British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Tir Gofal a Ffermio Organig (Diwygio) (Cymru) 1999
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/993337w.html
[
New search]
[
Help]
1999 Rhif 3337 (Cy.45)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Tir Gofal a Ffermio Organig (Diwygio) (Cymru) 1999
|
Wedi'u gwneud |
2 Rhagfyr 1999 | |
|
Yn dod i rym |
4 Rhagfyr 1999 | |
Gan ei fod wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[
2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Teitl, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Gofal a Ffermio Organig (Diwygio) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 4 Rhagfyr 1999.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygio Rheoliadau Cynllun Tir Gofal (Land in Care) (Cymru) 1999
2.
- (1) Diwygir Rheoliadau Cynllun Tir Gofal (Land in Care) (Cymru) 1999[
3] yn unol â'r paragraffau canlynol.
(2) Ar ôl is-baragraff (e) o baragraff (4) o reoliad 3 mewnosodir yr is-baragraff canlynol -
"
(f) may include such other provision that may be agreed between the Countryside Council and the other party.".
(3) Yn is-baragraff (d) o baragraff (4) o reoliad 3 wedi'r gwahannod fe ddilëer y gair "and" ac yn is-baragraff (e) o'r un paragraff rhoddir y geiriau "activity; and" yn lle "activity.".
(4) Ar ôl rheoliad 9 mewnosodir y rheoliad canlynol -
"
Obligation to keep records
9A.
A Tir Gofal agreement holder shall keep for the duration of the Tir Gofal agreement any correspondence or other records relating to any management activity specified in Schedules 2 and 3 and any capital activity specified in Schedule 4.".
(5) Ym mharagraff (b) o reoliad 5, rhoddir "regulations 7, 8, 9A a 10" yn lle "regulations 7 and 8".
Diwygio Rheoliadau Ffermio Organig (Cymru) 1999
3
- (1) Diwygir Rheoliadau Ffermio Organig 1999[4] yn unol â'r paragraffau canlynol.
(2) Rhoddir yr is-baragraffau canlynol yn lle is-baragraffau (a) a (b) ym mharagraff (1) o reoliad (6) -
"
(a) a certificate of registration has been given by the inspection authority in respect of the first organic parcel; and
(b) the applicant makes a declaration that the inspection authority has approved a plan relating to the whole of the organic unit comprising the organic parcel to which the application relates.".
(3) Ar ôl rheoliad 6 mewnosodir y rheoliad canlynol -
"
Closing date for accepting applications for aid
6A.
- (1) The Assembly shall not accept an application for aid under these Regulations unless such application has been received by it before 4th December 1999.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cendlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
Dafydd Elis Thomas
Y Llywydd
2 Rhagfyr 1999
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllun Tir Gofal (Land in Care) (Cymru) 1999 ("Rheoliadau Tir Gofal") a Rheoliadau Ffermio Organig (Cymru) 1999 ("y Rheoliadau Ffermio Organig").
Mae'r Rheoliadau Tir Gofal yn cynnwys darpariaethau cynllun amaeth-amgylcheddol sy'n gweithredu'n rhannol raglen gylchfaol a gymeradwywyd gan y Comisiwn Ewropeaidd o dan Erthygl 7 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2078/92 (OJ Rhif L215, 30.7.92, t.85) ar ddulliau cynhyrchu amaethyddol sy'n cyd-fynd â'r gofynion ar gyfer diogelu'r amgylchedd a chynnal cefn gwlad ("y Rheoliad Amaeth-Amgylcheddol"). Mae'r Rheoliadau Tir Gofal yn darparu ar gyfer talu cymorth i unrhyw berson sy'n gwneud cytundeb Tir Gofal â Chyngor Cefn Gwlad Cymru.
Mae'r Rheoliadau Ffermio Organig yn darparu ar gyfer talu cymorth i ffermwyr sy'n ymrwymo i gyflwyno dulliau ffermio organig ac yn cydymffurfio ag amodau rheoli penodol, yn unol ag Erthygl 2(1)(a) a (d) y Rheoliad Amaeth-Amgylcheddol. Diddymwyd y Rheoliad Amaeth-Amgylcheddol gan Erthygl 55(1) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/99 (OJ Rhif L160, 26.6.99 t.80), ond, yn rhinwedd Erthygl 55(3) o'r Rheoliad olaf, mae'r Rheoliad Amaeth-Amgylcheddol yn parhau i fod yn gymwys i'r camau a gaiff eu cymeradwyo gan y Comisiwn cyn 1 Ionawr 2000.
Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau Tir Gofal -
a) i ganiatáu i gytundeb Tir Gofal gynnwys unrhyw ddarpariaeth y cytunir arno rhwng Cyngor Cefn Gwlad Cymru a cheisydd Tir Gofal (rheoliad 2(2));
b) i osod rhwymedigaeth ar ddeiliad cytundeb Tir Gofal i gadw cofnodion (rheoliad 2(4)); ac
c) i wneud cydymffurfiad â'r gofyniad i gadw cofnodion (rheoliad 9A o'r Rheoliadau Tir Gofal a fewnosodir gan y Rheoliadau hyn) a'r rhwymedigaeth i ganiatáu mynediad ac archwiliad (rheoliad 10 o'r Rheoliadau Tir Gofal) yn amodau ar gyfer talu cymorth (rheoliad 2(5)).
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau Ffermio Organig:
a) i ddileu'r gofyniad bod tystysgrif gofrestru ar gyfer y llain organig gyntaf a datganiad gan y ceisydd bod yr awdurdod archwilio wedi cymeradwyo cynllun yngln â'r holl uned organig yn cael eu hamgáu gyda chais am gymorth (rheoliad 3(2)); a
b) i ddarparu na fydd y Cynulliad yn derbyn unrhyw geisiadau am gymorth a geir ar neu ar ôl 4 Rhagfyr 1999 (rheoliad 3(3)).
Notes:
[1]
Yn rhinwedd Gorchymyn Cymunedau Ewrop (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. Rhif 1999/2788).back
[2]
1972 p.68.back
[3]
O.S. Rhif 1999/1176.back
[4]
O.S. Rhif 1999/2611.back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 090017 0
|
Prepared
30 October 2001