Ger bron :
MEISTR USTUS HICKINBOTTOM
AC
EI ANRHYDEDD Y BARNWR MILWYN JARMAN CF
(YN EISTEDD FEL BARNWR YR UCHEL LYS)
____________________
|
Y FRENHINES AR GAIS COMISIYNYDD Y GYMRAEG
|
Hawlydd
|
|
- a -
|
|
|
CYNILION A BUDDSODDIADAU CENEDLAETHOL
|
Diffynnydd
|
|
- a -
|
|
|
GWEINIDOGION CYMRU
|
Buddiwr
|
____________________
Gwion Lewis (dan gyfarwyddyd Morgan Lewis LLP) ar ran yr Hawlydd
Emyr Gweirydd Jones (dan gyfarwyddyd Cyfeithiwr Trysorlys) ar ran y Diffynnydd
Nid ymddangosodd y Buddiwr ac nis cynrychiolwyd
Dyddiad y gwrandawiad: 19 Chwefror 2014
____________________
HTML VERSION OF JUDGMENT
____________________
Crown Copyright ©
Meistr Ustus Hickinbottom:
Cyflwyniad
- Dyma ddyfarniad y llys yr ydym ein dau wedi cyfrannu ato.
- Yn yr hawliad hwn, ceisia Comisiynydd y Gymraeg ("y Comisiynydd") herio penderfyniad Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol ("CBC") i ddadfabwysiadu ei gynllun iaith Gymraeg ("y Cynllun"); a'i fethiant parhaus i ailafael yn y Cynllun er gwaethaf argymhelliad y Comisiynydd y dylai wneud hynny.
- Ar 10 Medi 2013, gorchmynnais roi'r cais am ganiatâd i lawr am wrandawiad gyda'r hawliad sylweddol i'w glywed yn syth wedyn pe rhoddid caniatâd; a hynny'n benodol oherwydd, er imi ystyried y gellid dadlau'r achos, y byddai gwrandawiad cyflawn ("rolled-up") yn gwarchod safle'r Diffynnydd yn llawn mewn perthynas ag oedi honedig yr Hawlydd cyn cyflwyno'r hawliad. Gwrandawsom y cais ar y sail honno.
- Dyma'r hawliad cyntaf yn y Llys Gweinyddol, hyd y gwyddom ni, lle gwnaed argymhellion yn yr iaith Gymraeg, lle cyflwynwyd dogfennau yn y Gymraeg a lle defnyddiodd y Cwnsleriaid y Gymraeg neu'r Saesneg fel y dewisent yn ystod y gwrandawiad, gyda Gwion Lewis yn ymddangos ar ran yr Hawlydd ac Emyr Jones ar ran y Diffynnydd. Rydym yn ddiolchgar am eu cyfraniadau eglur a thrwyadl, ond cryno.
Y Gyfraith
- Banc cynilo ym meddiant y wladwriaeth yw CBC a sefydlwyd dan Ddeddf Banc Cynilo Cenedlaethol 1971, i olynu Banc Cynilo Swyddfa'r Post. Mae'n galluogi cynilwyr unigol i roi benthyg arian i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn gyfnewid am log, elw seiliedig ar y farchnad stoc neu wobrau, a gwarant cyfalaf. Mae ganddo fwy na £100 biliwn wedi'u buddsoddi gan dros 25m o gwsmeriaid, 1.5m ohonynt yn byw yng Nghymru. Mae'n gweithredu fel Asiantaeth Weithredol anllywodraethol i Ganghellor y Trysorlys, yn ymreolaethol o ran rheolaeth feunyddiol ac yn ffurfiol annibynnol ar Drysorlys Ei Mawrhydi (ond yn y pen draw yn atebol iddo). Mae'n cyflogi rhyw 140 o aelodau staff yn ei bencadlys yn Llundain, ond does ganddo ddim presenoldeb corfforol yng Nghymru.
