OFFERYNNAU STATUDOL
2000 Rhif 1735 (Cy. 119 )
TAI, CYMRU
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig a Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) (Cymru) 2000
|
Wedi'u gwneud |
20 Mehefin 2000 | |
|
Yn dod i rym yn unol â Rheoliad 1(1) |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 2(2) a (4) a 146(1) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 [1] fel y'u hestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[2] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[3].
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig a Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio)(Cymru) 2000 a deuant i rym 14 diwrnod ar ôl y dyddiad y'u gwneir.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygiadau
2.
- (1) Diwygir y ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) 1996[4]) fel y'i nodir yn nhestun Saesneg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(2) Diwygir y ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) 1998 [5] fel y'i nodir yn nhestun Cymraeg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6].
Dafydd. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
20 Mehefin 2000
ATODLEN Rheoliad 2
DIWYGIADAU I'R FFURFLEN SY'N DWYN Y TEITL "CEISIADAU PERCHEN-FEDDIANNYDD A THENANT AM GRANTIAU ADNEWYDDU TAI"
1.
Yng nghwestiwn 1.1 yn lle "Nodyn 1" rhowch "Nodiadau 1 ac 1A".
2.
Ar ôl cwestiwn 1.2, mewnosodwch -
"
1.2A
Byddwch cystal â rhoi y rhif yswiriant gwladol ar eich cyfer chi, eich partner ac unrhyw berson arall sy'n bwriadu byw yn yr eiddo ac sydd â hawl hefyd i wneud cais am grant: Nodyn 2A
Eich rhif yswiriant gwladol
Rhif yswiriant gwladol
eich partner ".
3.
Ar ôl cwestiwn 1.3, mewnosodwch -
"
1.3A
A oes unrhyw un, heblaw ceisydd, sy'n bwriadu byw yn yr eiddo sydd hefyd â hawl i wneud cais am grant?"
Oes ![opensquare](/wales/legis/num_reg/2000/images/opensqu.gif)
Nac oes ![opensquare](/wales/legis/num_reg/2000/images/opensqu.gif)
Os ydych wedi ateb "Oes" i'r cwestiwn hwn, ydy'r person hwnnw yn "berson o wlad dramor" o fewn ystyr Rheoliadau Budd-dâl Tai (Cyffredinol)?
Ydyw Nodyn 3
Nac ydyw ![opensquare](/wales/legis/num_reg/2000/images/opensqu.gif)
4.
Yn y nodyn sy'n rhagflaenu cwestiwn 2B.6, yn lle "Os ydych yn dal" rhowch "Os nad ydych yn dal".
5.
Ar ôl cwestiwn 3.23, mewnosodwch -
"
3.23A
Os ydych chi, neu'ch partner, ar hyn o bryd mewn cyflogaeth am dâl, ydych chi neu'ch partner yn cael yr isafswm cyflog gwladol am bob swydd a ddelir?
Chi
|
Eich Partner
|
Ydwyf |
![opensquare](/wales/legis/num_reg/2000/images/opensqu.gif) |
Ydyw |
![opensquare](/wales/legis/num_reg/2000/images/opensqu.gif) |
Nac ydwyf |
![opensquare](/wales/legis/num_reg/2000/images/opensqu.gif) |
Nac ydyw |
![opensquare](/wales/legis/num_reg/2000/images/opensqu.gif) |
3.23B
Os ydych wedi ateb "Nac ydwyf/Nac ydyw" i gwestiwn 3.23A, a oes gennych chi neu'ch partner hawl i gael yr isafswm cyflog gwladol am bob swydd?
Nodyn 74A
Chi
|
Eich Partner
|
Ydwyf |
![opensquare](/wales/legis/num_reg/2000/images/opensqu.gif) |
Ydyw |
![opensquare](/wales/legis/num_reg/2000/images/opensqu.gif) |
Nac ydwyf |
![opensquare](/wales/legis/num_reg/2000/images/opensqu.gif) |
Nac ydyw |
![opensquare](/wales/legis/num_reg/2000/images/opensqu.gif) |
3.23C
Os ydych wedi ateb "Nac oes" i gwestiwn 3.23B, dywedwch pam nad oes gennych chi neu'ch partner hawl i gael isafswm cyflog gwladol am bob swydd a ddelir: Nodyn 74A
".
6.
Yng nghwestiwn 3.31 -
(a) ar ôl "Ysgoloriaethau ac addysgedau eraill etc: £ £ ", mewnosodwch "Nodyn 86B";
(b) ar ôl "Benthyciad myfyrwyr: £ £ ", mewnosodwch "Nodyn 86C".
