See English version
Rhif Cyfeirio Niwtral: [2021] EWHC 1580 (Ch)
Rhif yr Achos: PT-2020-CDF-000002
YN YR UCHEL LYS BARN
LLYSOEDD BUSNES AC EIDDO YNG NGHYMRU
RHESTR YMDDIRIEDOLAETHAU EIDDO A PHROFIANT (ChD)
Yn ystâd yr ymadawedig Evan Richard Hughes
Llysoedd Barn Wrecsam
Bodhyfryd, Wrecsam LL12 7BP
Dyddiad: 04/06/2021
Gerbron:
EI ANRHYDEDD Y BARNWR JARMAN CF
Yn eistedd fel barnwr yn yr Uchel Lys
Rhwng:
|
GARETH HUGHES |
Hawlydd |
|
- a - |
|
|
(1) CARYS PRITCHARD (2) GWEN HUGHES (3) STEPHEN HUGHES |
Diffynyddion |
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
Mr Elis Gomer (wedi cael cyfarwyddyd gan Allington Hughes Law) ar ran yr hawlydd
Roedd y diffynnydd cyntaf wedi ymddangos ei hun
Mr Alex Troup (wedi cael cyfarwyddyd gan Hugh James) ar ran yr ail a’r trydydd diffynnydd
Dyddiadau’r gwrandawiad: 18-24 Mai 2021
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
Ei Anrhydedd y Barnwr Jarman CF:
Cyflwyniad
1. Yn yr achos hwn, mae teulu’r diweddar Evan Hughes, a fu farw ym mis Mawrth 2017 yn 84 oed, yn anghytuno ynghylch dilysrwydd ei drydedd ewyllys, sef ei ewyllys derfynol, a weithredwyd ganddo ar 7 Gorffennaf 2016. Byddaf yn cyfeirio at bob un o’r tair ewyllys yn ôl y flwyddyn weithredu. Bryd hynny, roedd yn dioddef o ddementia cymharol ddifrifol ac yn galaru am ei fab, y diweddar Elfed Hughes, a fu farw rai misoedd ynghynt mewn amgylchiadau trasig. Un o ddarpariaethau ewyllys 2016 oedd gadael rhyw 58 erw o dir fferm ar Ynys Môn o’r enw Yr Efail i’r hawlydd, sef ei fab Gareth. Y diffynyddion yn eu trefn yw chwaer, gwraig weddw a mab hynaf Elfed Hughes. Mae Gwen Hughes, yr ail ddiffynnydd, a’i mab Stephen Hughes, y trydydd diffynnydd, yn honni bod ewyllys 2016 yn annilys ar sail diffyg galluedd ewyllysiol, diffyg gwybodaeth a chymeradwyaeth a/neu ddylanwad gormodol gan Gareth Hughes ar ei dad; neu fel arall, bod Yr Efail yn ddarostyngedig i hawliad estopel perchnogol gan ystâd Elfed Hughes lle mae Yr Efail yn perthyn mewn ecwiti i’r ystâd honno.
2. Clywais gan dros 20 o dystion dros gyfnod o bedwar diwrnod, gan gynnwys y partïon a dau fab arall Gwen Hughes. Cytunwyd ar rai datganiadau a darllenais ddau ddatganiad pellach a dderbyniwyd dan Ddeddf Tystiolaeth Sifil 1995. Roedd rhai o’r tystion wedi ymddangos eu hunain i roi tystiolaeth ac eraill wedi gwneud hynny drwy gyswllt fideo. Roedd rhai wedi rhoi eu tystiolaeth yn Gymraeg a rhai yn Saesneg. Roedd Mr Gomer o’r cwnsler yn cynrychioli Gareth Hughes ac roedd Mr Troup o’r cwnsler yn cynrychioli Gwen Hughes a Stephen Hughes. Fe alwodd ar Gail Pritchard i roi tystiolaeth ar eu rhan ond, fel arall, er mai hi oedd y diffynnydd cyntaf, ni chafodd ei chynrychioli yn y gwrandawiad a dywedodd nad oedd ganddi unrhyw gwestiynau ac nad oedd yn dymuno gwneud cyflwyniadau.
Cefndir
3. Er gwaethaf y nifer fawr o dystion, mae’r cefndir yn annadleuol i raddau helaeth. Bu Evan Hughes yn byw ar Ynys Môn drwy gydol ei fywyd. Cafodd ef a mam ei dri o blant ysgariad ym 1984. Daeth ei ail briodas hefyd i ben mewn ysgariad yn 2003. Yn ystod blynyddoedd olaf ei fywyd, roedd mewn perthynas bersonol â Florence Jones.
4. Etifeddodd dir fferm gan ei deulu, a phan fu iddo farw roedd yn berchen ar asedau sylweddol gan gynnwys byngalo o’r enw Arfryn lle’r oedd yn byw, 79 erw o dir fferm o’r enw Bwchanan, 58 erw arall o dir fferm tua 3 milltir i ffwrdd o’r enw Yr Efail, a bwthyn o’r enw Derwyddfa a oedd yn cael ei osod ar rent.
5. Ddiwedd y 1980au, rhoddodd blotiau o dir i’w fab Gareth a’i ferch Gail lle gwnaethon nhw adeiladu eu cartrefi, a rhoddodd dŷ fferm Bwchanan i’w fab Elfed a’i wraig, gan gynnwys 17 erw o dir fferm. Cafodd y tŷ a adeiladodd Gareth Hughes ar ei blot ei drosglwyddo i’w gyn-wraig fel rhan o setliad eu hysgariad yn 2008. Yn fuan wedyn, rhoddodd ei dad dŷ arall iddo sydd bellach yn cael ei osod ar rent.
6. Yn ogystal â bod yn berchen ar dir fferm, roedd Evan Hughes hefyd yn gyfranddaliwr cyfartal gyda’i gefnder, Ian Hughes, mewn cwmni adeiladu o’r enw J. Parry & Hughes Ltd (y cwmni) a gafodd ei sefydlu gan eu taid dros 100 mlynedd yn ôl. Adeiladu tai oedd busnes y cwmni yn bennaf. Roedd Evan Hughes yn goruchwylio gwaith ar y safle, ac roedd ei dri o blant i gyd yn gweithio i’r cwmni. Roedd ei gefnder a’i ferch yn gweithio yn y swyddfa, a’i feibion yn gweithio ar y safle. Ymddeolodd Ian Hughes ym 1984, a bu iddo werthu hanner ei gyfranddaliad a rhoi’r hanner arall i’r tri phlentyn mewn rhannau cyfartal. Ray, gŵr Carys Pritchard, oedd yn gyfrifol am y gwaith swyddfa ar ôl hynny.
7. Yn ogystal â gweithio i’r cwmni, roedd Elfed Hughes hefyd yn ffermio tir fferm ei dad ac yn gofalu am ei ddiadell o ddefaid a’i fuches o wartheg, ynghyd â’i rai ei hun. Roedd yn gweithio oriau hir iawn. Yn y gaeaf, roedd yn canolbwyntio ar ffermio, yn enwedig yn ystod y cyfnod wyna. Yn ystod gweddill y flwyddyn, roedd yn gweithio ar y fferm yn gynnar yn y bore, gyda’r nos ac ar benwythnosau, ac yn gweithio i’r cwmni yn ystod yr wythnos. Roedd yn cyflogi staff i weithio ar y fferm, a maes o law roedd ei dri mab, Stephen, Geraint a Sion, yn helpu hefyd. Prynodd ei dir fferm ei hun wrth ymyl tir ei dad ac roedd yn ffermio’r ddau fel un uned, ond roedd y cyfrifon yn cael eu cadw ar wahân. Yn 1993, roeddent yn rhentu fferm ar y cyd o’r enw Rhosbeirio a oedd yn cynnwys tua 300 erw o dir fferm.
8. Am flynyddoedd lawer, roedd Evan Hughes wedi rhoi gwybod i’w blant ac i eraill am ei fwriadau ynghylch beth fyddai’n digwydd i’w ystâd ar ôl ei farwolaeth, sef y byddai ei gyfranddaliadau yn y cwmni yn cael eu gadael yn gyfartal i’w fab Gareth a’i ferch Carys, a byddai’r tir fferm yn cael ei adael i’w fab Elfed. Gweithredodd ei ewyllys gyntaf ar 18 Rhagfyr 1990, a oedd yn rhoi’r bwriadau hyn ar waith. Cafodd ei ail wraig hawl i fyw am oes yn y byngalo yn Arfryn, gyda’r gweddill i’w dri o blant, a oedd hefyd yn rhannu’r ystâd weddilliol yn gyfartal.
9. Ar ôl ei ail ysgariad, gweithredodd ewyllys newydd ar 7 Awst 2005 a oedd yn ailadrodd darpariaethau ewyllys 1990 ynghylch cyfranddaliadau’r cwmni, y tir ffermio a’r ystâd weddilliol. Gadawyd y byngalo yn Arfryn ynghyd â’r tir gardd a’i eitemau personol i’w ferch, Carys. Rhoddwyd yr holl eiddo rhydd-ddaliad a lesddaliad arall i’w fab Elfed. Rhoddwyd rhodd ariannol o £2,000 i bob un o’i wyth o wyrion/wyresau.
10. Erbyn hynny, roedd Gareth Hughes wedi ymgymryd â’r gwaith o oruchwylio’r safleoedd adeiladu ar ôl i’w dad ymddeol o’r cwmni yn 2003. Parhaodd y cwmni i fasnachu’n llwyddiannus am rai blynyddoedd. Fodd bynnag, erbyn 2014, roedd y busnes yn dechrau lleihau ac roedd y cwmni’n gwerthu eiddo er mwyn talu dyledion. Rhoddodd pob un o’i dri phlentyn gyfalaf yn y cwmni, ac yn 2016 rhoddodd Evan fenthyciad cyfarwyddwr o ychydig llai na £108,000 i’r cwmni. Erbyn hynny, roedd y cwmni’n gwneud colled sylweddol ac roedd y gwaith wedi dod i ben.
11. Daeth tri o feibion Elfed Hughes o hyd i waith i ffwrdd o’r fferm. Fodd bynnag, roedd yn awyddus i’w fab Geraint ddychwelyd i’r fferm i weithio, a thros gyfnod o bum mlynedd, gan gynnwys pan oedd Geraint yn y brifysgol, ceisiodd ei berswadio i wneud hynny. Yn y diwedd, fe lwyddodd, ac yn 2012 rhoddodd Geraint Hughes y gorau i’w swydd gyda’r awdurdod lleol ac aeth i weithio gyda’i dad ar y fferm am lai na hanner y cyflog yr oedd wedi arfer ei gael. Mewn rhan arbennig o fyw o dystiolaeth lafar Geraint, dywedodd ei fod wedi gofyn i’w dad dro ar ôl tro am godiad cyflog ar ôl hynny, ond aeth ei dad yn flin a dweud wrtho am beidio â gofyn, gan mai ef fyddai’n berchen ar bopeth un diwrnod (yn dilyn rheg, dywedodd “job gyd i ti un diwrnod”), felly rhoddodd y gorau i ofyn.
12. Yn 2014, pan oedd Evan Hughes yn ei 70au hwyr, dechreuodd ei deulu sylwi ei fod yn dechrau anghofio pethau a bod ei ymddygiad wedi newid. Roedd hyn yn mynd y tu hwnt i bethau fel colli allweddi, anghofio cau giatiau ar y fferm, drysu ynghylch pa amser o’r dydd oedd hi, a gyrru’n afreolaidd, sydd yn bethau yr oedd llawer o’r tystion wedi sôn amdanynt. Mae dau neu dri digwyddiad yn y cyfnod hwn sydd, yn fy marn i, yn arwyddocaol.
13. Digwyddodd y cyntaf yn 2014 pan gyfarfu â’i gefnder Ian a’i wraig allan yn siopa. Rhoddodd y ddau dystiolaeth yn dweud ei fod yn edrych yn syn ac nad oedd wedi adnabod ei gefnder i ddechrau, ac er nad oeddent yn cwrdd yn aml erbyn hynny, roedd ef ac Ian Hughes wedi bod yn bartneriaid busnes am dros 12 mlynedd.
