Rhif Enwi Niwtral
: [2016] EWHC 2074w (Admin)
English version: Neutral Citation Number: [2016] EWHC 2074 (Admin)
Rhif Achos CO/407/2016
YN YR UCHEL LYS BARN
ADRAN MAINC Y FRENHINES
Y LLYS ADRANNOL
Y Llysoedd Barn
Y Ganolfan Ddinesig
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
Dyddiad: 12/08/16
Gerbron :
MR USTUS HICKINBOTTOM
ac
EI ANRHYDEDD Y BARNWR MILWYN JARMAN CF
(YN EISTEDD FEL BARNWR UCHEL LYS)
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
Rhwng:
|
Y FRENHINES AR GAIS ARON WYN JONES |
Hawlydd |
|
- a - |
|
|
CYNGOR SIR DDINBYCH |
Diffynnydd |
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
Gwion Lewis (dan gyfarwyddyd Pritchard Jones Lane ) ar ran yr Hawlydd
Rhodri Williams CF (dan gyfarwyddyd Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd, Cyngor Sir Ddinbych ) ar ran y Diffynnydd
Dyddiadau'r gwrandawiadau: 20-21 Mehefin 2016
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
DYFARNIAD AWDURDODEDIG
Mr Ustus Hickinbottom:
Cyflwyniad
1. Dyma ddyfarniad y llys yr ydym ill dau wedi cyfrannu ato.
2. Yn y cais hwn, mae'r Hawlydd yn herio penderfyniad Cyngor Sir Ddinbych ("y Cyngor") ar 27 Hydref 2015 i weithredu ei gynnig i gau dwy ysgol gynradd a gynhelir yn ardal Rhuthun, sef Ysgol Pentrecelyn ac Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd ("Ysgol Llanfair"), ar 31 Awst 2017; ac i Esgobaeth Llanelwy sefydlu ysgol gynradd wirfoddol a reolir newydd, i weithredu o safleoedd yr ysgolion presennol i ddechrau.
3. Mae Ysgol Pentrecelyn yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, categori sydd â'r ddarpariaeth uchaf o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Ysgol Llanfair yn ysgol gynradd ddwy ffrwd, lle addysgir yn y Gymraeg a'r Saesneg ochr yn ochr, gyda rhieni/disgyblion yn dewis naill ai darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn bennaf neu drwy gyfrwng y Saesneg yn bennaf. Cynigir y bydd yr ysgol newydd yn un ddwy ffrwd.
4. Mae'r Hawlydd yn 19 mlwydd oed. Mae'n un o gyn-ddisgyblion Ysgol Pentrecelyn, ac mae ganddo ddwy chwaer a dau frawd sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd. Mae'r cynnig y dylai'r ysgol newydd gael amgylchedd dysgu dwyieithog Cymraeg-Saesneg yn peri tramgwydd iddo - elfen arbennig o ddadleuol yn y cynnig - ac mae'n aelod o grŵp lobïo sydd wedi ymroi i wrthwynebu'r categoreiddio arfaethedig, sef Ymgyrch Pentrecelyn.
5. Wrth gwrs, nid mater i'r llys hwn yw teilyngdod y penderfyniad, sy'n fater i'r Cyngor yn llwyr, ar sail y polisi addysg a fabwysiadodd. Fodd bynnag, mater i'r llys hwn yw cyfreithlondeb y penderfyniad hwnnw; ac mae'r Hawlydd yn dadlau bod y penderfyniad yn anghyfreithlon ar nifer o seiliau, gan ganolbwyntio ar yr asesiadau effaith a'r ymgynghori a ragflaenodd hynny.
6. Yn y gwrandawiad, ymddangosodd Gwion Lewis ar ran yr Hawlydd a Rhodri Williams CF ar ran y Diffynnydd. Rydym yn ddiolchgar i'r ddau ohonynt am eu cyfraniad defnyddiol at y drafodaeth.
7. Dyma'r ail hawliad yn y Llys Gweinyddol yr ydym yn ymwybodol ohono lle gwnaed y cyflwyniadau yn y Gymraeg, lle'r oedd yr holl ddogfennau craidd wedi eu cyflwyno yn Gymraeg, a lle'r oedd y Cwnsleriaid yn defnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn ôl eu ddewis yn ystod y gwrandawiad.
Y Gyfraith
8. Mae'r darpariaethau statudol perthnasol sy'n ymwneud â threfnu ac ad-drefnu ysgolion yng Nghymru i'w cael yn Rhan 3 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ("Deddf 2013").
9. Gellir cau ysgolion a gynhelir (adran 40(3)) neu beri "newid rheoleiddiedig" (adran 40(4)) yn unol â Rhan 3 Deddf 2013 yn unig. Diffinnir "newid rheoleiddiedig" ysgol a gynhelir yn Rhan 1 Atodlen 2 y Ddeddf i gynnwys "Trosglwyddo ysgol i safle neu safleoedd newydd oni fyddai prif fynedfa'r ysgol ar ei safle neu safleoedd newydd o fewn [un filltir] o brif fynedfa'r ysgol ar ei safle neu safleoedd presennol."
10. Mae adran 38 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cod ar drefniadaeth ysgolion, y mae'n rhaid iddo gynnwys darpariaeth ar gyfer arfer swyddogaethau awdurdod lleol fel awdurdod addysg (adran 38(2)(b)). Dan adran 48, rhaid i awdurdod sy'n gwneud cynigion i sefydlu neu derfynu ysgol gyhoeddi'r cynigion ac ymgynghori yn unol â'r cod; ac mae proses benodol i'w dilyn er mwyn galluogi pobl i roi sylwadau arnynt a chyflwyno gwrthwynebiadau i gynigion a gyhoeddir (adran 49). Mae rhai cynigion angen penderfyniad gan Weinidogion Cymru yn benodol; ond, ar gyfer llawer o gynigion (gan gynnwys y cynnig yn yr achos hwn), mater i'r awdurdod sy'n cynnig yw penderfynu pa un ai i weithredu ei gynigion ei hun ai peidio (adran 53).
11. Yn unol â'u rhwymedigaeth dan adran 38, ym mis Gorffennaf 2013, cyhoeddodd Gweinidogion Cymru God Trefniadaeth Ysgolion ("y Cod"), a oedd yn cynnwys y gofynion a'r canllawiau gorfodol i'w dilyn oni bai bod cyfiawnhad dros wyro.
12. Mae Rhan 1 o'r Cod yn cwmpasu "Datblygu ac ystyried cynigion". At ddibenion y cais hwn, mae'r darpariaethau a ganlyn yn arbennig o berthnasol:
i) Lle mae cynigion yn effeithio ar ysgolion lle defnyddir y Gymraeg fel cyfrwng addysgu, dylai'r cynigydd gynnal asesiad o effaith y cynnig ar yr iaith Gymraeg (paragraff 1.4).
ii) Ar ben hynny, lle bwriedir cau ysgol, dylai'r cynigydd "ddangos bod effaith cau'r ysgol ar y gymuned wedi'i hasesu drwy lunio Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned, a dangos sut y gellid cynnal unrhyw gyfleusterau cymunedol a ddarperir gan yr ysgol ar hyn o bryd" (paragraff 1.7).
i) Mae Atodiad 'Ch' y Cod yn ymwneud ag "Asesiadau o'r effaith ar y gymuned a'r effaith ar y Gymraeg". Pwysleisia "na ddylai'r gofyniad i gynnal asesiadau fod yn rhy feichus ac nid yw'n ystyried bod angen comisiynu gwaith o'r fath gan ymgynghorwyr allanol."
13. Mae rhan 3 y Cod yn ymwneud ag "Ymgynghori". Mae'r darpariaethau a ganlyn yn neilltuol o berthnasol i'r hawliad hwn:
i) Mae cyfeiriad at y gofyniad, a bwysleisir mewn cyfraith achosion (gweler, er enghraifft, ddangosiad Mr Ustus Hodgson yn R v Cyngor Bwrdeistref Brent yn Llundain ex parte Gunning (1985) 84 LGR 168, ac, yn fwy diweddar, R (Sterling) v Bwrdeistref Haringey yn Llundain [2014] UKSC 56 yn [25] yr Arglwydd Wilson), y dylai'r broses ymgynghori "gael ei chynnal pan fydd cynigion yn dal ar gam ffurfiannol", ac y dylai gynnwys "digon o wybodaeth a rhesymau dros gynigion penodol er mwyn sicrhau ystyriaeth ac ymateb deallus" (paragraff 3.1).
ii) Erbyn paragraff 3.2, mae'n ofynnol i'r ddogfen ymgynghori gynnwys:
"disgrifiad manwl o'r cynnig neu gynigion (gall cynigydd ymgynghori ar fwy nag un cynnig posibl), yr amserlen arfaethedig ar gyfer gweithdrefnau statudol ac ar gyfer gweithredu'r cynigion ac unrhyw drefniadau interim arfaethedig y gellid bod angen eu gweithredu...;
unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig â'r cynigion ac unrhyw fesurau sy'n ofynnol i reoli'r rhain;
disgrifiad o unrhyw ddewisiadau amgen a ystyriwyd a'r rhesymau dros eu gwrthod;
...
ffurflen ar gyfer cyflwyno sylwadau, gan gynnwys cyfle i ymgyngoreion awgrymu dewisiadau amgen i'r cynigion...;
...
Pan fydd cynigion yn cynnwys sefydlu ysgol newydd,... lleoliad... yr ysgol newydd... [a] manylion yr adeiladau a'r ystafelloedd arfaethedig, gan gynnwys rhestr o'r cyfleusterau arfaethedig;
Pan fydd cynigion yn cynnwys cau ysgol,...: effaith y cynigion ar y gymuned leol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig...; [a'r] effaith debygol ar staff yr ysgolion a enwir mewn cynigion;
Pan fydd unrhyw ysgol sy'n rhan o gynnig neu y mae cynnig yn effeithio arni yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg,...: effaith y cynigion ar y Gymraeg..."
I raddau, mae'r gofynion hyn yn adlewyrchu meini prawf Gunning fel y'u mabwysiadwyd yn benodol gan y Cod, yn y modd y maent yn bwrw ymlaen ar y sail, mewn rhai amgylchiadau, na ellir gwneud ymateb gwybodus i'r ymgynghoriad heb i'r ymgyngoreion wybod am asesiad perthnasol o effaith y cynnig ar y Gymraeg a/neu'r gymuned.
Categoreiddio Ysgolion ar sail Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg
14. Mae Gweinidogion Cymru yn categoreiddio ysgolion ar sail faint o Gymraeg a ddefnyddir mewn addysgu a dysgu, ac ym mywyd yr ysgol o ddydd i ddydd, fel y nodir yn Nogfen Wybodaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2007, "Diffinio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg". Er nad oes sail statudol i'r categoreiddio hwn, mae consensws cyffredinol ei fod yn ddefnyddiol.
