OFFERYNNAU STATUDOL
2000 Rhif 1163 (Cy. 91)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Gorchymyn y Diwydiant Cyflenwi Trydan (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000
|
Wedi'i wneud |
30 Mawrth 2000 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2000 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] a pharagraff 3(1) a (2) o Atodlen 6 iddi ac a freiniwyd ynddo bellach[2], i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru.
RHAN 1
RHAGARWEINIOL
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diwydiant Cyflenwi Trydan (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "blwyddyn" ("year" ) yw blwyddyn ariannol daladwy ;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
ystyr "gallu cynhyrchu net a ddatgenir" ("declared net capacity"), mewn perthynas â pheiriannau cynhyrchu yw'r cynhyrchiad uchaf o drydan (wrth y terfynellau cynhyrchu) y gellir ei gynnal am gyfnod amhenodol, o dan yr amodau perthnasol, heb achosi niwed i'r peiriannau, gan dynnu o'r gallu cynhyrchu hwnnw yr hyn a ddefnyddir gan y peiriannau, ac a fynegir mewn megawatiau hyd at y ganfed ran agosaf o fegawat;
(At ddibenion y diffiniad hwn ar gyfer y peiriannau cynhyrchu hynny a'u hunig neu eu prif ffynhonnell ynni yw drwy losgi olew neu lo, yr amodau perthnasol yw bod y d r sy'n mynd i'r system oeri yn un deg naw gradd Celsius os caiff y d r oeri ei gylchredeg ar yr hereditament i'w ailddefnyddio yn y system oeri, neu ym mhob achos arall deg gradd Celsius.
Ar gyfer peiriannau cynhyrchu a'u hunig neu eu prif ffynhonnell ynni yw gwynt, mae cyflymder y gwynt yn ddigon i yrru'r peiriannau cynhyrchu ar eu cynhyrchiad uchaf o drydan.
Ar gyfer peiriannau cynhyrchu a'u hunig neu eu prif ffynhonnell ynni yw d r, mae llif y d r yn ddigon i yrru'r peiriannau cynhyrchu ar eu cynhyrchiad uchaf o drydan.
Ar gyfer pob math arall ar beiriannau cynhyrchu yr amodau perthnasol yw, bod tymheredd yr awyr yn lleoliad yr hereditament yn ddeg gradd Celsius ac mae gwasgedd yr aer yn 1013mbar); ac
ystyr "peiriannau cynhyrchu" ("generating plant"), mewn perthynas â hereditament, yw peiriannau yn yr hereditament neu arno a ddefnyddir neu sydd ar gael ar gyfer eu defnyddio i'r diben o gynhyrchu trydan.
Talgrynnu Rhifau
3.
Pan (ar wahân i'r erthygl hon) fydd unrhyw werth ardrethol y penderfynir arno o dan y Gorchymyn hwn yn cynnwys ffracsiwn o bunt -
(a) rhaid talgrynnu'r ffracsiwn i un bunt os bydd yn fwy na 50c, a
(b) rhaid anwybyddu'r ffracsiwn os bydd yn 50c neu'n llai.
Diddymiadau ac Eithriadau
4.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), diddymir drwy hyn y canlynol gydag effaith o 1 Ebrill 2000 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru:
(a) Gorchymyn Cynhyrchwyr Trydan (Gwerthoedd Ardrethol) 1994[3];
(b) Gorchymyn Diwydiant Cyflenwi Trydan (Gwerthoedd Ardrethol) (Diwygio) 1995[4];
(c) erthygl 2 o Orchymyn Diwydiant Cyflenwi Trydan ac Ymgymerwyr D r (Gwerthoedd Ardrethol) (Diwygio) 1996[5] a'r gyfran honno o erthygl 1 sy'n cael effaith i ddibenion erthygl 2.
(2) Bydd y Gorchmynion a grybwyllir ym mharagraff 1 yn parhau i gael effaith ar 1 Ebrill 1995 neu wedyn at ddibenion y canlynol neu at ddibenion sy'n gysylltiedig â'r canlynol -
(a) unrhyw newid i restr a luniwyd cyn 1 Ebrill 2000; neu
(b) unrhyw ddarpariaeth a wnaed gan reoliadau a wnaed o dan adran 58 o'r Ddeddf[6] (darpariaeth arbennig ar gyfer 1995 ac ymlaen) yngln â'r swm taladwy o ran hereditament am gyfnod perthnasol fel y'i diffinnir yn yr adran honno.
