Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 126(4) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] a pharagraff 2A o Atodlen 12 iddi a phob p ![]() Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) Diwygio (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000. (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997[2]. (3) Mae'r Rheoliadu hyn yn gymwys i Gymru'n unig. Diwygio rheoliad 1 o'r prif Reoliadau 2. Ym mharagraff (2) o reoliad 1 o'r prif Reoliadau (dehongli) yn y diffiniad o "NHS sight test fee", yn lle'r swm "£40.33" amnewidier "£41.54" ac yn lle'r swm "£14.57" amnewidier "£15.01". Diwygio rheoliad 15 o'r prif Reoliadau 3. Ym mharagraff (1)(b) o reoliad 15 o'r prif Reoliadau (cymhwyster - ailosod neu drwsio), ar ôl "regulation 8(2)" mewnosoder "(b)". Diwygio rheoliad 19 o'r prif Reoliadau 4. Yn rheoliad 19 o'r prif Reoliadau (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio)-
(b) ym mharagraff (3), yn lle "£10.80", amnewidier "£11.00".
Diwygio'r Atodlenni i'r prif Reoliadau
(3) Yn lle Atodlen 3 i'r prif Reoliadau (gwerthoedd talebau - trwsio), amnewidier yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(Nid yw'r nodyn hwn yn ffurfio rhan o'r Rheoliadau.) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 ("y prif Reoliadau"), sy'n darparu cynllun ar gyfer taliadau i'w gwneud gan Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth lechyd Gwladol, drwy system dalebau, tuag at y costau a dynnwyd gan gategorïau penodol o bobl mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, ailosod a thrwsio teclynnau optegol. Mae Rheoliad 2 yn diwygio'r diffiniad o "NHS sight test fee" yn rheoliad 1(2) o'r prif Reoliadau i adlewyrchu gwerthoedd y ddwy lefel o ffioedd am brofioon golwg y Gwasanaeth lechyd Gwladol sy'n daladwy i ymarferwyr meddygol offthalmig ac optegwyr pan ddaw'r rheoliadau hyn i rym. Mae'r symiau hyn yn berthnasol i benderfynu cymhwyster i gael taleb at gostau prawf golwg, a phenderfynu ei gwerth adbrynu. Mae Rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 15 o'r prif Reoliadau i gynnwys pobl ifanc 16 i 18 oed, sy'n cael addysg amser-llawn, yng nghategorïau cleifion a all fod yn gymwys i gael taliadau ar gyfer trwsio neu ailosod teclynnau optegol. Mae Rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 19 o'r prif Reoliadau (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio) i gynyddu gwerth taleb optegol a roddir tuag at y gost o ailosod lens gyffwrdd unigol, ac i gynyddu mwyafswm y cyfraniad drwy daleb at gost trwsio ffrâm sbectol. Mae Rheoliad 5(1) yn diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau i gynyddu gwerth y talebau a roddir tuag at y gost o gyflenwi ac ailosod sbectol a lensys cyffwrdd. Mae Rheoliad 5(2) yn diwygio Atodlen 2 i'r prif Reoliadau i gynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a theclynnau mewn categorïau arbennig. Mae Rheoliad 5(3) a'r Atodlen yn amnewid Atodlen 3 newydd i'r prif Reoliadau i gynyddu gwerth y talebau a roddir tuag at y gost o drwsio ac ailosod teclynnau optegol. Tua 2.0%, ar gyfartaledd, yw graddfa'r cynnydd. Notes: [1] 1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), am y diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2). Mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 12 gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48), Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 3 ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 13(2) a (3). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a pharagraff 2A o Atodlen 12 iddi, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [2] O.S. 1997/818. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/2488, 1998/499 a 1999/609.back
|