15. Mae categorïau 1 a 2 yn berthnasol yn y cais hwn. Fe'u diffinnir fel a ganlyn:
" 1. Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg
Y cwricwlwm - Mae pob disgybl yn y Cyfnod Sylfaen yn cael profiad o'r meysydd dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Cymraeg yw'r prif gyfrwng addysgu yng Nghyfnod Allweddol 2 ac mae o leiaf 70% o'r addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Caiff Saesneg ei gyflwyno yn ffurfiol fel pwnc yng Nghyfnod Allweddol 2 a chaiff ei addysgu drwy gyfrwng y Saesneg, ac mae'n bosibl y defnyddir Saesneg hefyd ar gyfer rai agweddau ar rai pynciau.
Iaith yr Ysgol - Cymraeg yw iaith yr ysgol o ddydd i ddydd. Cymraeg yw'r iaith a ddefnyddir i gyfathrebu â'r disgyblion ac yng ngweinyddiaeth yr ysgol. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â'r rhieni yn y naill iaith a'r llall.
Y canlyniadau - Fel rheol, disgwylir y bydd disgyblion, ni waeth beth yw iaith y cartref, yn gallu trosglwyddo'n hawdd i ddarpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg ac y byddant wedi cyrraedd, yn erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2, yr un safon yn Saesneg â disgyblion mewn ysgolion sydd, yn bennaf, yn rhai cyfrwng Saesneg.
2. Ysgol Gynradd Ddwy Ffrwd
Y cwricwlwm - Mae dau fath o ddarpariaeth yn bodoli ochr yn ochr yn yr ysgolion hyn. Mae'r rhieni/disgyblion yn dewis naill ai'r ddarpariaeth sy'n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, a gyflwynir yn yr un modd ag yng nghategori 1, neu'r ddarpariaeth sy'n bennaf drwy gyfrwng y Saesneg, a gyflwynir yn yr un modd ag yng nghategori 5.
Iaith yr Ysgol - Defnyddir y Gymraeg a'r Saesneg ym mywyd yr ysgol o ddydd i ddydd. Natur y ddarpariaeth gwricwlaidd sy'n pennu ym mha iaith y cyfathrebir â'r disgyblion, ond mewn
rhai ysgolion, rhoddir blaenoriaeth uchel i greu ethos Cymraeg drwy'r ysgol. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â'r rhieni yn y naill iaith a'r llall.
Y canlyniadau - Ar gyfer disgyblion yn y ffrwd Gymraeg, disgwylir, fel rheol, yr un canlyniadau ag ar gyfer categori 1. Ar gyfer y disgyblion hynny sydd yn y ffrwd cyfrwng Saesneg, disgwylir, fel rheol, yr un canlyniadau ag ar gyfer categori 5.
Categori 5 yw "Ysgol Gynradd Cyfrwng Saesneg yn bennaf", gyda llai nag 20% o'r addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a'r Saesneg yn iaith busnes yr ysgol o ddydd i ddydd, gyda'r disgwyliad arferol y bydd disgyblion yn trosglwyddo i ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg.
16. Mae Ysgol Pentrecelyn ar gyrion pentref Pentrecelyn. Mae'n cael ei dynodi fel ysgol cyfrwng Cymraeg Categori 1. Mae lle yno ar gyfer 56 o ddisgyblion 4-11 oed, sy'n cael eu haddysgu mewn dau ddosbarth aml-oed. Mae bron y cyfan o'r addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a'r Gymraeg hefyd yw'r iaith weinyddu ac iaith maes chwarae'r ysgol.
17. Mae Ysgol Llanfair yng nghanol pentref Llanfair Dyffryn Clwyd, tua dwy filltir o Ysgol Pentrecelyn. Mae lle ynddi i 113 o ddisgyblion yn yr un ystod oedran, ac mae wedi cael ei dynodi'n ysgol dwy ffrwd Categori 2. Mae pob dosbarth yn cynnwys disgyblion sydd wedi dewis astudio drwy'r Gymraeg a'r rhai sydd wedi dewis astudio drwy'r Saesneg, ac maent yn cael eu haddysgu yn yr un ystafell ddosbarth er yn bennaf drwy eu dewis iaith: o ystyried nifer y disgyblion, mae'n anymarferol cael dosbarthiadau ar wahân ar gyfer pob ffrwd. Defnyddir y Gymraeg a'r Saesneg yng ngweinyddiaeth yr ysgol.
Cefndir ffeithiol
18. Ym mis Ionawr 2009, cymeradwyodd Cabinet y Cyngor Fframwaith Polisi Moderneiddio Addysg, a oedd yn darparu llwyfan ar gyfer adolygu'r ddarpariaeth addysg mewn ysgolion.
19. Ar 20 Tachwedd 2012, cymeradwyodd y Cabinet ddechrau adolygiad o ddarpariaeth ysgolion cynradd yn ardal Rhuthun, a oedd yn cynnwys Ysgol Pentrecelyn ac Ysgol Llanfair. Dechreuodd adolygiad Rhuthun gydag ymgynghoriad anffurfiol ym mis Chwefror 2013, ac yn dilyn hynny, ar 25 Mehefin 2013, argymhellodd y Cabinet bod Ysgol Pentrecelyn ac Ysgol Llanfair yn ffederaleiddio dim hwyrach na mis Medi 2014. Fodd bynnag, cafodd y dewis hwnnw ei ddiystyru yn sgil newid ym mholisi Gweinidogion Cymru tuag at ffedereiddio ysgolion o wahanol gategorïau darpariaeth iaith.
20. Fodd bynnag, parhaodd cyfarfodydd rhwng y Cyngor a chyrff llywodraethu'r ddwy ysgol i ystyried a allai'r ysgolion gydweithio ymhellach. Roedd consensws cyffredinol y dylai'r ddwy ysgol gael eu huno i greu ysgol ardal newydd, wedi ei dynodi'n ysgol wirfoddol a reolir wedi ei chydnabod gan yr Eglwys yng Nghymru. Fodd bynnag, cafwyd anghytundeb ynghylch categori iaith yr ysgol newydd, gan fod y ddau gorff llywodraethu o'r farn y dylai'r ysgol newydd gael ei rhoi yn yr un categori â'u hysgol bresennol: credai llywodraethwyr Ysgol Pentrecelyn y dylai'r ysgol newydd fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg, tra credai llywodraethwyr ysgol Llanfair y dylai fod yn ysgol ddwy ffrwd. Roedd rhaniad tebyg ym marn rhieni ac aelodau o'r cyhoedd.
21. Yn dilyn y trafodaethau hynny, mae'n ymddangos bod Cabinet y Cyngor wedi llunio cynllun gweithredu a ffafrir, yn amodol ar weithdrefnau gofynnol, wrth gwrs. Y bwriad oedd cau Ysgol Pentrecelyn ac Ysgol Llanfair, gan roi un ysgol wirfoddol a reolir wedi ei chydnabod gan yr Eglwys yng Nghymru yn ei lle. Y cynllun oedd cau'r ddwy ysgol ac, i ddechrau, agor yr ysgol newydd ar y ddau safle presennol; ond, byddai'n cael ei symud i adeiladau ysgol newydd pwrpasol ar safle a fyddai'n cael ei nodi yn y dyfodol, yn rhywle a allai ddarparu cyfleusterau ysgol gynradd ar gyfer y ddau bentref. Y disgwyl oedd y byddai symud i un safle yn digwydd o fewn 12 mis i ffurfio'r ysgol newydd, fel y byddai'r ysgol yn meddiannu safle rhanedig am un flwyddyn academaidd yn unig. Cyfeiriwyd at gau'r ddwy ysgol bresennol ac agor ysgol newydd ar y ddau safle presennol yn gyffredinol fel "y Cam Cyntaf" neu "Cam 1"; a symud wedyn i un safle fel "Ail Gam" neu "Cam 2". Byddwn yn dychwelyd at y cynllun hwn ar ôl i ni ystyried gweddill yr hanes (paragraffau 48-51 isod).
22. Cyn unrhyw ymgynghoriad ffurfiol, ac fel sy'n ofynnol dan y Cod, comisiynodd y Cyngor Asesiad mewnol o'r Effaith ar y Gymuned a'r Gymraeg ("yr Asesiad Effaith") ar y cynnig roedd y Cyngor yn bwriadu ymgynghori yn ei gylch, sef:
"... [ c]ynnig i gau Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd, Ysgol Pentrecelyn a sefydlu ysgol ardal newydd. I ddechrau, bydd yr ysgol newydd yn gweithredu o safleoedd y ddwy ysgol bresennol (y Cynnig Presennol)..." (paragraff 1.1).
23. Roedd yr Asesiad Effaith yn gwahardd yn benodol unrhyw ystyriaeth o "Ail Gam" yn ymwneud â symud yr ysgol newydd i adeilad newydd ar un safle maes o law. Yn fersiwn Saesneg paragraff 4.7 yr Asesiad Effaith, dywedir bod yr asesiad yn ystyried potensial yr hyn a ddywedwyd ei fod yn fwriad ar y pryd, "and expressly excludes any consideration of a Second Phase which is not the subject of this consultation " ["ac nid yw'n cynnwys unrhyw ystyriaeth o Ail Gam nad yw'n destun yr ymgynghoriad hwn yn benodol" yn y Gymraeg]. (Dylid nodi bod y geiriau "yn benodol" wedi cael eu hychwanegu yn y fersiwn Gymraeg. Dychwelwn at yr anghysondeb wrth ystyried Sail 2 (gweler paragraff 75(i) isod).)
24. Gan hynny, yn yr Asesiad Effaith, ni ystyriwyd effaith symud yr ysgol i un safle. Fodd bynnag, yn ei datganiad dyddiedig 28 mis Ebrill 2016, dywed Ms Karen Evans (Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant y Cyngor) pe bai'r Asesiad Effaith wedi ystyried Cam 2 mewn gwirionedd, ni fyddai llawer iawn wedi newid yn yr asesiad yn ei barn hi; drwy ddweud hynny, dywed Mr Williams, mae hi'n golygu na fyddai canlyniad yr asesiad wedi bod yn wahanol. Dychwelwn at y cynnig hwnnw pan fyddwn yn ymdrin â Sail 1 (gweler paragraffau 55 ac yn dilyn isod, yn enwedig paragraff 67).
25. Yn yr Asesiad Effaith, ystyriwyd chwe effaith bosibl "y Cynnig Presennol". Yr unig faes lle ystyriwyd y byddai'r effaith yn negyddol neu'n niweidiol oedd mewn perthynas ag iaith yr ysgol newydd: gan y byddai'r ysgol ardal newydd yn ysgol ddwy ffrwd, y risg a nodwyd oedd y byddai'r defnydd o'r Gymraeg y tu allan i'r dosbarth yn lleihau, ac y gallai hunaniaeth, ethos a pholisïau'r ysgol newydd fod yn llai Cymraeg eu natur. Nodwyd y byddai angen i'r corff llywodraethu dros dro newydd, wedi ei benodi gan y ddau gorff llywodraethu presennol, sefydlu'r nodweddion hyn.