RHAN II
CYNHYRCHU TRYDAN
Gwerth Ardrethol
5.
- (1) Mae erthygl 6 yn gymwys i ddosbarth ar hereditamentau y mae'r amodau ym mharagraff (2) wedi'u cyflawni yn eu cylch.
(2) Yr amodau a grybwyllir ym mharagraff (1) yw bod -
(a) yr hereditament yn cynnwys tir, peiriannau neu adeiladau a ddefnyddir at gynhyrchu trydan, neu sydd ar gael i gynhyrchu trydan a bod y defnydd hwnnw yn unig neu'n brif swyddogaeth yr hereditament a
(b) y peiriannau cynhyrchu naill ai -
(i) yn defnyddio p er gwynt, llanw, neu dd r fel eu prif ffynhonnell ynni; neu
(ii) a chanddynt allu cynhyrchu net a ddatgenir o 500 cilowat neu ragor.
(3) Wrth benderfynu ai cynhyrchu trydan yw prif swyddogaeth hereditament, rhaid peidio â chymryd sylw o hyn o wres a gynhyrchir yn yr hereditament neu arno ac a gynhyrchir at ddibenion nad ydynt yn ddibenion cynhyrchu trydan.
6.
- (1) Yn achos hereditament sy'n dod o fewn y dosbarth a bennir yn erthygl 5, ni fydd paragraffau 2 i 2B o Atodlen 6 i'r Ddeddf[7] yn gymwys, a bydd ei werth ardrethol, yn ystod unrhyw flwyddyn, pan fydd effaith i'r rhestr berthnasol, yn swm cyfartal â'r swm cymwysadwy.
(2) Y "swm cymwysadwy" at ddibenion paragraff (1) yw'r swm fesul megawat o allu cynhyrchu net a ddatgenir o'r peiriannau cynhyrchu yn yr hereditament neu arno (wedi'i fynegi i'r ganfed ran agosaf o fegawat) wedi'i nodi yng ngholofn (2) o'r Tabl canlynol mewn perthynas â'r unig ffynhonnell ynni, neu'r brif ffynhonnell ynni, a ddefnyddir gan y peiriannau llywodraethu hynny a nodir yng ngholofn (1):
TABL
(1)
|
(2)
|
Unig neu brif ffynhonnell ynni
|
£ fesul megawat
|
i) Llosgi glo
|
9,500 |
ii) Llosgi olew
|
5,000 |
iii) Llosgi nwy naturiol pan ddefnyddir tyrbin ager
|
9,500 |
iv) Llosgi nwy naturiol pan na ddefnyddir tyrbin ager
|
5,000 |
v) Ymhollti Niwclear a gynhyrchir gan adweithydd Magnox
|
6,000 |
vi) Ymhollti Niwclear na chynhyrchir gan adweithydd Magnox.
|
14,000 |
vii) P er Gwynt
|
2,000 |
viii) Llosgi nwy o safleoedd tirlenwi
|
5,000 |
ix) Llosgi cnydau a gwasarn anifeiliaid
|
2,000 |
x) Dwr wedi'i gronni a'i bwmpio
|
12,800 |
xi) Trydan d r
|
9,500 |
xii) Unrhyw ffynhonnell o ynni nas rhestrir uchod.
|
2,000 |
(3) Yn yr erthygl hon ystyr "y rhestr berthnasol" yw'r rhestr ardrethu annomestig leol a luniwyd ar 1 Ebrill 2000.
RHAN III
CYNHYRCHU TRYDAN, TROSGLWYDDO A CHYFLENWI: RHESTRI CANOLOG
Dehongli
7.
- (1) Yn y Rhan hon -
ystyr "blwyddyn berthnasol" ("relevant year") yw unrhyw flwyddyn y mae gwerth ardrethol i'w phenderfynu yn unol â'r Gorchymyn hwn ac
ystyr "blwyddyn berthnasol flaenorol" ("relevant preceding year") yw'r flwyddyn sy'n rhagflaenu blwyddyn berthnasol;
ystyr "dosbarth ar hereditamentau" ("class of hereditaments") yw hyn o hereditamentau sydd i'w dangos ar y rhestr ardrethu ganolog i Gymru yn rhinwedd rheoliad 3(1) o'r Atodlen i Reoliadau'r Rhestr Ganolog a Rhan 2 ohoni ac a feddiennir gan unrhyw berson dynodedig a enwir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn;
ystyr "ffactor ailgyfrifo" ("recalculation factor") mewn perthynas â dosbarth ar hereditamentau yw'r ffactor y penderfynir arno mewn perthynas â'r dosbarth hwnnw yn unol ag erthygl 9 neu 10, fel y bo'r achos;
ystyr "fformwla safonol" ("standard formula") mewn perthynas â dosbarth o hereditamentau yw'r fformwla
lle -
T yw'r swm a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn mewn perthynas â'r dosbarth hwnnw; a
U yw'r ffactor ailgyfrifo cymwysadwy i'r dosbarth hwnnw mewn perthynas â'r flwyddyn berthnasol.