14. Digwyddodd yr ail ym mis Mai 2015 pan aeth i Bwchanan, lle’r oedd ei ŵyr Geraint yn byw ar y pryd. Cyn hynny, nid oedd gair croes wedi bod rhwng y ddau. Dechreuodd ei daid weiddi arno am gadw defaid a gwartheg yn yr un cae, er bod hyn wedi bod yn arfer ers blynyddoedd lawer. Roedd yn gandryll, a gadawodd ei ŵyr yn llonydd gan syndod a bron â chrïo.
15. Yn ystod diwedd y cyfnod wyna ym mis Mawrth 2016, roedd Geraint Hughes ym Mwchanan gyda’i daid yn edrych ar ŵyn ifanc a oedd newydd gael eu rhoi ar gae o’r enw Waen. Cyfeiriodd ei daid at yr ŵyn fel heffrod, ac at y cae fel Yr Efail, sef yr enw ar ei dir tua dwy neu dair milltir i ffwrdd.
16. Cytunodd ei dri o blant y byddai’n ddoeth i’w tad weithredu atwrneiaeth arhosol ac fe gytunodd y tri i rannu’r gost yn gyfartal. Ar 4 Mawrth 2015, rhoddodd y pŵer hwn i’w ferch, Carys. Dywedodd Carys mai ei brawd, Gareth, a awgrymodd hynny iddi, ac rwyf yn derbyn hynny.
17. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, aeth Elfed Hughes i deimlo’n isel ei ysbryd, ac ar 18 Medi 2015 bu iddo ladd ei hun. Wrth gwrs, cafodd hyn effaith ddinistriol ar ei deulu agosaf a’i deulu ehangach, gan gynnwys ei dad. Cafodd ei dad ei anfon i’r ysbyty am ddau ddiwrnod ym mis Rhagfyr 2015 am fod ganddo waedu gastroberfeddol. Roedd yn ddryslyd ac felly fe wnaeth ei feddyg teulu, Dr Harri Pritchard, ei gyfeirio at seiciatrydd.
18. Yn ddiweddarach yn y mis hwnnw, cafodd ei asesu gan Dr Gutting, a oedd yn seiciatrydd ymgynghorol. Sgoriodd 47/100 mewn prawf Addenbrooke, a oedd yn dangos gradd gymharol ddifrifol o nam. Cynhaliwyd sgan CT ar 27 Ebrill 2016 a oedd yn dangos tystiolaeth o hen strôc a difrod i bibellau gwaed bach yr ymennydd.
Y gwaith o wneud ewyllys 2016
19. Fodd bynnag, roedd yn ddigon sylwgar i sylweddoli y gallai fod yn ddoeth newid ei ewyllys ar ôl marwolaeth ei fab. Ar 11 Mawrth, aeth i apwyntiad gyda Manon Roberts, sef cyfreithiwr yn T. R. Evans Hughes a’i Gwmni. Fe wnaeth ei fab, Gareth, ei yrru i’r swyddfa, ac roedd hefyd yn bresennol yn y cyfarfod. Nid oedd Manon Roberts wedi cwrdd ag ef o’r blaen, ac nid oedd ganddi gopi o ewyllys 2005. Mae hi’n defnyddio’r gair “pell” i’w ddisgrifio yn ystod y cyfarfod.
20. Rhoddwyd cyfarwyddiadau ar gyfer ewyllys newydd. Erbyn hyn, ni all gofio pwy a siaradodd ynglŷn â’r cyfarwyddiadau hyn. Dyma’r prif newidiadau a gynigiwyd i ddarpariaethau ewyllys 2005: Gadael yr Efail i Gareth Hughes, a dal gweddill y tir fferm mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Gwen Hughes am oes neu ar ôl iddi roi’r gorau i ffermio, ac yna i’w thri mab yn gyfartal. Gadael yr eiddo o’r enw Derwyddfa i’w ferch, Carys, ac yn lle rhoi rhodd o £2,000 i bob un o’i wyrion/wyresau, roeddent i etifeddu’r ystâd weddilliol mewn rhannau cyfartal.
21. Ar ôl y cyfarfod cychwynnol hwn, siaradodd Manon Roberts ag uwch gydweithwyr am yr ewyllys newydd arfaethedig. Dywedasant wrthi fod cael asesiad galluedd yn hanfodol cyn gweithredu ewyllys newydd.
22. Bu cyfarfodydd pellach rhwng Evan a Gareth Hughes a Manon Roberts ynghylch yr ewyllys newydd arfaethedig ar 30 Mawrth. Cafodd nodyn presenoldeb manwl ei wneud ar gyfer bob un. Roedd y cyfarwyddiadau’n gyson drwy gydol y broses.
23. Tua’r adeg yma, dywedodd Evan wrth ei gefnder Ian Hughes nad oedd yn siŵr beth oedd hyd a lled y tir yr oedd yn berchen arno, a gofynnodd iddo am gael cynllun yn dangos y tir hwnnw. Rhoddodd Ian Hughes gynllun iddo o gwmpas mis Ebrill 2016.
24. Trwy lythyr gan y cyfreithwyr wedi’i ddyddio 25 Mai 2016, gofynnwyd i Dr Pritchard ddarparu asesiad o’r fath. Roedd copi o ewyllys 2005, yr oedd Manon Roberts wedi cael copi ohono erbyn hynny, a drafft o ewyllys 2016 wedi’u hamgáu. Aeth Dr Pritchard i weld Evan Hughes yn ei gartref ar 14 Mehefin 2016, gan fynd â drafft o ewyllys 2016 gydag ef. Roedd Florence Jones hefyd yn bresennol yn y cyfarfod. Nododd Dr Pritchard fod Evan Hughes yn ymwybodol o bwrpas y cyfarfod a’i fod yn ddigynnwrf, yn llawn gogwydd ac nad oedd yn ymddangos ei fod wedi drysu. Gofynnodd Dr Pritchard iddo amlinellu beth oedd yn yr ewyllys ddrafft, a gwnaeth hynny gydag ychydig iawn o anogaeth. Drwy lythyr ar yr un dyddiad at y cyfreithwyr, cadarnhaodd Dr Pritchard nad oedd ganddo unrhyw broblemau gyda galluedd Evan Hughes i newid ei ewyllys ac y byddai’n fodlon gweithredu fel tyst.
25. Ar 8 Mehefin 2016, cynhaliwyd cwest i farwolaeth Elfed Hughes. Nid oedd ei dad yn bresennol, ond fe aeth Carys Pritchard ato y diwrnod canlynol er mwyn rhoi gwybod iddo am ddigwyddiadau. Dywedodd Carys nad oedd ei thad fel pe bai’n gwybod beth oedd yn digwydd ar yr ymweliad hwnnw, a’i fod wedi cynhyrfu. Dywedodd wrthi ei fod wedi gweld ei ddiweddar fab wrth y ffenestr.
26. Yn fuan wedyn, aeth Carys dramor am rai wythnosau. Yn ystod y cyfnod hwnnw, nid oedd hi wedi cyflawni ei dyletswyddau glanhau, golchi a choginio arferol i’w thad nac wedi delio â’i waith papur. Gareth Hughes oedd yn gyfrifol am y gwaith papur yn ystod y cyfnod hwnnw.
27. Ar 7 Gorffennaf 2016, aeth Dr Pritchard i gyfarfod â’r cyfreithwyr lle darllenodd Manon Roberts yr ewyllys ddrafft i Evan Hughes, ac ar ôl pob cymal cadarnhaodd ei fod yn cytuno. Roedd cynllun ei dir a ddarparwyd gan Ian Hughes ynghlwm wrth yr ewyllys ddrafft. Gyrrodd Gareth Hughes ei dad i’r swyddfa ond arhosodd y tu allan i’r ystafell yn ystod y rhan hon o’r cyfarfod. Yna llofnodwyd ewyllys 2016 a chafodd ei thystio gan Dr Pritchard a Manon Roberts. Yna gadawodd Dr Pritchard, a daeth Gareth Hughes i mewn. Yna llofnododd ei dad ffurflenni a oedd yn rhoi atwrneiaeth arhosol iddo, a diddymu’r atwrneiaeth arhosol a roddwyd i Carys Pritchard yn flaenorol.
Digwyddiadau ar ôl gwneud yr ewyllys
28. Ar 19 Gorffennaf 2016, cyfeiriodd Dr Pritchard Evan Hughes at Twm Jones, sef nyrs seiciatrig gymunedol, gan ddweud bod ganddo “ddementia cymysg sy’n dirywio’n eithaf cyflym”. Mae ei nodyn presenoldeb hefyd yn cofnodi bod ei fab Gareth wedi egluro nad yw ei dad weithiau’n gallu gweld dim mwy na’r hyn sy’n syth o’i flaen. Pan gafodd Gareth Hughes ei groesholi am hyn, dywedodd yn Saesneg ei mai’r hyn yr oedd yn ei olygu oedd bod ei dad yn “blinkered”. Ailadroddodd Twm Jones archwiliad Addenbrooke ar 10 Tachwedd 2016, eto yn Gymraeg, a’r sgôr oedd 41/100.
29. Rhwng mis Awst a mis Hydref 2016, roedd Gareth Hughes, ei wraig a’i dad wedi cael cyfarfodydd â Rhys Cwyfan Hughes, sef cyfreithiwr arall o gwmni a oedd wedi uno â chwmni Manon Roberts ym mis Mai 2016. Roedd yn ymwybodol o ychydig o’r cefndir meddygol ac o asesiad Dr Pritchard ond nid o’r asesiadau eraill. Dywedodd fod Evan Hughes wedi rhoi cyfarwyddiadau i drosglwyddo cyfranddaliadau yn y cwmni i’w fab Gareth, ac mae’n ei ddisgrifio fel personoliaeth rymus. Nododd ar ôl cyfarfod o’r fath ar 12 Medi fod mater wedi codi ynghylch galluedd Evan Hughes, ond bod ei gyfarwyddiadau’n glir a’i fod yn cymryd rhan weithredol yn y drafodaeth. Roedd ymddygiad ei ferch, Carys, wrth lenwi siec wag rai misoedd ynghynt a roddodd ef iddi am gostau llawdriniaeth ar y glun, wedi ei ypsetio. Rhoddwyd cyfarwyddiadau i anfon llythyr ati yn dweud na ddylai hi ymweld ag ef mwyach. Nododd Rhys Cwyfan Hughes fod Evan Hughes wedi dweud sawl gwaith mai ef oedd y bos, ond nid oedd yn cofio ai’r tad neu’r mab oedd yn rhoi cyfarwyddiadau ar gyfer anfon y llythyr.
30. Roedd hefyd yn bresennol mewn cyfarfod cwmni ym mis Hydref 2016 lle'r oedd Evan, a Gareth a Stephen Hughes a Carys Pritchard yn bresennol pan ofynnodd Evan i’w ferch pam nad oedd hi’n ymweld ag ef. Cyfeiriodd hi at y llythyr. Dywedodd ei thad wrthi nad oedd yn gwybod dim am y llythyr, er iddo gael copi ohono. Dywedodd hi wrth gael ei chroesholi ei bod yn ymddangos bod ei thad wedi’i ddrysu. Wrth groesholi Stephen Hughes, dywedodd ei bod hi’n ymddangos bod ei daid wedi anghofio am y llythyr.
31. Derbyniodd Rhys Cwyfan Hughes wrth gael ei groesholi ei fod wedi nodi yn y cyfarfodydd y dylid llofnodi unrhyw ffurflen trosglwyddo stoc ym mhresenoldeb dau bartner yn y cwmni ac ar ôl i Dr Pritchard gynnal asesiad pellach. Mae’n derbyn ei fod wedi gofyn i Gareth Hughes am asesiad o’r fath, ond dywedodd Gareth yn ystod y croesholi mai’r cyfreithiwr a oedd i wneud hyn.