26. Mewn ymateb i'r effaith negyddol bosibl honno, nododd y Cyngor fesurau lliniaru (oedd, fel y cydnabyddir yn gyffredin, yn gysylltiedig â'r ysgol dau safle newydd arfaethedig yn unig), fel a ganlyn (paragraff 9.4):
"Petai'r cynnig yn cael ei weithredu, byddai angen i'r corff llywodraethu dros dro, a benodwyd o lywodraethwyr presennol o Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Pentrecelyn, rôl bwysig yn trosglwyddo'r ethos Gymraeg gryf i'r ysgol newydd [sic]. Bydd y corff llywodraethwyr dros dro yn gwneud penderfyniadau pwysig ynglŷn â phenodi Pennaeth, sefydlu hunaniaeth newydd, craffu polisïau a chreu offeryn llywodraeth. Bydd angen i'r corff llywodraethu dros dro sicrhau bod ei gweithdrefnau recriwtio yn sicrhau bod gan y staff yn yr ysgol, yr athrawon a'r staff cymorth, y lefelau gofynnol o ruglder i gynnal yr ethos Cymreig cryf presennol. Dylid mynd i'r afael â hyn drwy sicrhau bod pob swydd yn cael eu dosbarthu â Chymraeg naill ai'n hanfodol neu'n ddymunol yn ystod y broses recriwtio. Dylai unrhyw Gorff Llywodraethu newydd sicrhau bod cynnydd yn erbyn y camau gweithredu hyn yn cael ei fonitro'n agos. Yn yr un modd, bydd yn bwysig i Sir Ddinbych fel rhan o'i rôl monitro cyffredinol ar gyfer Cynllun Strategol Addysg Cymru, sicrhau bod yr ethos cyfrwng Cymraeg gref ar hyn o bryd yn c ael ei gadw, ac yn ymyrryd fel y bo'n briodol petai'n cael ei wanhau."
Ar ôl ystyried mesurau o'r fath, aseswyd y byddai'r effaith weddilliol ar yr iaith Gymraeg yn niwtral.
27. Aseswyd y byddai effaith y cynnig ar ddarpariaeth a safonau addysg yn gadarnhaol, oherwydd ystyriwyd y byddai ysgol ardal newydd - ar safleoedd ar wahân i ddechrau - yn rhoi cyfle i wella'r ddarpariaeth addysg drwy bennaeth gyda rhagor o amser arwain a rheoli ar gael, mynediad at ystod ehangach o gyfleusterau a mynediad at dîm o staff mwy o faint. Aseswyd y byddai'r effeithiau ar y pedwar maes sy'n weddill, gan gynnwys mynediad at addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a defnydd o'r Gymraeg o fewn y gymuned, yn niwtral.
28. O ran effaith y "Cynnig Presennol" ar y cymunedau perthnasol a'r iaith Gymraeg yn ogystal, daeth yr Asesiad Effaith i'r casgliad a ganlyn:
"I ddechrau ychydig iawn o effaith y bydd y Cynnig Presennol yn ei gael ar deuluoedd a chymunedau lleol wrth ddefnyddio safleoedd yr ysgolion presennol sydd wedi'u lleoli yn y ddwy gymuned." (paragraff 12.3).
"Ar y cyfan, bydd y Cynnig Presennol yn niwtral o ran ei effaith ar y Gymraeg. Er y byddai'r Cynnig Presennol yn lleihau'r nifer o leoedd Categori 1 yn yr ardal, rydym yn credu y bydd cynyddu'r cynnig dwy ffrwd yn sicrhau bod mwy o ddisgyblion yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg." (paragraff 10.3).
Drwy ddefnyddio'r gair "i ddechrau", mae'r asesiad yn awgrymu y gallai Cam 2 - y tu allan i gwmpas "y Cynnig Presennol" - gael mwy na dim ond effaith gyfyngedig ar y gymuned.
29. Ar 13 Ionawr 2015, penderfynodd Cyngor y Cabinet ymgynghori'n ffurfiol ynglŷn â gweithredu cynnig penodol, a nodwyd mewn dogfen ymgynghori ffurfiol a gyhoeddwyd, gyda'r Asesiad Effaith, ym mis Chwefror 2015 ("y Ddogfen Ymgynghori"). Cafodd y cynnig ei nodi ym mharagraff 1.3, mewn print bras, fel a ganlyn:
"Byddai Cyngor Sir Ddinbych yn cau Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd ac Ysgol Pentrecelyn ar 31 Awst, 2016; a bydd yr Eglwys yng Nghymru yn sefydlu Ysgol Ardal newydd ar y safleoedd presennol o 1 Medi 2016."
30. Parhaodd Rhan 2 y Ddogfen Ymgynghori, dan y pennawd "Crynodeb o'r cynigion", fel a ganlyn (mae pob pwyslais fel y mae yn y gwreiddiol):
" Cam Cyntaf
2.1 Mae'r ymgynghoriad ffurfiol hwn yn ymwneud â chynnig i greu Ysgol Ardal newydd i wasanaethu cymunedau Llanfair Dyffryn Clwyd a Phentrecelyn. Trwy gydol y ddogfen hon, gelwir y cynnig hwn yn Gynnig Presennol.
2.2 Os cytunir ar y Cynnig Presennol a'i weithredu yn ystod y cam cyntaf byddai ysgolion presennol Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd ac Ysgol Pentrecelyn yn cau ar 31 Awst 2016. Byddai Ysgol Ardal Newydd yr Eglwys yng Nghymru yn agor ar 1 Medi 2016.
2.3 ...Cynigir fod yr ysgol ardal newydd yn Ysgol Gynradd Dwy Ffrwd - Categori 2 lle mae dau fath o ddarpariaeth yn bodoli ochr yn ochr. Mae rhieni/disgyblion yn dewis naill ai darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn bennaf neu gyfrwng Saesneg yn bennaf. Defnyddir y Gymraeg a'r Saesneg yng ngweithgarwch yr ysgol o ddydd i ddydd. Caiff iaith cyfathrebu â'r disgyblion ei phennu gan natur y ddarpariaeth gwricwlaidd, ond mewn rhai ysgolion rhoddir blaenoriaeth uchel i greu ethos Cymraeg drwy'r ysgol. Mae'r ysgol yn cyfathrebu gyda rhieni yn y ddwy iaith. Pennir cymhwysedd a hyder y disgyblion yn y Gymraeg a'r Saesneg yn dibynnu ar ethos a pholisïau'r ysgol a'r corff llywodraethol...
2.4 Cynigir y byddai'r ysgol ardal newydd yn defnyddio'r adeiladau presennol yn Llanfair a Pentrecelyn yn y lle cyntaf. Mae'r ffordd y bydd y safleoedd yn cael eu defnyddio'n benderfyniad i'r pennaeth a'r corff llywodraethol ei drafod a'i weithredu. Opsiynau y gellid eu hystyried yw cadw'r disgyblion a'r staff fel y maent gyda mwy o gyfle i'r 2 safle ddod at ei gilydd ar gyfer digwyddiadau penodol. Bydd hyn yn caniatáu cyfnod pontio mwy llyfn i'r disgyblion a'r staff cyn codi adeilad newydd. Trwy gydol y ddogfen hon bydd creu Ysgol Ardal ar Ddau Safle yn cael ei alw'n Gam Cyntaf.
Ail Gam
2.5 Yn yr ail gam, byddai'r Ysgol Ardal yn cael ei chyfuno ar safle newydd yn ardal Llanfair / Pentrecelyn, yn amodol ar argaeledd ac addasrwydd tir. Rydym yn cynnig y bydd yr adeilad newydd yn barod erbyn Medi 2017 gan felly sicrhau mai dim ond un flwyddyn academaidd y bydd yr ysgol ar ddau safle. Bydd cynghorwyr yn ystyried a ddylid cymeradwyo'r arian cyfalaf ym mis Chwefror 2015.
2.6 Trwy gydol y ddogfen hon mae'r symud i safle newydd yn cael ei alw'n Ail Gam.
31. Mae'r Ddogfen Ymgynghori yn gyforiog o gyfeiriadau at fwriad cadarn y Cyngor i symud ymlaen i ysgol un safle yn gyflym - bryd hynny, erbyn Medi 2017 - gyda'r ysgol newydd ar safle rhanedig yn fesur dros dro yn yr ystyr ei fod yn gam tuag at y nod hwnnw. Er enghraifft, cafwyd cyfeiriadau mynych at "yr Ail Gam" a fydd "yn dilyn cwblhau'r cynnig presennol" (gweler, e.e. baragraffau 2.5 a 12.2), a "defnyddio adeiladau presennol Llanfair a Phentrecelyn yn y lle cyntaf" (gweler, e.e. baragraffau 12.5). Nodwyd yn glir y gobeithid ac y disgwylid y byddai'r trefniant safle rhanedig arfaethedig ar gyfer blwyddyn yn unig cyn i'r ysgol symud i un safle. Er enghraifft, nodwyd fel a ganlyn ym mharagraff 12.10:
"Bwriad y Cyngor, gan weithio mewn partneriaeth â'r Eglwys yng Nghymru, fyddai cyfuno'r ddarpariaeth ar un safle - Cam 2. Y weledigaeth ar gyfer yr Ysgol Ardal Newydd fyddai darpariaeth 4 - 11 oed yn gwasanaethu 140 o ddisgyblion gyda hyd at 0.6 dosbarth ymhob blwyddyn. Rydym yn cynnig y bydd yr adeilad newydd yn barod erbyn Medi 2017 gan felly sicrhau y bydd ond ar ddau safle am un flwyddyn academaidd. Bydd cynghorwyr yn ystyried cymeradwyo'r cyllid cyfalaf ym mis Chwefror 2015. Byddai'r ysgol newydd yn defnyddio'r adeiladau presennol yn y ddwy ysgol. Ni ragwelir unryw newidiadau sylweddol i'r cyfleusterau cyn i ysgol newydd gael ei adeiladu."
32. Dywedwyd hyn yn Rhan 3 y Ddogfen Ymgynghori, dan y pennawd "Proses Ymgynghori", (paragraff 3.1):
"Mae'r broses ymgynghori ffurfiol yn ymwneud â'r Cynnig Presennol a'r Cam Cyntaf a'r Ail Gam. Mae'r ymgynghoriad ffurfiol hwn yn cael ei gynnal i sicrhau bod cyfle gan yr holl bartïon perthnasol i gyfrannu at y pwnc pwysig hwn."
Ym mharagraff 3.4, dywedir:
"Cynhelir y cyfnod ymgynghori ffurfiol mewn perthynas â'r Cynnig Presennol rhwng 3 Chwefror, 2015 ac 16 Mawrth, 2015."