ystyr "person dynodedig" ("designated person") yw person a ddynodir gan reoliad 3(1) o Ran 2 o'r Atodlen i Reoliadau'r Rhestri Canolog ac a enwir ynddi;
ystyr "Rheoliadau'r Rhestr Ganolog" ("Central List Regulations") yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999[8]; ac
ystyr "y rhestr ganolog" ("the central list") yw'r rhestr ardrethu annomestig ganolog i Gymru a luniwyd ar 1 Ebrill 2000.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at hereditamentau a feddiennir gan berson yn cynnwys cyfeiriad, yn achos hereditamentau nas meddiennir, at hereditamentau a berchnogir gan y person hwnnw, a dehonglir cyfeiriadau at feddiannu yn unol â hynny.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon neu yn yr Atodlen at berson dynodedig wrth ei enw yn gyfeiriad at y cwmni sy'n dwyn yr enw hwnnw ar y dyddiad y cofnodwyd yr enw ar y rhestr ganolog.
Gwerthoedd Ardrethol
8.
Yn achos pob dosbarth ar hereditament, ni fydd paragraffau 2 i 2B o Atodlen 6 i'r Ddeddf yn gymwys mewn unrhyw flwyddyn pan fydd y rhestr ganolog mewn grym ac
(a) yn y flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 y swm a bennir ar ei gyfer yn yr Atodlen fydd y gwerth ardrethol; ac
(b) mewn unrhyw flwyddyn arall sy'n dechrau ar neu cyn 1 Ebrill 2004 y swm a geir drwy ddefnyddio'r fformwla safonol ar gyfer y dosbarth hwnnw fydd y gwerth ardrethol.
Hereditamentau Trosglwyddo: Y Ffactor Ailgyfrifo
9.
Ar gyfer pob dosbarth ar hereditament a restrir yn Rhan A o'r Atodlen, y ffigur a geir ar gyfer y dosbarth hwnnw drwy ddefnyddio'r fformwla ganlynol fydd y ffactor ailgyfrifo mewn perthynas â blwyddyn berthnasol -
lle -
T yw'r swm a bennir ar gyfer y dosbarth hwnnw yn yr Atodlen;
k yw nifer amcangyfrifedig y cilometrau mewn cylched o brif linellau trosglwyddo a feddiannwyd gan y person dynodedig yn achos y dosbarth hwnnw ar 31 Mawrth yn y flwyddyn flaenorol berthnasol; a
K yw nifer amcangyfrifedig y cilometrau mewn cylched o brif linellau trosglwyddo a feddiennir gan y person hwnnw ar 31 Mawrth 2000.
Hereditamentau Dosbarthu: Y Ffactor Ailgyfrifo
10.
Ar gyfer pob dosbarth ar hereditament a restrir yn Rhan B o'r Atodlen, y ffigur a geir ar gyfer y dosbarth hwnnw drwy ddefnyddio'r fformwla ganlynol yw'r ffactor ailgyfrifo mewn perthynas â blwyddyn berthnasol -
lle -
T yw'r swm a bennir ar gyfer y dosbarth hwnnw yn yr Atodlen;
v yw'r amcangyfrif o allu'r newidydd gosodedig i gynhyrchu (wedi'i fesur mewn cilofolt-amperau) o'r holl beiriannau newid trydan a feddiannwyd gan y person dynodedig yn achos y dosbarth hwnnw ar 31 Mawrth yn y flwyddyn flaenorol berthnasol; a
V yw'r amcangyfrif o allu'r newidydd gosodedig i gynhyrchu (wedi'i fesur mewn cilofolt-amperau) o'r peiriannau hynny ar 31 Mawrth 2000.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9];
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Mawrth 2000
ATODLENErthyglau 7 i 10
Dosbarthiadau ar herediament
|
Symiau penodol mewn £
|
Rhan A. Hereditamentau sydd wedi'u meddiannu ar gyfer trosglwyddo trydan |
|
Cwmni'r Grid Cenedlaethol ccc |
19,739,327 |
Rhan B. Hereditamentau sydd wedi'u meddiannu ar gyfer dosbarthu trydan |
|
Manweb ccc |
9,989,188 |
Midlands Electricity ccc |
651,159 |
Trydan De Cymru ccc |
27,051,852 |
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol, o dan baragraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ddarparu, drwy orchymyn, na ddylid prisio hereditament o ddisgrifiad a ragnodir yn y gorchymyn ar gyfer ardrethu annomestig ar y sail a nodir ym mharagraffau 2 i 2C o'r Atodlen honno (hynny yw, wrth gyfeirio at y rhent y byddai tenant tybiedig yn ei dalu am yr hereditament bob blwyddyn), ond ar sail rheolau rhagnodedig.
