Statutory Instruments
AGRICULTURE
Made
10th August 1990
Laid before Parliament
22nd August 1990
Coming into force
12th September 1990
Whereas, pursuant to section 18(1) of the Agriculture Act 1986(1), the Secretary of State has by order designated certain areas in Wales as environmentally sensitive areas(2);
And whereas, pursuant to section 18(4) of the said Act, the Secretary of State has specified in the orders designating the above-mentioned areas the requirements as to agricultural practices, methods and operations and the installation or use of equipment which must be included in agreements made under section 18(3) of the said Act as respects agricultural land in those areas;
Now, therefore, the Secretary of State, in exercise of the powers conferred on him by section 18(1), (4) and (11) of the said Act, as extended by section 2(2) of the Welsh Language Act 1967(3), and of all other powers enabling him in that behalf, with the consent of the Treasury, hereby makes the following Order:-
1.-(1) This Order may be cited as the Environmentally Sensitive Areas Designation (Wales) (Welsh Language Provisions) Order 1990 and shall come into force on 12th September 1990.
(2) In this Order-
"agreement" means an agreement under section 18(3) of the Agriculture Act 1986;
"requirements" means requirements as to agricultural practices, methods and operations and the installation or use of equipment specified in an order made under section 18 of the Agriculture Act 1986 and which must be included in an agreement.
(3) Except where otherwise expressly provided, any reference in this Order to a numbered Schedule shall be construed as a reference to the Schedule bearing that number in this Order.
2. The requirements and definitions specified in Schedule 1 are hereby prescribed as versions in Welsh which may be included in an agreement as respects land in the area designated by article 3 of the Environmentally Sensitive Areas (Cambrian Mountains) Designation Order 1986(4) or as respects land in the area designated by article 3 of the Environmentally Sensitive Areas (Cambrian Mountains - Extension) Designation Order 1987(5) in place of the definitions and requirements respectively specified in article 2(1) of and the Schedule to each of those Orders.
3. The requirements and definitions specified in Schedule 2 are hereby prescribed as versions in Welsh which may be included in an agreement as respects land in the area designated by article 3 of the Environmentally Sensitive Areas (Lleyn Peninsula) Designation Order 1987(6) in place of the definitions and requirements respectively specified in article 2(1) of and Schedule 1 to that Order.
4. The additional provisions and definitions specified in Schedule 3 are hereby prescribed as versions in Welsh which may be included in an agreement as respects land in the area designated by article 3 of the Environmentally Sensitive Areas (Lleyn Peninsula) Designation Order 1987 in place of the definitions and additional provisions as to agricultural practices, methods and operations and the installation and use of equipment respectively specified in article 2(1) of and Schedule 2 to that Order.
David Hunt
Secretary of State for Wales
26th July 1990
We consent,
John Major
Thomas Sackville
Two of the Lords Commissioners of Her Majesty's Treasury
10th August 1990
Article 2
1. O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb (i) ac nad yw'n goetir llydanddail (ii)-
(1) rhaid i'r ffermwr (iii) gadw porfeydd garw lled-naturiol (iv) a gweirgloddiau gwair (v);
(2) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio ag aredig, gwastatau, ailhadu neu drin tir;
(3) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio, yn achos gweirgloddiau gwair (v), â thorri ar gyfer gwair neu silwair cyn 15 Gorffennaf mewn unrhyw flwyddyn;
(4) rhaid i'r ffermwr (iii) gadw da byw allan o'r gweirgloddiau gwair (v) am o leiaf saith wythnos cyn y toriad cyntaf ar gyfer gwair neu silwair;
(5) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â gosod unrhyw system draenio newydd na newid yn sylweddol unrhyw system draenio bresennol;
(6) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio-
(a)â thaenu calch,
(b)ac eithrio yn achos gweirgloddiau gwair (v), â thaenu gwrtaith anorganig neu fasig slag,