Nid oedd cyfeiriad at unrhyw gyfnod ymgynghori ar wahân ar gyfer yr Ail Gam.
33. Ystyriwyd "dewisiadau amgen" yn Rhan 21 y Ddogfen Ymgynghori. Dywedwyd bod ystyriaeth ofalus wedi ei rhoi i'r rhain "fel rhan o ddatblygu'r Cynnig Presennol"; ond roeddent mewn gwirionedd yn ddewisiadau eraill posibl o ran y cynllun cyfan, h.y. roeddent yn ddewisiadau gwahanol o ran y penderfyniad terfynol am y materion yn ymwneud ag ysgolion cynradd yn ardal Llanfair Dyffryn Clwyd/Pentrecelyn. Opsiwn 1.1 oedd cynnal y status quo, h.y. dewis "gwneud dim". Opsiwn 1.2 oedd ehangu Ysgol Llanfair DC. Opsiwn 1.3 oedd ehangu Ysgol Llanfair DC ar safle newydd, a chau Ysgol Pentrecelyn. Opsiwn 1.4 oedd "cau'r ddwy ysgol a sefydlu ysgol ardal Dau safle newydd parhaol ar y safleoedd presennol". Opsiwn 1.5 oedd "cau'r ddwy ysgol a sefydlu ysgol ardal ar ddau safle yn y lle cyntaf cyn adeiladu ysgol ardal newydd yn Llanfair." Opsiwn 1.6 oedd ffederaleiddio'r ysgolion, a oedd, am y rheswm a esboniwyd gennym, yn amhosibl erbyn y cam hwn.
34. Yna, cafwyd tabl yn nodi ffactorau perthnasol ar gyfer pob opsiwn gyda chroes, tic neu farc cwestiwn. Opsiwn 1.5 sgoriodd uchaf, gan gynnwys un ar gyfer "ffactor llwyddiant critigol 5", sef "Cefnogi'r cynnydd yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg"; tra rhoddwyd marc cwestiwn ar gyfer y ffactor yn opsiwn 1.4. Yn unol â hynny, daethpwyd i'r casgliad mai Opsiwn 1.5 oedd yr un a "ffafriwyd", gydag Opsiynau 1.3 a 1.4 yn cael eu categoreiddio fel rhai "posibl". Diystyrwyd yr opsiynau eraill.
35. Dylid dweud, yn union cyn y darn a ddisgrifiwyd uchod, y nodir ym mharagraff 21.4 y Ddogfen Ymgynghori:
"Mae'r dadansoddiad o'r opsiynau hyn yn awgrymu y dylid ystyried yr opsiwn o gau'r ddwy ysgol a sefydlu ysgol ardal ar ddau safle fel yr opsiwn a ffafrir er mwyn bodloni'r amcanion buddsoddi a ffactorau llwyddiant critigol."
Fodd bynnag, yn gymaint ag y mae'n ymddangos y gallai awgrymu mai Opsiwn 1.4 a ffafrir, mae'n anghywir: yn unol â dogfennau blaenorol a dilynol, wrth edrych ar y cyfan, nodwyd yn glir yn y Ddogfen Ymgynghori mai bwriad y Cyngor oedd cau'r ddwy ysgol, gan sefydlu ysgol ardal ar ddau safle i ddechrau ac yna byddai gwaith adeiladu ysgol ardal newydd i ddarparu ar gyfer holl ddisgyblion y ddau safle yn bwrw ymlaen yn brydlon. Dyna, yn amlwg, oedd y dewis a ffafriwyd gan y Cyngor.
36. Mae Rhan 23 y Ddogfen Ymgynghori yn dychwelyd at bwnc "Effaith Cymunedol, y Gymraeg a Chydraddoldeb", gan gyfeirio at Asesiad Effaith y Cyngor ynglŷn â'r materion hyn, gan grynhoi'n deg a mabwysiadu casgliad yr asesiad hwnnw:
"23.2 Ar y cyfan, bydd y Cynnig Presennol yn niwtral o ran ei effaith ar y Gymraeg. Er y byddai'r Cynnig Presennol yn lleihau'r nifer o leoedd Categori 1 yn yr ardal, rydym yn credu y bydd cynyddu'r cynnig dwyieithog yn sicrhau bod mwy o ddisgyblion yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg...
23.3 I ddechrau ychydig iawn o effaith y bydd y Cynnig Presennol yn ei gael ar deuluoedd a chymunedau lleol wrth ddefnyddio safleoedd yr ysgolion presennol sydd wedi'u lleoli yn y ddwy gymuned."
37. Pan gyhoeddwyd y Ddogfen Ymgynghori, cyhoeddodd y Cyngor fersiwn plant ar yr un pryd, a oedd yn pwysleisio cynllun y Cyngor yn yr un modd i wneud Ysgol Pentrecelyn ac Ysgol Llanfair yn un ysgol - ar ddau safle i ddechrau, ond yna ar un safle fel adeilad newydd:
"Ar y dechrau byddai yna un ysgol, ond mewn 2 le. Byddai un rhan lle mae Ysgol Llanfair nawr a byddai'r llall lle mae Ysgol Pentrecelyn nawr.
Mae hyn nes bydd yr ysgol newydd sbon arfaethedig yn barod i bawb symud i mewn...
Yn y tymor hir rydym eisiau i bob disgybl gael eu dysgu mewn adeilad newydd. Y syniad yma ydi'r cam cyntaf ar y siwrne...".
38. Ym mis Mehefin 2015, cyhoeddodd y Cyngor Adroddiad Ymgynghori Ffurfiol, gan ddadansoddi'r ymatebion i'r Ddogfen Ymgynghori ("yr Adroddiad Ymgynghori"). Mae'r rhain yn faterion o bwys:
i) Roedd yr Adroddiad Ymgynghori yn cadarnhau cynllun y Cyngor i symud yn gyflym tuag at ysgol ar un safle newydd, gyda'r ysgol dau safle yn fesur dros dro. Er enghraifft, nodir ym mharagraff 1.3 yr Adroddiad Ymgynghori:
"Y cynnig yw bod yr ysgol Ardal newydd yn defnyddio'r adeiladau presennol yn Llanfair a Phentrecelyn yn y lle cyntaf nes bo'r Ysgol Ardal newydd yn cael ei chysoni ar un safle mewn adeilad newydd. Os bydd y cynnig yn cael ei weithredu, rydym yn bwriadu y bydd yr adeilad newydd yn barod erbyn mis Medi 2017."
Yn yr un modd, mewn ymateb i sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad gan Estyn (Swyddfa Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru), dywedodd y Cyngor:
"Yn ystod Cam 1 pan fydd yr ysgol ardal newydd yn defnyddio'r ddau safle rhagwelwn bydd y staffio'n aros fwy neu lai yr un fath, ond gyda newidiadau i'r arweinyddiaeth a rheolaeth yn unig. Pan fydd yr ysgol ar un safle yn yr adeilad newydd, bydd strwythur staffio newydd yn eu lle. Bydd gwaith ar hyn yn dechrau ar unwaith pan fydd y pennaeth newydd a'r corff llywodraethu dros dro yn eu lle." (ychwanegwyd y pwyslais)
ii) Yn adran 5 yr Adroddiad Ymgynghorol, nodwyd bod y Ffurflen Ymateb Safonol yng nghefn y Ddogfen Ymgynghori Ffurfiol wedi cael ei chynllunio i ganfod a oedd pobl o blaid "y Cynigion." Roedd dau gyfeiriad arall yn yr un paragraff at "gynigion" fel gair lluosog.
iii) Trafodwyd ymateb Estyn i'r ymgynghoriad yn Adran 6, ac atodwyd ymateb llawn Estyn yn Atodiad H. Er bod y cyflwyniad i'r ymateb yn nodi'n gywir y cynnig i gau'r ddwy ysgol a sefydlu ysgol newydd ar y ddau safle am flwyddyn - pan fyddai'n cael ei disodli gan un ysgol newydd sbon - yn nes ymlaen yn yr ymateb ceir cyfeiriad at yr opsiwn a ffafrir gan y Cyngor, sef "cau'r ddwy ysgol a sefydlu ysgol ardal ar ddau safle".
iv) Ym mharagraff 7, ystyrir ymatebion dau undeb llafur athrawon (Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru ("UCAC")) ac NUT Cymru). Nodwyd bod pryderon UCAC yn cynnwys "y diffyg pendantrwydd o ran Cam 2". Atodwyd ymateb llawn UCAC yn Atodiad I yr Adroddiad. Ym mharagraff 4 yr ymateb hwnnw, cyfeiriodd UCAC at "y cynllun dau gam arfaethedig efo bwriad i weithredu'r Cam Cyntaf - sef creu Ysgol Ardal ar safle ddeuol ym Medi 2016 - yn ateb dros dro yn unig i'r argyfwng" (ychwanegwyd y pwyslais ).
v) Nodwyd ymateb llawn Llywodraethwyr Ysgol Pentrecelyn yn Atodiad K. Ymhlith pethau eraill, maent yn mynegi pryder ynghylch defnydd parhaus y Gymraeg ar y maes chwarae ac fel arall yn gymdeithasol, pe bai'r ysgol newydd yn un ddwy ffrwd.
vi) Yn Atodiad B yr Adroddiad Ymgynghori, nodir materion a godwyd ar wahanol adegau yn ystod yr ymgynghoriad (e.e. mewn cyfarfodydd), ac ymateb y Cyngor. Mae'r canlynol yn arbennig o berthnasol:
a) Mewn ymateb i bryder ynghylch symudiad disgyblion rhwng y ddau safle ysgol newydd, dywedodd y Cyngor: "Gan y byddai'r trefniadau am 12 mis nid ydym o'r farn y byddai hyn yn debygol iawn...".
b) Mewn ymateb i bryder ynghylch defnyddio'r Gymraeg mewn gweithgareddau cymdeithasol ac ar iard yr ysgol, dywedodd y Cyngor: "Rydym yn deall eich pryderon. I ddechrau, bydd yr ysgol newydd ar y 2 safle a ni fyddai dim llawer yn newid. Pan fyddant yn symud i mewn i'r adeilad newydd, mae'n anodd dweud wrthych ar hyn o bryd sut byddai'r cynnig yn edrych yn ei gyfanrwydd; does dim byd wedi'i benderfynu ymlaen llaw." Rhoddir ymateb tebyg i faterion tebyg yn Atodiad G, sy'n nodi crynodeb o'r materion a godwyd yn yr ymgynghoriad ac ymateb y Cyngor. Ymddengys fod y Cyngor yn derbyn, gan adael o'r neilltu unrhyw fater ynghylch cymhwysedd ieithyddol - nad oedd y Cyngor o'r farn y byddai'n cael ei amharu gan y cynnig i gael ysgol Categori 2 - fod perygl, yn ymarferol, i'r defnydd o'r Gymraeg, y tu allan i'r ystafell ddosbarth, gael ei amharu pan fyddai'r ysgol yn dod at ei gilydd ar un safle.