7.
Yng nghwestiwn 3.34, yn lle "Nodiadau 90 a 90A" rhowch "Nodiadau 90, 90A a 90B".
8.
Yn y pennawd o flaen cwestiwn 3.36 ac yng nghwestiwn 3.36, ar ôl "grantiau myfyrwyr" mewnosodwch "neu fenthyciadau myfyrwyr".
9.
Yng nghwestiwn 4.1, ar ôl paragraff (c) mewnosodwch -
"
(ch) Gwybodaeth am eich rhif yswiriant gwladol
Nodyn 2A "
10.
Cyn nodyn 2, mewnosodwch -
"
1A.
Byddwch cystal â darparu bil cyfleustod sy'n dangos eich enw a chyfeiriad yr eiddo y mae'r cais yn berthnasol iddo neu dystiolaeth arall eich bod yn byw yn yr eiddo hwnnw."
11.
Ar ôl nodyn 2, mewnosodwch -
"
2A.
Os oes gennych rif yswiriant gwladol, byddwch cystal â darparu tystiolaeth ei fod yn perthyn i chi, megis cerdyn rhif, datganiadau cyflog, ffurflenni budd-dâl neu ddogfen swyddogol arall sy'n dwyn eich enw a'ch rhif yswiriant gwladol gyda'i gilydd. Os ydych wedi colli'ch rhif yswiriant gwladol neu os na ddyrannwyd un i chi, byddwch cystal â darparu copi o'ch datganiad cyflog neu'ch ffurflen fudd-dâl fel y gellir olrhain eich rhif yswiriant gwladol neu fel y gellir gwneud cais am rif yswiriant gwladol.
Mae Adran Dai y Cyngor yn gallu rhoi cyngor i chi am ba ddogfennau y dylech eu darparu a hefyd sut i wneud cais am rif yswiriant gwladol newydd. Llenwch weddill y ffurflen a gofyn am eu cyngor pan fyddwch yn anfon y cais atynt".
12.
Yn nodyn 3 -
(a) ar ôl "rheoliad 3 o'r Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996" mewnosodwch
"
Ni chaniateir ychwaith i'r Cyngor dalu grant lle mae person a allai fod wedi gwneud cais am grant yn "berson o wlad dramor", er nad yw'r ceisydd "yn berson o wlad dramor"."
(b) yn lle "i gwestiwn 1.3" rhowch "i gwestiynau 1.3 ac 1.3A" ac yn lle "i'r cwestiwn hwn" rhowch "i'r ddau gwestiwn".
13.
Ar ddiwedd nodyn 70, ychwanegwch -
"
Dylai tâl gros gynnwys hefyd daleb ddi-arian a gymerwyd i ystyriaeth wrth gyfrifo'ch enillion yn unol â rheoliad 18(22) i (25) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cyfraniadau) 1979."
14.
Ar ddiwedd nodiadau 71 a 72, ychwanegwch -
"
Byddwch cystal â chynnwys swm eich pensiwn p'un a delir ef i chi neu i berson arall. Nid oes rhaid i chi gynnwys swm eich pensiwn lle telir y cyfan ohono i'ch ymddiriedolwr mewn methdaliad neu i rywun arall ar ran eich credydwyr ar yr amod nad ydych chi neu aelod o'ch teulu yn cael unrhyw incwm ar wahân i'r taliad hwnnw.".
15.
Ar ôl nodyn 74, mewnosodwch -
"
74A
Os nad ydych chi neu'ch partner yn gwybod a oes gennych hawl i gael y lleiafswm cyflog gwladol am unrhyw swydd, llenwch weddill y ffurflen a gofyn wedyn i Adran Dai y Cyngor pan fyddwch yn anfon eich cais i mewn."
16.
Yn nodyn 85, ar ôl "Groes George" mewnosodwch -
"
- lwfans cynhaliaeth addysgol sy'n daladwy yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996 (talu costau ysgol; rhoi ysgoloriaethau etc.) neu unrhyw swm mewn perthynas â chwrs astudiaeth a ddilynir gan blentyn neu berson ifanc sy'n daladwy yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996, adran 49 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 (p er i gynorthwyo personau i fanteisio ar gyfleusterau addysgol) neu adran 12(2)(c) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (Yr Alban) 1992 (darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr)."
17.
