Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 41(3) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Medi 2000. (2) Dim ond i Gymru y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys. Y weithdrefn ar gyfer newid amserau sesiynau ysgolion 2. - (1) Os bydd corff llywodraethu ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol arbennig gymunedol yn bwriadu newid amserau sesiynau'r ysgol (neu, os nad oes ond un, sesiwn yr ysgol), rhaid iddynt -
(b) paratoi datganiad -
(ii) sy'n pennu'r newid arfaethedig a phryd maent yn bwriadu iddo ddod yn weithredol, (iii) sy'n tynnu sylw at unrhyw sylwadau ar y cynnig a gynhwysir fel atodiad i'r datganiad yn rhinwedd paragraff (c) ac sy'n cynnwys unrhyw ymateb i'r sylwadau y barnant i fod yn briodol, a (iv) sy'n rhoi manylion am ddyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod y mae'n ofynnol iddynt ei gynnal yn rhinwedd paragraff (dd);
(c) cynnwys, mewn atodiad i'r datganiad hwnnw, unrhyw sylw ysgrifenedig ar y cynnig y bydd yr awdurdod addysg lleol yn ei ddarparu i'r perwyl hwnnw, os yw'r awdurdod yn gofyn amdano;
(ii) bod copïau o'r datganiad ac unrhyw atodiad ar gael i'w harchwilio (ar bob adeg resymol ac yn rhad ac am ddim) yn yr ysgol yn ystod y cyfnod o bythefnos yn union cyn y cyfarfod;
(dd) rhoi cyfle i drafod y cynnig mewn cyfarfod sy'n agored i -
(ii) y pennaeth, a (iii) unrhyw bersonau arall y bydd y corff llywodraethu yn eu gwahodd;
(e) ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd ar y cynnig yn y cyfarfod cyn penderfynu a ddylid newid yr amserau ac (os dylid) a ddylid gweithredu'r cynnig gan ei addasu neu heb ei addasu;
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), os bydd y corff llywodraethu yn penderfynu gweithredu'r newid arfaethedig (gan ei addasu neu heb ei addasu), rhaid iddynt, o fewn dim llai na chwe wythnos cyn bod unrhyw newid yn yr amserau hynny i ddod yn weithredol -
(ii) cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol yn cael eu hysbysu.
(3) Pan fydd a wnelo'r newid â'r amserau y bwriedir i sesiwn ysgol ddechrau yn y bore neu ddod i ben yn y prynhawn (neu'r ddau) ni fydd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yn llai na thri mis.
(b) ym mhob achos arall, ar ddechrau tymor ysgol.
Rheoli'r cyfarfodydd (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) O dan adran 41(1)(b) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 mae corff llywodraethu ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol arbennig gymunedol yn gyfrifol am benderfynu ar amserau sesiynau'r ysgol. Hynny yw, yr amserau pan fydd pob un o sesiynau'r ysgol (neu os nad oes ond un, sesiwn yr ysgol) yn dechrau ac yn dod i ben ar unrhyw ddiwrnod. Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r gweithdrefnau y mae'n rhaid i gorff llywodraethu ysgol o'r fath eu dilyn cyn newid amserau eu sesiynau. Nid ydynt yn gymwys i ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir nac ysgolion arbennig sefydledig. Ceir esboniad manylach o'r Rheoliadau isod. Mae Rheoliad 2 yn nodi'r gweithdrefnau y mae rhaid i'r corff llywodraethu eu dilyn. Mae Rheoliad 3 yn pennu pa bryd y mae newid i amser sesiynau'r ysgol yn weithredol. Mae Rheoliad 4 yn darparu bod y cyfarfod â'r rhieni (y mae'n ofynnol ei gynnal cyn bod unrhyw newid yn amserau sesiynau'r ysgol yn cael ei wneud) o dan reolaeth y corff llywodraethu. Notes: [1] 1998 p.31. Am ystyr "regulations" gweler adran 142(1).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] Gweler adran 576 o Ddeddf Addysg 1996 (w.56) am ystyr "parent".back
|