39. Ar ôl cwblhau'r broses ymgynghori, ar 18 Mehefin 2015, cyhoeddodd y Cyngor hysbysiad statudol dan adrannau 41 a 43 Deddf 2013, gan gadarnhau ei fod yn bwriadu cau Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Pentrecelyn ar 31 Awst 2016 a "sefydlu ysgol gynradd newydd Categori 2 dwy ffrwd a Reolir yn Wirfoddol gan yr Eglwys yng Nghymru.... Bydd yr ysgol newydd arfaethedig yn gweithredu o['r] ddau safle presennol..." ("yr Hysbysiad Statudol"). Nodwyd y gellid cyflwyno gwrthwynebiadau i'r cynnig yn ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod i ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad. Mewn "Nodyn Esboniadol" ar ddiwedd yr hysbysiad, nodwyd y canlynol ymhlith pethau eraill:
"Y cynnig hwn yw'r cam cyntaf ar gyfer datblygu'r ysgol ardal. Byddai'r ail gam yn gweld yr Ysgol Ardal yn cael ei chyfuno ar safle newydd yn ardal Llanfair/Pentrecelyn, yn amodol ar argaeledd tir ac addasrwydd. Rydym yn bwriadu i'r adeilad newydd fod yn barod erbyn mis Medi 2017 ."
Roedd hynny unwaith eto'n tanlinellu bod y newidiadau a oedd yn destun yr Hysbysiad Statudol yn gam cyntaf yn unig yn y gwaith o ddatblygu ysgol ardal yr oedd y Cyngor yn bwriadu ei hadeiladu erbyn mis Medi 2017.
40. Cafwyd tri deg o wrthwynebiadau i'r Hysbysiad Statudol, gyda'r mwyafrif helaeth yn gwrthwynebu'r cynnig y dylai'r ysgol newydd fod yn un Categori 2 yn hytrach na Chategori 1. Yn unol ag adran 49 Deddf 2013, paratôdd y Cyngor grynodeb o'r gwrthwynebiadau a'i ymateb iddynt ("yr Adroddiad Gwrthwynebiadau"). Roedd ymatebion y Cyngor, i raddau helaeth, yn ailadrodd y pwyntiau yr oedd wedi eu gwneud yn barod yn y dogfennau ymgynghori. Yn benodol, ymateb y Cyngor i bryderon ynghylch y Gymraeg oedd, "na fyddai llawer yn newid ar y dechrau tra byddai'r ysgol yn parhau i fod ar 2 safle" ac "Y byddai'r Awdurdod Lleol yn cynghori y gallai pethau aros fel y maent tra byddai'r ysgol ar y 2 safle presennol" (ymateb i bwyntiau 4 a 69).
41. Ar 29 Medi 2015, penderfynodd Cabinet y Cyngor ymgynghori ag Esgobaeth Llanelwy a gyda chyrff llywodraethu'r ddwy ysgol ar addasiad arfaethedig i'r cynnig i ohirio ei weithredu am ddeuddeg mis (h.y. cau'r ddwy ysgol ac agor yr ysgol newydd ar ddau safle ar 31 Awst 2017 yn hytrach na 31 Awst 2016) ac i gael caniatâd Gweinidogion Cymru i'r addasiad hwnnw. Cafwyd hynny'n briodol.
42. Ar 27 Hydref, 2015, cyfarfu'r Cabinet i ystyried yr adroddiad ar y gwrthwynebiadau i'r Hysbysiad Statudol, a hefyd adroddiad gan Bennaeth Cymorth Cwsmeriaid ac Addysg y Cyngor. Roedd yr olaf o'r adroddiadau hynny unwaith eto'n mynegi'r rheswm dros wneud yr adroddiad, sef bod angen penderfyniad ar y cynnig i agor ysgol newydd dwy ffrwd Categori 2 "i ddechrau" ar y ddau safle presennol, ond gan gyfeirio wedyn at Gam 2 fyddai'n gweld yr ysgol ardal yn cydgrynhoi ar safle newydd yn ardal Llanfair/Pentrecelyn, yn amodol ar argaeledd ac addasrwydd tir. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar iaith yr ysgolion. Nodwyd bod 80 o ddisgyblion yn Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd y flwyddyn honno wedi derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda 14% ohonynt wedi trosglwyddo o dderbyn addysg drwy gyfrwng y Saesneg. Mynegwyd y farn y byddai dynodi'r ysgol newydd fel ysgol Categori 2 yn helpu i gynyddu nifer cyffredinol y dysgwyr a disgyblion Cymraeg a fyddai'n gadael yr ysgol yn rhugl yn y ddwy iaith.
43. Dywedodd Arweinydd y Cabinet ei fod wedi cwrdd ag ymgyrchwyr Ysgol Pentrecelyn, a oedd yn cefnogi ysgol newydd dan ofal yr Eglwys yng Nghymru, ond yn gwrthwynebu'n gryf ddynodiad Categori 2. Gofynnodd am ymatebion gan y swyddogion ynghylch nifer o bryderon a godwyd gan yr ymgyrchwyr, gan gynnwys a roddwyd digon o ystyriaeth i'r disgyblion yn yr ysgol honno, y ffaith na fu cyfarfod rhwng rhieni disgyblion yn y ddwy ysgol, a phryderon ynghylch yr iaith a siaredir ar iard yr ysgol a'r effaith ar ddiwylliant.
44. Roedd ymateb y swyddogion yn cynnwys cyfeiriad at y ffigurau presenoldeb presennol a oedd yn dangos nad oedd digon o alw am ysgol Categori 1 ac, er na ellid amodi iaith iard yr ysgol, gallai'r corff llywodraethu newydd annog defnyddio'r Gymraeg. Cydnabu'r Arweinydd y sefyllfa anodd, a'r ddwy farn gref, wrthwynebus; ond pwysleisiodd mai'r ystyriaeth bwysicaf oedd sicrhau'r addysg a'r ddarpariaeth ieithyddol a diwylliannol orau.
45. Yn y pen draw, cymeradwyodd y Cabinet weithredu'r cynnig i gau Ysgol Llanfair ac Ysgol Pentrecelyn, ac i Esgobaeth Llanelwy sefydlu ysgol wirfoddol a reolir dwy ffrwd Categori 2 yr Eglwys yng Nghymru, "i weithredu yn y lle cyntaf o'r ddau safle presennol", gyda'r dyddiadau diwygiedig yn 2017 ("y penderfyniad"). Wrth gwrs, dyna'r penderfyniad y mae'r Hawlydd bellach yn ceisio ei herio.
46. Ar 22 Rhagfyr 2015, anfonwyd llythyr cyn-cyfreitha ar ran Ymgyrch Pentrecelyn i'r Cyngor, yn datgan bwriad y grŵp ymgyrchu i wneud cais am adolygiad barnwrol o'r penderfyniad. Ar 11 Ionawr 2016, cafodd cyfreithwyr yr ymgyrch ymateb y Cyngor i'r llythyr, yn gwrthod yr ymwared a geisiwyd.
47. Cyhoeddwyd yr hawliad ar 26 Ionawr 2016. Ar 22 Mawrth 2016, rhoddodd Ei Anrhydedd y Barnwr Jarman CF ganiatâd i barhau a'r cais; ac, ar 15 Ebrill 2016, gwnaeth orchymyn capio costau, gan gyfyngu rhwymedigaeth costau'r Hawlydd i £3,000, a'r Cyngor i £15,000.
Y dewis a ffafrir gan y Cyngor
48. Ar sail y dystiolaeth, roedd (ac y mae) bwriad y Cyngor, a'r dewis a ffafrir mewn perthynas â dyfodol addysg gynradd yn Llanfair Dyffryn Clwyd a Pentrecelyn, yn hollol amlwg. Yn wir, nid yw'n ddadleuol.
49. Mae'n cynnig cau Ysgol Pentrecelyn ac Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd, a sefydlu ysgol wirfoddol newydd a reolir dan ofal yr Eglwys yng Nghymru. I ddechrau, caiff yr ysgol honno ei sefydlu ar safleoedd y ddwy ysgol bresennol ym mis Medi 2017 (Cam 1); ond mae'r Cyngor yn cynnig adeiladu ysgol ar un safle newydd i ddarparu ar gyfer yr holl ddisgyblion o'r safleoedd hynny, a symud i'r ysgol newydd honno ym mis Medi 2018 (Cam 2). Nid yw safle ar gyfer yr ysgol newydd wedi cael ei gadarnhau hyd yma. Ymddengys bod y cyllid ar gyfer y prosiect adeiladu newydd wedi cael ei glustnodi, ond mae rhywfaint o risg na fydd cyllid ar gael. Er gwaethaf y risgiau hynny fel y rhai sy'n berthnasol i Gam 2, mae'r Cyngor yn gyffredinol yn hyderus y bydd Cam 2 yn cael ei weithredu fel y'i bwriedir; ac mae'n dymuno bwrw ymlaen i weithredu Cam 1 yn y cyfamser.
50. Gan hynny, pan gyflwynodd Mr Williams nad 'trefniant dros dro' yn unig oedd sefydlu ysgol newydd ar ddau safle presennol yr ysgolion, gyda phob parch, rydym o'r farn nad yw hynny'n cyfleu darlun llawn na chywir. Canolbwyntiodd ar yr Hysbysiad Statudol a'r penderfyniad sydd yn awr yn cael ei herio, gyda'r ddau ohonynt yn cael eu cyfyngu o ran eu cwmpas i weithredu Cam 1; ond dim ond rhan o'r dewis a ffafrir gan y Cyngor yw Cam 1. Maent yn bwriadu dilyn sefydlu'r ysgol newydd ar ddau safle gyda symud yr ysgol i adeilad newydd ar un safle.
51. Yn amodol ar fesurau diogelu gweithdrefnol, nid oes dim byd yn anghywir, wrth gwrs, gyda gwneuthurwr penderfyniad yn ffafrio dewis penodol.
Sail yr Hawliad: Cyflwyniad
52. Mae Mr Lewis yn argymell bod y penderfyniad yn anghyfreithlon ar bedair sail. Un sail yw bod y Cyngor wedi methu ystyried ystyriaeth berthnasol; mae'r lleill yn dadlau bod y broses ymgynghori yn ddiffygiol mewn tair ffordd wahanol.
53. Dyma'r seiliau.
Sail 1 : Yn groes i ofyniad cyffredinol cyfraith gyhoeddus i ystyried yr holl faterion perthnasol, ac yn groes i'r Cod, wrth wneud y penderfyniad i weithredu'r cynnig Cam 1 i gau'r ddwy ysgol ac agor ysgol newydd ar y safleoedd hynny, methodd y Cyngor ag ystyried ystyriaeth berthnasol, sef effaith y dewis a ffafrir gan y Cyngor ar yr iaith a'r gymuned - hynny yw, y gwaith o greu ysgol newydd ar un safle yn y pen draw. Mae'r methiant hwn yn cael ei adlewyrchu ym mhenderfyniad bwriadol y Cyngor i beidio ag ystyried Cam 2 yn yr Asesiad Effaith a ddefnyddir at ddibenion yr ymgynghoriad a phenderfyniad o ran gweithredu Cam 1.
