Made | 17th May 2004 | ||
Laid before Parliament | 18th May 2004 | ||
Coming into force | 19th May 2004 |
(2) In this Order, a reference to a numbered rule is a reference to the rule of that number contained in the European Parliamentary Elections Rules in Schedule 1 to the 2004 Regulations.
Revocation
3.
The following Orders are hereby revoked -
Welsh versions of forms of words
4.
- (1) The following forms of words, namely "Etholiad Senedd Ewrop", "RHANBARTH ETHOLIADOL CYMRU" and "Mae gennych un bleidlais" are hereby specified as the forms of words in Welsh for the words "Election for the European Parliament", "ELECTORAL REGION OF WALES" and "You have one vote", respectively, which are specified in the form of the front of the ballot paper prescribed by rule 21(2) for use at European Parliamentary elections.
(2) The form of words in Welsh prescribed by paragraph (1) above shall be printed so that they appear to the right or left of the corresponding words in English on every ballot paper at a European Parliamentary election in Wales.
(3) "Annibynnol" is hereby prescribed as the form of words in Welsh for the word "Independent" which is specified for use as the description of an individual candidate in a nomination paper by rule 4(3)(b).
(4) The form of words in Welsh prescribed by paragraph (3) may be used as well as or in place of the equivalent word in English at a European Parliamentary election in Wales.
Welsh version of prescribed forms or forms of words
5.
Each of the forms or form of words set out in Schedule 1 to this Order is hereby prescribed as the Welsh version which may be used at a European Parliamentary election in Wales in place of the forms or form of words prescribed by the following provisions in the 2004 Regulations, which provisions are -
Welsh and English versions of prescribed forms
6.
- (1) Each of the forms set out in Schedule 2 to this Order is hereby prescribed as the version partly in Welsh and partly in English which shall be used at a European Parliamentary election in Wales, in place of -
(2) In the case of forms 2, 3 and 6 to 10, forms substantially to the like effect may be used with such variations as the circumstances may require.
Signed on behalf of the Secretary of State for Constitutional Affairs
Christopher Leslie
Parliamentary Under Secretary of State, Department for Constitutional Affairs
17th May 2004
sydd â'r rhif |
|
ar y gofrestr etholwyr ar gyfer |
|
Llofnod |
|
Dyddiad |
|
Electoral Region Rhanbarth Etholiadol |
|
Number on register Rhif ar y gofrestr |
|
Polling day Dyddiad yr Etholiad |
|
Name Enw |
|
Your polling station will be Eich gorsaf bleidleisio fydd |
|
Er gwybodaeth yn unig y mae'r cerdyn hwn. Fe gewch chi bleidleisio hebddo, ond bydd yn arbed amser os ewch chi ag ef i'r orsaf bleidleisio a'i ddangos i'r clerc yno. | This card is for information only. You can vote without it, but it will save time if you take it to the polling station and show it to the clerk there. |
Pan fyddwch chi'n mynd i'r orsaf bleidleisio, rhowch eich enw a'ch cyfeiriad i'r clerc, fel y'i dangosir ar du blaen y cerdyn. Bydd y swyddog llywyddu'n rhoi papur pleidleisio i chi: gwnewch yn siwr ei fod yn stampio'r marc swyddogol arno cyn ei roi i chi. | When you go to the polling station, tell the clerk your name and address, as shown on the front of the card. The presiding officer will give you a ballot paper: see that he stamps the official mark on it before he gives it to you. |
Ewch i un o'r blychau. Rhowch groes (X) ar y dde wrth ymyl enw'r blaid neu'r ymgeisydd unigol rydych chi'n pleidleisio drosto/drosti/drostynt. | Go to one of the compartments. Mark a cross (X) to the right of the name of the party or individual candidate you are voting for. |
Plygwch y papur pleidleisio yn ei hanner. Dangoswch y marc swyddogol i'r swyddog llywyddu, ond peidiwch â gadael i neb arall weld eich pleidlais. Rhowch y papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio a gadael yr orsaf bleidleisio. | Fold the ballot paper in two. Show the official mark to the presiding officer, but do not let anyone see your vote. Put the ballot paper in the ballot box and leave the polling station. |
Pleidleisiwch dros un blaid neu un ymgeisydd unigol yn unig. Peidiwch â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio, neu mae'n bosibl na chaiff eich pleidlais ei chyfrif. | Vote for one party or individual candidate only. Put no other mark on the ballot paper, or your vote may not be counted. |
Os digwydd i chi ddifetha papur pleidleisio drwy gamgymeriad, dangoswch y papur pleidleisio i'r swyddog llywyddu a gofynnwch am un arall. | If by mistake you spoil a ballot paper, show it to the presiding officer and ask for another one. |
Hyd yn oed os ydych chi wedi penodi dirprwy i bleidleisio'n bersonol ar eich rhan, fe allwch chi ddal i bleidleisio yn yr etholiad hwn, dim ond i chi wneud hynny cyn i'r dirprwy bleidleisio ar eich rhan. | If you have appointed a proxy to vote in person for you, you may nevertheless vote at this election if you do so before your proxy has voted on your behalf. |
