Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58 a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2] Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Diwygio) (Cymru) 2000, a deuant i rym ar 1 Awst 2000. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Cymru) 1999[3] Diwygio'r prif Reoliadau 3. - (1) Diwygir y prif Reoliadau yn unol â'r paragraffau canlynol. (2) Yn Rheoliad 2(1), ar ôl y diffiniad o "person dynodedig" rhowch -
(3) Yn Rheoliad 3(1), yn lle "ac 1 Ebrill 2002", rhowch -
(4) Yn Rheoliad 8, ar ôl paragraff (4), rhowch -
(5) Yn Rheoliad 10, ar ôl paragraff (3), rhowch -
(5) Yn y blynyddoedd perthnasol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2003 a 1 Ebrill 2004 cyfrifir y swm y gellir ei godi yn unol â darpariaethau Rhan III o'r Ddeddf.".
(6) Ar ôl Rheoliad 10, rhowch -
10B. - (1) Os elusen neu ymddiriedolwyr elusen sy'n talu'r ardrethi a bod yr hereditament diffiniedig yn cael ei ddefnyddio yn gyfan gwbl neu yn bennaf at ddibenion elusennol, ceir y swm y gellir ei godi drwy rannu'r swm a gyfrifir yn unol â rheoliad 10 â 5. (2) Os yw adran 43(6B) o'r Ddeddf (siopau cyffredinol etc. mewn aneddiadau gwledig) yn gymwys mewn perthynas â'r hereditament diffiniedig, ceir y swm y gellir ei godi drwy rannu'r swm a gyfrifir yn unol â rheoliad 10 â 2. (3) Os yw'r amodau yn adran 45(1) o'r Ddeddf (eiddo nad yw wedi'i feddiannu) wedi'u bodloni mewn perthynas â'r hereditament diffiniedig, ceir y swm y gellir ei godi drwy rannu'r swm a gyfrifir yn unol â rheoliad 10 â 2, neu mewn achos lle mae adran 45(6) (hereditamentau elusennau nad ydynt wedi'i meddiannu) yn gymwys, â 10.".
(7) Yn Rheoliad 12(2), yn lle "2001" rhowch -"2005".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Cymru) 1999 ("y prif Reoliadau") yn gwneud darpariaeth, mewn perthynas ag ardrethi annomestig o dan Ran III o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ar gyfer y symiau y gellir eu codi ac y mae'r sawl sy'n talu'r ardrethi yn atebol i'w talu o dan amgylchiadau penodol. Mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn y cyfnod pryd y mae'r prif Reoliadau'n gymwys i gynnwys y blynyddoedd ariannol a fydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2003 a 1 Ebrill 2004 ac yn pennu'r rheolau ar gyfer penderfynu ar y swm y gellir ei godi yn y blynyddoedd hynny. Maent hefyd yn diwygio Rheoliad 10 o'r prif Reoliadau er mwyn cyfyngu ar y gostyngiad yn y swm y gellir ei godi o dan rai amgylchiadau . Mae'r cyfnod ar gyfer cyflwyno apelau yn erbyn ardystio o dan y prif Reoliadau wedi'i ymestyn o 1 Ebrill 2001 i 1 Ebrill 2005. Pennir y dyddiadau effeithiol ar gyfer penderfynu ar y symiau y gellir eu codi yn unol â Rheoliadau 8 a 10 o'r prif Reoliadau drwy gyfeirio at Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 1993 lle gwneir newidiadau i'r gwerth ardrethol a ddangosir mewn rhestr yn unol â'r Rheoliadau hynny. Notes: [1] 1988 p.41. Diwygiwyd adran 143(2) gan baragraff 72(2) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Diwygiwyd paragraff 3(2) o Atodlen 6 gan baragraff 38(13) o Atodlen 5 i Ddeddf 1989.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1999/3454 (Cy.51).back [4] Diwygiwyd O.S. 1993/291 gan Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/792 (Cy.29)).back [5] Mewnosodwyd Rheoliad 13A gan Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/792 (Cy.29)).back
|