32. Ym mis Ionawr 2017, llofnododd Evan Hughes ffurflen trosglwyddo stoc er mwyn trosglwyddo 25 o’i gyfranddaliadau yn y cwmni i’w fab Gareth, heb gyflawni’r mesurau diogelwch a awgrymwyd gan Rhys Cwyfan Hughes. Wrth gael ei groesholi, dywedodd Gareth fod ei dad wedi bod yn swnian arno am y peth, ac felly sicrhaodd eu bod yn cael eu llofnodi ac aeth â nhw at y cyfreithiwr.
33. Yn dilyn hynny, dywedodd Dr Pritchard wrth Gareth Hughes ei fod yn amau galluedd ei dad i ddeall y manylion hyn. Ysgrifennodd Carys Pritchard at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn mynegi pryderon a oedd ganddi fod ei brawd yn manteisio ar eu tad, ac ysgrifennodd ei chyfreithwyr at gyfreithwyr ei brawd yn gwrthwynebu’r trosglwyddo oherwydd diffyg galluedd ei thad. Ar 28 Chwefror 2017 gwnaeth Twm Jones gyfeiriad POVA (Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed) i’r gwasanaethau cymdeithasol.
34. Fodd bynnag, cafodd y cyfeirio hwnnw ac ymchwiliadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus eu disodli gan farwolaeth Evan Hughes ar 7 Mai 2017, yn 84 oed, o ganlyniad i gymhlethdodau yn gysylltiedig â dementia.
35. Af ymlaen yn awr i ystyried pob gwrth-hawliad a godwyd gan Gwen a Stephen Hughes yn eu tro. Nid oedd unrhyw anghydfod o’m blaen ynghylch yr egwyddorion cyfreithiol perthnasol, y gallaf felly ddelio â hwy’n eithaf buan. Fodd bynnag, mae’r partïon yn wahanol i’w gilydd o ran cymhwyso’r egwyddorion i’r ffeithiau. Byddaf hefyd yn delio o dan bob pennawd â materion ffeithiol y mae angen eu datrys er mwyn dod i benderfyniad.
Galluedd ewyllysiol
36. Y pennawd cyntaf yw a oedd gan Evan Hughes ddigon o allu ewyllysiol i weithredu ewyllys ddilys wrth weithredu ewyllys 2016. Y prawf clasurol o allu o’r fath o hyd yw’r hyn a nodir yn Banks v. Goodfellow (1869-70) LR 5 QB 549. Dywedodd Cockburn CJ ar dudalen 549:
“It is essential …that a testator shall understand the nature of t and its effects; shall understand the extent of the property of which he is disposing; shall be able to comprehend and appreciate the claims to which he ought to give effect; and, with a view to the latter object, that no disorder of the mind shall poison his affections, pervert his sense of right, or prevent the exercise of his natural faculties, that no insane delusion shall influence his will in disposing of his property and bring about a disposal of it which, if the mind had been sound, would not have been made.”
37. Sefydlwyd bod y prawf hwnnw’n goroesi Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (gweler Clitheroe v. Bond [2021] EWHC 1102 (Ch)). Y rheol aur yw, lle mae amheuaeth ynghylch galluedd ewyllysiol, dylai arbenigwr meddygol asesu hynny.
38. Ystyriwyd statws asesiad o’r fath gan y Llys Apêl yn Sharp v. Adam [2006] EWCA Civ 449. Dywedodd May LJ ym mharagraff 27:
“… [Counsel] on behalf of the Appellants, came quite close to submitting that such meticulous compliance with the golden rule should in principle be determinative. In our view, this would go too far. The opinion of a general practitioner, unimpeachable in itself and supported by that of one or more solicitors, may nevertheless very occasionally be shown by other evidence to be wrong. The golden rule is a rule of solicitors' good practice, not a rule of law giving conclusive status to evidence obtained in compliance with the rule.”
39. Ymdriniwyd â’r pwynt hwn hefyd gan Briggs J, fel yr oedd bryd hynny, yn Key v. Key [2010] EWHC 408 (Ch), ym mharagraff 8:
“Compliance with the golden rule does not, of course, operate as a touchstone of the validity of a will, nor does non-compliance demonstrate its invalidity. Its purpose, as has repeatedly been emphasised, is to assist in the avoidance of disputes, or at least in the minimisation of their scope. As the expert evidence in the present case confirms, persons with failing or impaired mental faculties may, for perfectly understandable reasons, seek to conceal what they regard as their embarrassing shortcomings from persons with whom they deal, so that a friend or professional person such as a solicitor may fail to detect defects in mental capacity which would be or become apparent to a trained and experienced medical examiner, to whom a proper description of the legal test for testamentary capacity had first been provided.”
40. Dywedodd hyn ym mharagraffau 95 a 96:
“Without in any way detracting from the continuing authority of Banks v Goodfellow, it must be recognised that psychiatric medicine has come a long way since 1870 in recognising an ever widening range of circumstances now regarded as sufficient at least to give rise to a risk of mental disorder, sufficient to deprive a patient of the power of rational decision making, quite distinctly from old age and infirmity. The mental shock of witnessing an injury to a loved one is an example recognised by the law, and the affective disorder which may be caused by bereavement is an example recognised by psychiatrists, as both Dr Hughes and Professor Jacoby acknowledged. The latter described the symptomatic effect of bereavement as capable of being almost identical to that associated with severe depression. Accordingly, although neither I nor counsel has found any reported case dealing with the effect of bereavement on testamentary capacity, the Banks v Goodfellow test must be applied so as to accommodate this, among other factors capable of impairing testamentary capacity, in a way in which, perhaps, the court would have found difficult to recognise in the 19th century.
Banks v Goodfellow was itself mainly a case about alleged insane delusions. Many of the cases which have followed it are about cognitive impairment brought on by old age and dementia. The test which has emerged is primarily about the mental capacity to understand or comprehend. The evidence of the experts in the present case shows, as I shall later describe, that affective disorder such as depression, including that caused by bereavement, is more likely to affect powers of decision-making than comprehension. A person in that condition may have the capacity to understand what his property is, and even who his relatives and dependants are, without having the mental energy to make any decisions of his own about whom to benefit.”
41. Ym mharagraff 97 rhoddodd Briggs J grynodeb o faich profi mewn achosion o’r fath. Y baich o brofi galluedd o’r fath wrth i’r person gyflwyno ewyllys. Pan fydd yr ewyllys yn cael ei gweithredu’n briodol ac yn ymddangos yn rhesymol ar y wyneb, yna bydd y llys yn rhagdybio bod galluedd, ac os felly, cyfrifoldeb y gwrthwynebydd yw’r baich o ran tystiolaeth i godi amheuaeth wirioneddol ynghylch galluedd. Os codir amheuaeth gwirioneddol, mae’r baich o ran tystiolaeth yn cael ei roi yn ôl ar y sawl sy’n cyflwyno’r ewyllys i sefydlu galluedd.
42. Aeth y barnwr yn ei flaen ym mharagraff 98:
43. Cyfeiriodd Briggs J ym mharagraff 101 at Erskine J yn Harwood v Baker (1840) 3 Moo PC 282, 290 fel a ganlyn:
“…the protection of the law is in no cases more needed, than it is in those where the mind has been too much enfeebled to comprehend more objects than one, and most especially where that one object may be so forced upon the attention of the invalid, as to shut out all others that might require consideration.”
44. Yn Ashkettle v. Gininet [2013] EWHC 2125 (Ch) dywedodd Mr Christopher Pymont CF, yn eistedd fel barnwr yn yr Uchel Lys, ym mharagraff 43:
“Any view the solicitor may have formed as to the testator's capacity must be shown to be based on a proper assessment and accurate information or it is worthless.”
45. Hefyd, rhaid ystyried galluedd mewn perthynas â’r trafodiad penodol a’i natur a’i gymhlethdod (gweler Hoff v Atherton [2004] EWCA Civ 1554 ym mharagraff 35 a Perrins v. Holland [2009] EWHC 1945 (Ch) ym mharagraff 40).
46. Hefyd, mae’n rhaid ystyried unrhyw addewidion a wnaeth Evan Hughes mewn perthynas ag Yr Efail. Dywedodd Ei Anrhydedd y Barnwr Mathews, yn eistedd fel barnwr yn yr Uchel Lys yn James v. James [2018] EWHC 43 (Ch) ym mharagraff 117:
“Of course, if it had been shown that the testator promised to give particular land to [the claimant] then, whether or not [the claimant] relied to his detriment on that promise, that would be a matter to be taken into account in assessing how far the testator had capacity to appreciate the claims on his inheritance.”
47. Yn Simon v Beford [2014] EWCA Civ 280, nododd Lewison LJ a oedd yn rhoi’r prif ddyfarniad yn y Llys Apêl nad yw galluedd yn golygu bod angen i ewyllysiwr gofio telerau ewyllys flaenorol, na’r rhesymau pam ei fod yn darparu fel y gwnaeth, cyn belled â bod yr ewyllysiwr yn gallu cael gafael ar y wybodaeth, os oes angen, ac yn ei deall ar ôl cael ei atgoffa ohoni. Yn yr un modd, nododd Ei Anrhydedd y Barnwr Mathews yn Todd v Parsons [2019] EWHC 3366 (Ch) ym mharagraff 147 (obiter) nad yw’r ffaith bod ewyllysiwr o bosib wedi anghofio gwneud addewid i fuddiolwr ynghylch yr hyn y gallai ewyllys ei chynnwys yn derfynol ar fater o allu.
Y dystiolaeth feddygol
48. Yn yr achos presennol, roedd y partïon wedi cyd-gyfarwyddo seiciatrydd ymgynghorol, Dr Hugh Series, i roi ei farn ynglŷn â galluedd ewyllysiol Evan Hughes adeg gweithredu ewyllys 2016. Lluniodd adroddiad wedi’i ddyddio 6 Mawrth 2021 sy’n nodi’r dogfennau yr oedd yn seiliedig arnynt. Roedd y rhain yn cynnwys y plediadau a rhai gorchmynion yn yr achos presennol, cofnodion meddygol Evan Hughes, copïau o’i dair ewyllys, cyfrifon ystâd interim a datganiadau tyst Dr Pritchard a Manon Roberts. Ni chyflwynwyd unrhyw ddatganiadau tystion eraill iddo.
49. Yn ei adroddiad, cyfeiriodd Dr Series at yr asesiad a wnaed ym mis Mawrth 2016. Ym mharagraff 7.2.2, dywedodd fod sgôr Evan Hughes yn dangos lefel gymharol ddifrifol o nam gwybyddol, er gwaethaf ei ddiffyg mewnwelediad i’r nam. Roedd ganddo ddiffygion gwybyddol penodol ym meysydd sylw, cof a rhwyddineb. Dangosodd y sgan CT dystiolaeth o hen strôc ynghyd â difrod helaeth i’r pibellau gwaed bach i’r ymennydd. Roedd y ddau, yn ôl Dr Series ym mharagraff 7.2.5, yn awgrymu bod ganddo ddementia fasgwlaidd.
50. Ym mharagraff 8.2.1, eglurodd Dr Series y gydberthynas rhwng nam o’r fath a galluedd ewyllysiol:
“The is a relatively poor correlation between cognitive impairment and testamentary capacity. However, in my experience, where the degree of impairment is mild, many people will retain testamentary capacity. Where the degree of impairment is severe, most people will lack testamentary capacity. Where the degree of impairment is moderate, as here, testamentary capacity may or may not be retained, and it is necessary to examine the evidence in such cases particularly carefully.”
51. Ym mharagraff 8.1.5 yr adroddiad, aeth Dr Series i’r afael â dealltwriaeth Evan Hughes o unrhyw honiad moesol o ystâd ei fab Elfed i Yr Efail. Dywedodd:
“In my opinion I think it is more likely than not that [Evan Hughes] would have been able to recall and appreciate that Elfed had farmed the land, although I am doubtful that he would have had a clear recollection of what he might or might not have promised Elfed in the past about it.”