Os cawsoch chi bleidlais bost, ni chewch chi bleidleisio'n bersonol yn yr etholiad hwn, felly a fyddech gystal ag anwybyddu'r cerdyn pleidleisio hwn. | If you have been granted a postal vote, you will not be entitled to vote in person at this election, so please ignore this poll card. |
Proxy's name Enw'r dirprwy |
|
Polling day Diwrnod pleidleisio |
|
Number on register Rhif ar y gofrestr |
|
Name (of elector) Enw (yr etholwr/wraig) |
|
Bydd y swyddog llywyddu'n rhoi papur pleidleisio'r etholwr/wraig i chi. Wrth bleidleisio fel dirprwy, byddwch chi'n dilyn yr un drefn ag y byddwch wrth fwrw'ch pleidlais eich hun. | The presiding officer will give you the elector's ballot paper. The method of voting as proxy is the same as for casting your own vote. |
Mae'n drosedd pleidleisio fel dirprwy ar ran rhywun arall gan wybod bod y person hwnnw'n anghymwys i bleidleisio yn ôl y gyfraith, e.e. os yw'r person hwnnw/honno wedi'i gollfarnu ac wedi'i gadw mewn sefydliad cosbi i fwrw dedfryd. Mae hefyd yn drosedd pleidleisio ar ran mwy na dau berson yn yr etholiad hwn os nad ydych chi'n r, yn wraig, yn rhiant, yn fam-gu neu'n dad-cu, yn frawd, yn chwaer, yn blentyn neu'n yr neu'n wyres iddynt. | It is an offence to vote as proxy for some other person if you know that that person is subject to a legal incapacity to vote, eg if that person has been convicted and is detained in a penal institution in pursuance of his sentence. It is also an offence to vote at this election for more than two persons of whom you are not the husband, wife, parent, grandparent, brother, sister, child or grandchild. |
Caiff y sawl sydd wedi'ch penodi chi'n ddirprwy bleidleisio'i hun yn bersonol yn yr etholiad os yw'n abl i wneud hynny, os yw'n dymuno gwneud, ac os yw'n pleidleisio cyn i chi wneud drosto/i. | The person who appointed you as proxy may himself vote in person at this election if he is able, and wishes, to do so and if he votes before you on his behalf. |
1.
Pan roddir papur pleidleisio i chi, gwnewch yn siwr fod y marc swyddogol yn cael ei stampio arno. |
1.
When you are given a ballot paper make sure it is stamped with the official mark. |
2.
Ewch i un o'r blychau. Rhowch groes (X) ar y dde wrth ymyl enw'r blaid neu'r ymgeisydd unigol rydych chi'n pleidleisio drosto/i/ynt. |
2.
Go to one of the compartments. Mark a cross (X) to the right of the name of the party or individual candidate for whom you are voting. |
3.
Plygwch y papur pleidleisio yn ei hanner. Dangoswch y marc swyddogol i'r swyddog llywyddu, ond peidiwch â gadael i neb weld eich pleidlais. Rhowch y papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio a gadael yr orsaf bleidleisio. |
3.
Fold the ballot paper in two. Show the official mark to the presiding officer, but do not let anyone see your vote. Put the ballot paper in the ballot box and leave the polling station. |
4.
Pleidleisiwch dros un blaid neu un ymgeisydd unigol yn unig. Peidiwch â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio, neu mae'n bosibl na chaiff eich pleidlais ei chyfrif. |
4.
Vote for one party or individual candidate only. Put no other mark on the ballot paper, or your votes may not be counted. |
5.
Os byddwch chi'n difetha papur pleidleisio trwy gamgymeriad, dangoswch ef i'r swyddog llywyddu a gofyn am un arall. |
5.
If by mistake you spoil a ballot paper, show it to the presiding officer and ask for another one. |
Constituency Etholaeth |
|
Polling district Dosbarth Pleidleisio |
|
Name of Proxy Mae (Enw'r Dirprwy) |
|
(Name of elector) (Enw'r Etholwr/wraig) |
|
*who is qualified to be registered for (Qualifying address) *sy'n gymwys i'w g/chofrestru ar gyfer (Cyfeiriad cymhwyso) |
Signature Llofnod |
|
Electoral Registration Officer Swyddog Cofrestru Etholiadol |
Date Dyddiad |
|
(1) Mae'r papur dirprwy hwn yn rhoi'r hawl i chi bleidleisio fel dirprwy ar ran yr etholwr/wraig y rhoddir ei h/enw dros y ddalen. Fodd bynnag, ni chewch bleidleisio fel dirprwy yn yr un etholiad neu refferendwm ar ran mwy na dau berson os nad ydych chi'n r, yn wraig, yn rhiant, yn fam-gu neu'n dad-cu, yn frawd, yn chwaer, yn blentyn neu'n yr neu'n wyres iddynt. |
(1) This proxy paper gives you the right to vote as proxy on behalf of the elector whose name is given overleaf. However, you may not vote as proxy at the same election or referendum for more than two electors of whom you are not the husband, wife, parent, grandparent, brother, sister, child or grandchild. |
(2) Fe allwch gael eich penodi'n ddirprwy ar gyfer etholiad neu refferendwm penodol yn unig, neu fe all y penodiad fod am gyfnod penodol neu am gyfnod amhenodol. Os mai ar gyfer etholiad neu refferendwm penodol y cewch eich penodi, dim ond yn yr etholiad neu refferendwm a bennir yn y papur dirprwy y bydd gennych yr hawl i bleidleisio. |
(2) Your appointment as proxy may be for a particular election or referendum only, or it may be for a definite or indefinite period. If it is for a particular election or referendum, you have the right to vote as proxy only at the election or referendum specified in the proxy paper. |