Sail 2 : Roedd y Ddogfen Ymgynghori yn anghyson ac yn aneglur ynghylch cwmpas yr ymarfer ymgynghori, fel na allai ymgyngoreion ymateb yn ddeallus iddi.
Sail 3 : Methodd y Ddogfen Ymgynghori ag esbonio'n briodol beth oedd ystyr "ysgol dwy ffrwd Categori 2", sef statws arfaethedig yr ysgol newydd. Unwaith eto, roedd hyn yn golygu nad oedd gan yr ymgyngoreion yr wybodaeth i ymateb yn briodol.
Sail 4 : Yn groes i ofynion y Cod, nid oedd y ffurflen ymateb yn y Ddogfen Ymgynghori yn rhoi cyfle i'r ymgyngoreion awgrymu dewisiadau amgen i'r hyn a gynigiwyd.
54. Cymerwn y seiliau hyn yn eu tro.
Sail 1: Methu ystyried effaith creu ysgol newydd ar un safle ar yr iaith a'r gymuned
55. Argymhellodd Mr Lewis bod y Cyngor wedi gwneud camgymeriad wrth benderfynu gweithredu Cam 1, drwy fethu ag ystyried effaith Cam 2 ar yr iaith a'r gymuned. Mewn geiriau eraill, wrth benderfynu cau'r ddwy ysgol a chreu ysgol newydd ar y ddau safle, roedd yn gwneud camgymeriad wrth fethu ag ystyried yr effaith y byddai ei gynnig i drosglwyddo'r ysgol i adeilad newydd ar un safle ar ôl hynny yn ei chael ar yr iaith a'r gymuned.
56. Wrth wneud y penderfyniad a wnaeth, nid oes amheuaeth na wnaeth y Cyngor ystyried effaith Cam 2 ar yr iaith a'r gymuned. Ni wnaeth Mr Williams awgrymu fel arall; ond argymhellodd ei fod yn iawn i beidio â gwneud hynny. Y penderfyniad a oedd yn cael ei herio oedd cau'r ddwy ysgol o blaid ysgol newydd ar y ddau safle presennol. Roedd yr ymgynghoriad a'r rhybudd statudol yn cael eu cyfyngu i'r cynnig hwnnw. Ni wnaed unrhyw benderfyniad mewn perthynas â throsglwyddo'r ysgol i adeilad newydd ar un safle. Bydd symud i un safle yn destun penderfyniad ar wahân a fyddai, fel y derbyniodd Mr Williams, yn ôl pob tebyg angen asesiad pellach o'r effaith ar yr iaith a'r gymuned - "yn ôl pob tebyg", ond nid o reidrwydd, oherwydd awgryma Ms Evans, hyd yn oed pe bai Cam 2 wedi ei gynnwys, ni fyddai canlyniad yr asesiad wedi newid (gweler paragraff 24 uchod). Os yw'n ofynnol ymgynghori ymhellach - efallai na fydd, os bydd yr ysgol newydd yn llai na milltir o'r naill ysgol bresennol neu'r llall (gweler paragraff 9 uchod) - yna fe fyddai ymgynghoriad ffres. Os yw hysbysiad statudol pellach yn ofynnol, yna bydd hysbysiad o'r fath yn cael ei gyhoeddi. Ond, cyn belled ag y mae Cam 1 yn y cwestiwn, roedd gan y Cyngor hawl i edrych ar hynny ar wahân, ac fe wnaeth hynny'n iawn. Yn wir, ni fyddai wedi bod yn bosibl asesu effaith Cam 2, gan nad oedd lleoliad yr adeilad newydd wedi cael ei nodi.
57. Er mor gadarn y dadleuodd Mr Williams dros achos y Cyngor, mae'n well gennym argymhellion Mr Lewis. Wrth wneud hynny, rydym wedi ystyried y canlynol yn enwedig.
58. Derbyniodd Mr Lewis yn briodol bod gan y Cyngor hawl i ganolbwyntio ar Gam 1 (h.y. sefydlu ysgol dau safle i gymryd lle'r ddwy ysgol sy'n annibynnol ar hyn o bryd); ac i ymgynghori arnynt, a chyhoeddi hysbysiad statudol ac iddynt hwy eu hunain wneud penderfyniad mewn perthynas â gweithredu'r cam unigol hwnnw o'u dewis a ffafrir.
59. Fodd bynnag, drwy wneud hynny, ni allai'r Cyngor anwybyddu eu Cam 2 arfaethedig.
60. Mae paragraff 3.2 y Cod (a ddyfynnir ym mharagraff 13(ii) uchod) yn ei gwneud yn ofynnol i'r ddogfen ymgynghorol, mewn perthynas ag unrhyw gynnig, gynnwys "disgrifiad manwl o'r cynnig neu gynigion..., yr amserlen arfaethedig ar gyfer gweithdrefnau statudol ac ar gyfer gweithredu'r cynigion ac unrhyw drefniadau interim arfaethedig y gellid bod angen eu gweithredu...". Ni all y Cyngor drechu diben y Cod drwy gategoreiddio beth sydd yn ei hanfod yn gam interim tuag at nod arfaethedig terfynol fel cynnig sy'n sefyll ar ei ben ei hun.
61. Beth bynnag, yn amgylchiadau'r achos hwn, hyd yn oed pe bai'n absennol o'r Cod, byddai effaith Cam 2 y dewis a ffafrir gan y Cyngor ar yr iaith a'r gymuned (y symud o ysgol ddau safle i ysgol un safle) yn amlwg yn ystyriaeth faterol mewn unrhyw benderfyniad i weithredu Cam 1.
62. Ystyriai'r Cyngor Gam 1 fel un cam yn unig tuag at eu dewis a ffafrir o ysgol ar un safle. Ni fwriadwyd byth i gynnal yr ysgol newydd ar ddau safle: y bwriad drwyddi draw oedd i'r ysgol dau safle fod yn fesur dros dro yn unig - gan barhau, fel y gobeithiwyd, am ddim mwy na blwyddyn - tra byddai'r ysgol newydd yn cael ei hadeiladu.
63. Roedd potensial i effaith y trefniant dros dro hwn ar yr iaith a'r gymuned fod yn bwysig, wrth gwrs; ond roedd bob amser yn wir y byddai effaith yr ateb tymor hir o ysgol un safle yn debygol o fod yn fwy arwyddocaol. Cydnabu'r Cyngor y ffaith amlwg honno. Ym mharagraff 10.2 y Ddogfen Ymgynghori, dywedodd y Cyngor ei fod yn gwerthfawrogi y byddai'r cynnig Cam 2 i symud i ysgol ardal newydd ar un safle "yn arwain at fwy o newid na gweithredu un ysgol ar ddau safle." Fel y gwelsom, roedd y Cyngor yn ddealladwy yn ystyried y byddai pethau ar y cyfan yn aros fel yr oeddent i'r disgyblion nes symud i un safle yn digwydd: a nododd y Cyngor hynny'n glir mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan rieni ac eraill. Mae her amlwg symud i ysgol ar un safle wedi ei hadeiladu o'r newydd - a gwerthfawrogiad y Cyngor o'r her honno - yn cael ei hadleisio mewn mannau eraill yn y dogfennau.
64. Mae'n peri chwilfrydedd ac yn ymddangos yn artiffisial fod y Cyngor, wrth ystyried a ddylid gweithredu trefniant dros dro Cam 1, wedi anwybyddu'r trefniant parhaol a fyddai'n dilyn Cam 2. Yn ein barn ni, roedd effaith y trefniant parhaol ar yr iaith a'r gymuned yn amlwg yn berthnasol i'r penderfyniad ynghylch a ddylid cymryd y cam cyntaf ar ffurf Cam 1. Roedd cymryd y cam cyntaf ar hyd llwybr arfaethedig heb rywfaint o werthfawrogiad o'r risgiau o ran effaith anffafriol ar yr iaith a'r gymuned a allai fod o'n blaenau yn anghyfreithlon yn ogystal ag annoeth yn ein barn ni.
65. Ni chawsom ein hargyhoeddi gan y ddadl nad oedd yn ymarferol i ystyried yr effaith honno, gan nad oedd union leoliad yr ysgol a fyddai'n cael ei hadeiladau o'r newydd wedi cael ei benderfynu. Yn amlwg, bydd yr ysgol newydd yn ardal gyffredinol y ddwy ysgol sy'n bodoli'n barod, sydd tua dwy filltir ar wahân; mae asesiad o'r effaith ar yr iaith Gymraeg yn annhebygol o fod yn ddibynnol ar union leoliad; ac nid ydym yn gweld pam na all asesiad o effaith Cam 2 ar yr iaith a'r gymuned gael ei chyflawni'n synhwyrol ar sail ysgol ar un safle yn yr ardal yn gyffredinol. Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu na ellid cyflawni hyn. Rydym yn derbyn pan fydd y safle yn cael ei ddynodi y bydd angen rhywfaint o asesiad pellach o bosibl yn seiliedig ar yr union leoliad; ond mae'n annhebygol y byddai asesiad ychwanegol yn feichus iawn. Yn wir, mae tystiolaeth Ms Evans (sy'n rhagdybio barn ynghylch sut beth fyddai asesiad o ysgol un safle) yn awgrymu na fyddai'r asesiad uwchlaw'r hyn a wnaed yn barod yn feichus o gwbl yn achos y Cyngor.
66. Gan hynny, rydym wedi dod i gasgliad pendant bod y Cyngor wedi methu drwy fethu ag ystyried effaith Cam 2 eu cynigion ar gyfer diwygio ysgolion cynradd yn ardal Pentrecelyn/Llanfair Dyffryn Clwyd ar yr iaith a'r gymuned pan oedd yn ystyried gweithredu Cam 1 y cynigion hynny. Nid ydym o'r farn y gallai'r penderfyniad mewn perthynas â gweithredu Cam 1 gael ei gymryd yn iawn heb ystyried effaith Cam 2 ar yr iaith a'r gymuned.
