British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
United Kingdom Statutory Instruments
You are here:
BAILII >>
Databases >>
United Kingdom Statutory Instruments >>
Rheoliadau (Ffurflenni Cymraeg) Cwmnïau (Diwygiad) 2005 Rhif 2746
URL: http://www.bailii.org/uk/legis/num_reg/2005/20052746w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2005 Rhif 2746
CWMNïAU
Rheoliadau (Ffurflenni Cymraeg) Cwmnïau (Diwygiad) 2005
|
Gwnaed |
28 Medi 2005 | |
|
Yn dod i rym |
1 Hydref 2005 | |
Mae'r Ysgrifennydd Gwladol, gan arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 88(2) a 744 o Ddeddf Cwmnïau 1985[
1], fel y cawsant eu hestyn gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[
2] a'r holl bwerau eraill sy'n ei galluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y rheoliadau canlynol:
1.
Gellir dyfynnu'r Rheoliadau hyn fel Rheoliadau (Ffurflenni Cymraeg) Cwmnïau (Diwygiad) 2005 a byddant yn dod i rym ar 1 Hydref 2005.
2.
Mae Ffurflen 88(2) CYM (Rev 2005) a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, gyda'r amrywiadau hynny y gall amgylchiadau eu gwneud yn ofynnol, yn ffurflen a gaiff ei phennu at ddibenion adran 88(2) o Ddeddf Cwmnïau 1985 gyda golwg ar glustnodi cyfrannau ar neu wedi 1 Rhagfyr 2003.
3.
—(1) Ac eithrio i'r graddau a ddisgrifir ym mharagraff 3(2), bydd 88(2) CYM a welir yn yr Atodlen i Reoliadau (Ffurflenni Cymraeg) Cwmnïau (Diwygiad) (Rhif 2) 1999[
3] yn peidio a chael ei phennu gyda golwg ar glustnodi cyfrannau ar neu wedi 1 Rhagfyr 2003.
(2) Er gwaethaf paragraff 3(1), gall y ffurflen y sonnir amdani yn y paragraff hwnnw barhau i gael ei defnyddio ar gyfer cyflwyno manylion i'r Cofrestrydd cyn 31 Hydref 2006.
Claire Clancy
ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol Aran Masnach a Diwydiant
28 Medi 2005
ATODLEN
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw 'r nodyn hwn yn rhan o 'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu ffurflen 88(2) CYM (Rev 2005) ddiwygiedig i'w defnyddio mewn cysylltiad â chlustnodi cyfrannau ar neu wedi 1 Rhagfyr 2003. Diwygiwyd y ffurflen er mwyn cymryd i ystyriaeth ddiddymu'r doll stamp (ac eithrio yng nghyswllt offerynnau'n ymwneud â stoc neu warannau marchnadol) o dan ddarpariaethau Rhan 4 o Ddeddf Cyllid 2003 (c.14) a'r diwygiad canlyniadol i adran 88 o Ddeddf Cwmnïau 1985 (c.6) drwy Reoliadau Toll Stamp Treth Dir (Diwygio Canlyniadol i Ddeddfiadau) 2003 (O.S.2003/2868).
Mae Ffurflen 88(2) CYM, a gafodd ei phennu gan Reoliadau (Ffurflenni Cymraeg) Cwmnïau (Diwygiad) (Rhif 2), yn parhau i fod wedi ei phennu ar gyfer clustnodi a drefnwyd cyn 1 Rhagfyr 2003. Gellir hefyd ei defnyddio i gyfleu manylion cyn 31 Hydref 2006 gyda golwg ar unrhyw glustnodi a drefnwyd ar neu wedi 1 Rhagfyr 2003.
Notes:
[1]
1985 c. 6. Gweler diffiniad "pennu" yn adran 744 o Ddeddf Cwmnïau 1985.back
[2]
1993 c. 38.back
[3]
O.S. 1999/2357.back
ISBN
0 11 515514 7
| © Crown copyright 2005 |
Prepared
14 October 2005
|