(c)yn achos gweirgloddiau gwair (v), â chynyddu'r cyfraddau taenu presennol ar gyfer gwrtaith anorganig a rhaid peidio â thaenu mwy na 25kg o nitrogen, 12.5kg o ffosffad a 12.5kg o botash yr hectar ar y gweirgloddiau hynny mewn unrhyw flwyddyn;
(7) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thaenu pryfleiddiaid;
(8) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thaenu llysleiddiaid ac eithrio i reoli rhedyn(Pteridium aquilinum), danadl(Urtica dioica), marchysgall(Cirsium vulgare), ysgall yr âr(Cirsium arvense), dail tafol cyrliog(Rumex crispus), dail tafol llydan(Rumex obtusifolius) neu lysiau'r gingroen(Senecio jacobaea) ac yna trwy driniaeth smotyn neu sychydd chwyn yn unig ac yn achos rhedyn(Pteridium aquilinum) trwy chiwstrellu cyffredinol;
(9) rhaid i'r ffermwr (iii) reoli rhedyn(Pteridium aquilinum) yn unig trwy gyfrwng asulam neu gemegyn arall a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol;
(10) rhaid i'r ffermwr (iii) losgi eithin, grug neu laswellt yn unol â rhaglen a gytunir ymlaen llaw â'r Ysgrifennydd Gwladol;
(11) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â chodi perthi, muriau neu ffensys newydd;
(12) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â dileu unrhyw berth, mur neu glawdd presennol (heblaw ffensys gwifren);
(13) rhaid i'r ffermwr (iii) gael cyngor ysgrifenedig oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol ynghylch lleoli, cynllunio a deunyddiau cyn adeiladu neu newid adeiladau neu ffyrdd neu wneud unrhyw waith peirianegol arall a awdurdodwyd o dan Ran 6 o Atodlen 2 Gorchymyn Datblygu Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1988(7). Ni fydd y gofyniad hwn yn gymwys i unrhyw ddatblygiad y cyflwynwyd rhybudd sy'n cyfyngu ar y datblygiad a ganiateir mewn perthynas ag ef o dan erthygl 5 Gorchymyn Datblygu Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1988;
(14) rhaid i'r ffermwr (iii) bori porfeydd garw lled-naturiol (iv) â gwartheg neu ddefaid, yn o*l graddfa stocio flynyddol nad ydyw, ar gyfartaledd, yn fwy na 0.75 uned da byw (vi) yr hectar ond beth bynnag heb achosi gorbori;
(15) rhaid i'r ffermwr (iii), wrth ffermio'r tir, sicrhau nad yw'n difrodi nac yn dinistrio unrhyw nodwedd archaeolegol neu hanesyddol os yw'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'i hysbysu'n ysgrifenedig am ei bodolaeth;
(16) rhaid i'r ffermwr (iii) gadw a gofalu am bob llyn, pwll dw*r a nant;
(17) rhaid i'r ffermwr (iii) reoli plâu mewn modd cyfreithiol.
2. O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb (i) ac yn goetir llydanddail (ii)-
(1) rhaid i'r ffermwr (iii) gadw coetir llydanddail (ii) presennol;
(2) rhaid i'r ffermwr (iii) gadw stoc allan o goetir llydanddail (ii);
(3) rhaid i'r ffermwr (iii) o fewn dwy flynedd ar o*l dechrau'r cytundeb (i), gael cyngor ysgrifenedig ynghylch rheoli coetir llydanddail (ii) oddi wrth y personau neu'r cyrff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol;
(4) rhaid i'r ffermwr (iii) reoli plâu mewn modd cyfreithiol.Diffiniadau
(i)ystyr "cytundeb" yw cytundeb o dan adran 18(3) Deddf Amaethyddiaeth 1986(8) mewn perthynas â thir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Mynyddoedd Cambria) 1986(9) neu yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Mynyddoedd Cambria-Estyniad) 1987(10), fel y bo'n briodol;
(ii)ystyr "coetir llydanddail" yw tir a defnyddir at goetir llydanddail lle mae'r defnydd hwnnw yn atodol i amaethu'r tir at ddibenion amaethyddol eraill;
(iii)ystyr "ffermwr" yw person sydd â diddordeb mewn tir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Mynyddoedd Cambria) 1986 neu yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Mynyddoedd Cambria-Es-tyniad) 1987, fel y bo'n briodol, ac sydd wedi gwneud cytundeb â'r Ysgrifennydd Gwladol;
(iv)ystyr "tir pori lled-naturiol" yw tir lle mae'r llystyfiant yn cynnwys yn bennaf y gawnen benddu(Agrostis), peisgwellt(Festuca), rhedyn(Pteridium aquilinum), gwair porffor y gweunydd(Molinia caerulea), gwair mat(Nardus stricta), grug(Calluna vulgaris neu Erica), llus(Vaccinium), plu'r gweunydd(Eriophorum) neu wair ceirw(Trichophorum);
(v)ystyr "gweirglodd wair" yw gweirglodd a dorrir yn y dull traddodiadol a'i llystyfiant yn cynnwys cymysgedd o wair, hesg a blodau gwyllt cynhenid;
(vi)ystyr "uned da byw" yw-
(a)1 fuwch, neu
(b)1.25 anifail o deulu'r ych (heblaw buchod) dros ddwy oed, neu
(c)1.6 anifail o deulu'r ych (heblaw buchod) o un oed i ddwy oed yn gynwysedig, neu
(d)2.5 anifail o deulu'r ych o dan un oed, neu
(e)6.66 o ddefaid.