52. Ym mharagraff 8.2.3, nododd Dr Series ei bod yn ymddangos bod dirywiad cymharol gyflym wedi bod yng nghyflwr Evan Hughes yn y flwyddyn yn dilyn gweithredu ewyllys 2016. Yn ei gasgliadau ym mharagraff 9, dywedodd fod presenoldeb nam gwybyddol eithaf difrifol yn codi amheuaeth ynghylch galluedd ewyllysiol, ond nad yw, ynddo’i hun, yn penderfynu ar y mater y naill ffordd neu’r llall. Dyma’r frawddeg olaf yn ei adroddiad:
“In the present case, in my opinion the combined evidence of the solicitor in her attendance notes and the doctor in his records and letter suggests to me that it is more likely than not that [Evan Hughes] had testamentary capacity when he gave instructions for and then executed his 2016 will.”
53. O ran y pwynt olaf yn ei dystiolaeth ysgrifenedig a’i dystiolaeth lafar, roedd Dr Pritchard ei hun yn ansicr ynghylch yr asesiad a wnaeth ar Evan Hughes ar gais Manon Roberts. Y rheswm y gwnaeth hynny oedd am ei fod, wrth gynnal ei asesiad, yn credu mai mân newidiadau’n unig a oedd yr ewyllys newydd arfaethedig yn eu gwneud i ewyllys 2005, er mwyn enwi meibion Elfed Hughes fel buddiolwyr y rhodd o dir a roddwyd iddo’n flaenorol. Roedd hyn er gwaetha’r ffaith iddo gael copïau o ewyllys 2005 a drafft o ewyllys 2016.
54. Dywed Dr Pritchard iddo weld Evan Hughes yn y feddygfa ar 19 Mai 2016 am fod ganddo haint ar y frest. Gwnaeth y cofnod canlynol yn y cofnodion:
“Senile dementia (First). Appears better. Very logical. Needs to change will after Elfed’s death - wants to give share to Gwen and the boys - nothing complex. Has full capacity and understands what he needs to do.”
55. Dywedodd hefyd fod Gareth Hughes wedi bod yn y feddygfa ar 25 Mai 2016 i egluro y byddai cyfreithiwr yn ysgrifennu i asesu galluedd ei dad i newid ei ewyllys, a dywedodd wrtho mai pwrpas y newid oedd gadael y tir i feibion Elfed Hughes yn hytrach nag i’w tad. Wrth gael ei groesholi, roedd Dr Pritchard yn derbyn nad oedd ganddo atgof llawn o’r cyfarfod hwnnw ac nad oedd wedi gwneud unrhyw gofnod ohono, ond dywedodd fod Gareth Hughes wedi dweud wrtho fod y newidiadau arfaethedig yn “fân”.
56. Pan gafodd Gareth Hughes ei groesholi am hyn, roedd yn derbyn ei fod wedi bod yn y feddygfa tua’r adeg honno, am resymau’n ymwneud â’i broblemau iechyd ei hun, ac roedd yn derbyn fod y mater o’i dad yn newid ei ewyllys wedi codi. Dywedodd ei fod yn credu iddo ddweud wrth Dr Pritchard ei fod yn cynnig bod hanner tir ei dad yn cael ei adael iddo. Dywedodd ei fod wedi mynd drwy’r ewyllys arfaethedig “rhywfaint” ond nad oedd yn cofio’r manylion. Ychwanegodd na fyddai’n cam-gyfleu’r ewyllys arfaethedig i’r meddyg yn fwriadol.
57. Yn fy marn i, mae’n debyg mai atgof Dr Pritchard o’i gyfarfod gyda Gareth Hughes yw’r un mwyaf dibynadwy. Er nad oes unrhyw nodyn o’r cyfarfod hwnnw, pe bai Gareth Hughes wedi dweud bod y newidiadau arfaethedig yn cynnwys gadael rhan sylweddol o dir y fferm iddo, dim ond wythnos ar ôl i Dr Pritchard nodi bod Evan Hughes wedi dweud wrtho mai’r cyfan yr oedd ef am ei wneud oedd newid yr ewyllys yn dilyn marwolaeth ei fab er mwyn darparu ar gyfer gweddw a meibion ei fab, yna mae’n debygol y byddai clychau larwm wedi canu ym mhen Dr Pritchard.
58. Nododd Dr Pritchard ei hun ym mharagraff 12 ei ddatganiad tyst:
“As far as I recall, when I checked the Wills provided by Mr Hughes’ solicitor in May 2016, there was no major change except the substitution of Mr Elfed Hughes with Mrs Gwen Hughes and Sons, and it was a surprise to me when I later found out, in or around June 2017, that other changes had been made.”
59. Ymhelaethodd ar hyn yn ei dystiolaeth lafar drwy ddweud ei fod yn bryderus fod y newidiadau’n llawer mwy cymhleth nag yr oedd ef wedi’i feddwl i ddechrau. O ganlyniad, ni ofynnodd i Evan Hughes pam yr oedd yn cynnig gadael 58 erw i’w fab Gareth yn hytrach nag i’w ferch-yng-nghyfraith Gwen Hughes a/neu ei meibion. Pe bai’n gwybod am y cynnig hwn, byddai wedi gofyn y cwestiwn hwn. Ar ben hynny, gan mai ef oedd meddyg teulu sawl aelod o’r teulu, pe byddai’n ymwybodol o’r newid hwn, mae’n debygol na fyddai wedi cynnal yr asesiad o gwbl ac wedi’i drosglwyddo i arbenigwr meddygol annibynnol. Roedd yn fater o ddyfalu a fyddai canlyniad asesiad llawn wedi gwneud unrhyw wahaniaeth ai peidio.
60. Yn fy marn i mae’r dystiolaeth hon, yr wyf yn ei derbyn, yn effeithio’n sylweddol ar y pwys y dylid ei roi ar asesiad Dr Pritchard ac yn ei dro ar gasgliad Dr Series, sy’n seiliedig yn rhannol ar yr asesiad hwnnw. O ran ffeithiau’r achos hwn, nid yw’n golygu na ddylid rhoi unrhyw bwys ar dystiolaeth Dr Pritchard. Mae ei gofnod o’r asesiad ei hun, yn fy marn i, yn dangos bod gan Evan Hughes allu ewyllysiol bryd hynny. Yn ogystal, dywedodd Dr Pritchard yn ei dystiolaeth lafar, ar ddiwrnod gweithredu ewyllys 2016 pan ddangoswyd y map sydd ynghlwm wrth yr ewyllys ddrafft i Evan Hughes, ei fod yn dweud yn ddi-oed y byddai Yr Efail yn cael ei roi i’w fab Gareth, ond ni ddywedodd fod hyn yn newid.
61. Mae hynny hefyd yn effeithio ar dystiolaeth Manon Roberts, gan ei bod yn derbyn ei bod wedi dibynnu ar dystiolaeth Dr Pritchard. Er hynny, wrth gael ei chroesholi, dywedodd ei bod wedi ystyried prawf Banks v Goodfellow yn ystod ei hymweliadau ag Evan Hughes, tra hefyd yn derbyn nad oes ganddi unrhyw gymwysterau meddygol.
62. Wrth gael ei chroesholi, eglurodd ei bod wedi defnyddio’r gair “pell” yn ei nodyn presenoldeb yn ei chyfarfod cyntaf gydag Evans Hughes ar 11 Mawrth 2021 am ei fod “fel pe bai ganddo ychydig o gwmwl drosto”. Derbyniodd na chafodd wybod am ei gefndir meddygol yn y cyfarfod hwn. Yn y cyfarfod ar 30 Mawrth 2016, dywedodd fod “ei lygaid yn disgleirio”. Mae’n dir cyffredin bod Evan Hughes, ar y pryd hwnnw, yn gwadu ei gyflwr ac nad yw hynny’n nodwedd anghyffredin o’r cyflwr. Yn fy marn i, nid yw’r sylw hwn yn rhoi fawr o syniad i ni o’i allu i roi tystiolaeth.
63. Ni welodd hi ewyllys 2005 tan 13 Ebrill 2016 pan gafodd hi gopi gan gyfreithwyr eraill. Anfonodd gopi ymlaen i gyfeiriad cartref Gareth Hughes. Mae hi’n cadarnhau yn ei datganiad tyst nad oedd hi ar unrhyw adeg wedi trafod ewyllys 2005 gydag Evan Hughes, nac wedi gofyn iddo pam ei fod eisiau newid y ddarpariaeth i roi ei dir i’w fab Elfed i roi 58 erw o’r tir i’w fab Gareth. Dyma oedd y sefyllfa ar y diwrnod gweithredu hefyd. Darllenodd hi’r ewyllys ddrafft ac eglurodd y tir drwy gyfeirio at fapiau. Roedd Evan Hughes wedi nodio a chytuno. Wrth ateb cwestiynau am ei adroddiad, dywedodd Dr Series ei bod yn bosib y gallai nam mesuredig Evan Hughes, a oedd yn rhannol, o ran swyddogaeth gweledol-gofodol fod wedi achosi rhywfaint o anhawster iddo wrth ddehongli mapiau, ond mae’n credu ei bod yn debygol y byddai wedi dibynnu mwy ar ei gof a’i wybodaeth am y tir, yr oedd wedi bod yn gyfarwydd ag ef ers blynyddoedd lawer, yn hytrach nag ar edrych ar y mapiau.
64. Ar ddiwedd nodyn presenoldeb Manon Roberts ar y diwrnod hwnnw, dywedodd nad oedd ganddi “unrhyw broblemau o gwbl” o ran galluedd, ar sail ei allu i “ateb cwestiynau agored heb unrhyw broblemau yn ogystal â’i allu i gynnig gwybodaeth a chael sgwrs gyffredinol”. Yn unol â hynny, yn fy marn i, mae ei thystiolaeth yn arwydd o allu ond mae ganddi ei chyfyngiadau am y rhesymau a nodir uchod.
Tystiolaeth arall o ran galluedd
65. Yn fy marn i, nid yw’n syndod dan yr amgylchiadau hyn bod Dr Series wedi dod i’r casgliad hwnnw ar sail cofnodion a llythyr Dr Pritchard a nodiadau Manon Roberts yn bennaf. Fodd bynnag, fel y nododd, mae angen archwilio’r dystiolaeth yn ofalus iawn. Mae’n arwyddocaol mai dim ond datganiadau tyst Dr Pritchard a Manon Roberts a anfonwyd ato. Ni chafodd y fantais a gefais i o gael gweld a chlywed llawer o dystion a oedd yn adnabod Evan Hughes dros flynyddoedd lawer.
66. Mae Gareth Hughes yn dibynnu ar ei dystiolaeth ei hun, tystiolaeth Rhys Cwyfan Hughes sef cyfreithiwr arall a fu’n delio â’r broses o drosglwyddo cyfranddaliadau yn 2017, tystiolaeth Twm Jones, a thystiolaeth Ken Williams ei gymydog. Mae’n dibynnu ar ddatganiadau Nancy Thomas, sef ei fodryb a chwaer ei dad, a Florence Jones. Mae’r ddwy yn oedrannus a dywedir eu bod yn fregus, er na chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth feddygol. Yn unol â hynny, derbyniwyd eu datganiadau dan Ddeddf Tystiolaeth Sifil 1995. Dywedodd y ddwy fod Evan Hughes yn dymuno rhoi rhywbeth mwy na dim ond cyfranddaliadau yn y cwmni i’w fab Gareth ar ôl marwolaeth ei fab Elfed, oherwydd bod y dirywiad yn sefyllfa ariannol y cwmni wedi eu gwneud yn llai gwerthfawr nag o’r blaen, ac roedd ef yn dymuno ceisio bod yn deg gyda’i ddau blentyn yn ogystal â gyda Gwen Hughes a’i meibion. Mae hyn yn arwydd pellach o allu ewyllysiol, ond gan na phrofwyd y dystiolaeth hon wrth groesholi, dim ond ychydig o bwys y gellir ei roi arni.
