British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Costau Teithio a Dileu Taliadau) (Diwygio) (Cymru) 1999
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/992840w.html
[
New search]
[
Help]
1999 Rhif 2840 (Cy.20)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Costau Teithio a Dileu Taliadau) (Diwygio) (Cymru) 1999
|
Wedi'u gwneud |
5 Hydref 1999 | |
|
Yn dod i rym |
5 Hydref 1999 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adrannau 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf Gwasnaeth Iechyd Gwladol 1977[
1] a phob p
er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2]:
Enwi, cychwyn, dehongli a hyd a lled
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Costau Teithio a Dileu Taliadau) (Diwygio) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 5 Hydref 1999.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Costau Teithio a Dileu Taliadau) 1988[
3].
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.
Diwygio'r prif Reoliadau
2.
Ar ddiwedd rheoliad 2 o'r prif Reoliadau mewnosodir y paragraff canlynol -
"
(5) In respect of regulations 2 and 4 and Schedule 1 the amendments made by the National Health Service (Travelling Expenses and Remission of Charges) Amendment Regulations 1999[4] shall also have effect in Wales.".
Darpariaeth Drosiannol
3.
- (1) Lle'r oedd hawl gan berson yn union cyn 5ed Hydref 1999 i gael dilead o daliadau neu daliad o gostau teithio yn rhinwedd rheoliad 4(c) neu (d) o'r prif Reoliadau (dilead neu daliad wrth gyfeirio at hawl i gael gredyd teulu), neu yn rhinwedd rheoliad 4(g) neu (h) o'r prif Reoliadau (dileu neu dalu wrth gyfeirio at hawl i gael lwfans gweithio i'r anabl), bydd yr hawl honno'n parhau tra bydd credyd teulu neu lwfans gweithio i'r anabl, fel y bo'r achos, yn parhau i gael ei dalu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.[5]
Dafydd Elis Thomas
Y Llywydd
5 Hydref 1999
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Effaith y Rheoliadau hyn yw diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Costau Teithio a Dileu Taliadau) 1988 ("y prif Reoliadau") sy'n darparu ar gyfer dileu ac ad-dalu taliadau penodol a fyddai'n daladwy fel arall o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ac ar gyfer talu costau teithio a dynnir drwy fynd i ysbyty. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud i'r diwygiadau testunol i'r prif Reoliadau, sy'n cael eu gwneud gan Reoliadau Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Costau Teithio a Dileu Taliadau) 1999 ac sy'n ymestyn dros Loegr, gael effaith yng Nghymru.
Mae'r diwygiadau yn mewnosod diffiniad o "amount withdrawn" ac yn rhoi diffiniad o "disabled person's tax credit" yn lle'r diffiniad o "disability working allowance" a hefyd yn rhoi diffiniad o "working families' tax credit" yn lle'r diffiniad o "family credit".
Mae'r diwygiadau yn newid rheoliad 4 o'r prif Reoliadau i gymryd i ystyriaeth y newidiadau sy'n digwydd ar 5 Hydref 1999 yn y systemau treth incwm a nawdd cymdeithasol pan ddisodlir credyd teulu a lwfans gweithio i'r anabl gan gredyd treth teuluoedd mewn gwaith a chredyd treth person anabl.
Maent yn diwygio hefyd y diffiniad o "voluntary payment" y cyfeirir ato yn y cofnod yngl
n â "regulation 65" yn Nhabl A o Ran I o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau i gymryd i ystyriaeth y newidiadau yn y ddarpariaeth ar gyfer cynhaliaeth i fyfyrwyr drwy ychwanegu cyfeiriad at fenthyciad myfyriwr.
Mae'r rheoliadau'n cynnwys darpariaeth drosiannol sy'n darparu bod yr hawl i gael dilead o'r taliadau a sefydlwyd yn rhinwedd rheoliad 4(c), (d), (g) neu (h) o'r prif Reoliadau yn parhau tra bod yr hawl i gael credyd teulu neu lwfans gweithio i'r anabl neu daliadau o'r budd-daliadau hynny yn parhau.
Notes:
[1]
1977 p.49; mewnosodwyd adran 83A gan adran 14(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) ac fe'i diwygiwyd gan baragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), gan baragraff 18(5) o Atodlen 9 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990") a chan baragraff 40 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17). Diwygiwyd adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf 1990. Darpariaeth ar gyfer dehongli yw adran 128(1) a chyfeirir ati oherwydd yr ystyron a briodolir i'r geiriau "prescribed" a "regulations"; diwygiwyd adran 128(1) gan adran 26(2)(g) ac (i) o Ddeddf 1990.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad") gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1988/551 fel y'i ddiwygiwyd gan O.S. 1989/394, 517 a 614, 1990/548, 918 a 1661, 1991/557, 1992/1104, 1993/608, 1995/642 a 2352, 1996/410, 1346 a 2362, 1997/748 a 2393, 1998/2417 a 1999/767.back
[4]
O.S. 1999/2507, sef rheoliadau sy'n gymwys i Loegr yn unig.back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 090011 1
|
Prepared
30 October 2001