Yn y diffiniad hwn ystyr "buwch" yw anifail benyw o deulu'r ych sydd wedi bwrw llo o leiaf ddwywaith.
Article 3
O ran unrhyw dir sy'n destun cytundeb (i)-
1. rhaid i'r ffermwr (ii) gadw patrymau presennol y caeau;
2. rhaid i'r ffermwr (ii) beidio â dileu unrhyw wrych, mur neu glawdd (iii) presennol;
3. rhaid i'r ffermwr (ii) beidio â chodi unrhyw ffens newydd;
4. rhaid i'r ffermwr (ii) beidio ag aredig, gwastatau, ailhadu neu drin tir garw (iv) a gweirgloddiau gwair (v);
5. rhaid i'r ffermwr (ii) gadw'r gwrychoedd, y muriau a'r cloddiau (iii) dal stoc presennol mewn cyflwr cymwys i ddal stoc gan ddefnyddio deunyddiau traddodiadol;
6. rhaid i'r ffermwr (ii) beidio â symud unrhyw byst llidiardau cerrig presennol;
7. rhaid i'r ffermwr (ii) gadw a gofalu am bob llyn, pwll dw*r a nant;
8. rhaid i'r ffermwr (ii), wrth ffermio'r tir, sicrhau nad yw'n difrodi nac yn dinistrio unrhyw nodwedd archaeolegol neu hanesyddol os yw'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'i hysbysu'n ysgrifenedig am ei bodolaeth;
9. rhaid i'r ffermwr (ii) gael cyngor ysgrifenedig oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol ynghylch lleoli, cynllunio a deunyddiau cyn adeiladu neu newid adeiladau neu ffyrdd neu wneud unrhyw waith peirianegol arall a awdurdodwyd o dan Ran 6 o Atodlen 2 Gorchymyn Datblygu Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1988(11). Ni fydd y gofyniad hwn yn gymwys i unrhyw ddatblygiad y cyflwynwyd rhybudd sy'n cyfyngu ar y datblygiad a ganiateir mewn perthynas ag ef o dan erthygl 5 Gorchymyn Datblygu Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1988;
10. rhaid i'r ffermwr (ii) gadw pob coetir lydanddail (vi) a phrysgwydd;
11. rhaid i'r ffermwr (ii), cyn plannu unrhyw goed at ddibenion amaethyddol, gael cyngor ysgrifenedig ynghylch lleoli a rheoli'r coed hynny oddi wrth y personau neu'r cyrff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol;
12. rhaid i'r ffermwr (ii), o fewn dwy flynedd ar o*l dechrau'r cytundeb (i), gael cyngor ysgrifenedig ynghylch rheoli coetir llydanddail (vi) a phrysgwydd oddi wrth y personau neu'r cyrff a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol;
13. rhaid i'r ffermwr (ii) beidio â thaenu unrhyw ffwngleiddiad, pryfleiddiad, llysleiddiad, calch neu wrtaith o fewn llain o dir sydd o leiaf ddeg metr o led wrth ymyl cors, gwaun, llyn, pwll dw*r neu nant.Diffiniadau
(i)ystyr "cytundeb" yw cytundeb o dan adran 18(3) Deddf Amaethyddiaeth 1986 mewn perthynas â thir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Penrhyn Llŷn) 1987(12);
(ii)ystyr "ffermwr" yw person sydd â diddordeb mewn tir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Penrhyn Llŷn) 1987 ac sydd wedi gwneud cytundeb â'r Ysgrifennydd Gwladol;
(iii)ystyr "clawdd" yw clawdd o gerrig neu o bridd sydd y tu mewn i derfyn cae neu sy'n ffurfio terfyn cae;
(iv)ystyr "tir garw" yw gweundir, corsydd, tir gwlyb neu dir glas lled-naturiol;
(v)ystyr "gweirglodd wair" yw gweirglodd a dorrir yn y dull traddodiadol a'i llystyfiant yn cynnwys cymysgedd o wair, hesg a blodau gwyllt cynhenid;
(vi)ystyr "coetir llydanddail" yw tir a ddefnyddir at goetir llydanddail lle mae'r defnydd hwnnw yn atodol i amaethu'r tir at ddibenion amaethyddol eraill.