67. O ran tystiolaeth Gareth Hughes, derbyniodd er clod iddo nad oedd ei dad y dyn yr arferai fod ar ôl marwolaeth ei frawd, a’i fod wedi mynd yn eiddil. Fodd bynnag, dywedodd fod ei dad, nes ychydig fisoedd olaf ei fywyd, yn adnabod ei feddwl ei hun ac yn gwybod mai ef oedd y bos. Roedd yn derbyn ei fod yn cael adegau o ddryswch, ond dywedodd mai heintiau’r llwybr wrinol (urinary tract infections) oedd yn gyfrifol am hyn, ac mae’n dir cyffredin bod y rhain yn gallu peri dryswch.
68. Derbyniodd, yn ei sgyrsiau gyda Manon Roberts ar 3 Mai 2016, ei fod wedi dweud bod ei dad yn dirywio “o’r naill wythnos i’r llall” fel y cofnodwyd yn nodiadau Manon Roberts. Wrth ei groesholi, dywedodd ei fod wedi gorliwio’r dirywiad hwn oherwydd bod ei dad yn “swnian” arno ynglŷn â newid ei ewyllys, a’i fod eisiau i Manon Roberts gyflymu’r broses.
69. Roedd rhywfaint o dystiolaeth bod Evan Hughes, yn ystod y cyfnod hwn ac yn ddiweddarach, wedi cael cyfnodau lle’r oedd rhai agweddau ar ei gof yn ymddangos yn dda, er enghraifft, ym mis Mawrth 2017 roedd yn cofio bod brawd Ken Williams wedi marw, ac yn wir mi fu farw flwyddyn ynghynt. Roedd rhai o’r tystion a alwyd ar ran Gwen a Stephen Hughes hefyd yn derbyn cyfnodau o’r fath. Fodd bynnag, y darlun cyffredinol sy’n gyson â’r dystiolaeth feddygol yw ei fod wedi dirywio ers 2014. Mae hyn yn cynnwys y ffaith nad oedd ef yr un dyn ar ôl marwolaeth ei fab yn 2015, a bod ganddo nam cymharol ddifrifol o ganlyniad i ddementia fasgwlaidd erbyn mis Mawrth 2016, a’i fod wedi dirywio’n gymharol gyflym ar ôl hynny. O ran y wybodaeth sydd gerbron Dr Series, dywedodd fod hynny wedi digwydd yn y flwyddyn ar ôl gweithredu ewyllys 2016 ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno. Yn fy marn i, mae’n fwy tebygol bod Gareth Hughes wedi dweud yr hyn a ddywedodd wrth Manon Hughes am ddirywiad ei dad ym mis Mai 2016 gan mai dyna oedd yn ei weld ar y pryd, ac mai dyna oedd yn digwydd mewn gwirionedd.
70. Yn fuan ar ôl marwolaeth ei fab, aeth Evan Hughes i gael swper gyda Gwen a Stephen Hughes. Dywedodd y ddau fod Evan Hughes yn poeni am ei wartheg yn ystod y gaeaf nesaf. Dywedodd ei ferch-yng-nghyfraith wrtho y byddent yn parhau i ofalu am ei wartheg, yn union fel yr oedd ei diweddar ŵr wedi arfer gwneud. Mewn ymateb i hynny, dywedodd ei thad-yng-nghyfraith ei fod yn falch o glywed hynny a’i fod yn awyddus i barhau â’r trefniant a oedd ganddo gyda’i fab. Roedd am i Geraint barhau â’r hyn roedd ei dad wedi’i wneud. Dywedodd hefyd na fyddai dim yn newid o ran y tir.
71. Tua diwedd 2015, aeth Geraint Hughes i gyfarfod yng nghartref ei daid i drafod dyfodol y fferm ar ôl marwolaeth ei dad. Roedd Carys Pritchard yno hefyd, yn ogystal â Richard Williams a oedd yn gweithredu fel cyfrifydd y taid a’r ŵyr. Dywedodd Evan Hughes wrth ei ŵyr ei fod am iddo barhau â gwaith ei dad ar y fferm, gan gynnwys gofalu am ei stoc. Dim ond 25 oed oedd Geraint ar y pryd, ac mae’n dweud ei fod wedi ei chael yn anodd ymdopi â phopeth ar ôl marwolaeth ei dad (er nad dyna’r argraff a gafodd Richard Williams). Cododd y mater o dalu am ofalu am stoc ei daid, a dywedodd ei daid y wrtho byddai’n gofalu amdano ac na ddylai ofyn am daliad o’r fath gan y byddai’n “berchen ar bopeth ryw ddiwrnod.”
72. Yn natganiad tyst Richard Williams ac yn nhystiolaeth lafar Carys Pritchard, roedd rhywfaint o gefnogaeth i dystiolaeth Geraint Hughes mewn perthynas â’r cyfarfod hwnnw. Nid oedd y dystiolaeth ar y pwynt hwn, yn enwedig o ran yr olaf, wedi’i herio’n wirioneddol ar y pwynt hwn ac rwyf yn ei derbyn.
73. Mae Richard Williams yn ei ddatganiad tyst hefyd yn sôn am gyfarfod ag ef ac Evan a Gareth Hughes ar 3 Mawrth 2016 mewn perthynas â chyfranddaliadau’r cwmni. Dychwelaf i ystyried ei dystiolaeth yn fwy manwl dan y pennawd dylanwad gormodol. O ran galluedd ewyllysiol, yr hyn sy’n berthnasol yw bod Richard Williams yn dweud bod Evan Hughes o’r farn bod ei fab Elfed a’i deulu bellach yn haeddu cael ei dir a’i stoc oherwydd ymroddiad ei fab i’r busnes ffermio. Dealltwriaeth Richard Williams erioed oedd y byddai’r tir amaethyddol yn cael ei adael i’w fab Elfed, ac y byddai’r cwmni’n cael ei rannu rhwng ei fab Gareth a’i ferch Carys. Dywedodd hefyd ei fod yn teimlo bod Evan Hughes yn amharod i newid y ddealltwriaeth a oedd ganddynt mai ei fab a’i deulu fyddai’n etifeddu’r tir. Soniodd Gareth Hughes am werth cyfranddaliadau’r cwmni, ac roedd yn poeni eu bod wedi colli eu gwerth ac am ansicrwydd enillion yn y dyfodol. Ateb ei dad oedd ei fod wedi rhoi digon o arian i mewn i’r cwmni i’w wneud yn llwyddiant.
74. Ond tua wythnos yn ddiweddarach yn y cyfarfod cyntaf rhyngddo ef a’i fab Gareth a Manon Roberts, rhoddwyd cyfarwyddiadau i adael 58 erw o’r tir i’w fab Gareth. Yn ddiweddarach ym mis Mawrth, mae Richard Williams yn dweud fod Evan Hughes wedi gofyn iddo beth fyddai’r goblygiadau pe bai’n gwerthu Yr Efail, a’i fod wedi dweud wrtho y byddai ganddo atebolrwydd Treth Enillion Cyfalaf pe bai’n gwneud hynny yn ystod ei oes. Yna, penderfynodd Evan Hughes yn erbyn hynny, a dywedodd y byddai gwerthu unrhyw dir amaethyddol yn amharchus i’w fab Elfed a’i deulu.
75. Roedd tystiolaeth rymus mewn modd tebyg gan dystion eraill ynglŷn â’r ddealltwriaeth hon. Roedd rhai, fel David Morgan ymgynghorydd ariannol Evan Hughes, a’i gefnder Ian Hughes, yn sôn am ddealltwriaeth o’r fath dros flynyddoedd lawer. Mae eraill, fel y ffermwyr cyfagos John Owen a Robert Tudor, yn sôn am sgyrsiau penodol a gawsant lle roedd Evan Hughes wedi dweud wrthynt am ei fwriadau ewyllysiol yn hyn o beth.
76. Dywedodd Ian Hughes yn ei ddatganiad ysgrifenedig ei fod ef a’i wraig wedi ymweld ag Evan Hughes bob trydydd dydd Sul ar ôl marwolaeth ei fab. Ar yr ymweliadau hynny, roedd hi wedi cymryd munud neu ddau iddo ddeall pwy oedden nhw. Ar rai o’r ymweliadau hynny, ni allai gofio gweithio gyda’i gefnder, a chredai mai ef oedd yr unig un a oedd yn berchen ar y cwmni. Yn ystod rhai o’r ymweliadau hyn, dywedodd yn glir ei fod eisiau sicrhau bod y fferm a’r tir yn cael eu cadw ar gyfer ei wyrion, ac er ei fod yn dymuno gwarchod eu mam, nid oedd am weld y tir yn gadael y teulu pe byddai hi’n ailbriodi. Trafododd newid ei ewyllys, ond mewn ffordd a oedd yn awgrymu ei “thacluso” yn unig meddai Ian Hughes, i sicrhau mai ei wyrion fyddai’n etifeddu’r fferm petai ei ferch-yng-nghyfraith yn ailbriodi. Ni ddywedodd wrth ei gefnder ei fod yn ystyried rhoi rhan o’r tir i’w fab Gareth.
77. Wrth gael ei groesholi roedd Gareth Hughes, er clod iddo, yn derbyn y bu dealltwriaeth yn y teulu ers amser maith y byddai ef a’i chwaer yn etifeddu’r cyfranddaliadau yn y cwmni, ac y byddai ei frawd yn etifeddu’r fferm a’r tir. Dywedodd nad oedd ei dad yn dweud hyn wrtho, ond bod ei chwaer wedi awgrymu hynny. Yn fy marn i, mae corff trawiadol o dystiolaeth bod ddealltwriaeth o’r fath dros flynyddoedd lawer cyn marwolaeth Elfed Hughes, a bod ei dad wedi rhannu’r wybodaeth honno gyda’r teulu a chydag eraill. Er hynny, roedd Gareth Hughes yn dweud fod ei dad wedi newid ei feddwl ar ôl marwolaeth ei fab, a’i fod eisiau gadael Yr Efail iddo ef. Roedd hynny’n rhywbeth yr oedd gan eu tad hawl i’w wneud, yn enwedig o ystyried y dirywiad yn sefyllfa ariannol y cwmni.
78. Er gwaethaf y dirywiad hwnnw, ac er bod gwerth y cyfranddaliadau wedi’i gofnodi’n ddim ar y ffurflen IHT y cydymffurfiwyd â hi yng nghyswllt ystâd Evan Hughes, roedd yn dir cyffredin bod gan y cwmni dir sydd â gwerth datblygu ar gyfer adeiladu tai. Yng nghofnodion y cwmni, sonnir am ffigur o bedwar i bum tŷ, tra bod Carys Pritchard yn ei thystiolaeth hi yn credu bod lle i hyd at 20 o dai. Ni chafwyd prisiad ac felly ni allaf roi ffigur manwl gywir arno, ond mae’n debygol bod gan y tir hwn werth sylweddol.
Casgliadau ar allu ewyllysiol
79. Ffocws yr amheuaeth ynghylch galluedd ewyllysiol Evan Hughes ar 7 Gorffennaf 2016 oedd a oedd ganddo ddigon o allu i ddeall y newid yr oedd yn ei wneud i’w ewyllysiau blaenorol a oedd yn rhoi’r ddealltwriaeth hon ar waith ac ewyllys 2016 a oedd yn gwyro oddi wrth hynny mewn perthynas â 58 erw o dir. Cafodd hyn ei brisio gan un arbenigwr ar y cyd a benodwyd gan y partïon yn £490,000 ar adeg ei farwolaeth o’i gymharu â £500,000 mewn perthynas â’r 79 erw arall yn Bwchanan, gyda chynnydd bychan yn y ddau ers hynny.
