British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Offerynnau Statudol 1999 No. 2802 (Cy.15)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/992802w.html
[
New search]
[
Help]
1999 Rhif 2802 (Cy.15)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Staff Prydau Bwyd Ysgolion) (Cymru) 1999
|
Wedi'u gwneud 26 Awst 1999 |
|
Yn dod i rym 1af Medi 1999 |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 54(1), 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[
1] a pharagraff 30 o Atodlen 16 i'r Ddeddf honno, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, hyd a lled a dehongli
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Staff Prydau Bwyd Ysgolion) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 1 Medi 1999.
(2) Dim ond i ysgolion yng Nghymru y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys.
(3) Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "yr awdurdod" yw'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal ysgol;
ystyr "y Ddeddf" yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr "Gorchymyn adran 512A" yw gorchymyn o dan adran 512A(1) o Ddeddf Addysg 1996(a) sy'n rhoi dyletswydd ar gorff llywodraethu ysgol sy'n cyfateb i ddyletswydd ar yr awdurdod a grybwyllir yn adran 512A(2)[3] o'r Ddeddf honno (dyletswydd i ddarparu ciniawau ysgol) neu adran 512(2)(b) o'r Ddeddf honno (dyletswydd i ddarparu ciniawau ysgol yn rhad ac am ddim);
ystyr "staff prydau bwyd ysgolion" yw pobl a gyflogir, neu sydd i'w cyflogi, gan awdurdod i weithio mewn ysgol mewn cysylltiad â darparu prydau bwyd yn unig;
ystyr "ysgol" yw ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol arbennig gymunedol a honno'n ysgol ac iddi gyllideb ddirprwyedig (o fewn ystyr Rhan II o'r Ddeddf[4])
Penodi, disgyblu, gwahardd dros dro a diswyddo staff prydau bwyd ysgolion
2.
- (1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 3 a 4 a pharagraff (2), bydd yr awdurdod yn gyfrifol am benodi, disgyblu, gwahardd dros dro a diswyddo staff prydau bwyd ysgolion mewn ysgol.
(2) Cyn arfer unrhyw swyddogaeth o dan y rheoliad hwn rhaid i'r awdurdod ymgynghori â chorff llywodraethu'r ysgol y mae'r aelod o staff prydau bwyd yr ysgol dan sylw yn gweithio ynddi i'r graddau y gwêl yr awdurdod yn dda.
Penodi etc. staff prydau bwyd ysgolion mewn ysgolion lle mae'r corff llywodraethu yn gyfrifol am brydau bwyd ysgolion ond bod prydau bwyd yn parhau i gael eu darparu gan awdurdod addysg lleol
>3.
- (1) Pan fydd Gorchymyn adran 512A mewn grym, ond bod corff llywodraethu ysgol y mae'r gorchymyn yn gymwys iddo wedi gwneud cytundeb â'r awdurdod y bydd yr awdurdod yn darparu ciniawau yn yr ysgol, yna bydd y paragraffau canlynol o'r rheoliad hwn yn gymwys.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd yr awdurdod yn gyfrifol am benodi, disgyblu, gwahardd dros dro a diswyddo staff prydau bwyd ysgol yr ysgol.
(3) Cyn arfer unrhyw swyddogaeth o dan baragraff (2) bydd yr awdurdod yn ymgynghori â chorff llywodraethu'r ysgol i'r graddau y gwêl yr awdurdod yn dda.
(4) Os bydd y corff llywodraethu yn penderfynu y dylai unrhyw aelod o staff prydau bwyd yr ysgol beidio â gweithio yn yr ysgol rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod o'i benderfyniad a'r rhesymau drosto ac ar hynny bydd yr awdurdod yn mynnu bod y person hwnnw yn peidio â gweithio yn yr ysgol.
Penodi etc. staff prydau bwyd ysgolion mewn ysgolion lle mae'r corff llywodraethu yn gyfrifol am brydau bwyd yr ysgol
4.
- (1) Pan fydd Gorchymyn 512A mewn grym, ond nad yw corff llywodraethu ysgol y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo wedi gwneud cytundeb â'r awdurdod y bydd yr awdurdod yn darparu ciniawau yn yr ysgol, yna bydd paragraffau 22 a 24-29 o Atodlen 16 i'r Ddeddf yn gymwys i benodi, disgyblu, gwahardd dros dro a diswyddo staff prydau bwyd ysgolion.
Dafydd Elis Thomas
Y Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
26th Awst 1999
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn cadw yn eu lle ac yn egluro'r trefniadau presennol a wnaed o dan y ddeddfwriaeth flaenorol a gaiff ei disodli gan y darpariaethau newydd hyn o 1 Medi ymlaen.
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer penodi a diswyddo staff a gyflogir i weithio'n unig mewn cysylltiad â darparu prydau bwyd mewn ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion arbennig cymunedol (ac os cyflogir y staff gan yr AALl) ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, ac ysgolion arbennig sefydledig. Daw darpariaethau'r Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion sy'n ymwneud â staff ysgolion i rym ar 1 Medi 1999. Pe na bai Rheoliadau sy'n ymwneud â staff prydau bwyd ysgolion yn bod, byddai'r corff llywodraethu yn gyfrifol am eu penodi, eu disgyblu, eu gwahardd dros dro, a'u diswyddo, ni waeth a fyddent yn cael eu cyflogi gan yr awdurdod addysg lleol ai peidio, a byddai anghysondebau yn codi o hyn.
Dyma effaith ymarferol y Rheoliadau. Os na ddirprwyir corff llywodraethu i ddarparu cinio ysgol, yr awdurdod addysg lleol, gan ymgynghori â'r corff llywodraethu, a fydd yn gyfrifol. Os dirprwyir y corff llywodraethu ond yr yr awdurdod addysg lleol sy'n darparu'r cinio, yr awdurdod addysg lleol, gan ymgynghori â'r corff llywodraethu, a fydd yn gyfrifol ond caiff y corff llywodraethu fynnu bod unrhyw berson yn peidio â gweithio yn yr ysgol. Os bydd y corff llywodraethu yn darparu'r cinio ysgol ei hun, caiff fynnu bod yr awdurdod addysg lleol yn penodi; yn gyfrifol am ddisgyblu a chaiff fynnu bod yr awdurdod yn cymryd camau disgyblu y tu hwnt i bwerau'r corff llywodraethu; a mynnu diswyddo.
Notes:
[1]
1998 p.31.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
1996 p.56; mewnosodwyd adran 116 gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Gwnaethpwyd dau Orchymyn o dan yr adran hon - O.S. 1999/610 ac O.S. 1996/1779.back
[4]
Gweler adran 49(7) o'r Ddeddf.back
English version
ISBN
0 11 090002 2
|
Prepared
21 October 1999