Article 4
1. O ran unrhyw dir sy'n destun y cytundeb (i) ac sy'n dir garw (ii)-
(1) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â gosod unrhyw system draenio newydd na newid yn sylweddol unrhyw system draenio bresennol;
(2) rhaid i'r ffermwr (iii) bori â gwartheg neu ddefaid, yn o*l graddfa stocio flynyddol nad ydyw, ar gyfartaledd, yn fwy na 0.75 uned da byw (iv) yr hectar ond beth bynnag heb achosi sathru, tanbori neu orbori;
(3) rhaid i'r ffermwr (iii) losgi eithin, grug neu laswellt yn unol â rhaglen a gytunir ymlaen llaw â'r Ysgrifennydd Gwladol;
(4) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thaenu unrhyw fath o wrtaith, slyri, calch, basig slag neu unrhyw sylwedd arall a gynlluniwyd i leihau asidedd y pridd;
(5) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thaenu pryfleiddiaid;
(6) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thaenu llysleiddiaid ac eithrio i reoli rhedyn(Pteridium aquilinum), danadl(Urtica dioica), marchysgall(Cirsium vulgare), ysgall yr âr(Cirsium arvense), dail tafol cyrliog(Rumex crispus), dail tafol llydan(Rumex obtusifolius) neu lysiau'r gingroen(Senecio jacobaea) ac yna trwy driniaeth smotyn neu sychydd chwyn yn unig ac, yn achos rhedyn(Pteridium aquilinum), trwy chwistrellu cyffredinol;
(7) rhaid i'r ffermwr (iii) reoli rhedyn(Pteridium aquilinum) yn unig trwy gyfrwng asulam neu gemegyn arall a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu drwy dorri neu falu.
2. O ran unrhyw dir sy'n destun y cytundeb (i) ac yn weirglodd wair (v)-
(1) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thorri ar gyfer gwair neu silwair cyn 8 Gorffennaf mewn unrhyw flwyddyn;
(2) rhaid i'r ffermwr (iii) dorri o leiaf unwaith ar gyfer gwair neu silwair ar o*l 7 Gorffennaf mewn unrhyw flwyddyn;
(3) rhaid i'r ffermwr (iii) gadw da byw allan rhwng 15 Mai a'r toriad cyntaf ar gyfer gwair neu silwair mewn unrhyw flwyddyn;
(4) rhaid i'r ffermwr (iii), cyhyd â'i fod yn bodloni'r gofyniad yn yr is-baragraff blaenorol, bori gwartheg a defaid rhwng 8 Gorffennaf mewn unrhyw flwyddyn a 15 Mai yn y flwyddyn ganlynol yn o*l cyfradd stocio nad ydyw, ar gyfartaledd, yn fwy nag un uned da byw (iv) yr hectar ond beth bynnag heb achosi sathru, tanbori neu orbori;
(5) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â gosod unrhyw system draenio newydd na newid yn sylweddol unrhyw system draenio bresennol;
(6) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thaenu unrhyw wrtaith anorganig, calch, basig slag neu sylwedd arall a gynlluniwyd i leihau asidedd y pridd;
(7) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thaenu unrhyw wrtaith ar wahân i dail neu slyri;
(8) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â chynyddu cyfraddau presennol taenu tail neu slyri a beth bynnag rhaid iddo beidio â thaenu mwy na 12.5 tunnell fetrig o dail neu slyri yr hectar y flwyddyn;
(9) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thaenu pryfleiddiaid;