80. Dywedodd Mr Gomer na ddylid defnyddio’r prawf dim ond mewn perthynas â’r ddealltwriaeth a oedd gan Evan Hughes gyda’i fab Elfed. Y cwestiwn yw a oedd ganddo’r alluedd i ddeall hawliadau nid yn unig buddiolwyr sydd wedi’u cynnwys yn yr ewyllys, ond hefyd y rhai sydd wedi’u heithrio. Rwyf yn derbyn y cyflwyniad hwnnw. Yn wir, byddai hawliadau o’r fath yn cynnwys rhai ei fab Gareth a’i ferch Carys mewn amgylchiadau lle’r oedd sefyllfa ariannol y cwmni wedi dirywio’n sylweddol ers ei ewyllysiau blaenorol ac ar ôl i’r teulu ddeall y byddent yn etifeddu’r cyfranddaliadau yn y cwmni.
81. Yn ogystal, yn fy marn i, mae’n amlwg o’r dystiolaeth rwyf wedi’i derbyn fod gan Evan Hughes y galluedd i werthfawrogi, a’i fod wedi gwerthfawrogi, hawliadau pobl a oedd gan hawliad a’r galluedd i farnu’n deg buddiolwyr a oedd yn cystadlu â’i gilydd, tan 3 Mawrth 2016 a’r cyfarfod gyda Richard Williams o leiaf. Roedd y rhain yn cynnwys rhai ei fab Elfed a’i deulu, ond hefyd rhai ei fab Gareth drwy gyfeirio at yr arian yr oedd wedi’i roi i’r cwmni.
82. Mae’n bosib iddo newid ei feddwl yn y dyddiau yn dilyn hyn cyn ei gyfarfod cyntaf gyda Manon Roberts, ond nid yw’r materion yn dod i ben yno. Ychydig wythnosau’n ddiweddarach, dywedodd wrth Richard Williams y byddai gwerthu Yr Efail yn amharchus i’w fab Elfed a’i deulu. Roedd yn dioddef o nam cymharol ddifrifol erbyn hyn. Erbyn dechrau mis Mai roedd yn dirywio o wythnos i wythnos. Ar 19 Mai, er ei bod yn ymddangos i Dr Pritchard fod ganddo allu, dywedodd hefyd ei fod yn newid ei ewyllys er mwyn i’w wyrion etifeddu cyfran eu tad ond nid oedd yn “unrhyw beth cymhleth”.
83. Eto, mae’n bosib ei fod yn fwriadol yn dweud un peth wrth ei gyfreithiwr a pheth arall wrth ei feddyg teulu am ryw reswm. Fodd bynnag, rhoddodd reswm tebyg i’w gefnder dros newid yr ewyllys, a ddywedodd yn ei ddatganiad ei fod yn meddwl bod ei gefnder Evan yn fwy tebygol o drafod materion o’r fath gydag ef am ei fod wedi bod yn gyfrifol am waith papur y cwmni am flynyddoedd lawer. Yn ei dystiolaeth lafar, dywedodd fod ei gefnder yn ei ddefnyddio fel clust i wrando er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn gwneud y peth iawn. Rhoddodd Evan Hughes reswm tebyg eto i Dr Pritchard dros newid ei ewyllys yn ystod yr asesiad ar 14 Mehefin pan nad oedd unrhyw sôn am 58 erw yn cael ei roi i’w fab Gareth.
84. Roedd cyfnod o ryw wyth wythnos rhwng dechrau mis Mai, pan oedd yn dirywio o wythnos i wythnos, a gweithredu ewyllys 2016. Wedi hynny, ar sail y wybodaeth gerbron Dr Series, bu dirywiad cymharol gyflym. Ar sail y dystiolaeth sydd ger fy mron i, mae’n debyg bod y dirywiad hwn wedi dechrau ychydig yn gynharach, erbyn dechrau mis Mai fan bellaf, fel y gwelodd ei fab. Ni roddwyd unrhyw reswm yn ystod y broses o newid ei ewyllys dros newid ei ddealltwriaeth gyda’i fab Elfed a’r hyn a ddywedodd wrth ei ferch-yng-nghyfraith a’i wyrion ar ôl marwolaeth ei fab, ac ni soniwyd yn ystod y broses hon y byddai hyn yn newid y ddealltwriaeth honno.
85. Er bod ewyllys 2016 yn rhesymol ar yr wyneb, mae amheuaeth wirioneddol ynglŷn â’i allu ac, yn fy marn i, mae’r amheuaeth honno’n deg. Fodd bynnag, byddai’n well gennyf beidio â gadael pethau ar faich profi’n unig. Yn fy marn i, ar sail tebygolrwydd, mae’n debygol nad oedd ganddo allu mewn tri manylyn erbyn 7 Gorffennaf 2016, ac mae unrhyw un o’r rheini’n ddigon i amharu ar ewyllys 2016. Os cymerir y manylion hyn gyda’i gilydd, cryfheir y tebygolrwydd hwnnw.
86. Y cyntaf yw nad oedd ganddo’r galluedd erbyn hynny i werthfawrogi’r ddealltwriaeth a oedd ganddo gyda’i fab Elfed ers nifer o flynyddoedd pan oedd ei fab wedi gofalu am ei stoc a’i dir am ddim gwobr ariannol, neu’r addewidion a wnaeth i’w ferch-yng-nghyfraith a’i wyrion wedi hynny. Nid mater o anghofio addewid a wnaed neu ddarpariaethau ei ewyllysiau blaenorol yn unig yw hyn.
87. Yr ail yw nad oedd ganddo’r galluedd i ddeall hyd a lled Yr Efail. Er bod map yn dangos y 58 erw, yn ogystal â’i dir arall, wedi’i gynhyrchu yn ystod y broses honno, mae’n debygol bod ei nam gweledol-gofodol yn golygu ei fod yn ei chael hi’n anodd dehongli’r mapiau. Mae’n debygol ei fod wedi dibynnu mwy ar ei gof, ond bod nam sylweddol ar ei gof erbyn 7 Gorffennaf 2016, fel y dangoswyd gan rai o’r enghreifftiau uchod, gan gynnwys drysu rhwng cae ym Mwchanan ac yn Yr Efail. Er y gellid dadlau mai llithriad tafod neu ball ar y cof yn unig oedd hynny, ac er ei bod yn ymddangos ei fod yn deall hyd a lled hyn wrth siarad â Richard Williams ym mis Mawrth 2016, bu dirywiad sylweddol yn ei ddementia fasgwlaidd rhwng hynny a 7 Gorffennaf 2016.
88. Y trydydd yw nad oedd ganddo’r galluedd i ddeall bod y newidiadau a roddwyd ar waith yn ewyllys 2016 yn fwy na’r rhai a oedd yn angenrheidiol i “dacluso” (yng ngeiriau ei gefnder Ian Hughes) ei ddarpariaethau ewyllysiol ar ôl marwolaeth ei fab Elfed.
89. Gan hynny, mae’n dilyn bod ewyllys 2016 yn annilys ar sail diffyg galluedd ewyllysiol. Mae hynny’n ei gwneud yn ddiangen imi ystyried penawdau eraill yr hawliad o ran ei ddilysrwydd, ac nid oedd unrhyw anghydfod bod yr hawliad estopel perchnogol yn cael ei roi fel arall. Fodd bynnag, rhag ofn fy mod yn anghywir ynglŷn â hynny, a chan fod yr honiadau ynghylch dylanwad gormodol yn ymwneud â honiadau difrifol yn erbyn Gareth Hughes, symudaf ymlaen i ddelio â’r honiadau eraill hyn. Gwnaf hynny ar y sail bod ganddo, yn groes i’m canfyddiad uchod ac er gwaethaf ei ddementia cymharol ddifrifol, ddigon o allu ewyllysiol i ddeall y materion a nodir ym mhrawf Banks v Goodfellow.
Gwybodaeth a chymeradwyaeth
90. Nid yw’r gyfraith ar wybodaeth a chymeradwyaeth yn ddadleuol, ac fe’i crynhowyd gan y Llys Apêl yn Gill v Woodall [2010] EWCA Civ 1430 ac yn fwy diweddar gan Ei Anrhydedd y Barnwr Keyser CF yn eistedd fel barnwr yn yr Uchel Lys yn Re Williams [2021] EWHC 586 (Ch). Mae gwybodaeth a chymeradwyaeth o ewyllys yn golygu ei bod yn cynrychioli bwriadau ewyllysiol yr ewyllysiwr. Pan fydd ewyllys yn cael ei chyflawni’n briodol ar ôl cael ei pharatoi gan gyfreithiwr a’i darllen i’r ewyllysiwr, mae tybiaeth amodol ei bod yn adlewyrchu bwriadau’r ewyllysiwr. Hyd yn oed lle mae rhagdybiaeth o’r fath yn codi, rhaid i’r llys ystyried a oes amgylchiadau sy’n arwain at amheuon nad yw’r ewyllysiwr wedi gwybod ac wedi cymeradwyo cynnwys yr ewyllys ac, os oes, a yw ystyried y dystiolaeth yn ei chyfanrwydd yn chwalu’r amheuon hynny.
91. Fel y nodwyd uchod, nid yw’n destun anghydfod bod ewyllys 2016 wedi’i gweithredu’n briodol, ar ôl i Manon Roberts fynd drwy bob cymal gydag Evan Hughes, ac fe roddodd ei gymeradwyaeth cyn ei llofnodi.
92. Fodd bynnag, mae Mr Troup yn honni bod amheuaeth wirioneddol nad oedd efallai wedi gwybod ac wedi cymeradwyo cynnwys ewyllys 2016. Mae’r rhain yn cynnwys bod ei fab Gareth, a oedd i gael budd o hynny, wedi trefnu’r apwyntiadau gyda Manon Roberts, yn bresennol yn y cyfarfod ar 11 Mawrth 2016 pan roddwyd y cyfarwyddiadau, wedi trefnu i’r holl ohebiaeth gael ei hanfon i’w gartref ef, wedi ffonio Manon Roberts i drafod yr ewyllys ddrafft, ac wedi ymuno â’r cyfarfod ar 7 Gorffennaf 2016 yn syth ar ôl ei gweithredu. Erbyn hyn, roedd ei dad yn oedrannus ac yn dioddef o ddementia cymharol ddifrifol ac ni soniodd wrth Dr Pritchard ei fod eisiau gadael Yr Efail i’w fab Gareth. Cyn hynny, roedd wedi dibynnu ar ei ferch Carys i wneud ei waith papur iddo, ond yn ei habsenoldeb yn ystod yr wythnosau a arweiniodd at weithredu’r ewyllys, roedd yn dibynnu ar ei fab Gareth yn hyn o beth. Roedd yr ewyllys ddrafft yn ddogfen gymhleth a ysgrifennwyd yn Saesneg, a Chymraeg oedd ei iaith gyntaf. Byddai wedi cael trafferth deall y map a oedd yn dangos ei ddaliadau tir.
Casgliad ar wybodaeth a chymeradwyaeth
93. Rwy’n derbyn bod yr amgylchiadau hyn, gyda’i gilydd, yn arwain at amheuon nad oedd Evan Hughes wedi gwybod nac wedi cymeradwyo’r cynnwys. Fodd bynnag, o ystyried y dystiolaeth glir iawn bod y drafft wedi cael ei ddarllen iddo gymal fesul cymal, a’i fod wedi nodio i roi ei gymeradwyaeth ar gyfer bob un cyn ei lofnodi, mae’n debygol yn fy marn i, pe bai ganddo’r galluedd i ddeall, ei fod wedi gwybod am bob cymal ac wedi’i gymeradwyo.
