Wedi'i wneud | 28 Hydref 1999 |
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Diwrnodau penodedig
2.
- (1) 1 Tachwedd 1999 yw'r diwrnod a bennir i bob darpariaeth y Ddeddf a nodir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, i'r graddau y mae wedi'i nodi yno.
(2) 1 Rhagfyr 1999 yw'r diwrnod a bennir i bob darpariaeth y Ddeddf a nodir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, i'r graddau y mae wedi'i nodi yno.
Darpariaeth arbed
3.
Er gwaethaf y diddymiadau a achosir gan baragraff 83(1) a (4) o Atodlen 4 i'r Ddeddf yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, ymdrinir ag unrhyw gyfarwyddiadau i Ymddiriedolaethau NHS yng Nghymru a roddir o dan baragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf 1990 ac sydd mewn grym yn union cyn 1 Rhagfyr 1999 fel petaent wedi'u rhoi o dan, ac at ddibenion, adran 17 o Ddeddf 1977.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Dafydd Elis Thomas
Y Llywydd
28 Hydref 1999
Prepared
30 October 2001