Os mai am gyfnod amhenodol y cewch eich penodi, yn gyffredinol, mae gennych yr hawl i bleidleisio fel dirprwy mewn unrhyw etholiad seneddol, Senedd Ewrop, lywodraeth leol neu etholiad maer neu refferendwm y mae'r etholwr/wraig yn gymwys i bleidleisio ynddynt nes i'r swyddog cofrestru etholiadol eich hysbysu'n wahanol. | If it is for an indefinite period, you have in general the right to vote as proxy at any parliamentary, European Parliamentary, local government or mayoral election or referendum for which the elector is qualified to vote until the electoral registration officer informs you to the contrary. |
Os mai am gyfnod penodol y cewch eich penodi, bydd eich hawl i bleidleisio fel dirprwy'n dod i ben ar y dyddiad a bennir ar y ffurflen. | If it is for a definite period, your right to vote as proxy expires on the date stated on the form. |
(3) Cewch bleidleisio fel dirprwy yn yr orsaf bleidleisio a bennwyd ar gyfer yr etholwr/wraig y cawsoch chi'ch penodi i bleidleisio ar ei r/han. Ychydig cyn y diwrnod pleidleisio, fe anfonir cerdyn pleidleisio dirprwy atoch yn dweud ymhle mae'r orsaf bleidleisio. Does dim rhaid i chi fynd â'r cerdyn pleidleisio na'r papur dirprwy hwn i'r orsaf bleidleisio ond fe all fod o gymorth i chi wneud hynny. |
(3) You may vote as proxy at the polling station allotted to the elector on whose behalf you are appointed. Shortly before polling day you will be sent a proxy poll card telling you where the polling station is. You do not need to take either the poll card or this proxy paper to the polling station but you may find it helpful to do so. |
(4) Os na allwch chi bleidleisio'n bersonol yn yr orsaf bleidleisio, dylech holi'r swyddog cofrestru etholiadol am eich hawl i bleidleisio drwy'r post. |
(4) If you cannot vote in person at the polling station, you should consult the electoral registration officer about your right to vote by post. |
Ballot Paper No Rhif y Papur Pleidleisio |
|
Name of witness. Enw'r tyst |
|
(WRITE CLEARLY) (YSGRIFENNWCH YN GLIR) |
|
Address of witness (WRITE CLEARLY) Cyfeiriad y tyst (YSGRIFENNWCH YN GLIR) |
(1) Rhaid i chi lofnodi (neu farcio)'r datganiad hwn ynghylch pwy ydych yng ngydd rhywun yr ydych yn ei h/adnabod. Yna, dylai'r person hwnnw lofnodi (neu farcio) y datganiad hwn fel tyst, gan roi ei h/enw a'i ch/gyfeiriad arno. Heb hyn, bydd y datganiad yn annilys. |
(1) You must sign (or mark) this declaration of identity in the presence of a person known to you. That person should then sign (or mark) this declaration as a witness, adding his or her name and address. Without this the declaration will be invalid. |
(2) Pleidleisiwch dros un blaid neu un ymgeisydd unigol yn unig. Peidiwch â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio, neu mae'n bosibl na chaiff eich pleidlais ei chyfrif. |
(2) Vote for one party or individual candidate only. Put no other mark on the ballot paper or your vote may not be counted. |
(3) Rhowch groes (X) ar y dde wrth ymyl enw'r blaid neu'r ymgeisydd unigol rydych chi'n pleidleisio drosto/i. Gwnewch hyn yn gyfrinachol. Os na allwch chi bleidleisio heb gymorth, ni chaiff y sawl sy'n eich cynorthwyo ddatgelu sut rydych chi wedi pleidleisio. |
(3) Mark a cross (X) to the right of the name of the party or individual candidate you are voting for. Do this secretly. If you cannot vote without assistance, the person assisting you must not disclose how you have voted. |
(4) Rhowch y papur pleidleisio yn yr amlen fach ag "A" arni a'i selio. Yna, rhowch yr amlen ag "A" arni, ynghyd â'r datganiad ynghylch pwy ydych, yn yr amlen fwy gyda "B" arni. Dychwelwch hi yn ddi-oed. Rhaid i'r swyddog canlyniadau dderbyn y papur pleidleisio cyn diwedd y pleidleisio fan hwyraf. Neu, fe ellir ei dychwelyd i unrhyw orsaf bleidleisio yn yr ardal gyfrif leol hon ar ddiwrnod y pleidleisio. |
(4) Put the ballot paper in the small envelope marked "A" and seal it. Then put the envelope marked "A", together with the declaration of identity, in the larger envelope marked "B". Return it without delay. The ballot paper must be received by the returning officer not later than the close of the poll. Alternatively, it may be delivered to a polling station in this local counting area on polling day. |
(5) Os byddwch chi'n derbyn mwy nag un papur pleidleisio, cofiwch ei bod yn anghyfreithlon pleidleisio fwy nag unwaith (ac eithrio fel dirprwy) yn yr un etholiad. |
(5) If you receive more than one ballot paper, remember that it is illegal to vote more than once (otherwise than as proxy) at the same election. |
(6) Yn yr etholiad hwn, ni chewch bleidleisio'n bersonol mewn gorsaf bleidleisio, hyd yn oed os byddwch chi'n derbyn cerdyn pleidleisio swyddogol. |
(6) At this election you cannot vote in person at a polling station, even if you receive an official poll card. |
(7) Os byddwch chi'n difetha'ch papur pleidleisio trwy gamgymeriad, cewch wneud cais i'r swyddog canlyniadau am un arall. Wrth wneud cais, rhaid i chi ddychwelyd y papur pleidleisio sydd wedi'i ddifetha a'r datganiad ynghylch pwy ydych. Cofiwch mai ychydig o amser sydd ar gael ar gyfer darparu papur pleidleisio newydd drwy'r post a'i gyfrif. |
(7) If you inadvertently spoil your ballot paper, you can apply to the returning officer for another one. With your application you must return the spoilt ballot paper and the declaration of identity. Remember that there is little time available if a fresh postal ballot paper is to be issued and counted. |
