Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 173(1), (2) a (4) a 175(1A) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1] a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]. Enwi, cychwyn a dehongli 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 13 Medi 2000. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygiadau 2. - (1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) 1991[3] yn unol â'r paragraffau canlynol. (2) Yn Rheoliad 17, ym mharagraff (2), yn lle "£29.48" rhowch "£30.39". (3) Yn Rheoliad 18,
(b) ym mharagraff (2),
(ii) yn is-baragraffau (b) ac (c), yn lle "£52.49" rhowch "£55.31.".
Diddymu (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae adran 173 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn gwneud darpariaeth i aelod o gyngor plwyf yn Lloegr neu o gyngor cymuned yng Nghymru sy'n gynghorydd gael taliad yn lwfans presenoldeb nad yw'n fwy na'r swm a ragnodir drwy gyfrwng rheoliadau ac i aelod o gyngor o'r fath nad oes ganddo hawl i gael taliad o'r fath gael taliad yn lwfans colled ariannol nad yw'n fwy na'r swm a ragnodir drwy gyfrwng rheoliadau. Mae adran 175 o Ddeddf 1972 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu i aelod o awdurdod lleol neu o unrhyw gorff arall y mae'r adran honno'n gymwys iddo lwfans am fynd i gynhadledd neu gyfarfod nad yw'n fwy nag unrhyw swm a bennir mewn rheoliadau neu y penderfynir arnynt o danynt. Mae Rheoliad 17 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) 1991 yn pennu swm at ddibenion adran 175 o Ddeddf 1972 ac mae Rheoliad 18 o'r Rheoliadau hynny'n pennu symiau at ddibenion adran 173 o'r Ddeddf honno. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 17 a 18 o Reoliadau 1991 drwy gynyddu'r symiau perthnasol, ac yn diddymu Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) 1999 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Rhif 2) 1999 mewn perthynas â Chymru. Notes: [1] 1972 p. 70. Diwygiwyd adran 173 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (p. 65), adran 24(1) a chan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42), Atodlen 11, paragraff 26. Mewnosodwyd adran 175(1A) gan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, Atodlen 11, paragraff 27. I gael y diffiniad o "prescribed" gweler adran 270 o Ddeddf 1972.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1991/351; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1999/1086 ac O.S. 1999/1087.back
|