BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

United Kingdom Statutory Instruments


You are here: BAILII >> Databases >> United Kingdom Statutory Instruments >> Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2003
URL: http://www.bailii.org/uk/legis/num_reg/2003/20030989w.html

[New search] [Help]
 
      Offerynnau Statudol 2003 Rhif 989 (Cy.138)

      Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2003


      © Hawlfraint y Goron 2003

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationary Office Limited fel Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2003, ISBN 0110907256. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


      OFFERYNNAU STATUDOL


      2003 Rhif 989 (Cy.138)

      AMAETHYDDIAETH, CYMRU

      Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2003

        Wedi'u gwneud 2 Ebrill 2003 
        Yn dod I rym 1 Mai 2003 

      Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd, gan arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, ac wedi cyflawni'r ymgynghoriad sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelu Bwyd Ewropeaidd ac yn gosod y gweithdrefnau ar faterion diogelu bwyd[3], yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

      Teitl, cychwyn a chymhwyso
           1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 1 Mai 2003.

          (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gynwys i Gymru yn unig.

      Diwygio Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001
          
      2. Diwygir Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2001[4]) yn unol â rheoliadau 3 i 6.

           3. In rheoliad 2 (dehongli), ar ôl y diffiniad "y Gyfarwyddeb Deunyddiau Porthiant" ym mharagraff (1) mewnosoder y diffiniad canlynol  - 

        ystyr "y Gyfarwyddeb Orfodi" ("the Enforcement Directive") yw Cyfarwyddeb y Cyngor 95/53/EC sy'n sefydlu'r egwyddorion sy'n llywodraethu trefn archwiliadau swyddogol ym maes maeth anifeiliaid[5] fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/20/EC[6], Cyfarwyddeb 2000/77/EC o Senedd Ewrop a'r Cyngor[7] a Chyfarwyddeb 2001/46/EC o Senedd Ewrop a'r Cyngor[8]);".

           4. Yn y ddau reoliad 7(1) a 24(1), yn lle'r ymadrodd "and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002" rhodder yr ymadrodd ", the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002 and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003.".

          
      5. Yn rheoliad 12 ( rheoli porthiant a deunyddiau porthiant sy'n cynnwys deunyddiau annymunol), yn lle paragraff (9) rhodder y paragraff canlynol  - 

            " (9) Os oes gan berson y mae paragraff cyntaf Erthygl 16a o'r Gyfarwyddeb Orfodi yn gymwys iddo dystiolaeth bod unrhyw ddeunydd porthiant a bennir yng ngholofn 2 o Bennod A o Ran II o Atodlen 7, y mae wedi ei ddwyn i Gymru o drydydd gwlad neu wedi ei gylchredeg ac y mae ef yn ei ddal neu'n berchen arno, yn cynnwys unrhyw sylwedd a bennir yng ngholofn 1 o'r Bennod honno yn fwy na'r lefel a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 3 o'r Bennod honno, rhaid iddo  - 

          (a) hysbysu'r Asiantaeth a'r awdurdod y mae dyletswydd ganddynt, yn rhinwedd adran 67(1A), orfodi Rhan IV o'r Ddeddf mewn perthynas â'r deunydd porthiant o dan sylw; a

          (b) rhoi iddynt yr wybodaeth a bennir yn ail baragraff Erthygl 16a o'r Gyfarwyddeb Orfodi.".

           6. Yn Atodlen 3 (ychwanegion a ganiateir a darpariaethau ynghylch eu defnyddio)  - 

        (a) yn lle'r troednodyn i Ran VII o'r Tabl (cyffeithyddion a ganiateir) rhodder y troednodyn canlynol  - 

            " (1) Note also that (as referred to in Part IX of this Table) one preservative is permitted by virtue of Commission Regulation (EC) No. 1594/1999[9] and one by Commission Regulation (EC) No. 1252/2002[10])."; a

        (b) yn lle'r darpariaethau yn Rhan IX o'r Tabl (Rheoliadau'r Gymuned Ewropeaidd y rheolir ychwanegion drwyddynt) rhodder y darpariaethau a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

      Diwygio Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999
           7.  - (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, caiff Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999[11] eu diwygio yn unol â pharagraffau 2 a 3 o'r rheoliad hwn.

          (2) Ym mhob un o'r darpariaethau a bennir ym mharagraff 3, yn lle'r ymadrodd "and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002" rhodder yr ymadrodd ", the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2002 and the Feeding Stuffs (Amendment) (Wales) Regulations 2003".