Ballot Paper No(s) Rhif(au) y Papur Pleidleisio |
|
(1) Rhaid I chi lofnodi neu farcio'r datganiad hwn yng ngydd rhywun yr ydych yn ei h/adnabod. Yna, dylai'r person hwnnw lofnodi (neu farcio) y datganiad hwn fel tyst, gan roi ei h/enw a'i ch/gyfeiriad arno. Heb hynny, bydd y datganiad hwn yn annilys. |
(1) You must sign or mark this declaration of identity in the presence of a person known to you. That person should then sign or mark this declaration as a witness, adding his or her name and address. Without this the declaration will be invalid. |
(2) [*Pan fyddwch chi'n pleidleisio mewn etholiad Seneddol/llywodraeth leol* [rhowch liw'r papur pleidleisio] papur pleidleisio). Rhowch groes (X) ar y dde wrth ymyl enw eich dewis ymgeisydd. Pleidleisiwch dros un ymgeisydd yn unig/Peidiwch â phleidleisio dros fwy na ymgeiswyr*.] |
(2) [*When you are voting in a Parliamentary/local government election* ([insert colour of ballot paper] ballot paper), mark a cross (X) to the right of the name of the candidate of your choice. Vote for one candidate only/Vote for no more than candidates*.] |
(3) [*Pan fyddwch chi'n pleidleisio mewn etholiad ar gyfer Senedd Ewrop (papur pleidleisio [nodwch liw'r papur pleidleisio]), rhowch groes (X) ar y dde wrth ymyl enw eich dewis blaid neu ymgeisydd unigol. Pleidleisiwch unwaith yn unig.] |
(3) [*When you are voting in a European Parliamentary election ([insert colour of ballot paper] ballot paper), mark a cross (X) to the right of the name of the party or individual candidate of your choice. Vote once only.] |
(4) [*Pan fyddwch chi'n pleidleisio mewn etholiad GLA - |
(4) [*When you are voting in a GLA election - |
[*yn etholiad aelodau'r etholaeth (papur pleidleisio [nodwch liw'r papur pleidleisio]), rhowch groes (X) ar y dde wrth ymyl enw eich dewis ymgeisydd. Pleidleisiwch dros un ymgeisydd yn unig.] | [*in the constituency members election ([insert colour of ballot paper] ballot paper), mark a cross (X) to the right of the name of the candidate of your choice. Vote for one candidate only.] |
[*yn etholiad aelodau Llundain (papur pleidleisio [nodwch liw'r papur pleidleisio]), rhowch groes (X) ar y dde wrth ymyl enw eich dewis blaid neu eich dewis ymgeisydd. Pleidleisiwch unwaith yn unig.] | [*in the London members election ([insert colour of ballot paper] ballot paper), mark a cross (X) to the right of the name of the party or individual candidate of your choice. Vote once only.] |
[*yn etholiad Maer Llundain (papur pleidleisio [nodwch liw'r papur pleidleisio]), pleidleisiwch UNWAITH dros eich DEWIS CYNTAF ac UNWAITH dros eich AIL DDEWIS.]] | [*in the London Mayoral election ([insert colour of ballot paper] ballot paper), vote ONCE for your FIRST CHOICE and ONCE for your SECOND CHOICE.]] |
(5) [*Pan fyddwch chi'n pleidleisio mewn etholiad (manylwch) papur pleidleisio [nodwch liw'r papur pleidleisio]', rhowch groes (X) ar y dde wrth ymyl enw eich dewis ymgeisydd. Pleidleisiwch dros un ymgisydd yn unig/Pleidleisiwch unwaith dros eich dewis cyntaf ac unwaith dros eich ail ddewis*.] |
(5) [*When you are voting in a (specify) election ([insert colour of ballot paper] ballot paper), mark a cross (X) to the right of the name of the candidate of your choice. Vote for one candidate only/Vote once for your first choice and once for your second choice*.] |
(6) [*Pan fyddwch chi'n pleidleisio mewn refferendwm, rhowch groes (X) ar y dde wrth ymyl enw eich dewis ymgeisydd. Pleidleisiwch unwaith yn unig.] |
(6) [*When you are voting in a referendum, mark a cross (X) to the right of the answer of your choice. Vote once only.] |
(7) Peidiwch â rhoi unrhyw farc arall ar y papur(au) pleidleisio, neu mae'n bosibl na chaiff eich pleidlais ei chyfrif. |
(7) Put no other mark on the ballot paper(s) or your vote(s) may not be counted |
(8) Marciwch bob pleidlais yn gyfrinachol. Os na allwch chi bleidleisio heb gymorth, ni chaiff y sawl sy'n eich cynorthwyo ddatgelu sut rydych chi wedi pleidleisio. |
(8) Mark all votes secretly. If you cannot vote without assistance, the person assisting you must not disclose how you have voted. |
(9) Rhowch y papur pleidleisio yn yr amlen fach ag "A" arni a'i selio. Yna, rhowch yr amlen, yngyhyd â'r datganiad o bwy ydych, yn yr amlen fwy gyda "B" arni. Dychwelwch hi yn ddi-oed. Er mwyn iddynt gael eu cyfrif, rhaid i'r swyddog canlyniadau dderbyn y papurau pleidleisio cyn i'r pleidleisio gau. |
(9) Put the ballot paper in the small envelope marked "A" and seal it. Then put the envelope, together with this declaration of identity, in the larger envelope marked "B". Return it without delay. The ballot papers, in order to be counted, must be received by the returning officer not later than the close of the poll. |
*Neu, fe ellir eu dychwelyd i unrhyw un o'r gorsafoedd pleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad: | *Alternatively they may be returned to any of the following polling stations on polling day: |
* [rhowch yr orsaf bleidleisio ]. neu |
*[insert polling station ], or |
* Neu, fe ellir ei dychwelyd i unrhyw orsaf bleidleisio yn yr ardal ganlynol: | * Alternatively it may be returned to any polling station in the following area: |
