Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 132(4) a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[1] ac a freinir bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflenni Cais) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym 14 diwrnod ar ol y dyddiad y'u gwneir. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygiadau 2. - (1) Diwygir y ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997[3] fel a bennir yn nhestun Saesneg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn. (2) Diwygir y ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999[4]) fel a bennir yn nhestun Cymraeg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn. 3. Ni fydd y Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â cheisiadau am grant a wnaed cyn 3 Ebrill 2000. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]. D Elis Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 20 Mehefin 2000 1. Ar ôl cwestiwn 4.23, mewnosodwch - 4.23A Os ydych chi, neu'ch partner, ar hyn o bryd mewn cyflogaeth am dâl, ydych chi neu'ch parter yn cael yr isafswm cyflog gwladol am bob swydd a ddelir?
4.23B Os ydych wedi ateb "Nac ydwyf/Nac ydyw" i gwestiwn 4.23A, a oes gennych chi neu'ch partner yr hawl i gael yr isafswm cyflog gwladol am bob swydd? Nodyn 34A
4.23C Os ydych wedi ateb "Nac oes" i gwestiwn 4.23B, dywedwch pam nad oes gennych chi neu'ch partner hawl i gael yr isafswm cyflog gwladol am bob swydd a ddelir: Nodyn 34A 2. Yng nghwestiwn 4.31
£ ", mewnosodwch "Nodyn 46B"; (b) ar ôl "Benthyciad myfyrwyr: £ ", mewnosodwch "Nodyn 46C"
3
Yng nghwestiwn 4.34 yn lle "Nodiadau 50 a 50A" rhowch "Nodiadau 50, 50A a 50B".
6.
Ar ddiwedd nodiadau 31 a 32 ychwanegwch -
7.
Ar ôl nodyn 34, mewnosodwch -
8.
Yn nodyn 45, ar ôl "Groes George" mewnosodwch -
![]()
9.
Ar ôl nodyn 46A, mewnosodwch -
![]() Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw daliadau am fitaminau, mwynau neu unrhyw ychwanegiadau deietegol arbennig a fwriedir i wella'ch perfformiad yn y gamp y cafodd y dyfarniad ei wneud ar ei chyfer. Nid oes angen ychwaith i chi gynnwys unrhyw daliadau a wnaed am wisg ysgol neu ddillad neu esgidiau sydd i'w defnyddio ar gyfer gweithgareddau chwaraeon yn unig. 46C Dylech roi mwyafswm y benthyciad myfyriwr y gallech fod wedi'i gael, lle na chawsoch fenthyciad myfyriwr neu lle na chawsoch y mwyafswm.".
10.
Ar ôl nodyn 50A, mewnosodwch -
![]() Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw daliadau am fitaminau, mwynau neu unrhyw ychwanegiadau deietegol arbennig a fwriedir i wella'ch perfformiad yn y gamp y cafodd y dyfarniad ei wneud ar ei chyfer. Nid oes angen ychwaith i chi gynnwys unrhyw daliadau a wnaed am wisg ysgol neu ddillad neu esgidiau sydd i'w defnyddio ar gyfer gweithgareddau chwaraeon yn unig.".
11.
Yn nodyn 52, ar ôl "grant y myfyriwr" mewnosodwch "neu fenthyciad y myfyriwr". (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997 ("Rheoliadau 1997") a'r Ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadiau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999 ("Rheoliadau 1999"). Mae Rheoliadau Grantiau Adleoli 1997 (O.S. 1997/2764) yn cymhwyso Rheoliadau Grantiau Adleoli Tai 1996 (O.S. 1996/2890) fel y maent yn effeithiol o bryd i'w gilydd, gyda'r addasiadau a ragnodwyd. Mae diwygiadau i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/ 973(Cy.43) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, wedi peri bod angen diwygio Rheoliadau 1997 a Rheoliadau 1999. Notes: [1] 1996 p.53; gall yr Ysgrifennydd Gwladol arfer y p ![]() [2] Gweler Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1997/2847; diwygiwyd gan O.S. 1998/810, O.S. 1999/1541 ac O.S. 1999/2625.back [4] (ch) O.S. 1999/2315; diwygiwyd gan O.S. 1999/3469 (Cy.55)back [6] O.S. 1979/591; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1999/561.back [7] 1996 p.56; amnewidiwyd adran 518 gan adran 129 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).back
|