Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 50 a 63(3) o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986[1], ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn, diddymu ac eithrio 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 22 Medi 2000. (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae Rheoliadau Addysg (Cymhelliant Hyfforddi Athrawon Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cymru) 1999[3] wedi'u diddymu. (3) Er hynny, bydd y Rheoliadau hynny yn dal yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson y dyfarnwyd grant iddo o danynt os cafodd unrhyw daliad grant ei dalu gan y Cynulliad Cenedlaethol (neu gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan drefniadau cyfatebol a oedd yn gymwys yn Lloegr) cyn 22 Medi 2000 a bod y person yn parhau i ddilyn y cwrs y dyfarnwyd y grant mewn perthynas ag ef, neu wedi'i gwblhau. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn -
(b) yn ôl penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol neu benderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol yn athro neu athrawes gymwysedig yn unol ag unrhyw ddarpariaeth a wnaed felly;
(b) yn golygu bod person sy'n ei gwblhau yn llwyddiannus yn dod yn athro neu athrawes gymwysedig;
Cymhellion i bersonau ddilyn hyfforddiant athrawon
(b) wedi cael swm llawn unrhyw randaliadau grant a oedd yn daladwy mewn perthynas â'r cyfnod pryd yr oedd yn dilyn y cwrs o dan unrhyw drefniadau a oedd yn berthnasol yn Lloegr y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni eu bod yn cyfateb i'r trefniadau a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hyn; ac (c) wedi ymgymryd â swydd addysgu mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru.
(3) Ym mharagraffau (1) a (2), ystyr "cymwys" yw cymwys i gael cymorth i fyfyrwyr o dan reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[7].
(b) a gyflogir i addysgu mewn unrhyw ysgol neu sefydliad addysgol arall (ac nad yw'n athro neu athrawes gymwysedig); neu (c) y mae'r Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) o reoliad 1 yn dal yn gymwys mewn perthynas â'r person yn rhinwedd paragraff (3) o'r Rheoliad hwnnw.
(2) Ni thelir unrhyw grant o dan reoliad 3 i berson oni bai ei fod wedi gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol yn y fath ffurf, ac ar y pryd a chan gynnwys unrhyw fanylion y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu arnynt.
(b) os yw'n darparu ar gyfer ad-dalu'r grant os yw'r derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad grant, yn methu â bodloni unrhyw un o'r meini prawf cymhwyster a fabwysiadwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â rhandaliad dilynol; neu (c) os yw'n darparu ar gyfer ad-dalu grant os yw'r derbynnydd wedi rhoi gwybodaeth sy'n ffug neu yn sylweddol gamarweiniol yn ei gais am grant neu mewn perthynas ag ef.
Swm y grant a thaliadau grant
(b) yn bodloni'r holl amodau perthnasol a geir yn y Rheoliadau hyn; ac (c) yn bodloni unrhyw feini prawf perthnasol ar gyfer cymhwyster i gael grantiau o dan reoliad 3 a fabwysiadwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Gall grantiau o dan reoliad 3 gael eu talu mewn un swm neu mewn unrhyw randaliadau ac ar unrhyw adegau y penderfynir arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol, a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu yn benodol fod rhandaliadau yn daladwy ar ddyddiadau ar ôl i'r person ymgymryd â swydd addysgu fel athro neu athrawes gymwysedig. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Yr oedd Rheoliadau Addysg (Cymhelliant Hyfforddi Athrawon Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cymru) 1999 yn darparu ar gyfer talu grantiau yn gymhellion i annog mwy o bobl i ddilyn cyrsiau ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon yn y coleg i addysgu mathemateg neu wyddoniaeth ar lefel uwchradd. Mae Rheoliadau 1999 yn cael eu diddymu gan y Rheoliadau hyn, ac eithrio yn achos y rhai sydd eisoes wedi cael taliad grant o dan Reoliadau 1999 cyn 22 Medi 2000. O dan y Rheoliadau newydd hyn, gall grantiau cymhelliant gael eu talu mewn perthynas â chyrsiau o'r fath ar gyfer addysgu pob pwnc. Os caiff person unrhyw randaliadau grant mewn perthynas â chwrs mewn sefydliad yn Lloegr y mae grantiau cymhelliant yn daladwy ar ei gyfer o dan drefniadau cyfochrog, mae'r Rheoliadau yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i dalu unrhyw randaliadau eraill y byddai gan y person hwnnw hawl i'w cael yn rhinwedd y Rheoliadau hyn pe bai wedi cwblhau cwrs yng Nghymru y telid grant mewn perthynas ag ef o dan y Rheoliadau hyn. Mae yn y Rheoliadau ddarpariaeth gwbl newydd sy'n fodd i grantiau gael eu talu i annog ysgolion i gyflogi athrawon graddedig a'u hyfforddi. Mae yna esboniad manylach ar y Rheoliadau isod. Mae Rheoliadau 1999 yn cael eu diddymu, ond bydd unrhyw berson sydd wedi cael taliad o dan y Rheoliadau hynny yn dal yn cael ei gynnwys o dan y Rheoliadau hynny (rheoliad 1) . Mae rheoliad 2 yn cynnwys diffiniadau o dermau sy'n cael eu defnyddio yn y Rheoliadau. Gall grantiau gael eu talu yn gymhellion mewn perthynas â phersonau sy'n gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr er mwyn iddynt ymgymryd â hyfforddiant ôl-raddedig i athrawon mewn coleg i addysgu unrhyw bwnc (rheoliad 3) . Yn rheoliad 4 nodir nifer o achosion lle na all grant gael ei dalu o dan reoliad 3. Mae rheoliad 5 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu grant o dan reoliad 3 ar yr amod ei bod yn ofynnol ei ad-dalu o dan amgylchiadau penodedig. Mae rheoliad 6 yn darparu mai'r Cynulliad Cenedlaethol sy'n penderfynu ar swm y grant, a all gael ei dalu mewn un swm neu mewn rhandaliadau (y gall rhai ohonynt gael eu gohirio tan ar ôl i'r person ymgymhwyso yn athro neu'n athrawes ac ymgymryd â swydd addysgu). Gall taliadau cymhelliant gael eu talu i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir i'w hannog i gyflogi athrawon graddedig a'u hyfforddi o dan y cynllun a elwir y "Rhaglen Athrawon Graddedig" (rheoliad 7) . Notes: [1] 1986 p.61. Diwygiwyd adran 63(3) gan baragraff 107(a) o Atodlen 19 i Ddeddf Addysg 1993 (p.35).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1999/2816 (Cy.17).back [4] 1988 p.40. Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2817 (Cy.18)) a Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Lloegr) 1999 (O.S. 1999/2166) yw'r Rheoliadau cyfredol.back [5] Gellir cael rhestr o'r sefydliadau dynodedig cyfredol oddi wrth Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Linden Court, The Orchards, Ty Glas Avenue, Llanisien, Caerdydd, CF4 5DZ.back [7] 1998 p.30; Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2000 (O.S. 2000/1121) yw'r Rheoliadau cyfredol.back
|