Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 1(1) o Ddeddf Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1996[1], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2000, a deuant i rym ar 14 Gorffennaf 2000. (2) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio Rheoliadau Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1997 2. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1997[3] (personau y gellir gwneud taliadau uniongyrchol iddynt), hepgorir is baragraff (a) o baragraff (2). Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]). Jane Davidson Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol 7 Gorffennaf 2000 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Deddf Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1996 yn galluogi awdurdod lleol sy'n gyfrifol am ddarparu (neu am drefnu darparu) gwasanaethau gofal cymunedol i wneud cyfraniadau ar ffurf taliadau uniongyrchol i bersonau er mwyn iddynt sicrhau y darperir y gwasanaethau hynny. Mae Rheoliadau Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1997 yn pennu'r personau y gellir gwneud taliadau uniongyrchol iddynt o dan y Ddeddf. Nid yw'r disgrifiad o'r personau hynny yn cynnwys unrhyw berson sy'n 65 oed neu drosodd, oni bai bod y person hwnnw wedi cael taliad uniongyrchol yn y flwyddyn cyn i'r person gyrraedd 65 oed. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1997fel bod y personau y gellir gwneud taliadau uniongyrchol iddynt o dan y Ddeddf yn cynnwys personau 65 oed neu drosodd p'un a gawsant daliad o'r fath yn ystod y flwyddyn cyn iddynt gyrraedd eu 65 oed neu beidio. Notes: [1] 1996 p. 30.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1996 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
|