67. At hynny, ni allwn gytuno ag argymhelliad Mr Williams, yn seiliedig ar ddatganiad Ms Evans, bod camgymeriad o'r fath yn amherthnasol oherwydd, pe bai'r Cyngor wedi ystyried effeithiau hynny, ni fyddai ei benderfyniad wedi bod yn wahanol: byddai'n dal wedi penderfynu gweithredu Cam 1. Noda Ms Evans fod hynny'n wir; ond ni all ei haeriad gymryd lle'r asesiad ffurfiol sy'n ofynnol gan y Cod, a beth bynnag, mae ei barn hi na fyddai llawer yn newid yn yr asesiad, i'r graddau y mae hynny'n awgrymu na fydd Cam 2 yn sicr yn cynnwys unrhyw effaith niweidiol ar iaith a chymunedau, yn ymddangos i ni yn anghyson â'r dystiolaeth. Fel yr ydym newydd ei nodi (paragraff 63 uchod), mae'n ymddangos bod y Cyngor yn deall yn iawn y byddai cynnig Cam 2 i symud i ysgol ardal newydd ar un safle yn arwain at ragor o newid, a thrwy hynny ragor o her, na gweithredu un ysgol ar ddau safle. Mae her y symud i ysgol ar un safle newydd - a gwerthfawrogiad y Cyngor o'r her honno - yn cael ei hadleisio mewn mannau eraill yn y dogfennau. Bydd symud i ysgol un safle categori 2 nid yn unig yn cael effaith andwyol o bosibl ar rai cymunedau - y byddai'r union effeithiau, rydym yn derbyn, o bosibl yn dibynnu ar ble bydd yr ysgol newydd ar un safle yn cael ei lleoli - ond hefyd yr iaith. Nid yw "defnydd o'r iaith Gymraeg" yma yn cynnwys mater cul cymhwysedd ieithyddol academaidd yn unig (na ddylai, yn ôl y Cyngor, gael ei effeithio'n andwyol gan ffrydio deuol), ond hefyd y defnydd o'r Gymraeg y tu allan i'r dosbarth (a allai, fel yr ymddengys mae'r Cyngor yn ei dderbyn, gael ei effeithio er gwaeth). Y dystiolaeth yw bod risg gwirioneddol y bydd Cam 2 yn arwain at effeithiau andwyol o'r fath.
68. Dan yr amgylchiadau, ni allwn fod yn fodlon bod tebygolrwydd uchel y byddai asesiad o'r effaith ar yr iaith a'r gymuned yn rhan o Gam 2 yn golygu y byddai'r penderfyniad i weithredu Cam 1 yr un fath beth bynnag.
69. Am y rhesymau hynny, rydym yn ystyried bod Sail 1 wedi ei chyfiawnhau.
Sail 2: Ymgynghoriad: Manylion y Cynnig yn Annigonol
70. Fel yr ydym wedi ei ddisgrifio (gweler paragraff 13 uchod), mae'r Cod (gan adlewyrchu'r gyfraith gyffredin) yn mynnu y dylai'r broses ymgynghori gael ei chynnal pan fydd cynigion ar gam ffurfiannol, a chynnwys digon o resymau a gwybodaeth ar gyfer cynigion penodol er mwyn galluogi ystyriaeth ac ymateb deallus. Dadl Mr Lewis yw bod y Ddogfen Ymgynghori yn yr achos hwn mor anghyson ac aneglur ynghylch cwmpas yr ymarfer ymgynghori, fel na allai ymgyngoreion ymateb yn ddeallus iddo.
71. I'r gwrthwyneb, cyflwynodd Mr Williams bod y cynnig yr oedd y Cyngor yn ymgynghori arno'n glir ac y tu hwnt i unrhyw amheuaeth. Fel yr ydym wedi disgrifio (gweler paragraff 29 uchod), ym mharagraff 1.3 y Ddogfen Ymgynghori, mewn paragraff print trwm addas, caiff y cynnig ei ddiffinio fel a ganlyn:
"Byddai Cyngor Sir Ddinbych yn cau Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd ac Ysgol Pentrecelyn ar 31 Awst, 2016; a bydd yr Eglwys yng Nghymru yn sefydlu Ysgol Ardal newydd ar y safleoedd presennol o 1 Medi 2016."
Dan y pennawd "Beth yw'r opsiwn arfaethedig?", mae hynny'n cael ei ailadrodd yn ei hanfod ym mharagraff 12.1.
72. Fel yr ydym wedi disgrifio (gweler paragraffau 48-51 uchod), erbyn y cyfnod hwn, roedd yn amlwg bod y Cyngor wedi penderfynu beth oedd y dewis a ffafriai - y llwybr yr oedd yn dymuno ac yn bwriadu ei ddilyn - mewn perthynas â dyfodol addysg gynradd yn Llanfair Dyffryn Clwyd a Phentrecelyn. Fodd bynnag, yn anffodus, nid ydym yn ystyried bod yr eglurder hwnnw wedi cael ei ailadrodd yn y Ddogfen Ymgynghori. Mae'n rhaid ystyried y ddogfen honno yn ei chyfanrwydd; a, phan edrychir arni felly, rydym yn cytuno gyda Mr Lewis - roedd yn anobeithiol o ddryslyd.
73. Yn union ar ôl paragraff 1.3 (sy'n ymddangos fel pe bai'n diffinio'r cynnig mor glir pan edrychir arno ar wahân), mae paragraff 2 (a ddyfynnir ym mharagraff 30 uchod) yn crynhoi'r cynnig, ond o ran y Cam Cyntaf (creu ysgol ardal newydd ar ddau safle) ynghyd â'r Ail Gam (cyfuno'r ysgol ar un safle wedi ei adeiladu o'r newydd). Eir ymlaen wedyn ym mharagraff 3.1:
"Mae'r broses ymgynghori ffurfiol yn ymwneud â'r Cynnig Presennol a'r Cam Cyntaf a'r Ail Gam. Mae'r ymgynghoriad ffurfiol hwn yn cael ei gynnal i sicrhau bod cyfle gan yr holl bartïon perthnasol i gyfrannu at y pwnc pwysig hwn."
Ar yr wyneb, mae paragraffau 2 a 3 yn sylfaenol anghyson â'r diffiniad ym mharagraff 1.3. Yn ein barn ni, nid yw'n syndod ei bod yn ymddangos fod Estyn wedi drysu braidd o ran union gwmpas yr ymgynghoriad a oedd yn cael ei gynnal mewn gwirionedd (gweler paragraff 38(iii) uchod)
74. Ceisiodd Mr Williams yn wrol i gymodi'r darnau hyn. Dywedodd fod y Ddogfen Ymgynghori yn nodi'n glir mai dim ond Cam 1 ("y Cynnig Presennol") oedd yn destun yr ymgynghoriad mewn gwirionedd, er bod y broses ymgynghori ffurfiol "yn gysylltiedig â" Cham 2 yn ogystal â Cham 1. Nid ydym yn ystyried y gall hynny egluro'r anghysondeb sylfaenol rhwng paragraff 1.3 a (dyweder) paragraff 2; ond, beth bynnag am hynny, mae esboniad Mr Williams yn achosi i ddadl y Cyngor i wynebu anhawster. Pe bai'r broses ymgynghori yn gyfyngedig i Gam 1, ond "yn gysylltiedig â" Cham 2 (h.y. bod Cam 2 yn ffactor berthnasol), ni allai'r ymgyngoreion ymateb iddo mewn modd priodol o wybodus heb gael gwybodaeth briodol am Gam 2, gan gynnwys asesiad o effaith andwyol Cam 2 ar yr iaith a'r gymuned. O ystyried ein canfyddiadau mewn perthynas â Sail 1, ni fydd yn syndod ein bod ni'n ystyried na allai ymgyngoreion fod wedi ymateb yn briodol i broses ymgynghori wedi ei chyfyngu i Gam 1 heb gael gwybodaeth am yr effaith honno. Rydym o'r farn fod hynny'n ddiffyg hollbwysig yn y broses ymgynghori, yn gymaint ag iddo wneud y broses honno (a phenderfyniad dilynol y Cyngor a seiliwyd arni) yn anghyfreithlon.
75. Dan yr amgylchiadau, nid ydym angen ymdrin yn fanwl â argymhellion pellach Mr Lewis i'r perwyl bod anghysondebau eraill o fewn pedwar ban y Ddogfen Ymgynghori, wedi eu cymhlethu gan wahaniaethau sylweddol rhwng y fersiynau Cymraeg a Saesneg. Fodd bynnag, fel enghraifft o'r rhain:
i) Fel yr ydym wedi disgrifio (paragraff 23 uchod), mae fersiwn Gymraeg paragraff 4.7 yr Asesiad Effaith, a lywiodd y ddogfen ymgynghori, yn ychwanegu'r geiriau "yn benodol" at yr ymadrodd "ac nid yw'n cynnwys unrhyw ystyriaeth o Ail Gam nad yw'n destun yr ymgynghoriad hwn yn benodol" ("and expressly excludes any consideration of a Second Phase which is not the subject of this consultation").
ii) Ym mharagraff 12.12, nodir yr amserlen ar gyfer y cynnig. Yn y fersiwn Saesneg, caiff y cam terfynol ei bennu fel symud i ysgol ardal newydd ar ddau safle ym mis Medi 2016; tra yn y fersiwn Gymraeg byddai disgyblion yn symud i ysgol newydd ar un safle ym mis Medi 2017. Yn y cyntaf, yr oedd cyfeiriad islaw'r tabl yn y fersiwn Saesneg yn nodi y rhagwelir y cam hwn "should investment be approved." Nid oes geiriau cyfatebol yn y fersiwn Gymraeg.
iii) Yn yr un paragraff, nodwyd "pwyntiau allweddol". Roedd y fersiwn Gymraeg yn cynnwys dau bwynt nad oedd i'w cael yn y fersiwn Saesneg, sef:
a) "Bydd yr ysgol yn ysgol Cyfrwng Cymraeg Categori 2"
b) "Byddai gan yr Ysgol Ardal Newydd (Cam 2) le ar gyfer 140 o ddisgyblion".
Er ein bod yn derbyn y gallai'r ail hepgoriad o'r fersiwn Saesneg fod yn fater bychan a dibwys, mae'r cyfeiriad at "ysgol cyfrwng Cymraeg Categori 2" yn anffodus: nid oes cysyniad o'r fath yn bod, ac mae'n awgrymu (yn anghywir) y gallai'r Gymraeg gael rhagor o amlygrwydd yn yr ysgol newydd na'r hyn sy'n arferol mewn ysgolion Categori 2.
76. Er nad yw Mr Lewis yn honni bod unrhyw fwriad penodol o du'r Cyngor, argymhellodd serch hynny bod yr anghysondebau hyn yn golygu bod hyd yn oed rhagor o ansicrwydd yn fersiynau Cymraeg yr Asesiad o Effaith a'r Ddogfen Ymgynghori ynghylch ai dim ond Cam 1 ynteu dau gam y cynllun cyffredinol oedd yn cael ei ystyried. Rydym yn cytuno ag ef. O ystyried bod gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru (gweler adran 1(1) Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (2011 mccc 1)), mae'n anffodus iawn ar y lleiaf fod gwahaniaethau sylweddol rhwng fersiynau'r ddwy iaith o'r dogfennau hyn. Mae gan y sawl sy'n darllen dogfen o'r fath yn y naill iaith neu'r llall yr hawl i ddisgwyl nad oes unrhyw wahaniaeth arwyddocaol rhwng y ddwy iaith.
