Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 126(3) a (4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] ac adran 5(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990[2] a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 2 iddi ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[3] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diwygio Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg (Sefydlu) 2000 a daw i rym ar 7 Ebrill 2000. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig. Diwygio'r gorchymyn sefydlu 2. Yn lle erthygl 3 o Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg (Sefydlu) 1998[4] rhoddir yr erthygl ganlynol:-
3. - (1) The trust is established for the purposes specified in section 5(1) of the Act. (2) Subject to paragraph (3), the trust's functions shall be to provide goods and services (including hospital accommodation and community health services) for the purposes of the health service at or from the following hospitals, establishments and facilities -
(b) Neath General Hospital, Neath SA11 2LQ, (c) A hospital at Baglan Way, Port Talbot
and at or from any associated hospitals, establishments or facilities.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio'r Gorchymyn a sefydlodd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Bro Morgannwg i newid y dibenion y sefydlwyd yr ymddiriedolaeth er eu mwyn ac i ddiwygio'i swyddogaethau. Mae'r Gorchymyn yn rhoi i'r ymddiriedolaeth ddibenion darparu nwyddau a gwasanaethau at ddibenion y gwasanaeth iechyd fel y'u pennir yn adran 5(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 ac, yn unol â'r dibenion hynny, yn estyn swyddogaethau'r ymddiriedolaeth i gynnwys swyddogaeth darparu nwyddau a gwasanaethau (gan gynnwys cyfleusterau ysbyty a gwasanaethau iechyd cymunedol) yn yr ysbytai a ddisgrifir neu ohonynt. Mae'r Gorchymyn yn cynnwys darpariaeth mewn perthynas â throsglwyddo pob gwasanaeth o Ysbyty Cyffredinol Castell-nedd a'i gau ac mewn perthynas â darparu'r gwasanaethau hynny sydd i'w darparu mewn ysbyty newydd yn Ffordd Baglan, Port Talbot. Bu'r trefniadau hynny yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, gan gynnwys ymgynghoriad â'r Cyngor Iechyd Cymunedol perthnasol. Notes: [1] 1977 p. 49; diwygiwyd adran 126(3) gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 65(2) a chan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), atodlen 1, paragraff 57; diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), atodlen 4, paragraff 37(6).back [2] 1990 p.19; diwygiwyd adran 5(1) gan Ddeddf 1999, adran 13(1); diwygiwyd paragraff 3 o atodlen 2 gan Ddeddf 1995, atodlen 1, paragraff 85 a chan Ddeddf 1999, adran 13(1).back [3] Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back
|