*[nodwch yr ardal ] |
*[specify area ] |
(10) Os byddwch chi'n derbyn mwy nag un papur pleidleisio sy'n ymwneud â'r un etholiad neu'r un refferendwm, cofiwch ei bod yn anghyfreithlon pleidleisio fwy nag unwaith (ac eithrio fel dirprwy) yn yr etholiad neu'r refferendwm hwnnw. |
(10) If you receive more than one ballot paper relating to the same election or referendum, remember that it is illegal to vote more than once (otherwise than as proxy) at that election or referendum. |
(11) Yn yr etholiadau hyn [*a'r refferendwm] ni chewch bleidleisio'n bersonol mewn gorsaf bleidleisio, hyd yn oed os byddwch chi'n derbyn cerdyn pleidleisio swyddogol. |
(11) At these elections [*and referendum] you cannot vote in person at a polling station, even if you receive an official poll card. |
(12) Os byddwch chi'n difetha'ch papur pleidleisio trwy gamgymeriad, cewch ofyn i'r swyddog canlyniadau am un arall. Os byddwch chi'n gwneud hyn RHAID I CHI DDYCHWELYD POB PAPUR PLEIDLEISIO DRWY'R POST A GAWSOCH, ynghyd â'r papur(au) pleidleisio sydd wedi'u difetha. Hefyd, wrth wneud cais am bapurau pleidleisio newydd RHAID I CHI DDYCHWELYD, yn eich amlen eich hun, y datganiad ynghylch pwy ydych. Cofiwch mai ychydig o amser sydd ar gael ar gyfer darparu papur pleidleisio newydd drwy'r post a'I gyfrif. |
(12) If you inadvertently spoil any postal ballot paper, you can apply to the returning officer for a new one. If you do this YOU MUST RETURN ALL OF THE POSTAL BALLOT PAPERS THAT YOU HAVE RECEIVED, together with the spoilt ballot paper(s). In addition, in your application for new ballot papers YOU MUST RETURN, in your own envelope, the declaration of identity. Remember that there is little time available if new postal ballot papers are to be issued and counted. |
*I'w llenwi neu ei adael allan fel y bo'n briodol gan y swyddog canlyniadau sy'n gyfrifol am roi a derbyn papurau pleidleisio. | *To be completed or omitted as appropriate by the returning officer responsible for the issue and receipt of ballot papers. |
*Fel arall, rhowch ba wybodaeth bynnag ynghylch y dull pleidleisio ag y penderfyno'r GLRO. | *Alternatively, insert such information as to the manner of voting as the GLRO may decide. |
(1) Rhaid i chi lofnodi neu farcio'r datganiad hwn yng ngwydd rhywun yr ydych yn ei h/adnabod. Rhaid i chi wneud hyn hyd yn oed os ydych chi eisoes wedi llofnodi datganiad tebyg ar gyfer etholiad neu refferendwm arall i'w gynnal ar yr un diwrnod. Yna, dylai'r person hwnnw lofnodi (neu farcio) y datganiad hwn fel tyst, gan roi ei h/enw a'i ch/gyfeiriad arno. Heb hyn, bydd y datganiad yn annilys. |
(1) You must sign or mark this declaration of identity in the presence of a person known to you. You are required to this even if you have already signed a similar declaration of identity in respect of another election or referendum to be held on the same day. That person should then sign (or mark) this declaration as a witness, adding his or her name and address. Without this the declaration will be invalid. |
(2) Pleidleisiwch dros un blaid neu un ymgeisydd unigol yn unig. Peidiwch â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio, neu mae'n bosibl na chaiff eich pleidlais ei chyfrif. |
(2) Vote for one party or individual candidate only. Put no other mark on the ballot paper or your vote may not be counted. |
(3) Rhowch groes (X) yng ngholofn enw'r blaid neu'r ymgeisydd unigol rydych chi'n pleidleisio drosto/i. Gwnewch hyn yn gyfrinachol. Os na allwch chi bleidleisio heb gymorth, ni chaiff y sawl sy'n eich cynorthwyo ddatgelu sut rydych chi wedi pleidleisio. |
(3) Mark a cross (X) in the column of the party or individual candidate you are voting for. Do this secretly. If you cannot without assistance, the person assisting you must not disclose how you have voted. |
(4) Defnyddir gwahanol liwiau ar gyfer y papurau pleidleisio ar gyfer pob etholiad neu refferendwm. Ar gyfer pob papur pleidleisio, ceir amlen papur pleidleisio (yr amlen fach gydag "A" arni, datganiad ynghylch pwy ydych, ac amlen ar gyfer y cyfan (yr amlen fwy o faint gyda "B" arni). Yr amlen fawr a'r datganiad ynghylch pwy ydych ar gyfer papur pleidleisio penodol yw'r rhai sy'n cyfeirio at liw'r papur pleidleisio hwnnw. Mae'n bwysig eich bod yn defnyddio'r amlenni a'r datganiad cywir, neu mae'n bosibl na fydd eich pleidlais yn cael ei chyfrif. Efallai y byddai'n gymorth i chi wahanu'r dogfennau'n setiau ar wahân, gyda phob set yn cynnwys papur pleidleisio, amlen papur pleidleisio, datganiad ac amlen ar gyfer y cyfan. Yna, dilynwch y drefn hon: |
(4) Different colours are used for the ballot papers for each election or referendum. Each ballot paper has its own ballot paper envelope (the smaller envelope marked "A"), declaration of identity and covering envelope (the larger envelope marked "B"). The covering envelope and declaration of identity for a particular ballot paper are those which refer to the colour of that ballot paper. It is important that you use the correct envelopes and declaration of identity, otherwise your vote may not be counted. You may find it helpful to sort the documents into separate sets, each consisting of a ballot paper, ballot paper envelope, declaration of identity and covering envelope. Then proceed as follows: |