- Crëwyd swydd y Comisiynydd gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (2011 mccc 1) ("y Mesur"), deddfwriaeth a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad") ar 7 Rhagfyr 2010 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar 9 Chwefror 2011. Er nad yw'n effeithio ar statws y Saesneg (adran 1(4)), mae'r Mesur yn rhoi i'r Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru (adran 1(1)); ac, heb amharu ar yr egwyddor cyffredinol hwnnw, yn rhoi grym i'r statws hwnnw drwy fynnu y sefydlir system reoleiddiol i osod safonau ymddygiad ynglŷn ag (ymysg pethau eraill) defnyddio'r Gymraeg, a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, wrth gyflenwi gwasanaethau, llunio polisi ac arfer swyddogaethau neu gynnal busnesau (adran 1(3)(e)). Mae'r Mesur hefyd yn creu trên sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff ac unigolion penodol gydymffurfio a'r safonnau ymddygiad hynny, ac yn cynnwys sancsiynau priodol am fethu cydymffurfio. Mae'r cyrff y mae dyletswydd y safonau ymddygiad yn berthnasol iddynt yn cynnwys Gweinidogion y Goron (ac, yn benodol, Trysorlys Ei Mawrhydi) ac adrannau llywodraeth (adran 33 ac Atodlen 6). Fodd bynnag, mae'n ddyddiau cynnar ar sefydlu safonau perthnasol ar hyn o bryd – cyhoeddwyd y set gyntaf ar gyfer ymgynghoriad yn Ionawr 2014 – ac nid awgrymir yn yr achos hwn fod CBC wedi torri unrhyw rai o'r agweddau hyn ar y Mesur. Serch hynny, mae cychwyniad y system reoleiddio honno'n gefndir pwysig i swydd y Comisiynydd.
- Sefydlodd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 ("Deddf 1993") Fwrdd yr Iaith Gymraeg ("y Bwrdd") (adran 1), gyda'r swyddogaeth o hyrwyddo a hwyluso defnyddio'r iaith Gymraeg (adran 3(1)). Yn benodol, wrth gyflawni'r swyddogaeth honno, roedd gofyn i'r Bwrdd:
"(g)ynghori personau sy'n ymarfer swyddogaethau o natur gyhoeddus ar y ffyrdd o weithredu'r egwyddor, wrth gynnal busnes cyhoeddus ac wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru, y dylid trin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal" (adran 3(2)(b)).
- Roedd adran 5 yn ei gwneud yn ofynnol i bob "corff cyhoeddus" sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru, pan gâi hysbysiad i wneud hynny gan y Bwrdd:
"…(b)aratoi cynllun i bennu'r mesurau y bwriada eu cymryd, at y diben y cyfeirir ato yn is-adran (2) isod, ynglŷn â defnyddio'r iaith Gymraeg mewn cysylltiad â darparu'r gwasanaethau hynny, neu'r cyfryw wasanaethau o'u plith ag a bennir yn yr hysbysiad."
"Y diben" a enwir yn is-adran (2) yw:
"…gweithredu, cyn belled ag y bo'n briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol, yr egwyddor, wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, y dylid trin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal.".
- Mae adrannau 9-16 o fewn Rhan II Deddf 1993 yn darparu ar gyfer paratoi, cymeradwyo ac adolygu cynllun iaith. Mae adran 9 yn gosod dyletswydd ar y Bwrdd i gyhoeddi canllawiau ynghylch ffurf a chynnwys cynlluniau iaith a wneir o dan y Ddeddf (adran 9(1)), a'r canllawiau hynny i gael eu cymeradwyo gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru (adran 9(2)). Dywed adran 16, dan y traws-bennawd "Diwygio cynlluniau":
"(1) Lle y mae cynllun a baratowyd gan gorff cyhoeddus wedi'i gymeradwyo gan y Bwrdd, caiff naill ai'r corff cyhoeddus neu'r Bwrdd ar unrhyw adeg drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r llall gynnig diwygiadau i'r cynllun.
