British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Cartrefi i Bobl Fyw Ynddynt (Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo) (Diwygio) (Cymru) 1999
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/993465w.html
[
New search]
[
Help]
1999 Rhif 3465 (Cy.53)
TAI, CYMRU MEWNFUDO, CYMRU
Gorchymyn Cartrefi i Bobl Fyw Ynddynt (Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo) (Diwygio) (Cymru) 1999
|
Wedi'i wneud |
3 Rhagfyr 1999 | |
|
Yn dod i rym |
6 Rhagfyr 1999 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 9 o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1996[
1] a freiniwyd bellach ynddo i'r graddau y mae'n arferadwy yng Nghymru[
2]:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cartrefi i Bobl Fyw Ynddynt (Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo) (Diwygio) (Cymru) 1999 a daw i rym ar 6 Rhagfyr 1999.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
Ceiswyr lloches
2.
Yng Ngorchymyn Cartrefi i Bobl Fyw Ynddynt a Digartrefedd (Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo) 1996[
3], yn erthygl 3 (dosbarthiadau a bennir o dan adran 9(1)), ar y diwedd, ychwanegir -
"
Class DG - an asylum-seeker to whom, or a dependent of an asylum-seeker to whom, a local authority is required to provide support in accordance with regulations made under Schedule 9 to the Immigration and Asylum Act 1999[4].".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].
Jane Davidson
Dirprwy Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
3 Rhagfyr 1999
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 9(1) o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1996 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol, cyn belled ag y bo'n ymarferol, sicrhau na fydd unrhyw denantiaeth o gartref i bobl fyw ynddo na thrwydded i feddiannu cartref i bobl fyw ynddo a ddarperir o dan Ran II o Ddeddf Tai 1985 (darparu cartrefi i bobl fyw ynddynt), heblaw cartrefi a ddyrennir o dan Ran VI o Ddeddf Tai 1996 (dyrannu cartrefi i bobl fyw ynddynt), yn cael ei rhoi i berson sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo oni fydd y person hwnnw yn perthyn i ddosbarth a bennir mewn gorchymyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae'r p
er hwnnw, i'r graddau y mae'n arferadwy yng Nghymru, wedi'i freinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'r Gorchymyn yn pennu, at ddibenion yr adran honno, geiswyr lloches y mae'n ofynnol i awdurdod lleol roi cymorth iddynt, neu i'w dibynyddion, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Atodlen 9 i Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
Notes:
[1]
1996 p.49. Diwygiwyd adran 9, i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru a Lloegr, gan baragraff 3 o Atodlen 16 i Ddeddf Tai 1996 (p.52), a Rhannau VII a VIII o Atodlen 19 iddi.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1996/1982; O.S. 1998/139 yw'r offeryn diwygio perthnasol.back
[4]
1999 p.33.back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 090028 6
|
Prepared
30 October 2001