          (3) Dyma'r darpariaethau: rheoliadau 7(2) a (4), testun is-adran (8) o adran 67 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970[12] fel y'i haddaswyd gan reoliad 9 a thestun is-adran (17) o adran 76 o'r Ddeddf honno fel y'i haddaswyd gan reoliad 10.

      Diwygio Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chanolwyr) 1999
           8.  - (1) I'r graddau y maent yn gynwys i Gymru, caiff Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chanolwyr) 1999[13] eu diwygio yn unol â'r paragraff 2 yn y rheoliad hwn.

          (2) Ym mharagraff (2) o reoliad 2 (diffiniad "porthiant" a diffiniadau perthnasol a dehongli cyffredinol), ar ddiwedd y diffiniad "Directive 95/53" ychwaneger y geiriau ", Directive 2000/77/EC of the European Parliament and of the Council and Directive 2001/46/EC of the European Parliament and of the Council".



      Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[14])


      D.Elis Thomas[b]
      Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

      2 Ebrill 2003



      ATODLEN
      Rheoliad 5(b)


      DARPARIAETHAU A RODDIR YN LLE RHAN IX O'R TABL I ATODLEN 3 I REOLIADAU PORTHIANT (CYMRU) 2001




        " PART IX

        EUROPEAN COMMUNITY REGULATIONS BY WHICH ADDITIVES ARE CONTROLLED(1)

        Commission Regulation (EC) No. 2316/98 concerning authorisation of new additives and amending the conditions for authorisation of a number of additives already authorised in feedingstuffs(2).

        Commission Regulation (EC) No. 1594/1999 amending the conditions for the authorisation of an additive in feedingstuffs(3).

        Commission Regulation (EC) No. 2439/1999 on the conditions for authorisation of additives belonging to the group "binders, anti-caking agents and coagulants" in feedingstuffs(4).

        Commission Regulation (EC) No. 1353/2000 concerning the permanent authorisation of an additive and the provisional authorisation of new additives, new additive uses and new preparations in feedingstuffs(5).

        Commission Regulation (EC) No. 2437/2000 concerning the permanent authorisation of an additive and the provisional authorisation of new additives in feedingstuffs(6).

        Commission Regulation (EC) No. 2013/2001 concerning the provisional authorisation of a new additive use and the permanent authorisation of an additive in feedingstuffs(7).

        Commission Regulation (EC) No. 2200/2001 concerning provisional authorisation of additives in feedingstuffs(8).

        Commission Regulation (EC) No. 256/2002 concerning the provisional authorisation of new additives, the prolongation of provisional authorisation of an additive and the permanent authorisation of an additive in feedingstuffs(9).

        Commission Regulation (EC) No. 1252/2002 concerning the provisional authorisation of a new additive in feedingstuffs(10).

        Commission Regulation (EC) No.1876/2002 concerning the provisional authorisation of a new use of an additive in feedingstuffs(11).

        Commission Regulation (EC) No. 2188/2002 concerning the provisional authorisation of new uses of additives in feedingstuffs(12).

        (1) Certain of the above Regulations relate to additive categories which include additives controlled by the Additives Directive, and which are listed in the relevant Part(s) of Parts I to VIII of the Table to this Schedule (e.g. the preservative formic acid is covered by Regulation (EC) No. 1594/1999, but certain other preservatives are covered by Part VII of the Table).

        (2) OJ No. L289, 28.10.98, p.4.

        (3) OJ No. L188, 21.7.1999, p.35.

        (4) OJ No. L297, 18.11.1999, p.8. The Annex to this Regulation is now replaced by the Annex to Regulation (EC) No. 739/2000 (OJ No. L87, 8.4.2000, p.14).

        (5) OJ No. L155, 28.6.2000, p.15.

        (6) OJ No. L280, 4.11.2000, p.28.

        (7) OJ No. L272, 13.10.2001, p.24.

        (8) OJ No. L299, 15.11.2001, p.1.

        (9) OJ No. L41, 13.2.2002, p.6.

        (10) OJ No. 183, 12.7.2002, p.10.

        (11) OJ No. L284, 22.10.2002, p.7.

        (12) OJ No. L333, 10.12.2002, p.5."



