Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y p er a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 18(3) o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975[1], sydd bellach wedi'i freinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru [2]: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Terfyn Ariannol) 2000 a daw i rym ar 12 Ebrill 2000. Cynnydd yn y terfyn ariannol 2. At ddibenion adran 18(3) o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (cyllid yr Awdurdod) pennir y terfyn yn £2,000 miliwn. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]. D.Elis Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 6 Ebrill 2000 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Corff Cyhoeddus gweithredol a Noddir gan y Cynulliad yw Awdurdod Datblygu Cymru. Cafodd ei sefydlu gan Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 er mwyn hybu datblygiad economaidd a chymdeithasol Cymru, hyrwyddo effeithlonrwydd mewn busnes a chystadleurwydd rhyngwladol yng Nghymru a hybu gwelliannau yn amgylchedd Cymru. Mae isadran 18(3) o Ddeddf 1975 yn pennu terfyn ariannol yr Awdurdod, ac yn darparu i'r terfyn hwnnw gael ei gynyddu drwy gyfrwng gorchymyn. Mae'r Gorchymyn hwn yn cynyddu'r terfyn o £1,350 miliwn i £2,000 miliwn. Notes: [1] 1975 (p.70); diwygiwyd adran 18 gan adran 1 o Ddeddf Diwydiant 1979 (p. 32), gan adrannau 5(1) a 21 ac Atodlen 2 i Ddeddf Diwydiant 1980 (p. 33), a chan adran 1 o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1997 (p. 37).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
|