Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 45 a 48(1)(b) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1], wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac wedi ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Teitl, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 20 Mai 2000. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) 1995 2. Diwygir Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) 1995[2] (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) yn unol â rheoliadau 3 i 5 isod. 3. Yn rheoliad 2 (dehongli) -
(b) caiff y diffiniad canlynol ei fewnosod ar ôl y diffiniad o "registered production holding" -
4.
Yn rheoliad 3 (atebolrwydd i dalu taliadau) -
5.
Caiff yr Atodlen ei hepgor. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) 1995, fel y'u diwygiwyd, ("Rheoliadau 1995") mewn perthynas â Chymru. Mae taliadau i'w talu gan gynhyrchwyr llaeth ar ddaliadau cofrestredig o dan Reoliadau 1995 mewn perthynas ag ymweliadau â ffermydd llaeth a gynhelir er mwyn darganfod a yw darpariaethau Rheoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) (Taliadau) 1995, (O.S. 1995/1086, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/1763, 1996/1499, 1996/1699, 1997/1729, 1998/2424 a 2000/656) yn cael eu bodloni. Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r atebolrwydd i dalu taliadau o'r fath, ac eithrio mewn perthynas ag ymweliadau at ddiben cymryd samplau o laeth yfed sydd yn laeth amrwd buchod i'w ddadansoddi a'i archwilio er mwyn gweld a yw'n cydymffurfio â'r darpariaethau yn y Rheoliadau hynny ynghylch meini prawf microbiolegol. Mae'r tâl yn yr achos hwnnw yn aros yn ddigyfnewid, sef £63 (rheoliadau 2 i 5). Mae arfarniad rheoleiddiol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd - Cymru, Llawr Cyntaf, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EN . Notes: [1] 1990 p.16. Diwygiwyd adran 48 gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28). Trosglwyddwyd swyddogaethau a frieniwyd yng Ngweinidogion y Goron mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [2] O.S. 1995/1122, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
|