(a) rhowch bob papur pleidleisio yn yr amlen fach gywir a'i selio; |
(a) place each ballot paper in the correct smaller envelope and seal it; |
(b) rhowch yr amlen honno, ynghyd â'r datganiad cywir ynghylch pwy ydych, yn yr amlen fawr gywir, a'i selio; |
(b) put that envelope, together with the correct declaration of identity, in the correct covering envelope and seal it; |
(c) dychwelwch yr amlenni mawr yn ddi-oed. Rhaid i'r swyddog canlyniadau dderbyn y papurau pleidleisio cyn diwedd y pleidleisio fan hwyraf. |
(c) return the covering envelopes without delay. Ballot papers must be received by the returning officer not later than the close of the poll. |
*Neu, fe ellir eu dychwelyd i unrhyw un o'r gorsafoedd pleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad: | *Alternatively they may be returned to any of the following polling stations on polling day: |
* [rhowch yr orsaf bleidleisio ] neu |
*[insert polling station ] or, |
* Neu, fe ellir eu dychwelyd i unrhyw orsaf bleidleisio yn yr ardaloedd canlynol: | *Alternatively, they may be returned to any polling station in the following areas: |
*[nodwch yr ardal ] |
*[specify area ] |
(5) Os byddwch chi'n derbyn mwy nag un papur pleidleisio, cofiwch ei bod hi'n anghyfreithlon pleidleisio fwy nag unwaith (ac eithrio fel dirprwy) yn yr un etholiad neu refferendwm. |
(5) If you receive more than one ballot paper, remember that it is illegal to vote more than once (otherwise than as proxy) at the same election or referendum. |
Mae gennych yr hawl i bleidleisio mewn gwahanol etholiadau a refferenda, sy'n cael eu cynnal ar yr un diwrnod. | You are entitled to vote at different elections and referendums, which are held on the same day. |
(6) Yn yr etholiad hwn, ni chewch bleidleisio'n bersonol mewn gorsaf bleidleisio, hyd yn oed os byddwch chi'n derbyn cerdyn pleidleisio swyddogol. |
(6) At this election you cannot vote in person at a polling station, even if you receive an official poll card. |
(7) Os byddwch chi'n difetha'ch papur pleidleisio trwy gamgymeriad, cewch ofyn i'r swyddog etholiadau am un arall. Wrth wneud cais, rhaid i chi ddychwelyd y papur pleidleisio sydd wedi'i ddifetha a'r datganiad o bwy ydych. |
(7) If you inadvertently spoil your ballot paper, you can apply to the returning officer for another one. With your application you must return the spoilt ballot paper and the declaration of identity. |
(8) Cofiwch mai ychydig o amser sydd ar gael ar gyfer darparu papur pleidleisio newydd drwy'r post a'i gyfrif. |
(8) Remember that there is little time available if a fresh postal ballot paper is to be issued and counted. |
A.
Issue of postal ballot papers A Dosbarthu papurau pleidleisio |
|
Number Nifer |
|
1.
Total number of postal ballot papers issued under paragraph 34. Cyfanswm y papurau pleidleisio drwy'r post a ddosbarthwyd dan baragraff 34. 2. Total number of postal ballot papers issued under paragraph 39 (where the first Ballot paper was spoilt and returned for cancellation). Cyfanswm y papurau pleidleisio drwy'r post a ddosbarthwyd dan baragraff 39 (lle difethwyd y papur pleidleisio cyntaf a'i ddychwelyd i'w ganslo). 3. Total number of postal ballot papers issued (1+2). Cyfanswm y papurau pleidleisio drwy'r post a ddosbarthwyd (1+2). |
|
B.
Receipt of postal ballot papers Derbyn papurau pleidleisio drwy'r post |
|
Number Nifer |
|
4.
Number of covering envelopes received by the returning officer or at a polling station before the close of poll (excluding any undelivered or returned under paragraph 39(1) with spoilt ballot papers) Nifer yr amlenni mawr a dderbyniwyd gan y swyddog canlyniadau neu mewn gorsaf bleidleisio cyn diwedd y pleidleisio (ac eithrio unrhyw amlenni nas danfonwyd neu a ddychwelwyd dan baragraff 39(1) gyda phapurau pleidleisio wedi'u difetha) 5. Number of covering envelopes received by the returning officer after the close of poll, excluding any returned as undelivered. Nifer yr amlenni mawr a dderbyniwyd gan y swyddog canlyniadau ar ôl diwedd y pleidleisio, ac eithrio unrhyw rai a ddychwelwyd fel rhai nas danfonwyd. 6. Number of postal ballot papers returned spoilt for cancellation in time for another ballot paper to be issued. Nifer y papurau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd wedi'u difetha i'w canslo mewn pryd er mwyn gallu anfon papur pleidleisio arall. 7. Number of postal ballot papers returned as spoilt too late for another ballot paper to be issued. Nifer y papurau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd wedi'u difetha yn rhy hwyr ar gyfer anfon papur pleidleisio arall. 8. Number of covering envelopes returned as undelivered (up to the date of this statement). Nifer yr amlenni mawr a ddychwelwyd fel rhai nas danfonwyd (hyd at ddyddiad y datganiad hwn). 9. Number of covering envelopes not received by the returning officer by the date of this statement. Nifer yr amlenni mawr nas derbyniwyd gan y swyddog canlyniadau erbyn dyddiad y datganiad hwn. 10. Total Nos 4 to 9 (This number should be the same as that in 3 above).Cyfanswm Rhif 4 i 9 (Dylai'r nifer hwn fod yr un fath ag yn 3 uchod). |
|
C.