(10) rhaid i'r ffermwr (iii) beidio â thaenu unrhyw lysleiddiaid ac eithrio i reoli rhedyn(Pteridium aquilinum), danadl(Urtica dioica), marchysgall(Cirsium vulgare), ysgall yr âr(Cirsium arvense), dail tafol cyrliog(Rumex crispus), dail tafol llydan(Rumex obtusifolius) neu lysiau'r gingroen(Senecio jacobaea) ac yna trwy driniaeth smotyn neu sychydd chwyn yn unig ac yn achos rhedyn(Pteridium aquilinum) trwy chwistrellu cyffredinol;
(11) rhaid i'r ffermwr (iii) reoli rhedyn(Pteridium aquilinum) yn unig trwy gyfrwng asulam neu gemegyn arall a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu drwy dorri neu falu.Diffiniadau
(i)ystyr "cytundeb" yw cytundeb o dan adran 18(3) Deddf Amaethyddiaeth 1986 mewn perthynas â thir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Penrhyn Llŷn) 1987;
(ii)ystyr "tir garw" yw gweundir, corsydd, tir gwlyb neu dir glas lled-naturiol;
(iii)ystyr "ffermwr" yw person sydd â diddordeb mewn tir amaethyddol yn yr ardal a ddynodwyd gan erthygl 3 Gorchymyn Dynodi Ardaloedd Amgylchedd Arbennig (Penrhyn Llŷn) 1987 ac sydd wedi gwneud cytundeb â'r Ysgrifennydd Gwladol;
(iv)ystyr "uned da byw" yw-
(a)1 fuwch, neu
(b)1.25 anifail o deulu'r ych (heblaw buchod) dros ddwy oed, neu
(c)1.6 anifail o deulu'r ych (heblaw buchod) o un oed i ddwy oed yn gynwysedig, neu
(d)2.5 anifail o deulu'r ych o dan un oed, neu
(e)6.66 o ddefaid.
Yn y diffiniad hwn ystyr "buwch" yw anifail benyw o deulu'r ych sydd wedi bwrw llo o leiaf ddwywaith;
(v)ystyr "gweirglodd wair" yw gweirglodd a dorrir yn y dull traddodiadol a'i llystyfiant yn cynnwys cymysgedd o wair, hesg a blodau gwyllt cynhenid.
(This note is not part of the Order)
The Secretary of State for Wales has made a series of Orders, namely the Environmentally Sensitive Areas (Cambrian Mountains) Designation Order 1986, the Environmentally Sensitive Areas (Cambrian Mountains - Extension) Designation Order 1987 and the Environmentally Sensitive Areas (Lleyn Peninsula) Designation Order 1987, which designated areas in the Cambrian Mountains and the Lleyn Peninsula as environmentally sensitive areas. Each of those Orders, as amended by S.I. 1988/173, specified requirements ("the requirements") as to agricultural practices, methods and operations and the installation and use of equipment which must be included in an agreement entered into by the Secretary of State under section 18(3) of the Agriculture Act 1986. The Order designating land in the Lleyn Peninsula also specifies additional provisions ("additional provisions") as to agricultural practices, methods and operations and the installation and use of equipment which may be included in an agreement. Each of the above-mentioned Orders contains definitions ("definitions") of terms to be used in the requirements and additional provisions.
This Order prescribes Welsh versions of the requirements, additional provisions and definitions, which may be used in place of the requirements, additional provisions and definitions already specified in the English language (articles 2 to 4 and Schedules 1 to 3).
O.S. 1988/1813, diwygiwyd gan O.S. 1989/603.
O.S. 1986/2257, diwygiwyd gan O.S. 1988/173.
O.S. 1987/2026, diwygiwyd gan O.S. 1988/173.
O.S. 1988/1813, diwygiwyd gan O.S. 1989/603.
O.S. 1987/2027, diwygiwyd gan O.S. 1988/173.