(2) Ni fydd y Bwrdd yn ymarfer y pŵer a roir gan is-adran (1) uchod ac eithrio lle y mae'n fodlon bod diwygiadau i'r cynllun yn briodol oherwydd newidiadau yn swyddogaethau'r corff cyhoeddus neu yn yr amgylchiadau y cyflawnir y swyddogaethau hynny odanynt.
(3) Os cytunir rhwng y corff cyhoeddus a'r Bwrdd ar y diwygiadau a gynigiwyd, naill ai fel y'u cynigwyd neu gydag addasiadau, bydd y cynllun mewn grym wedyn yn ddarostyngedig i'r diwygiadau.
(4) Os na chytunir ar y diwygiadau, caiff naill ai'r corff cyhoeddus neu'r Bwrdd gyfeirio'r mater at yr Ysgrifennydd Gwladol.
(5).....
(6) Yn achos cyfeiriad o dan is-adran (4) uchod, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol –
(a) penderfynu na ddylid gwneud unrhyw ddiwygiadau, neu
(b) penderfynu ei hun ar y diwygiadau sydd i'w gwneud i'r cynllun (sef o bosibl y diwygiadau a gynigwyd, naill ai gydag addasiadau neu hebddynt, neu ddiwygiadau eraill)."
- Mae adrannau 17-20 yn darparu ar gyfer cydymffurfio â chynlluniau iaith, fel a ganlyn:
"17 Ymchwiliadau
(1) Lle ymddengys i'r Bwrdd, boed yn sgîl cwyn a wnaed iddo o dan adran 18 isod neu fel arall, y gall corff cyhoeddus fod wedi methu â chyflawni cynllun a gymeradwywyd gan y Bwrdd, caiff y Bwrdd gynnal ymchwiliad er mwyn gweld a fu methiant.
(2) Bydd y drefn ar gyfer cynnal ymchwiliad o dan yr adran hon yn gyfryw ag y cred y Bwrdd ei bod yn briodol o dan amgylchiadau'r achos, ac yn arbennig gellir cynnal ymchwiliad yn breifat.
18 Cwynion am fethu cydymffurfio
(1) Mae'r adran hon yn gymwys lle –
(a) cyflwynir cwyn ysgrifenedig i'r Bwrdd gan berson sy'n honni bod methiant gan gorff cyhoeddus i gyflawni cynllun a gymeradwywyd gan y Bwrdd wedi effeithio'n uniongyrchol arno,
(b) gwneir y gŵyn o fewn y cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau ar y diwrnod pryd y gwybu'r achwynydd gyntaf am y materion a honnir yn y gŵyn, ac
(c) y mae'r Bwrdd yn fodlon bod yr achwynydd wedi dod â'r mater y cwynir amdano i sylw'r corff cyhoeddus o dan sylw a bod y corff hwnnw wedi cael cyfle rhesymol i'w ystyried ac i ymateb.
(2) Lle y mae'r adran hon yn gymwys, bydd y Bwrdd naill ai'n ymchwilio i'r gŵyn honno o dan adran 17 uchod neu'n anfon datganiad o'i resymau dros beidio â gwneud at yr achwynydd.
19 Adroddiadau ar ymchwiliadau
(1) Lle bydd y Bwrdd yn cynnal ymchwiliad o dan adran 17 uchod, bydd yn anfon adroddiad am ganlyniadau'r ymchwiliad i'r corff cyhoeddus o dan sylw, at yr Ysgrifennydd Gwladol ac, lle cynhelir yr ymchwiliad yn sgîl cwyn a wnaed o dan adran 18 uchod, at yr achwynydd (p'un a dynnir y gŵyn yn ôl cyn gorffen yr ymchwiliad ai peidio).
(2) Lle cred y Bwrdd y byddai'n briodol i adroddiad ar ganlyniadau ymchwiliad gael ei gyhoeddi, naill ai ar ffurf yr adroddiad a wneir o dan is-adran (1) uchod neu ar ryw ffurf arall, caiff y Bwrdd drefnu ei gyhoeddi yn y cyfryw fodd ag y gwêl yn dda.