Count of postal ballot papers Cyfri pleidleisiau drwy'r post |
|
Number Nifer |
|
11.
Number of covering envelopes received by the returning officer before the close of poll (excluding any undelivered or returned under paragraph 39(1) with spoilt ballot papers). Nifer yr amlenni mawr a dderbyniwyd gan y swyddog canlyniadau cyn diwedd y pleidleisio (ac eithrio unrhyw amlenni nas danfonwyd neu a ddychwelwyd dan baragraff 39(1) gyda phapurau pleidleisio wedi'u difetha). 12. Number of ballot papers returned by postal voters which were included in the count of ballot papers. Nifer y papurau pleidleisio a ddychwelwyd gan bleidleiswyr post a gynhwyswyd wrth gyfrif y papurau pleidleisio. 13. Number of cases in which a covering envelope or its contents were marked "Rejected" (cancellations under paragraph 39(5) are not rejections and should be included in items 2 and 6 above). Nifer yr achosion lle'r oedd amlen fawr neu ei chynnwys wedi'u marcio â'r gair "Gwrthodwyd" (nid yw canslo dan baragraff 39(5) yn rhai a wrthodir, ac fe ddylid eu cynnwys yn eitemau 2 a 6 uchod). |
Date Dyddiad |
|
*ETHOLIAD SENEDDOL Papur pleidleisio [Nodwch y lliw]) Pleidleisiwch dros UN ymgeisydd yn unig |
*PARLIAMENTARY ELECTION ([Specify colour] ballot paper) Vote for ONE candidate only |
ETHOLIAD SENEDD EWROP (Papur pleidleisio [Nodwch y lliw]) Pleidleisiwch dros UN blaid neu ymgeisydd unigol yn unig. |
EUROPEAN PARLIAMENTARY ELECTION ([Specify colour] ballot paper) Vote for ONE party or individual candidate only |
ETHOLIAD CYNGOR *[Nodwch enw'r cyngor] (Papur pleidleisio [Nodwch y lliw]) *[Peidiwch â phleidleisio dros fwy na ymgeisydd] *[Pleidleisiwch dros UN ymgeisydd yn unig] |
*[Specify name of council] COUNCIL ELECTION ([Specify colour] ballot paper) *[Vote for no more than candidates] *[Vote for ONE candidate only] |
*ETHOLIAD MAER LLUNDAIN (Papur pleidleisio [Nodwch y lliw]) #Ar y papur pleidleisio ar gyfer ethol y Maer, pleidleisiwch UNWAITH dros eich dewis cyntaf ac UNWAITH dros eich ail ddewis. |
*ELECTION OF THE MAYOR OF LONDON ([Specify colour] ballot paper) #On the ballot paper for the election of the Mayor, vote ONCE for your first choice and ONCE for your second choice. |
*ETHOLIAD CYNULLIAD LLUNDAIN #Ar y papur pleidleisio [nodwch y lliw] ar gyfer aelodau'r etholaeth, pleidleisiwch dros UN ymgeisydd yn unig. #Ar y papur pleidleisio [nodwch y lliw] ar gyfer aelodau Llundain, pleidleisiwch dros UN blaid neu ymgeisydd unigol yn unig. |
*ELECTION OF THE LONDON ASSEMBLY #On the constituency members ballot paper [specify colour] vote for ONE candidate only. #On the London members ballot paper [specify colour] vote for ONE party or individual candidate only.* |
ETHOLIAD/REFFERENDWM [Nodwch ba un arall] (Papur pleidleisio [Nodwch y lliw]) *[Pleidleisiwch dros UN ymgeisydd yn unig] *[Pleidleisiwch UNWAITH dros eich DEWIS CYNTAF ac UNWAITH dros eich AIL DDEWIS] |
*[Specify other] ELECTION/REFERENDUM ([Specify colour] ballot paper) *[Vote for ONE candidate only] *[Vote ONCE for your FIRST CHOICE and ONCE for your SECOND CHOICE] |
PEIDIWCH Â RHOI UNRHYW FARC ARALL AR Y PAPUR PLEIDLEISIO NEU MAE'N BOSIBL NA CHAIFF EICH PLEIDLAIS EI CHYFRIF |
PUT NO OTHER MARK ON THE BALLOT PAPER OR YOUR VOTE MAY NOT BE COUNTED |
*[PEIDIWCH Â PHLYGU'R PAPURAU PLEIDLEISIO AR GYFER [nodwch ym mha etholiad(au) y cyfrir y pleidleisiau'n electronig] *[Postiwch nhw, wyneb i lawr, yn y blwch pleidleisio [*priodol]]. |
*[PLEASE DO NOT FOLD THE BALLOT PAPERS FOR [specify the election(s) at which the votes are to be counted electronically] *[Post them, face downwards, in the [*appropriate] ballot box.] |
[Rhowch y geiriau sydd yn y bachau sgwâr os yw pleidleisiau rhai o'r etholiadau i'w cyfri'n electronig.] | [Include the words in the brackets if the votes at some of the polls are to be counted electronically.] |
*Llenwch neu gadewch allan fel bo'n briodol | *Complete or omit as necessary |
#Neu, rhowch ba wybodaeth bynnag ag y penderfyno'r GLRO arni. | |
#Alternatively, insert such information as the GLRO may decide. |
1.