O dan baragraff 3(2) o Atodlen 6, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddarparu, drwy orchymyn, yn achos hereditamentau annomestig sydd i'w dangos ar y rhestr ardrethu canolog i Gymru ("hereditamentau'r rhestr ganolog") na fydd sail y prisiad a gynhwysir ym mharagraffau 2 i 2B o'r Atodlen honno yn gymwys, ac yn lle hynny caiff ddarparu y bydd gwerthoedd ardrethol yr hereditamentau hynny fel y'u pennir yn y gorchymyn neu fel y penderfynir arnynt yn unol â rheolau rhagnodedig.
Breinir y pwerau hyn bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn (sy'n gymwys i Gymru'n unig) yn diddymu, yn ddarostyngedig i rai eithriadau, gydag effaith o 1 Ebrill 2000 ymlaen, Gorchymyn y Diwydiant Cyflenwi Trydan (Gwerthoedd Ardrethol) 1994, a wnaed o dan baragraffau 3(1) a 3(2) ac a oedd yn gymwys mewn perthynas â'r blynyddoedd yn dechrau ar 1 Ebrill 1995 neu wedyn.
Mae erthygl 5 yn rhagnodi, yn unol â pharagraff 3(1) o Atodlen 6, hereditamentau a ddefnyddir neu sydd ar gael ar gyfer eu defnyddio yn gyfan gwbl neu'n bennaf at gynhyrchu trydan drwy gyfrwng peiriannau o ddisgrifiad penodol. Mae erthygl 6 yn cynnwys rheolau ar gyfer canfod gwerthoedd ardrethol yr hereditamentau hynny yn y pum mlynedd sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000.
Mae erthygl 8 yn rhagnodi, yn unol â pharagraff 3(2) o Atodlen 6, gwerthoedd ardrethol hereditamentau'r rhestr ganolog a ddefnyddir neu sydd ar gael ar gyfer eu defnyddio i drosglwyddo trydan am y flwyddyn yn dechrau ar 1 Ebrill 2000. Mae erthyglau 9 a 10 yn darparu ar gyfer ailgyfrifo'r gwerthoedd ardrethol hynny bob blwyddyn am y blynyddoedd canlynol, ar sail fformwla safonol.
Notes:
[1]
1988 p.41; Gweler adran 146(6) ar gyfer diffiniad o "prescribed". Diwygiwyd adran 143(2) gan baragraff 72(2) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Diwygiwyd paragraff 3(1) a (2) o Atodlen 6 gan baragraff 38(12) a (13) o Atodlen 5 i Ddeddf 1989.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1994/3282 a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/962 ac O.S. 1996/912. Mae'r Gorchymyn hwn yn parhau effaith Gorchymyn Diwydiant Cyflenwi Trydan (Gwerthoedd Ardrethol) 1989 (O.S. 1989/2474) a Gorchymyn Cynhyrchwyr Trydan (Gwerthoedd Ardrethol) 1989 (O.S. 1989/2475) mewn perthynas â rhestri ardrethu annomestig mewn grym cyn 1 Ebrill 1995.back
[4]
O.S. 1995/962.back
[5]
O.S. 1996/912 fel y'i ddiwygiwyd.back
[6]
Diwygiwyd adran 58 gan baragraff 68 o Atodlen 13 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1989 (p.14), adran 2 o Ddeddf Ardrethu Annomestig 1994 (p.3) ac adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 (p.29).back
[7]
Diwygiwyd baragraff 2 a mewnosodwyd paragraffau 2A a 2B gan baragraff 38(3) i (11) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.back
[8]
O.S. 1999/3453 (Cy.50).back
[9]
1998 p.38.back
English version
|