Dylanwad gormodol
94. Trof nawr at ddylanwad gormodol. Eto, nid oes unrhyw anghydfod ynghylch yr egwyddorion. Cafodd y rhain eu crynhoi gan Lewison J fel yr oedd bryd hynny yn Edwards v Edwards [2007] WTLR 1387 ac yn Schrader v. Schrader [2013] EWHC 466 ym mharagraff 95 lle cafodd y crynodeb blaenorol ei gymeradwyo gan Mann J fel a ganlyn:
“There is no serious dispute about the law. The approach that I should adopt may be summarised as follows:
i) In a case of a testamentary disposition of assets, unlike a lifetime disposition, there is no presumption of undue influence;
ii) Whether undue influence has procured the execution of a will is therefore a question of fact;
iii) The burden of proving it lies on the person who asserts it. It is not enough to prove that the facts are consistent with the hypothesis of undue influence. What must be shown is that the facts are inconsistent with any other hypothesis. In the modern law this is, perhaps no more than a reminder of the high burden, even on the civil standard, that a Claimant bears in proving undue influence as vitiating a testamentary disposition;
iv) In this context undue influence means influence exercised either by coercion, in the sense that the testator's will must be overborne, or by fraud.
v) Coercion is pressure that overpowers the volition without convincing the testator's judgment. It is to be distinguished from mere persuasion, appeals to ties of affection or pity for future destitution, all of which are legitimate. Pressure which causes a testator to succumb for the sake of a quiet life, if carried to an extent that overbears the testator's free judgment discretion or wishes, is enough to amount to coercion in this sense;
vi) The physical and mental strength of the testator are relevant factors in determining how much pressure is necessary in order to overbear the will. The will of a weak and ill person may be more easily overborne than that of a hale and hearty one. As was said in one case simply to talk to a weak and feeble testator may so fatigue the brain that a sick person may be induced for quietness' sake to do anything. A 'drip drip' approach may be highly effective in sapping the will;
. . .
ix) The question is not whether the court considers that the testator's testamentary disposition is fair because, subject to statutory powers of intervention, a testator may dispose of his estate as he wishes. The question, in the end, is whether in making his dispositions, the testator has acted as a free agent.
95. Dywedodd Mann J ym mharagraff 96 Schrader:
“It will be a common feature of a large number of undue influence cases that there is no direct evidence of the application of influence. It is of the nature of undue influence that it goes on when no-one is looking. That does not stop its being proved. The proof has to come, if at all, from more circumstantial evidence. The present case has those characteristics. The allegation is a serious one, so the evidence necessary to make out the case has to be commensurately stronger, on normal principles.”
96. Mae Mr Troup yn dadlau bod yr amgylchiadau yn yr achos hwn, yr ymdrinnir â hwy i raddau helaeth uchod, yn cyfiawnhau bod dylanwad gormodol wedi bod. Dan y pennawd hwn, mae’n pwysleisio’n benodol bod Evan Hughes yn oedrannus, yn dioddef o ddementia difrifol cymedrol ac yn galaru am ei ddiweddar fab. Roedd ei fab Gareth wedi ymgymryd â’r gwaith papur a’r gwaith o ddelio â gweithwyr proffesiynol ar ei ran, ac roedd yn ymwneud yn agos â’r broses o lunio’r ewyllys tra’r oedd ei chwaer dramor. Dywedodd wrth Dr Pritchard mai’r unig newidiadau i’r ewyllys oedd y rhai a oedd yn angenrheidiol yn dilyn marwolaeth ei frawd. Yn yr un modd, aeth â’r ffurflen stoc a lofnodwyd gan ei dad at y cyfreithiwr, er nad oedd y mesurau diogelwch a oedd eu hangen ar y cyfreithiwr wedi’u cyflawni.
97. Mae Mr Troup yn dweud hefyd bod tystiolaeth uniongyrchol o orfodaeth yn yr achos hwn, sy’n anarferol. Yn ystod y gwrandawiad, roedd hyn yn cynnwys llythyr a oedd heb ei ddyddio ond a oedd wedi’i ysgrifennu ar ôl chwarter cyntaf 2016 gan Huw Hughes, sy’n ŵr busnes lleol sy’n llogi sgipiau, mewn ymateb i gais gan Carys Pritchard am wybodaeth ynghylch gwaith a wnaed gan ei brawd ar gyfer y busnes hwnnw. Roedd y llythyr yn cynnwys cofnod o’i brawd yn dweud wrth Huw Hughes yn y chwarter cyntaf hwnnw ei fod wedi darganfod bod ei dad wedi gadael popeth i’w chwaer, ac nad oedd yn hapus, a’i fod yn bwriadu mynd â’i dad i gael newid ei ewyllys.
98. Yn yr achos hwn, llofnododd Huw Hughes ddatganiad tyst byr iawn yn dweud bod Gareth Hughes wedi dweud wrtho ei fod yn mynd â’i dad i gael newid ei ewyllys. Pan gafodd ei groesholi, cadarnhaodd mai dyma’r cyfan a ddywedwyd. Pan gafodd ei lythyr ei gyflwyno iddo a phan eglurwyd y gwahaniaethau iddo rhwng y llythyr a’r hyn roedd yn ei ddweud, dywedodd na allai ddilyn y pwynt a wnaed, ei fod amser maith yn ôl ac na allai gofio mewn gwirionedd. Cadarnhaodd hefyd yr hyn a ddywedodd Gareth Hughes wrth gael ei groesholi bod anghydfod ariannol wedi bod rhyngddynt. Yn fy marn i, ni ellir dibynnu ar dystiolaeth Mr Huw Hughes cyn belled ag y mae’n cael ei herio, a dywedodd Gareth Hughes mai celwydd oedd yr hyn a nodwyd yn y llythyr ynghylch yr ewyllys. Gwnaeth Mr Troup, yn briodol ac yn realistig, hepgor y fath ddibyniaeth yn ei gyflwyniadau clo.
99. Daw’r darn cyntaf o dystiolaeth uniongyrchol gan Richard Williams. Rwyf eisoes wedi derbyn peth o’i dystiolaeth o’i gyfarfodydd gydag Evan Hughes ac aelodau arall o’r teulu. Yng nghyswllt cyfarfodydd o’r fath gydag ef a’i fab Gareth ym mis Mawrth 2016, mae’n mynd ymhellach yn ei ddatganiad tyst gan ddweud bod Evan Hughes, yn ei farn ef, “yn drwm dan ddylanwad” ei fab o ran gwneud darpariaeth bellach ar ei gyfer. Mewn cyfarfodydd pellach o fis Gorffennaf 2016 ymlaen, dywedodd fod Evan Hughes yn “wrandäwr goddefol” ac mai ei fab oedd yn cynnal y cyfarfodydd, a’i fod yn cael mwy o ddylanwad ar faterion ei dad. Yn ddiweddarach yn 2016 mewn cyfarfod o’r fath, pan gododd Gareth Hughes y mater o drosglwyddo rhai cyfranddaliadau yn y cwmni, roedd yn ymddangos fod ei dad “wedi’i ddrysu”.
100. Pan gafodd ei groesholi, ehangodd ar ei ddatganiad tyst. Dywedwyd wrtho nad oedd unrhyw sôn yn ei ddatganiad am fwlio na dylanwad gormodol, a’i ateb oedd os nad oedd Mr Gomer yn gallu deall mai dyna’r oedd ei ddatganiad yn ei olygu, yna ei fod yn y swydd anghywir. Ymyrrais bryd hynny i ddweud bod y cwnsler yn cyflwyno’i achos, ac y dylai gyfyngu ei hun i ateb cwestiynau yn unig. Er hynny, bu’n rhaid imi wneud ymyriadau tebyg ddwywaith yn ddiweddarach yn ystod ei dystiolaeth.
101. Dywedodd ei fod wedi gwneud cofnod un gair neu un ymadrodd ar gyfer pob cyfarfod i atgoffa’i hun o naws y cyfarfodydd. Roedd hyn yn cynnwys ‘gwyliadwrus’ a ‘phryderus’ ar gyfer cyfarfodydd yng Ngwanwyn 2016. Wrth bwyso arno am fanylion ynglŷn â bwlio, dywedodd fod Gareth Hughes yn rymus a dywedodd wrth ei dad fod gan Gareth ddyletswydd i ofalu amdano. Wrth bwyso arno am fanylion ynglŷn â dylanwad gormodol, dywedodd fod Gareth Hughes yn rhedeg y cwmni i lawr, ac er nad oedd yn gwneud unrhyw gais am arian, roedd yn pwyso am fwy o ddarpariaeth yn yr ewyllys. Pan ofynnwyd iddo pam na roddodd wybod am hyn, dywedodd nad oedd unrhyw linell gymorth ar gyfer y fath beth, ac ychwanegodd ei fod yn credu bod Evan Hughes yn gryf ac yn sefydlog, a’i fod yn meddwl y byddai’n glynu wrth ei fwriadau.
102. Yna, rhoddodd ei farn am yr hyn a oedd yn gywir ac yn anghywir, a dywedodd na fyddai Gareth Hughes yn gallu gwahaniaethu rhwng un cae a’r llall ar y tir, ac awgrymodd y dylid gofyn iddo a oedd wedi cerdded drwy’r caeau erioed. Pan ddywedwyd wrtho ei fod, fel cyfrifydd Evan ac Elfed a Geraint Hughes, yn rhoi tystiolaeth angerddol, credai ef ei fod yn broffesiynol ac yn annibynnol.
103. Roedd ei dystiolaeth yn ffeithiol ac nid o farn arbenigol. Rhoddaf sylw dyledus i’w statws proffesiynol, ond cefais argraff glir o’i ohebiaeth gyda chwnsel bod y rhan hon o’i dystiolaeth yn croesi’r llinell rhwng atgof gwrthrychol ac atgof angerddol. Nid yw hynny o reidrwydd yn golygu nad yw’n gywir ond mae’n golygu y dylwn fod yn ofalus ynghylch derbyn y rhan hon o’i dystiolaeth. Yn fy marn i, pan gafodd ei dadansoddi’n briodol, nid yw’n dangos bod y llinell rhwng perswâd a gorfodi wedi’i chroesi, ac nid yw’n gyfystyr â thystiolaeth uniongyrchol o ddylanwad gormodol, er y gellir ei hystyried wrth benderfynu a allai dylanwad o’r fath gael ei dybio’n briodol.
104. Nid yw Gareth Hughes yn derbyn y rhan hon o atgof Richard Williams. Fodd bynnag, rwyf yn derbyn y rhan hon o’r dystiolaeth i’r graddau y mae’n debygol bod Gareth Hughes, gan ei fod yn ymwybodol o’r ddealltwriaeth yn y teulu ynghylch cyfranddaliadau yn y cwmni a’r tir, a chan ei fod yn ymwybodol bod ei dad wedi ceisio sicrhau rhywfaint o gydraddoldeb o’r blaen rhwng ei blant wrth ddarparu cartrefi iddynt ac yn ei ddarpariaeth ewyllysiol, a chan ei fod yn ymwybodol o’r dirywiad yn sefyllfa ariannol y cwmni, wedi ceisio perswadio ei dad i wneud yr hyn a oedd yn fwy cyfartal, yn ei farn ef, mewn ewyllys newydd.
105. Yr unig ddarn arall o dystiolaeth uniongyrchol y dibynnir arno erbyn hyn yw tystiolaeth Carys Pritchard, sy’n dweud pan fu iddi ddarganfod fod yr atwrneiaeth arhosol o’i phlaid wedi cael ei diddymu a bod un newydd wedi cael ei rhoi o blaid ei brawd, bu iddi ofyn i’w thad amdano ac atebodd “mi ddywedon nhw wrtha i am wneud hynny.” Rwyf yn derbyn y dystiolaeth honno, sydd i’w hystyried ar fater dylanwad gormodol. Yn fy marn i, nid yw’n dystiolaeth gref, gan fod ei thad wedi anghofio rhoi cyfarwyddiadau ar gyfer y llythyr i’w ferch.
