Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymgynghori, yn unol ag adran 3(7) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997[1], â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol ac yn cynrychioli ysgolion sy'n darparu lleoedd a gynorthwyir o dan adran 2(1) o'r Ddeddf honno. Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(1), (2), (5) a (9) o'r Ddeddf honno ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Medi 2000. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2000 neu wedyn. Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997 2. - (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997[3] fel a ganlyn. (2) Yn rheoliad 10(4) a (6), yn lle "£1,300" ym mhob man lle y'i gwelir, rhoddir "£1,400". (3) Ym mharagraff 1 o Atodlen 2, yn lle "£10,670" rhoddir "£10,901". (4) Yn lle'r tabl sy'n dilyn paragraff 2(1) o'r Atodlen honno, rhoddir y tabl canlynol - TABLE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997 ("Rheoliadau 1997") mewn perthynas â blwyddyn ysgol yn dechrau ar 1 Medi 2000 neu wedyn. Mae Rheoliadau 1997 yn rhagnodi trefniadau ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i barhau i gael lleoedd a gynorthwyir mewn ysgolion annibynnol yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997, er bod y cynllun cymorth lleoedd wedi'i ddileu gan adran 1 o'r Ddeddf honno. Mae'r swm sydd i'w dynnu yn yr incwm "perthnasol" mewn perthynas â pherthnasau dibynnol o dan reoliad 10(4) a (6) o Reoliadau 1997 yn cael ei gynyddu o £1,300 i £1,400. Ar lefel incwm benodol, neu o dan y lefel honno, nid yw'r ffioedd yn cael eu casglu o gwbl. Mae'r lefel honno yn cael ei chynyddu i £10901 yn lle £10670, gyda chynnydd cyfatebol yn y swm nad yw'n cael ei gasglu os yw'r incwm "perthnasol" yn fwy na'r swm hwnnw. Notes: [1] 1997 p.59. Diwygiwyd adran 3 gan adran 130 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).back [2] Trosglwyddwyd Swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1997/1968, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1726, O.S. 1998/1966 ac O.S. 1999/1504.back
|