (iii) the spinal cord, and (iv) the ileum.".
(8) Mae'r paragraff canlynol wedi disodli paragraff (3) o reoliad 4 -
(9) Mae'r paragraff canlynol wedi'i ychwanegu at reoliad 4 -
(10) Mae rheoliad 12 (rendro'r carcas cyfan) wedi'i ddiddymu.
(ii) the tongue; and
(b) the material referred to in paragraphs (c) and
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997 (O.S.1997/2965, fel y'u diwygiwyd) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae Rheoliadau Deunydd Risg Penodedig 1997 yn gymwys i Brydain Fawr gyfan. 2. Diben y Rheoliadau yw gweithredu Erthygl 3.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2000/418/EC yn rheoleiddio defnyddio deunydd sy'n creu risg o ran enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (OJ Rhif L158, 30.6.2000, t.76). 3. Mae'r prif ddiwygiad yn cysoni'r diffiniad o "deunydd risg penodedig" ("specified risk material") yn rheoliad 2(1) o O.S. 1997/2965 â'r diffiniad o'r ymadrodd hwnnw ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2000/418/EC. Gwneir diwygiad canlyniadol i reoliad 24(9)(b)(ii) o O.S. 1999/2965, sy'n rheoleiddio gwaredu gwêr sy'n deillio o ddeunydd risg penodedig arbennig. 4. Diwygir O.S. 1997/2965 ymhellach fel y bernir bod carcasau cyfan defaid, geifr ac anifeiliaid buchol yn ddeunydd risg penodedig os cânt eu symud o'r fan lle cawsant eu lladd neu lle y buont farw i gael eu rendro neu eu hylosgi yn gyfan. 5. O ganlyniad i'r diwygiadau a ddisgrifir ym mharagraff 4 uchod, mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu rheoliad 12 o O.S. 1997/2965 (rendro carcasau cyfan). 6. Mae arfarniad rheoleiddiol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Y Llawr Cyntaf, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EN. Notes: [1] 1990 p.16.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1997/2965, a ddiwygiwyd mewn perthynas â Phrydain Fawr gyfan gan O.S. 1998/2405 (a ddiwygiwyd ei hun gan O.S. 1998/2431) ac O.S. 1999/539.back [4] O.S. 1996/2097, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/2522.back
|