Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 52(2) a (3), 138(8) a 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2000. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sydd â'r rhif hwnnw ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad sydd â'r rhif hwnnw.
(ii) swm yr incwm a ddyrannwyd gan yr awdurdod i'r ysgolion a gynhelir ganddynt, yn y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad yn cyfeirio ati drwy gyfeirio at gategorïau sy'n cyfateb i bob un o'r materion y mae Rheoliadau 1999 yn gofyn eu bod yn cael eu cynnwys yn Rhan I o ddatganiad cyllideb yr awdurdod am y flwyddyn honno; (b) yn gyfochrog â'r datganiad o bob swm o'r fath y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) (i) a (ii), swm y ddarpariaeth ariannol gynlluniedig neu amcangyfrif o'r incwm, yn ôl fel y digwydd, a bennwyd yn natganiad cyllideb yr awdurdod ar gyfer y mater hwnnw; (c) Y ffigur canrannol y mae'n ofynnol ei osod, yn unol â Nodyn H2[6] i Ran I o ddatganiad cyllideb, yng ngholofn (h) o'r datganiad hwnnw; ac (ch) mewn perthynas â phob un o'r categorïau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) uchod, y gwariant a dynnwyd mewn gwirionedd gan yr awdurdod mewn perthynas â phob categori, ar ôl didynnu unrhyw incwm a gafwyd gan yr awdurdod mewn perthynas â'r categori hwnnw ac a ddyrannwyd i'r ysgolion a gynhelir ganddynt (p'un a'i dirprwywyd i ysgolion unigol neu beidio), wedi'i fynegi fel canran o gyllideb ysgolion lleol yr awdurdod.
(2) Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn Rhan 2 o ddatganiad alldro, mewn perthynas â phob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod (wedi'i hadnabod yn ôl ei henw a'r rhif cyfeirio swyddogol a ddyrannwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol), yw -
(b) manylion unrhyw godiadau neu ostyngiadau yng nghyfran yr ysgol o'r gyllideb o fewn y flwyddyn yn sgil unrhyw ailbenderfynu ar ei chyfran o'r gyllideb yn unol â rheoliad 19 o Reoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999[7]; (c) manylion unrhyw symiau a ddyrannwyd i'r ysgol nad ydynt yn dod o fewn is-baragraff (b); (ch) y cyfanswm a ddyrannwyd i'r ysgol gan yr awdurdod yn y flwyddyn ariannol honno; (d) y balans a ddygwyd ymlaen o'r flwyddyn ariannol flaenorol mewn perthynas ag unrhyw ormodedd neu ddiffyg yng nghyfran yr ysgol o'r gyllideb mewn unrhyw flwyddyn ariannol flaenorol; (dd) y swm sydd i'w gario ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf mewn perthynas ag unrhyw ormodedd neu ddiffyg yng nghyfran yr ysgol o'r gyllideb am y flwyddyn ariannol honno neu am unrhyw flwyddyn ariannol flaenorol; (e) cyfanswm y gwariant a briodolwyd i'r ysgol, a geir drwy adio'r gwahaniaeth rhwng y swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (d) a'r swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (dd) i'r cyfanswm y trefnwyd ei fod ar gael i'r ysgol gan yr awdurdod; (f) unrhyw swm a driniwyd gan yr awdurdod fe pe bai'n incwm a briodolwyd i'r ysgol (ac nad yw wedi'i adlewyrchu yn unrhyw un o'r symiau a bennwyd yn y datganiad alldro yn rhinwedd is-baragraff (a), (b), (c) neu (ch) uchod).
Dull cyhoeddi datganiadau alldro
(b) drwy drefnu bod copi ar gael i rieni a phersonau eraill gyfeirio ato ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl yn holl swyddfeydd addysg yr awdurdod.
7.
- (1) Rhaid rhoi datganiad alldro i'r Cynulliad Cenedlaethol drwy bost electronig neu ar ffurf data y gall peiriant ei ddarllen ar ddisg hyblyg a ddarperir at y diben gan y Cynulliad Cenedlaethol. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r wybodaeth am wariant yr awdurdodau addysg lleol (AALl) ar addysg y mae'n rhaid ei chynnwys mewn datganiad (y cyfeirir ato yn y rheoliadau fel "datganiad alldro") y mae'n ofynnol i bob AALl ei baratoi ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol o dan adran 52(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (rheoliad 5). Mae'r Rheoliadau hefyd yn pennu'r ffurf y mae'n rhaid i ddatganiadau alldro ei chymryd (rheoliad 4(1) a (2)) a dull ac amser cyhoeddi datganiadau o'r fath (rheoliadau 6-8) Mae'r Rheoliadau'n disodli Rheoliadau cynharach sy'n cael eu diddymu (rheoliad 3). Notes: [1] 1998 p.31. Am ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 142(1).back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 52 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [6] Gweler Atodlen 1 i Reoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999 (O.S. 1999/101).back
|