Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan baragraff 13 o Atodlen 10 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[1]: Enwi, cychwyn a dehongli 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Swyddogaethau Interim) 2000 a daw i rym ar 19 Medi 2000. 2. Yn y Gorchymyn hwn -
Swyddogaethau Interim y Cyngor
(b) mewn cysylltiad â'r pwerau a roddir gan is-baragraff (a), rhoi cymorth ariannol i bersonau sy'n bwriadu darparu gwybodaeth, cyngor neu ganllawiau ynghylch addysg neu hyfforddiant neu faterion cysylltiedig (gan gynnwys cyflogaeth).
(2) Os bydd y Cyngor yn darparu cymorth ariannol o dan y per a roddir gan baragraff (1)(b) uchod gall osod amodau; a gall yr amodau -
(b) ei gwneud yn ofynnol talu llog mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pryd y mae swm sy'n ddyledus i'r Cyngor heb ei dalu.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae paragraff 13 o Atodlen 10 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy orchymyn roi pwerau i Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant os yw wedi'i sefydlu cyn iddo gael ei swyddogaethau llawn, i'w gynorthwyo i weithredu ei swyddogaethau llawn pan fydd yn eu cael. Mae'r Gorchymyn hwn a wneir o dan y per y cyfeirir ato uchod yn rhoi pwer i Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant wneud unrhyw beth sy'n angenrheidiol neu'n briodol wrth baratoi i arfer swyddogaethau o dan adrannau 31, 32, 40(1) a (6) a 41 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 pan fydd yr adrannau hynny yn dod i rym (a disgwylir y bydd hynny ar 1 Ebrill 2001) ynghyd â phwer cysylltiedig i roi cymorth ariannol. Y swyddogaethau perthnasol yw prif ddyletswyddau'r Cyngor mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant ar gyfer personau 16 i 19 oed a hefyd ar gyfer personau dros 19 oed, per y Cyngor i sicrhau cyfleusterau ar gyfer gwybodaeth, cyngor neu ganllawiau mewn cysylltiad ag addysg neu hyfforddiant a'i ddyletswyddau mewn perthynas â phersonau sydd ag anawsterau dysgu. Notes: [1] 2000 p.21back
|