77. Fodd bynnag, rydym o'r farn nad yw'r gwahaniaethau hynny, er mor anffodus, yn ychwanegu'n sylweddol at ein casgliadau a nodir ym mharagraff 74 uchod.
Sail 3: Ymgynghori: Methu ag egluro "ysgol Categori 2 dwy ffrwd"
78. Cyflwynodd Mr Lewis fod y Ddogfen Ymgynghori wedi methu esbonio'n ddigonol yr hyn a olygir wrth "ysgol categori dwy ffrwd", a gallai fod wedi gadael yr argraff (anghywir), yn dilyn Cam 2, y byddai ystafelloedd dosbarth ar wahân ar gyfer addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg; o ystyried nifer y disgyblion, yr unig ffordd realistig o ddarparu addysg dwy ffrwd ar un safle fyddai addysgu drwy ddwy iaith yn yr un dosbarth. Ceir cyfeiriadau drwy'r ddogfen at y ddau fath o ddarpariaeth yn bodoli "ochr yn ochr", y gellid yn rhesymol ei ddeall fel ystafelloedd dosbarth ar wahân, fel yr argymhellodd Mr Lewis.
79. O ystyried ein casgliadau mewn perthynas â'r angen am Asesiad Effaith mewn perthynas â Cham 2 yn yr ymarfer ymgynghori, ac yna o dderbyn bod yr addysgu yn ystod Cam 1 yn annhebygol o newid yn sylweddol, yn ein barn ni nid yw'r feirniadaeth dan y sail hon yn ychwanegu unrhyw beth sylweddol at y feirniadaeth yr ydym wedi ei derbyn dan Seiliau 1 a 2. Yn ein barn ni, dylai'r ddarpariaeth debygol yn yr ystafell ddosbarth ac iaith yr addysgu fod yn rhan o unrhyw asesiad o'r effaith ar yr iaith a chymunedau yn ystod Cam 2. Wrth edrych ar Gam 1 yn unig, ni fyddai hyn yn newid yn ymarferol.
80. Dan yr amgylchiadau, nid ydym yn ystyried ei bod yn angenrheidiol mynnu bod y sail hon yn ddilys.
Sail 4: Ymgynghori: Methu â sicrhau cyfle i ymgyngoreion awgrymu dewisiadau amgen
81. Mae Adran 3.2 y Cod yn gofyn bod y ddogfen ymgynghori yn cynnwys pro-forma ar gyfer sylwadau, "gan gynnwys cyfle i ymgyngoreion awgrymu dewisiadau amgen i'r cynigion..." (gweler paragraff 13(ii) uchod).
82. Cafwyd ffurflen yn yr achos hwn. Roedd yn cynnwys blwch ar ddwy ran o dair o dudalen, a gwahoddiad i ddefnyddio dalen ychwanegol os oes angen ar gyfer "eich sylwadau neu eich barn, positif neu negyddol, am y cynnig yma", heb gyfeirio'n benodol at yr awgrym o ddewisiadau eraill. Argymhellodd Mr Lewis fod hyn yn gyfystyr â thorri un o ofynion pwysig y cod. Argymhellodd Mr Williams fod y ffurflen yn rhoi cyfle o'r fath, a nododd bod nifer o'r rhai a ymatebodd wedi manteisio ar y cyfle hwn i awgrymu dewisiadau eraill, fel sefydlu ysgol Categori 1 newydd yn ardal Pwllglas neu uno'r ysgolion unigol yn eu tro ag ysgolion eraill yn yr ardal.
83. Nid dyma brif sail Mr Lewis, yn amlwg; ac rydym o'r farn ei bod yn anodd ei hasesu fel sail ar wahân oherwydd, er mai bwriad y Ddogfen Ymgynghori oedd ymgynghori ar Gam 1 yn unig, nid oedd y dewisiadau amgen a awgrymwyd yn ddewisiadau yn lle cynnig Cam 1, ond yn lle'r cynnig cyfan, gan ymgorffori Camau 1 a 2.
84. Fodd bynnag, er nad ydym wedi ein hargyhoeddi pe bai hon yr unig sail deilwng, y byddai wedi gwarantu unrhyw ymwared sylweddol, yr ydym yn argyhoeddedig fod Mr Lewis wedi gosod sail ddilys: yn ein barn ni, nid oedd y ffurflen yn darparu cyfle priodol i ymgyngoreion awgrymu dewisiadau eraill yn lle'r "cynnig", pe na bai ond oherwydd nad oedd yn glir a oedd y dewisiadau amgen hynny yn gyfeiriadau at Gam 1 ar ei ben ei hun neu at Gam 1 a 2.
Statws ac Oedi
85. Mynnodd Mr Williams wrthwynebiad i statws yr Hawlydd, ac argymhellodd hefyd y dylai ymwared gael ei wrthod oherwydd yr oedi. Gallwn ddelio â'r pwyntiau hyn yn fyr. Rydym yn ystyried nad oes ganddynt unrhyw rym.
86. O ran statws, rydym yn derbyn fod yn rhaid i'r llys fod yn wyliadwrus i sicrhau bod gan unrhyw hawliwr "ddigon o ddiddordeb" i ddod â hawliad fel sy'n ofynnol dan adran 31(3) Deddf Uwchlysoedd 1981. Mae'r cwestiwn a oes gan unigolyn penodol statws o'r fath mewn achos penodol o reidrwydd yn seiliedig ar ffeithiau.
87. Yn yr achos hwn, mae'r Hawlydd ymhell o fod yn ddigyswllt â'r mater. Mae'n aelod o'r gymuned leol ym Mhentrecelyn. Aeth i Ysgol Pentrecelyn, ac mae ganddo frodyr a chwiorydd sydd yn dal i fod yno. Mae'n aelod o'r grŵp ymgyrchu, Ymgyrch Pentrecelyn. Er ein bod yn derbyn y gall fod yn gamddefnydd o'r broses os (e.e.) dygir trafodion yn enw plentyn yn hytrach na'i riant er mwyn cael arian cyhoeddus ac amddiffyniad yn erbyn gorchymyn costau posibl, mae angen tystiolaeth glir i sefydlu bod hynny wedi digwydd (gweler R (Boulton) v Pwyllgor Trefniadaeth Leeds [2002] EWHC 1927 yn [37] parthed Mr Ustus Scott Baker). Nid oes unrhyw dystiolaeth o'r fath yma. Yn ôl ein dealltwriaeth ni, mae'r Hawlydd yn oedolyn nad yw'n derbyn cymorth drwy arian cyhoeddus. Er ei fod wedi cael rhywfaint o amddiffyniad yn erbyn gorchymyn costau posibl, mae'n parhau i fod yn agored i'r risg o dalu hyd at £3,000 tuag at gostau'r Cyngor. Nid oes digon o dystiolaeth i ddangos ei fod wedi cael ei ddefnyddio gan eraill er mwyn osgoi'r risg o gostau.
88. Ar sail y dystiolaeth, rydym yn fodlon fod gan yr Hawlydd fuddiant digonol, ac nad yw'r cais hwn yn camddefnyddio'r drefn.
89. O ran oedi, dan reol CPR 54.5(1)(a) a (b), rhaid i hawliad am adolygiad barnwrol gael ei ddwyn yn brydlon, ac mewn unrhyw achos heb fod yn hwyrach na thri mis ar ôl i'r sail dros y cais godi yn gyntaf; er bod gan y llys ddisgresiwn i estyn y cyfnodau hynny.
90. Argymhellodd Mr Williams fod yr hawliad yn ei hanfod yn herio'r ymgynghoriad, ac y dylai fod wedi cael ei ddwyn gerbron o fewn tri mis i gyhoeddi'r Adroddiad Ymgynghori ym mis Mehefin 2015 neu o fewn tri mis i gyhoeddi'r Hysbysiad Statudol ar 18 Mehefin 2015. Fel arall, hyd yn oed os mai'r penderfyniad perthnasol oedd un Cabinet y Cyngor ar 27 Hydref 2015 (ac felly ei fod wedi ei ddwyn gerbron o fewn tri mis), argymhellodd nad oedd y cais wedi ei ddwyn gerbron yn brydlon. Yn unol â hynny, argymhellodd y dylai'r llys ymarfer ei ddisgresiwn i wrthod ymwared, ar y sail y byddai dileu'r penderfyniad hwnnw yn niweidiol i weinyddiaeth dda ad-drefnu ysgolion gan y Cyngor yn ardal Rhuthun.
91. Fodd bynnag, rydym yn cytuno â Mr Lewis y byddai her o'r fath wedi bod yn gynamserol cyn y penderfyniad ar 27 Hydref 2015. Mae'n amlwg, er y bu penderfyniad i gyhoeddi Rhybudd Statudol ym mis Mehefin 2015, a rhoddodd hyn 28 diwrnod yn rhagor i wrthwynebiadau gael eu cyflwyno, ac yr oedd safbwyntiau croes a chadarn o hyd ymysg aelodau'r Cyngor, yn seiliedig ar yr ymatebion i'r Ddogfen Ymgynghori a'r gwrthwynebiadau i'r hysbysiad. Y penderfyniad wrth galon Sail 1 - ac, yn ei hanfod, y tair sail arall hefyd - yw penderfyniad sylweddol y Cyngor ar 27 Hydref 2015. Dyna sut, yn briodol, y mae wedi cael ei bledio. O gofio nad oes unrhyw ddibyniaeth ar unrhyw afles arbennig ynghylch cynlluniau ehangach y Cyngor, nid ydym yn ystyried bod amseriad yr hawliad hwn yn ddigon i gyfiawnhau gwrthod rhoi ymwared.
Casgliad
92. Am y rhesymau a roddwyd gennym, cafwyd bod Sail 1, 2 a 4 yn ddilys. O dan yr amgylchiadau, er y byddem yn ystyried argymhellion ar union ffurf y gorchymyn, rydym yn cynnig caniatáu'r adolygiad barnwrol, a dileu penderfyniad y Cyngor drwy ei Gabinet ar 27 Hydref 2015 i gau Ysgol Pentrecelyn ac Ysgol Llanfair, gan sefydlu ysgol newydd ar ddau safle'r ysgolion hynny, o 1 Medi 2017 ymlaen.
93. Fodd bynnag, ni ddylai'r Hawlydd a'i gefnogwyr fod o dan unrhyw gamddealltwriaeth. Mae effaith y dyfarniad hwn yn gyfyngedig. Er bod penderfyniad y Cyngor yn cael ei ddiddymu, y mae wedi cael ei ddiddymu ar sail weithdrefnol, ac nid ar sail teilyngdod, wrth gwrs. Mae'n agored i'r Cyngor ailystyried y mater, yn gyfreithlon, yng ngoleuni'r cyfarwyddyd yn y dyfarniad hwn; ac, wrth gwrs, ni ellir darogan y penderfyniad y gallai'r Cyngor ei wneu d ar ôl ailystyried.