Ar ô l nodyn 86A, mewnosodwch -
"
86B
Peidiwch â chynnwys dyfarniad chwaraeon ac eithrio i'r graddau iddo gael ei wneud ar gyfer talu eich costau, neu gostau eich teulu, ar gyfer bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd neu rent cartref, neu ar gyfer unrhyw dreth gyngor neu daliadau d r yr ydych chi neu y mae aelod arall o'ch teulu yn atebol amdanynt.
Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw daliadau am fitaminau, mwynau neu unrhyw ychwanegiadau deietegol arbennig a fwriedir i wella'ch perfformiad yn y gamp y cafodd y dyfarniad ei wneud ar ei chyfer.
Nid oes angen ychwaith i chi gynnwys unrhyw daliadau a wnaed am wisg ysgol neu ddillad neu esgidiau sydd i'w defnyddio ar gyfer gweithgareddau chwaraeon yn unig .
Ystyr "dyfarniad chwaraeon" yw dyfarniad a wnaed gan un o'r Cynghorau Chwaraeon a enwir yn adran 23(2) o Ddeddf y Loteri Genedlaethol etc. 1993 allan o symiau a ddyranwyd iddo i'w dosbarthu o dan yr adran honno.
Ystyr "rhent" yw rhent cymwys o fewn ystyr rheoliad 10(3) o Reoliadau Budd-dâl Tai (Cyffredinol) 1987 llai unrhyw ddidyniadau mewn perthynas â phersonau an-nibynnol sydd i'w gwneud o dan reoliad 63 o'r Rheoliadau hynny.
86C
Dylech roi mwyafswm y benthyciad myfyriwr y gallech fod wedi'i gael, lle na chawsoch fenthyciad myfyriwr neu lle na chawsoch y mwyafswm."
18.
Ar ôl nodyn 90A, mewnosodwch -
"
90B
Peidiwch â chynnwys dyfarniad chwaraeon a gawsoch lai na 26 wythnos yn ôl ac eithrio i'r graddau ei fod wedi'i wneud i dalu eich costau, neu gostau eich teulu, am fwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd neu rent cartref, neu unrhyw dreth gyngor neu daliadau d r yr ydych chi neu y mae aelod arall o'ch teulu yn atebol amdanynt.
Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw daliadau am fitaminau, mwynau neu unrhyw ychwanegiadau deietegol arbennig a fwriedir i wella'ch perfformiad yn y gamp y cafodd y dyfarniad ei wneud ar ei chyfer.
Nid oes angen ychwaith i chi gynnwys unrhyw daliadau a wnaed am wisg ysgol neu ddillad neu esgidiau sydd i'w defnyddio ar gyfer gweithgareddau chwaraeon yn unig .
Ystyr "dyfarniad chwaraeon" yw dyfarniad a wnaed gan un o'r Cynghorau Chwaraeon a enwir yn adran 23(2) o Ddeddf y Loteri Genedlaethol etc. 1993 allan o symiau a ddyranwyd iddo i'w dosbarthu o dan yr adran honno.
Ystyr "rhent" yw rhent cymwys o fewn ystyr rheoliad 10(3) o Reoliadau Budd-dâl Tai (Cyffredinol) 1987 llai unrhyw ddidyniadau mewn perthynas â phersonau an-nibynnol sydd i'w gwneud o dan reoliad 63 o'r Rheoliadau hynny."
19.
Yn nodyn 92, ar ôl "grant y myfyriwr" mewnosodwch "neu fenthyciad y myfyriwr".
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r ffurflen sydd i'w defnyddio gan berchen-feddianwyr a thenantiaid wrth wneud cais am grantiau adnewyddu tai o dan Bennod I o Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 i'w gweld yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig)1996.
Gwelir y ffurflen Gymraeg gyfatebol yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Cymraeg) 1998.
Gwnaeth Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2000 ddiwygiadau i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 a oedd yn ganlyniadol i newidiadau i Reoliadau Budd-dâl Tai (Cyffredinol) 1987 y seilir y prawf moddion ar gyfer penderfynu swm y grant arnynt.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i'r ffurflenni cais sy'n ganlyniadol i'r diwygiadau a wnaed i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996.
Notes:
[1]
1996 p.53. I gael y diffiniad o "prescribed" gweler adran 101 o'r Ddeddf.back
[2]
1993 p.38back
[3]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[4]
(ch) O.S. 1996/2891, diwygiwyd gan O.S. 1996/3119, 1997/978, 1998/809, 1999/1607 a 1999/3470.back
[5]
O.S. 1998/1113, diwygiwyd gan O.S. 1999/2316 a 1999/3470.back
[6]
1998 p.38back
English version
|