      EXPLANATORY NOTE

      (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


           1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Porthiant 2000 (O.S. 2000/2481, fel y'u diwygiwyd eisoes) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 (O.S. 1999/2325, fel y'u diwygiwyd eisoes) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, a Rheoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chanolwyr) 1999 (S.I. 1999/1872, fel y'u diwygiwyd eisoes) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

           2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu  - 

        (a) ail is-baragraff Erthygl 8.2 of Gyfarwyddeb y Cyngor 95/53/EC sy'n pennu'r egwyddorion sy'n llywodraethu trefniadaeth archwiliadau swyddogol ym maes maeth anifeiliaid (OJ Rhif L265, 8.11.95, t.17); a

        (b) Cyfarwyddeb 2001/46/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 95/53/EC sy'n pennu'r egwyddorion sy'n llywodraethu trefniadaeth archwiliadau swyddogol ym maes maeth anifeiliaid a Chyfarwyddebau 70/524/EC, 96/25/EC a 1999/29/EC ar faeth anifeiliaid (OJ Rhif L234, 1.9.2001, t.55).

           3. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliadau'r Gymuned a ganlyn  - 

        (a) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1252/2002 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ychwanegyn newydd mewn porthiant (OJ Rhif L183, 12.7.2002, t.10);

        (b) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1876/2002 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ddefnydd newydd o ychwanegyn mewn porthiant (OJ Rhif .L284, 22.10.2002, t.7); ac

        (c) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2188/2002 sy'n ymwneud ag awdurdodi dros dro ddefnyddiau newydd o ychwanegion mewn porthiant (OJ Rhif L333, 10.12.2002, t.5).

           4. Mae'r Rheoliadau hyn  - 

        (a) yn diwygio Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 drwy  - 

          (i) mewnosod i reoliad 2 ddiffiniad o'r term "y Gyfarwyddeb Orfodi" (rheoliad 3),

          (ii) gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliadau 7(1) a 24(1) (rheoliad 4),

          (iii) gosod rhwymedigaeth ar y sawl sy'n gyfrifol am sefydliadau sy'n cynhyrchu cynhyrchion ar gyfer maeth anifeiliaid i hysbysu'r Asiantaeth Safonau Bwyd a'r awdurdod lleol perthnasol a rhoi iddynt wybodaeth benodedig, os oes ganddynt dystiolaeth bod porthiant y maent wedi ei fewnforio neu beri ei gylchredeg yn cynnwys sylweddau annymunol penodol ar lefelau sy'n uwch na'r uchafswm a ragnodir (rheoliad 5), a

          (iv) ychwanegu tri rheoliad newydd y Comisiwn i'r rhestr o Reoliadau'r Comisiwn yr awdurdodwyd marchnata ychwanegion porthiant odani ac a gynhwysir yn Rhan IX o'r Tabl i Atodlen 3, ac sy'n gwneud diwygiad canlyniadol i'r troednodyn i Ran VII o'r Tabl hwnnw (rheoliad 6 a'r Atodlen); a

        (b) diwygio Rheoliadau Porthiant (Gorfodi) 1999 drwy wneud diwygiadau canlyniadol i ddarpariaethau penodol (rheoliad 7), a

        (c) gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Porthiant (Sefydliadau a Chanolwyr) 1999 (rheoliad 8).

           5. Paratowyd asesiad o effaith y Rheoliadau hyn ac fe'i gosodwyd yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae copïau ar gael oddi wrth Uned Bwydydd Anifeiliaid yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EN.


      Notes:

      [1] O.S. 1999/2788.back

      [2] 1972 p. 68.back

      [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. O dan Erthygl 3 of Reoliad (EC) Rhif 178/2002 (OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1) mae'r ymadrodd "food law" yn ymestyn i fwyd a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu a fwydir iddynt.back

      [4] O.S. 2001/343 (Cy. 15), fel y'i diwygiwyd gan O.S.2002/1797 (Cy. 172).back

      [5] OJ Rhif L265, 8.11.95, t.17.back

      [6] OJ Rhif L80, 25.3.99, t.20.back

      [7] OJ Rhif L333, 29.12.2000, t.81.back

      [8] OJ Rhif L234, 1.9.2001, t.55.back

      [9] OJ Rhif L188, 21.7.1999, t.35.[a]back

      [10] OJ Rhif L183, 12.7.2002, t.10.back

      [11] O.S. 1999/2325.back

      [12] 1970 p.40.back

      [13] O.S. 1999/1872, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/2253 (Cy. 163) ac O.S. 2002/1797 (Cy. 172).back

      [14] 1998 p.38.back



      English version



      ISBN 0 11090725 6


      [a] Amended by Correction Slip. Tudalen 4, fe ddylai troednodyn (d) yn y testun Cymraeg ddarllen "OJ Rhif L188, 21.7.1999, t.35" back

      [b] Amended by Correction Slip. Tudalen 5, fe ddylai enw'r Llywydd ddarllen "D.Elis-Thomas" back




 
Prepared 23 April 2003
About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010