British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Offerynnau Statudol 1999 Rhif 2893 (Cy.26)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/992893w.html
[
New search]
[
Help]
1999 Rhif 2893 (Cy.26)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Addysg (Apelau Derbyniadau Ysgol: Cod Ymarfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Diwrnod Penodedig) 1999
|
Wedi'i wneud |
31 Awst 1999 | |
|
Yn dod i rym |
1 Medi 1999 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 85(5) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[
1] ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad.[
2]
Enwi
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Apelau Derbyniadau Ysgol: Cod Ymarfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Diwrnod Penodedig) 1999.
Diwrnod Penodedig
2.
Pennir drwy hyn 1 Medi 1999 fel y dyddiad y daw "Apelau Derbyniadau Ysgol: Cod Ymarfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru"[
3] a gyhoeddir yn unol ag adran 84 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ar 20 Awst 1999 i rym.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].
Dafydd Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
31 Awst 1999
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Adran 84 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi Cod Ymarfer yn cynnwys y canllawiau ymarferol y mae'n credu eu bod yn briodol, o ran cyflawni swyddogaeth dderbyn gan awdurdodau addysg yn ôl lleoliad gan awdurdodau addysg, cyrff llywodraethu ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir a phaneli apelau derbyniadau.
Mae Adran 85 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cod Ymarfer ar Apelau Derbyniadau ddod i rym drwy Orchymyn.
Mae'r Cod Ymarfer yn gymwys yn bennaf i apelau derbyniadau ar gyfer y nifer a dderbynnir i ysgolion cynradd ac uwchradd o 2000/2001 ymlaen ac mae'n ymdrin â dau gategori ar wahân o apelau derbyn:
- apelau gan rieni yn erbyn penderfyniad gan awdurdod derbyn ysgol i wrthod cynnig lle i'w plentyn yn yr ysgol o dan sylw; ac
- apelau gan gyrff llywodraethu ysgolion cymunedol neu ysgolion gwirfoddol a reolir yn erbyn penderfyniad gan AALl i dderbyn plentyn i'r ysgol sydd gynt wedi'i wahardd yn barhaol o ddwy neu ragor o ysgolion.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu 1 Medi 1999 fel y diwrnod y daw Cod Ymarfer y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer Apelau Derbyniadau i rym. Mae Cod sy'n cynnwys canllawiau i awdurdodau addysg lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir ar eu cyfrifoldebau mewn perthynas ag apelau derbyniadau eisoes wedi'i gyhoeddi ar 20 Awst 1999.
Gellir cael copïau o'r ddau God o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Mae modd eu gweld hefyd ar y Rhyngrwyd yn www.cymru.gov.uk.
Notes:
[1]
1998 p.31.back
[2]
rosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 85(5) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
ISBN 0750423528. Dim ond yng Nghymru y mae'r Cod yn gymwys.back
[4]
1998 p.38.back
ISBN
0 11 090009 X
English version
|
Prepared
9 November 1999