British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 1999
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/993185w.html
[
New search]
[
Help]
1999 Rhif 3185 (Cy. 43)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 1999
|
Wedi'u gwneud |
28 Hydref 1999 | |
|
Yn dod i rym |
29 Hydref 1999 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1(5) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Bellach 1998[
1] a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2]:
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 1999 a deuant i rym ar 29 Hydref 1999.
Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999
2.
Diwygir Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999[
3] yn unol â rheoliadau 3, 4, 5 a 6 isod.
3.
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 -
(a) hepgorer y diffiniadau o "primary school", "secondary school" a "special school";
(b) ar ôl y diffiniad o "the Council" mewnosoder -
"
"junior pupils" means children who have not attained the age of 12;";
(c) ar ôl y diffiniad o "members" mewnosoder -
"
"senior pupils" means persons who have attained the age of 12."
4.
Rhodder y canlynol yn lle paragraff (2) o reoliad 2 -
"
(2) In regulations 4 and 9 references to "teachers" shall only include a person who
(a) on and after the date of establishment of a register of teachers under section 3 of the 1998 Act, is a registered teacher; and
(b) before that date, is a qualified teacher within the meaning of section 218(2) of the 1988 Act."
5.
Rhodder y canlynol yn lle rheoliad 4 -
"
4.
The elected members shall comprise -
(a) four teachers of junior pupils;
(b) four teachers of senior pupils;
(c) four head or deputy head teachers."
6.
Yn rheoliad 9, ar ôl y gair "Council?" mewnosoder y geiriau "are teachers who".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1988[4]
Dafydd Elis Thomas
Y Llywydd,Cynulliad Cenedlaethol Cymru
28 Hydref 1999
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Effaith y diwygiad hwn fydd galluogi athrawon sy'n addysgu mewn ysgolion meithrin, ysgolion arbennig ac addysg bellach i sefyll etholiad i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. Ni fyddai geiriad Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999 wedi caniatáu iddynt wneud hynny gynt.
At y diben hwn, mae "athrawon" yn golygu athro sydd wedi cymhwyso o fewn ystyr adran 218(2) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988; neu, athro cofrestredig, unwaith y bydd cofrestr o athrawon wedi'i sefydlu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999 fel y bydd aelodau etholedig Cyngor Addysgu Cymru yn cynnwys:
(a) pedwar athro disgyblion iau (personau o dan 12 oed);
(b) pedwar athro disgyblion hn);
(c) pedwar pennaeth neu ddirprwy bennaeth ysgol.
Notes:
[1]
1998 c.30; for the meaning of "prescribed" and "regulations" see section 43(1). Section 1(5) and (7) and Schedule 1 have effect in relation to the General Teaching Council for Wales by virtue of the General Teaching Council for Wales Order 1998 (S.I. 1998/2911).back
[2]
See the National Assembly for Wales (Transfer of Functions) Order 1999 (S.I. 1999/672).back
[3]
S.I. 1999/1619.back
[4]
1998 c.38.back
English version
ISBN
0 11 090023 5
|
Prepared
30 October 2001