Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981[1] ac a freinir ynddo bellach, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru[2] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau ar gyfer Adfer y Stoc Penfreision) (Môr Iwerddon) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 18th Mawrth 2000. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig. Dehongli 2. - (1) Yn y Gorchymyn hwn:-
(b) y gofyniad sydd wedi'i gynnwys yn Erthygl 4(4)(b) o Reoliad 850/98, fel y'i darllenir gydag erthyglau 4(5)(a) a 5 o'r Rheoliad hwnnw ac Atodiad I iddo, i'r graddau (yn unig) y mae effaith y gofyniad hwnnw wedi'i hymestyn yn rhinwedd Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn;
(b) unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw orchymyn arall sy'n ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig a wnaed er mwyn gweithredu darpariaethau y Gymuned, sydd yn ddarpariaeth, yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, y gellir cychwyn achos ynglyn â hi mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.
(2) Yn y Gorchymyn hwn mae unrhyw gyfeiriad at ddogfen, coflyfr neu ddatganiad yn cynnwys, yn ogystal â dogfen, coflyfr neu ddatganiad ysgrifenedig -
(ii) unrhyw ffotograff; (iii) unrhyw ddata, sut bynnag y'i hatgynhyrchir, a gyfathrebir trwy system monitro lloeren-cwch a sefydlwyd o dan erthygl 3.1 o Reoliad 2847/93; (iv) unrhyw ddisg, tâp, trac sain neu ddyfais arall sy'n recordio seiniau neu ddata arall (heb fod yn ddelweddau gweledol) fel bod modd eu hatgynhyrchu oddi arnynt (gyda chymorth unrhyw gyfarpar arall, neu hebddo), a (v) unrhyw ffilm (gan gynnwys microffilm), negatif, tâp, disg neu ddyfais arall y mae un neu fwy o ddelweddau gweledol yn cael eu recordio arnynt fel bod modd eu hatgynhyrchu oddi arnynt (fel y dywedwyd uchod).
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at un o offerynnau'r Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i'r offeryn hwnnw sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.
(b) unrhyw gwch pysgota sy'n mynd i mewn i unrhyw ran o'r ardal benodedig,
yn cael ei dorri, neu pan fethir â chydymffurfio â hi, bydd y meistr, y perchennog, a'r siartrwr (os oes un) bob un yn euog o dramgwyddo.
(b) o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.
(2) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn yr erthygl hon, caiff y llys y ceir person yn euog o dramgwydd perthnasol ganddo neu ger ei fron orchymyn fforffedu unrhyw bysgod y cyflawnwyd y tramgwydd mewn perthynas â hwy a fforffedu unrhyw rwyd neu offer pysgota arall a ddefnyddiwyd wrth gyflawni'r tramgwydd.
(b) gwneud gorchymyn i gadw y cwch a'i offer a'i haldiad am gyfnod o ddim mwy na thri mis o ddyddiad y gollfarn neu hyd nes y telir y ddirwy neu y cesglir swm y ddirwy yn unol ag unrhyw warant o'r fath, p'un bynnag fydd yn digwydd gyntaf.
(2) Bydd adrannau 77(1) a 78 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980[10] (gohirio rhoi gwarantau atafaelu, a diffygion ynddynt) yn gymwys i warant atafaelu a roddir o dan yr erthygl hon fel y maent yn gymwys i warant atafaelu a roddir o dan Ran III o'r Ddeddf honno.
(b) unrhyw gwch pysgota arall sydd o fewn yr ardal benodedig,
arfer y pwerau a roddir gan baragraffau (2) i (4) o'r erthygl hon.
