Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Weinidogion y Goron gan adrannau 6(4), 17(1), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno â'r sefydliadau hynny sy'n ymddangos iddo eu bod yn cynrychioli buddiannau y mae'n debygol y bydd y Rheoliadau yn effeithio arnynt yn sylweddol, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000, a deuant i rym ar 1 Tachwedd 2001 a byddant yn gymwys i Gymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn -
Cyfyngiadau ar werthu
(b) fod yr enw y mae'n cael ei werthu o dano yn cydymffurfio ag Erthygl 4(1) o'r Gyfarwyddeb; ac (c) fod ei labelu yn unol ag Erthygl 4(2) i (5) o'r Gyfarwyddeb.
(2) Nid yw person sydd, mewn perthynas â bwyd meddygol o fath arbennig -
(b) sydd wedi methu cydymffurfio â'r rheidrwydd i hysbysu'r awdurdod cymwys y cyfeirir ato yn yr Erthygl honno,
yn cael gwerthu bwyd meddygol o'r math hwnnw.
(b) mewn perthynas â bwyd meddygol a wneir mewn tiriogaeth arall o fewn y Deyrnas Unedig (neu a fewnforir o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig i diriogaeth arall o fewn y Deyrnas Unedig), yr awdurdod a ddynodir i'r pwrpas hwnnw yn y diriogaeth honno fel yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 5 o'r Gyfarwyddeb mewn perthynas â'r bwyd.
Gorfodi
(b) heb esgus rhesymol dorri rheoliad 3(2) uchod,
bydd ef neu hi yn euog o drosedd ac ar gollfarn ynadol yn agored i gosb nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(b) adran 3 (rhagdybiau bod bwyd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl); (c) adran 20 (Troseddau sy'n deillio o fai person arall); (ch) adran 21 (amddiffyniad ar sail diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf; (d) adran 22 (amddiffyniad ar sail cyhoeddi yng nghwrs busnes); (dd) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol); (e) adran 33 (rhwystro etc. swyddogion); (f) adran 35(1) i (3) (cosbi troseddau) i'r graddau ei fod yn ymwneud â throseddau o dan adran 33(1) a (2) fel y cymhwysir hwy gan baragraff (e) uchod; (ff) adran 36 (troseddau gan gyrff corfforaethol); a (g) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
(Nid yw'r Nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 1 Tachwedd 2001, yn gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 1999/21/EC ar fwydydd deietegol at ddibenion meddygol arbennig. Mae Erthygl 1(2) o'r Gyfarwyddeb yn rhoi dosbarth i'r bwydydd hynny fel bwydydd a brosesir yn arbennig neu a fformwleiddir yn arbennig ar gyfer rheoli o dan oruchwyliaeth feddygol ddeiet y cleifion hynny sydd angen deiet arbennig, ac mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn diffinio bwyd meddygol fel bwyd o fewn y dosbarth hwnnw. Mae Erthygl 2 o'r Gyfarwyddeb yn galw ar Aelod-wladwriaethau i sicrhau y gellir marchnata bwyd o'r fath dim ond os yw'n cydymffurfio â'r Gyfarwyddeb. Mae Erthyglau 3 a 4 o'r Gyfarwyddeb yn gosod gofynion ar gyfer fformwleiddio, cyfansoddi a chyfarwyddiadau ar ddefnyddio bwyd o'r fath, ac ar gyfer ei enwi a'i labelu. Mae rheoliad 3(1) o'r Rheoliadau hyn yn gwahardd gwerthu bwyd meddygol oni bai fod y gofynion hynny'n cael eu bodloni. Mae Erthygl 5 o'r Gyfarwyddeb yn ei gwneud yn ofynnol hysbysu'r awdurdodau cymwys fod cynhyrchion sy'n dod o dan y Gyfarwyddeb yn cael eu rhoi ar y farchnad p'un a ydynt yn cael eu gwneud o fewn y Gymuned Ewropeaidd, neu'n cael eu mewnforio o'r tu allan iddi. Mae rheoliad 3(2) a (3) yn gwahardd gwneuthurwyr a mewnforwyr rhag gwerthu bwydydd meddygol y mae'n ofynnol eu hysbysu oni bai eu bod wedi cydymffurfio â'r gofynion i hysbysu. Yn achos bwydydd meddygol a wneir yng Nghymru, neu a fewnforir i Gymru o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig, yr awdurdod perthnasol yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae rheoliadau 4, 5 a 7 yn nodi cyfrifoldebau gorfodi, troseddau a chosbau, a chymhwysiad darpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990. Mae'r Rheoliadau yn darparu amddiffyniad hefyd mewn perthynas ag allforion, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reolaeth swyddogol ar fwydydd (rheoliad 6). Notes: [1] 1990 p.16; Diwygiwyd adran 6(4) o'r Ddeddf gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoli a Chontractio Allan 1994 (p.40) a chan baragraff 10(3) o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28). Diwygiwyd adran 48 gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999. Trosglwyddwyd swyddogaethau a freiniwyd yng Ngweinidogion y Goron, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 .back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] OJ Rhif L91, 7.4.1999, t.29.back
|