Casgliadau ar ddylanwad gormodol
106. Y gwir gwestiwn yn yr achos hwn yn fy marn i yw a wnaeth perswâd dilys groesi’r llinell i orfodaeth neu dwyll o fewn ystyr yr awdurdodau. Yn fy marn i, ni ellir dweud nad yw’r ffeithiau’n gyson ag unrhyw ddamcaniaeth arall. Un ddamcaniaeth gredadwy arall yw, gan ei fod wedi glynu wrth ei fwriadau tan fis Mawrth 2016, ei fod wedi sylweddoli wedyn gan fod sefyllfa ariannol y cwmni wedi gwaethygu, ac er mwyn dosbarthu’n fwy cyfartal rhwng ei blant fel yr oedd wedi ceisio’i wneud yn y gorffennol, y dylid gwneud darpariaeth bellach ar gyfer ei fab a’i ferch.
107. Felly, yn fy marn i, nid yw’r hawliad o ddylanwad gormodol yn cael ei wneud. Eto, byddwn yn mynd ymhellach ac yn dweud ei bod yn annhebygol, o gofio’r cymeriad cryf yr wyf yn derbyn a oedd gan Evan Hughes ym mis Gorffennaf 2016 er gwaethaf ei eiddilwch meddyliol a chorfforol, fod ei doriad ei hun wedi’i oresgyn wrth wneud ewyllys 2016, hyd yn oed ar sail y dull “drip drip” neu er mwyn cael bywyd tawel.
Estopel perchnogol
108. Yn olaf, rwyf yn delio â’r hawliad estopel perchnogol. Er mwyn sefydlu honiad o’r fath, rhaid i Gwen a Stephen Hughes ddangos bod Evan Hughes wedi’i gwneud yn glir y byddai ei dir yn cael ei adael i’w fab Elfed, a bod yr Elfed yn dibynnu ar y gynrychiolaeth honno er niwed iddo (gweler Thorner v. Major [2009] UKHL 18). Gall niwed gynnwys niwed nad yw’n ariannol ar yr amod ei fod yn sylweddol (gweler er enghraifft Davies v. Davies [2016] EWCA Civ 463). Fodd bynnag, nid yw’n ymarfer mewn cyfrifyddu fforensig, a rhaid i’r llys sefyll yn ôl ac edrych ar y mater yn ei gyfanrwydd (Gillett v. Holt [2001] Ch 210 am 232).
109. Wrth werthuso graddau’r niwed, rhaid ystyried y budd os yw’n cael ei fwynhau o ganlyniad i’r ddibyniaeth. Pe bai’r budd wedi’i gael beth bynnag, ni ddylid ei ystyried (gweler, er enghraifft Chan v Leung [2003] 1 FLR 23, lle anwybyddwyd rhodd sylweddol o arian wrth asesu maint y niwed oherwydd ei fod wedi’i roi o gariad ac anwyldeb naturiol).
110. O ran y canlyniad priodol os sefydlir estopel perchnogol, mae gan y llys ddisgresiwn eang o ran pa rwymedi i’w rhoi. Fodd bynnag, mae dwy egwyddor wedi’u sefydlu’n glir. Y cyntaf yw mai’r rhyddhad mwyaf posibl yw’r hyn y mae ei angen i gadw’r addewid. Yn ail, ni fydd disgwyliadau sy’n deillio o’r addewid o reidrwydd yn cael eu cyflawni, ac ni fydd y llys yn rhoi rhyddhad sydd yn gwbl anghymesur â’r niwed.
111. Yn Davies, dywedodd Lewison LJ ym mharagraff 66:
“In some cases it may well be that the impossibility of evaluating the extent of imponderable and speculative non-financial changes (for example life-changing choices) may lead the court to decide that relief in specie should be given.”
112. Yn fwy diweddar, dywedodd y Llys Apêl yn Habberfield v. Habberfield [2019] EWCA Civ 890, yn y prif ddyfarniad gan Lewison LJ ym mharagraff 69, os yw partïon wedi gwneud bargen, y mae un parti wedi’i chadw, yna yn absenoldeb ffactorau gwrthbwysol, byddai’n anfoesegol neu’n afresymol i’r parti arall beidio â chadw ei ochr ef o’r fargen.
113. Rwyf eisoes wedi gwneud rhai canfyddiadau ynghylch y ddealltwriaeth a oedd gan Evan ac Elfed Hughes dros nifer o flynyddoedd ynghylch yr hyn a fyddai’n digwydd i dir Evan ar ôl ei farwolaeth. Mae’n wir fod rhai o’r tystion yn deall hyn yn nhermau bwriad ewyllysiol presennol Evan ar y pryd. Ond rhwng y tad a’r mab, rwy’n fodlon bod eu dealltwriaeth wedi mynd ymhell y tu hwnt i hynny. Mae tystiolaeth Gwen Hughes yn arbennig o arwyddocaol yn hyn o beth. Dywedodd yn ei datganiad tyst bod ei diweddar ŵr bob amser yn arfer ei diystyru pan roedd hi’n dweud wrtho, yng nghyd-destun gofalu am stoc a thir ei dad, ei fod yn gwario gormod o arian ar ei dad. Ateb ei gŵr fyddai “da ni’n deall ein gilydd,”. Dywedodd ei bod yn gwybod mai’r ddealltwriaeth oedd y byddai ei gŵr yn etifeddu’r tir. Pan gafodd ei chroesholi am sut oedd hi’n gwybod hynny, atebodd fod ei gŵr wedi dweud wrthi fod ei dad wedi dweud mai ef fyddai’n cael y tir.
114. Cefnogir y dystiolaeth honno gan Stephen Hughes a oedd wedi clywed sgyrsiau o’r fath rhwng ei rieni. Dywedodd ei fod wedi clywed sgyrsiau o’r fath lawer gwaith ers iddo allu cofio. Byddai ei fam yn gofyn pam eu bod nhw’n talu biliau yng nghyswllt tir ei thad-yng-nghyfraith, a dywedodd ei gŵr ei fod o fudd iddynt gan y byddai’n berchen arno ryw ddydd.
115. Rwyf yn derbyn y dystiolaeth honno. Yn fy marn i, cafwyd cynrychiolaeth ddigon clir gan Evan Hughes i’r perwyl hwnnw dros flynyddoedd lawer.
116. O ran dibyniaeth, nid yw’n destun anghydfod bod Elfed Hughes wrth ei fodd yn ffermio, ei fod yn gweithio’n galed iawn, yn llwyddiannus iawn, yn cynnal safonau uchel iawn, ac yn cynhyrchu stoc a oedd yn ennill gwobrau. Roedd hyn yn glir o recordiadau o ddwy raglen deledu yr oedd yn rhan ohonynt, ac yr wyf wedi’u gwylio. Dywedodd Mr Gomer mai dyna pam yr oedd yn ffermio tir ei dad, ac nid o ganlyniad i unrhyw addewid gan ei dad o ran hynny. Efallai fod hynny wedi bod yn rhan ohono. Fodd bynnag, gofalodd am stoc a thir ei dad am tua 38 mlynedd. Pan brynodd ei dir fferm ei hun yn 1999, roedd wrth ymyl fferm ei dad er mwyn iddo allu gweithio ar y ddau gyda’i gilydd. Adeiladodd bont i gysylltu’r ddau, a sied wartheg fawr i gadw ei wartheg ei hun a gwartheg ei dad. Eto, mae’r sgyrsiau a gafodd Elfed gyda’i wraig fel y nodir uchod yn arwyddocaol ac, yn fy marn i yn y cyd-destun hwnnw, mae’n debygol iddo wneud hynny hefyd gyda dibyniaeth ar y sylwadau.
117. Y niwed ariannol y dibynnir arno yw gwerth gwaith o’r fath, y mae un arbenigwr amaethyddol ar y cyd, Mr McVicar, yn ei brisio’n £158,415 ar y gyfradd grefft neu’n £181,875 ar y gyfradd reoli. Yn fy marn i, yr olaf sy’n briodol yn yr achos hwn gan mai Elfed Hughes oedd yn gyfrifol am y gwaith fferm ar dir ei dad. Ar ben hynny, roedd yn talu staff i weithio ar dir ei dad yn ogystal â’i dir ei hun. Mae Mr McVicar yn cyfrifo’r graddau hynny ar 2,114 awr y mae’n ei brisio’n £378,802. Ef oedd hefyd yn talu’r rhan fwyaf o dreuliau o bell ffordd, ac am beiriannau. Dim ond ychydig o gofnodion sy’n dal i fodoli, ond mae cyfrifon y ddwy fferm am y tair blynedd cyn ei farwolaeth a’r anfonebau sy’n bodoli rhwng 2008 a 2015 yn dangos bod taliadau o’r fath yn sylweddol dros flynyddoedd lawer, fel y nodwyd hefyd gan ei wraig pan yr oedd hi’n holi am dreuliau o’r fath. Ceir hefyd yr hawliad diwedd tenantiaeth mewn perthynas â Rhosbeirio, costau’r bont a’r sied wartheg a godwyd ganddo ar ei dir fferm ei hun, a thoriad cyflog ei fab Geraint yn 2012.
118. Y niwed nad yw’n ariannol y dibynnir arno yw’r oriau hir iawn yr oedd yn eu gweithio, diffyg unrhyw wyliau, ac aberth ei fywyd teuluol. Yn fy marn i, mae’n iawn ystyried rhywfaint o hyn, ond mae hefyd angen cofio ei fod yn gweithio iddo’i hun yn ogystal, ac o ystyried ei bersonoliaeth, mae’n debygol y byddai wedi gweithio oriau hir, er nad mor hir mae’n debyg, hyd yn oed heb dir a stoc ei dad.
119. O ran buddion, yn fy marn i ni ddylid ystyried rhodd ffermdy Bwchanan yn 1989 wrth werthuso’r niwed. Gwnaed darpariaeth debyg i’w blant eraill yn gynnar yn eu bywydau fel oedolion er mwyn iddynt gael sefydlu eu hunain, fel y derbyniodd Gareth Hughes, er clod iddo, wrth iddo gael ei groesholi.
120. Roedd Elfed Hughes hefyd yn gallu rhoi ei stoc ar dir ei dad, ond mae’r gwrthwyneb hefyd yn wir. Cyn 1989, cododd ei dad rent am hyn, fel y dangoswyd yn ei gyfrifon yn 1987 a 1988, ac fe gadarnhawyd hynny gan ei wraig wrth iddi gael ei chroesholi. Wedi hynny, yn fy marn i, roedd y trefniant o fudd i’r naill ochr a’r llall ac mae’n ffactor niwtral o ran niwed gwerthuso. Mae’r niwed, yr wyf yn ei dderbyn, yn mynd ymhell y tu hwnt i hynny ac yn gyfystyr â gwaith di-dâl dros oriau hir iawn dros flynyddoedd lawer, ynghyd â threuliau sylweddol dros yr un cyfnod, ac yn enwedig cyflogau staff a threuliau hwsmonaeth a pheiriannau.
Casgliad ar estopel perchnogol
121. Yn fy marn i, gan sefyll yn ôl ac edrych ar y mater yn ei gyfanrwydd, roedd y niwed yn golygu bod disgwyliad Evan Hughes o ran y ddealltwriaeth a oedd ganddo gyda’i fab wedi’i gyflawni. Mae’n gyfiawn ac yn gymesur bod disgwyliad cyfatebol ei fab yn cael ei gyflawni hefyd. Felly, os yw ewyllys 2016 yn ddilys, mae Yr Efail, serch hynny, yn destun ecwiti o blaid ystâd Elfed Hughes.
122. Rwyf yn ddiolchgar iawn am y cymorth yr wyf wedi’i gael gan y partïon a’u cynrychiolwyr cyfreithiol yn yr achos anodd a thrist hwn, ac i’r cwnsler am eu sylwadau a’u cyflwyniadau trylwyr. Yn ddefnyddiol, cytunwyd y gellid delio ag unrhyw faterion canlyniadol na ellir cytuno arnynt, yn y lle cyntaf o leiaf, drwy gyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Rwy’n gwahodd y partïon i gyflwyno gorchymyn drafft y cytunir arno os oes modd ac unrhyw gyflwyniadau o’r fath, ynghyd â chais am restru ar gyfer cyflwyniadau llafar pellach os bernir bod angen, o fewn 14 diwrnod i gyflwyno’r dyfarniad hwn.