(b) caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd ar y cwch yn cyflwyno unrhyw ddogfen yngln â'r cwch, yngln ag unrhyw weithrediadau pysgota neu unrhyw weithrediadau ategol iddynt neu yngln â'r personau sydd ar fwrdd y cwch sydd yng nghadwraeth neu feddiant y person hwnnw; (c) er mwyn canfod a oes tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a gall ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r chwilio; (ch) caiff archwilio a chopïo unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir i'r swyddog neu y deuir o hyd iddi ar y cwch; (d) heb ragfarn i is-baragraffau (c) ac (ch), gall ei gwneud yn ofynnol bod y meistr ac unrhyw berson sydd am y tro yn gyfrifol am y cwch yn cyflwyno pob dogfen o'r fath sydd ar system gyfrifiadurol mewn ffurf weladwy a darllenadwy, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw ddogfen o'r fath yn cael ei chyflwyno mewn ffurf y gellir mynd â hi oddi yno; ac (dd) os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni mewn perthynas â'r cwch, caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir neu y deuir o hyd iddi ar fwrdd y cwch er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos yngln â'r tramgwydd;
ond nid fydd dim yn is-baragraff (dd) uchod yn caniatáu cipio a chadw unrhyw ddogfen y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch, ac eithrio pan fydd y cwch yn cael ei gadw mewn porthladd.
(b) cadw , neu ei gwneud yn ofynnol bod y meistr yn cadw, y cwch yn y porthladd;
a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw cwch, neu'n ei gwneud yn ofynnol bod cwch yn cael ei gadw, rhaid iddo gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig y bydd, neu fod, angen cadw y cwch hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
(b) cymryd gydag ef neu hi unrhyw bersonau eraill sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ac unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau; (c) archwilio unrhyw bysgod yn yr adeiladau a'i gwneud yn ofynnol bod unrhyw bersonau yn yr adeiladau yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwilio; (ch) cyflawni mewn adeiladau o'r fath unrhyw archwiliadau ac arbrofion eraill a fydd yn rhesymol angenrheidiol; (d) ei gwneud yn ofynnol na fydd neb yn gwaredu nac yn peri gwaredu unrhyw bysgod o adeiladau o'r fath yn ystod y cyfnod a fydd yn rhesymol angenrheidiol er mwyn sefydlu a gyflawnwyd tramgwydd perthnasol ar unrhyw adeg; (dd) ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn yr adeiladau yn cyflwyno unrhyw ddogfennau sydd yn eu cadwraeth neu feddiant mewn perthynas â dal, glanio, cludo, trawslwytho, gwerthu neu waredu unrhyw bysgod; (e) er mwyn canfod a oes unrhyw berson yn yr adeiladau wedi cyflawni tramgwydd perthnasol, chwilio'r adeiladau am unrhyw ddogfen o'r fath a'i gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn yr adeiladau yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r chwilio; (f) archwilio a chopïo unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir i'r swyddog neu y deuir o hyd iddi yn yr adeiladau; (ff) ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson priodol neu gyfrifol yn cyflwyno unrhyw ddogfen o'r fath sydd ar system gyfrifiadurol mewn ffurf weladwy a darllenadwy, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol ei chyflwyno mewn ffurf y gellir mynd â hi oddi yno; ac (g) os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni, caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir neu y deuir o hyd iddi yn yr adeiladau er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn unrhyw achos yngln â'r tramgwydd.
(2) Bydd darpariaethau paragraff (1) uchod yn gymwys, gyda'r newidiadau angenrheidiol, mewn perthynas ag unrhyw dir a ddefnyddir mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r gweithgareddau a ddisgrifir ym mharagraff (1) uchod, neu mewn perthynas ag unrhyw gerbyd y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig achos rhesymol dros gredu ei fod yn cael ei ddefnyddio i gludo pysgod neu gynhyrchion pysgodfeydd, yn yr un modd ag y maent yn gymwys i adeiladau, ac yn achos cerbyd maent yn cynnwys per i'w gwneud yn ofynnol ar unrhyw adeg bod y cerbyd yn stopio, ac, os oes angen, i gyfarwyddo'r cerbyd i ryw fan arall i hwyluso'r archwilio.
(b) naill ai-
(ii) y byddai gwneud cais am fynediad neu roi hysbysiad o'r fath yn rhwystro bwriad y mynediad, neu fod yr adeiladau yn wag, neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro, ac y gallai aros i'r meddiannydd ddychwelyd rwystro bwriad y mynediad ;
fe gaiff yr ynad lofnodi gwarant a fydd yn ddilys am fis i awdurdodi swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig i fynd i'r adeiladau, gan ddefnyddio grym rhesymol os oes ei angen, ac i fynd â'r personau sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol.
Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig i gipio pysgod ac offer pysgota
(b) unrhyw gwch pysgota Prydeinig perth sydd perthnasol o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru; neu (c) unrhyw gwch pysgota arall sydd o fewn yr ardal benodedig,
(2) Pan fydd yr erthygl hon yn gymwys, gall unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig gipio-
(b) unrhyw rwyd neu offer pysgota arall y mae gan y swyddog sail resymol dros amau eu bod wedi'u defnyddio wrth gyflawni tramgwydd o'r fath.
Pwerau swyddogion eraill
(b) heb esgus rhesymol yn rhwystro, neu yn ceisio rhwystro, unrhyw berson arall rhag cydymffurfio â gofyniad o'r fath; neu (c) yn ymosod ar swyddog sydd wrthi'n arfer unrhyw un o'r pwerau a roddir iddo neu iddi gan erthyglau 6 i 9 o'r Gorchymyn hwn neu sydd yn fwriadol yn rhwystro swyddog o'r fath wrth iddo arfer unrhyw un o'r pwerau hynny,
yn euog o dramgwydd ac yn agored-
(ii) o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.
Darpariaethau ynglyn â thramgwyddau
(b) datganiad a gyflwynir o dan Erthyglau 8.1, 11, 12, 17.2 neu 28f; (c) adroddiad ymdrech a gwblheir o dan Erthyglau 19b a 19c; (ch) dogfen a lunnir o dan Erthyglau 9 neu 13; (d) dogfen sy'n cynnwys gwybodaeth a fynnwyd ac a dderbynnir gan ganolfan monitro pysgodfeydd a sefydlir o dan Erthygl 3.7, o Reoliad 2847/93, yn dystiolaeth o'r materion a ddatgenir ynddynt mewn unrhyw achos ynglyn â thramgwydd perthnasol.
(2) At ddibenion paragraff (1) bydd "gwybodaeth a fynnwyd" ("required information") yn golygu-
(b) lleoliad daearyddol diweddaraf y cwch pysgota, wedi'i fynegi mewn graddau a munudau lledred a hydred; ac (c) y dyddiad a'r amser pan sefydlwyd y safle hwnnw,
fel y'u cyflëir trwy system monitro cychod sy'n seiliedig ar loeren a sefydlwyd o dan erthygl 3.1 o Reoliad 2847/93. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn yn darparu ar gyfer gorfodi cyfyngiadau ynglyn â chadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy fesurau i adfer y stoc penfreision yn y rhan honno o Fôr Iwerddon (Rhaniad VIIa ICES) sydd o fewn y môr tiriogaethol sy'n gyfagos at Gymru. Cynhwysir y cyfyngiadau yn Erthygl 1, fel y'i darllenir gydag Erthyglau 1.2 ac 1.3 o Reoliad y Comisiwn (CE) Rhif 304/2000 (OJ Rhif L35, 10.2.2000, t.10 ("Rheoliad y Comisiwn"). Yn ystod y cyfnod o 14 Chwefror 2000 i 30 Ebrill 2000, mae erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn yn gwahardd defnyddio mathau penodedig o rwydi ac offer pysgota o fewn ardal ddaearyddol benodedig o Fôr Iwerddon. Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi gofyniad mewn perthynas â chyfansoddiad canrannol haldiadau o'r rhywogaeth darged a gymerir gan wahanol amrediadau o feintiau masgl, a gynhwysir yn Erthygl 4(4)(b) o Reoliad y Cyngor (CE) Rhif 850/98, ar gyfer cadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy gyfrwng mesurau technegol i warchod ieuenctid organeddau morol, fel y'i darllenir gydag Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn. Mae erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn yn anghymhwyso mesurau trosiannol ar gyfer 2000 a nodir yn nhroednodyn 6 i Atodiad I i Reoliad y Cyngor 850/98, a allai fel arall ganiatáu i nifer uchel o'r rhywogaeth darged gael eu cymryd fel sgil-haldiad ym Môr Iwerddon. Mae Erthygl 3 o'r Gorchymyn yn creu