Gwnewch yn siwr fod y papurau pleidleisio a gewch chi [wedi'u stampio gyda'r marc swyddogol/yn cynnwys y marc swyddogol*]. |
1.
Make sure the ballot papers you are given are [stamped with the official mark/have the official mark*]. |
2.
Ewch i un o'r blychau. |
2.
Go to one of the compartments. |
3.A
[Yn yr etholia[(au) Seneddol/llywodraeth leol *] rhowch groes (X) yn y blwc ar ochr dde pob papur pleidleisio gyferbyn ag enw pob ymgeisydd rydych chi'n pleidleisio drosto/drosti. [Pleidleisiwch unwaith yn unig/Peidiwch â phleidleisio dros fwy na ymgeisydd.*]] |
3.A
[At the [Parliamentary/local government election(s)*] mark a cross (X) in the box on the right hand side of each ballot paper opposite the name of each candidate for whom you are voting. [Vote once only/Vote for no more than candidates.*]] |
B.
Yn etholiad Senedd Ewrop, rhowch groes (X) ar y dde wrth ymyl enw'r blaid neu'r ymgeisydd unigol rydych chi'n pleidleisio drosto/i. Pleidleisiwch unwaith yn unig. |
B.
At the European Parliamentary election, mark a cross (X) to the right of the name of the party or individual candidate for whom you are voting. Vote once only. |
#C. Yn etholiad Awdurdod Llundain Fwyaf - |
#C.
At the Greater London Authority election - |
[(i) yn yr etholiad ar gyfer aelodau etholaeth cynulliad Llundain, pleidleisiwch dros UN ymgeisydd yn unig;]*# |
[(i) in the election for the constituency members of the London assembly, vote for ONE candidate only;]*# |
[(ii) yn yr etholiad ar gyfer aelodau Llundain Cynulliad Llundain, pleidleisiwch dros UN blaid neu ymgeisydd yn unig]*# |
[(ii) in the election of the London members of the London Assembly, vote for ONE party or candidate only]*# |
[(iii) yn yr etholiad ar gyfer y Maer PLEIDLEISIWCH UNWAITH DROS EICH DEWIS CYNTAF AC UNWAITH DROS EICH AIL DDEWIS.*#]] |
[(iii) in the Mayoral election VOTE ONCE FOR YOUR FIRST CHOICE AND ONCE FOR YOUR SECOND CHOICE.*#]] |
D.
[Yn yr etholiad/refferendwm [nodwch ba un arall]* rhowch groes (X) ar y dde wrth ymyl enw [yr ymgeisydd/yr ateb*] rydych chi'n pleidleisio drosto/i. [*Pleidleisiwch unwaith yn unig[]*PLEIDLEISIWCH UNWAITH dros eich DEWIS CYNTAF ac UNWAITH dros eich AIL DDEWIS.]] |
D.
[At the [specify other] election/referendum* mark a cross (X) to the right of [the candidate/the answer*] for which you are voting. [*Vote once only[]*VOTE ONCE for your FIRST CHOICE and ONCE for your SECOND CHOICE.[] |
4.
[Peidiwch â phlygu'r papurau pleidleisio ar gyfer [nodwch ym mha etholiad(au) y cyfrir y pleidleisiau'n electronig]*] [Plygwch [bob/unrhyw*] p/bapur(au) pleidleisio [arall/eraill] yn ei/eu hanner a dangoswch y marc swyddogol i'r swyddog llywyddu.*] Peidiwch â gadael i neb weld eich pleidlais. Rhowch bob papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio [*priodol] a gadael yr orsaf bleidleisio. |
4.
[Please do not fold the ballot papers for the specify the election(s) at which the votes are to be counted electronically[*] [Fold [each/any other*[ ballot paper(s) in two and show the official mark on it to the presiding officer.*] Do not let anyone see your vote. Put each ballot paper in the [*appropriate ] ballot box and leave the polling station. |
Rhowch y geiriau yn y bachau sgwâr cyntaf, a'r diwygiad cyfatebol yn y frawddeg ganlynol os yw'r pleidleisiau i'w cyfri'n electronig yn un o'r etholiadau neu mewn mwy nag un ohonynt. | Include the words in the first of square brackets, and the corresponding amendment in the following sentence if the votes are to be counted electronically at one or more of the elections. |
5.
Pleidleisiwch dros nifer yr ymgeiswyr a bennir ar bob papur pleidleisio'n unig [a dim ond dros un o'r atebion a gynigir yn y refferendwm*]. Peidiwch â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio, neu mae'n bosibl na chaiff eich pleidleisiau eu cyfrif. |
5.
Vote only for the number of candidates specified on each ballot paper [and only one of the answers available in the referendum*]. Put no other mark on the ballot papers, or your votes may not be counted. |
6.
Os byddwch chi'n difetha papur pleidleisio trwy gamgymeriad, dangoswch ef i'r swyddog llywyddu a gofyn am un arall. |
6.
If by mistake you spoil a ballot paper, show it to the presiding officer and ask for another one.* |
*Llenwch neu gadewch allan fel bo'n briodol | *Complete or omit as necessary |
#Fel arall, rhowch ba wybodaeth bynnag ynghylch y dull pleidleisio ag y penderfyno'r GLRO. | #Alternatively, insert such information as to the manner of voting as the GLRO may decide. |