Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 77 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] a phob per arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:- Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau ac Offer) Diwygio (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000. (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau ac Offer) 1989[2]. (3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio symiau a bennir yn y prif Reoliadau 2. Am bob swm a bennir yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, lle mae'n ymddangos yn narpariaeth y prif Reoliadau a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (1) (y mae ei chynnwys wedi'i nodi yng ngholofn (2)), rhoddir y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (4). Darpariaethau trosiannol 3. Os, ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny-
(b) y bydd unrhyw dystysgrif ragdalu yn cael ei rhoi o dan reoliad 8 o'r prif Reoliadau yn unol â chais o dan y rheoliad hwnnw a gafwyd cyn y dyddiad hwnnw,
bydd y prif Reoliadau yn cael effaith mewn perthynas â chyflenwi'r offer neu, yn ôl y digwydd, rhoi'r dystysgrif fel pe na bai rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn wedi dod i rym.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau ac Offer) 1989 ("y prif Reoliadau") sy'n darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd am gyffuriau ac offer sy'n cael eu cyflenwi gan feddygon a fferyllwyr sy'n darparu gwasanaethau fferyllol, a chan Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol i gleifion allanol. Mae'r diwygiadau a wneir i'r prif Reoliadau gan reoliad 2 a'r Atodlen yn codi'r ffi am eitemau ar bresgripsiwn neu sy'n cael eu cyflenwi i gleifion allanol o £5.90 i £6.00. Codir y ffi am hosanau elastig o £5.90 i £6.00 yr un (o £11.80 i £12.00 y pâr) a'r ffi am drywsanau o £11.80 i £12.00. Codir y ffioedd am wallt gosod rhannol ddynol a gwallt gosod modacrylig o £129.00 i £131.50 ac o £49.00 i £49.90 yn ôl eu trefn. Codir y ffi am wallt gosod dynol llawn o £188.50 i £192.00. Codir y ffi am staesiau ffabrig o £29.95 i £30.50. Codir y symiau a ragnodir ar gyfer rhoi tystsygrifau rhagdalu o £30.80 i £31.40 am dystysgrif bedwar-mis ac o £84.60 i £86.20 am dystysgrif ddeuddeng-mis. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud trefniadau trosiannol hefyd yn rheoliad 3 yngl ![]() Notes: [1] 1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990") adran 26(2)(g) ac (i), am y diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 77 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [2] O.S. 1989/419; fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1990/537, 1991/579, 1992/365, 1993/420, 1994/690, 1994/2402, 1995/643, 1995/2737, 1996/583, 1997/559, 1998/491, 1998/646, 1999/767.back
|