tramgwyddau mewn perthynas â thorri Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn neu Erthygl 4(4)(b) o Reoliad y Cyngor 850/98. Pennir cosbau, a all gynnwys fforffedu pysgod, rhwydi ac offer pysgota arall, ar gyfer tramgwyddau o'r fath (erthygl 4). Mae'r Gorchymyn yn rhoddi pwerau gorfodi i swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â chychod pysgota ac ar y tir ac mewn perthynas â chipio pysgod ac offer pysgota (erthyglau 6, 7 ac 8), a hefyd i swyddogion eraill mewn perthynas â rhwydi ac offer pysgota (erthygl 9). Gwneir darpariaeth ar gyfer cosbi unrhyw un a geir yn euog o rwystro neu ymosod ar swyddog (erthygl 11). Gwneir darpariaeth hefyd ar gyfer erlyn tramgwyddwyr ac ar gyfer achosion gan bwyllgorau pysgodfeydd lleol (erthygl 13). Yr uchafswm cosb statudol a bennir yn y Gorchymyn yw Ł5,000 ar hyn o bryd. Mae'r Gorchymyn hefyd yn darparu pwerau ar gyfer casglu dirwyon a orfodir gan lys ynadon (erthygl 5). Mae erthyglau 10, 12 a 14 yn cynnwys darpariaethau ategol. Notes: [1] 1981 p.29. Gweler adran 30(3) i gael diffiniadau "cyfyngiad Cymunedol gorfodadwy" ("enforceable Community restriction"), "rhwymedigaeth Gymunedol orfodadwy" ("enforceable community obligation") ac "y Gweinidogion" ("the Ministers"), fel y'u diwygiwyd gan Atodlen 2, paragraff 68(5) i Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820). Mae Erthygl 3(1) o Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Swyddogaethau Cyfamserol) 1999 (O.S. 1999/1592) ac Atodlen 1 iddo yn darparu i'r swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adran 30(2) o Ddeddf 1981 gael eu harfer gan y Gweinidogion, yn gyfamserol â Gweinidogion yr Alban, mewn perthynas â chychod pysgota Albanaidd o fewn ffiniau pysgodfeydd Prydain ond y tu allan i'r parth Albanaidd (am "y parth Albanaidd" gweler adran 126 o Ddeddf yr Alban 1998 (p.46) a Gorchymyn Ffiniau Dyfroedd Cyfagos at yr Alban 1999 (O.S. 1999/1126)).back
[2]
Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifenyddion Gwladol yngl [3] Pennir y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru yn unol â darpariaethau adran 1 o Ddeddf Môr Tiriogaethol 1987 (p.47) ac ag unrhyw ddarpariaethau a wneir, neu sydd ag effaith fel petaent wedi eu gwneud, o dan yr adran honno. Bydd y ffin rhwng y darnau hynny o'r môr yn Aberoedd Hafren a Dyfrdwy sydd i'w trin fel môr tiriogaethol cyfagos at Gymru, a'r darnau nad ydynt i'w trin felly, i'w phennu yn unol ag erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau)1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 3 iddo.back [6] 1996, p.38, diddymwyd adran 1 yn rhannol gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70), adran 272(1) ac Atodlen 30; a'i hamnewid yn rhannol gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p.51), adran 16 ac Atodlen 8. paragraff19.back [7] OJ Rhif. L261, 20.10.93, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (CE) Rhif 2846/98 (OJ Rhif. L358, 31.12.98, t.5).back [8] OJ Rhif L125, 27.4.98, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (CE) Rhif L328, 22.12.99, t.9).back [9] OJ Rhif L.35, 10.02.2000, t.10back [10] 1980, p43. Troswyd yr uchafsymiau dirwyon yn adran 78 yn lefelau ar y raddfa safonol gan adrannau 37 a 46 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48).back [11] O.S. 1981/1675 (G.I. 26)back
|