(3) Lle bydd y Bwrdd, ar ôl gorffen ymchwiliad, yn fodlon bod y corff cyhoeddus o dan sylw wedi methu â chyflawni'r cynllun, caiff y Bwrdd gynnwys yn ei adroddiad argymhellion ynghylch camau i'w cymryd gan y corff cyhoeddus er mwyn cywiro'r methiant neu er mwyn osgoi methiant yn y dyfodol.
20 Cyfarwyddiadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol
(1) Os ymddengys ar unrhyw adeg i'r Bwrdd fod corff cyhoeddus wedi methu â chymryd unrhyw gamau a argymhellwyd mewn adroddiad o dan adran 19 uchod, caiff y Bwrdd gyfeirio'r mater at yr Ysgrifennydd Gwladol.
(2) Yn achos cyfeiriad o dan yr adran hon os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn fodlon, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd iddo gan y Bwrdd a chan y corff cyhoeddus dan sylw, fod y corff wedi methu â chymryd unrhyw gamau a argymhellwyd yn yr adroddiad, caiff roi'r cyfryw gyfarwyddiadau i'r corff cyhoeddus ag y cred eu bod yn briodol.
(3) Gellir gorfodi unrhyw gyfarwyddiadau a roir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan is-adran (2) uchod, os gwneir cais ganddo, drwy gyfrwng y mandamws."
- Mae adran 21 y Ddeddf yn cyfeirio at y Goron, ac mae o bwys arbennig i'r materion yn yr hawliad hwn. Dywed:
"(1) Nid yw cyfeiriadau yn y Rhan hon o'r Ddeddf hon at gyrff cyhoeddus yn cynnwys cyfeiriadau at unrhyw berson sy'n gweithredu fel gwas neu asiant i'r Goron; ond bydd darpariaethau canlynol yr adran hon yn gymwys lle bydd y cyfryw berson wedi mabwysiadu neu'n bwriadu mabwysiadu cynllun iaith Gymraeg.
(2) Bydd person sydd wedi mabwysiadu cynllun iaith Gymraeg cyn cychwyn y Ddeddf hon yn anfon copi ohono i'r Bwrdd.
(3) Bydd person sy'n paratoi cynllun iaith Gymraeg ar ôl i'r Ddeddf hon gychwyn yn rhoi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Bwrdd o dan adran 9 uchod, a chyn ei fabwysiadu bydd yn anfon y cynllun arfaethedig i'r Bwrdd.
(4) Lle bydd y Bwrdd yn awgrymu diwygiadau i gynllun neu gynllun arfaethedig a anfonwyd gan unrhyw berson i'r Bwrdd yn unol ag is-adran (2) neu (3) uchod, bydd y person hwnnw, os na fydd yn gweithredu'r diwygiadau, yn anfon datganiad ysgrifenedig o'r rhesymau dros beidio â gwneud i'r Bwrdd.
(5) Bydd adrannau 17 i 19 uchod yn gymwys mewn perthynas â phersonau y mae'r adran hon yn gymwys iddynt ac i gynlluniau iaith Gymraeg a fabwysiedir ganddynt fel y maent yn gymwys i gyrff cyhoeddus a chynlluniau a gymeradwyir gan y Bwrdd.
(6) Yn yr adran hon ystyr "cynllun iaith Gymraeg" yw cynllun sy'n pennu mesurau y mae'r person sy'n paratoi'r cynllun yn bwriadu eu cymryd ynglŷn â defnyddio'r iaith Gymraeg mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru gan y person hwnnw, neu gan eraill sy'n gweithredu fel gweision neu asiantau i'r Goron neu gyrff cyhoeddus."
Felly, nid yw corff sy'n gorff y Goron dan unrhyw rwymedigaeth i fabwysiadu cynllun iaith Gymraeg, ac, os gwna, mae'n ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 17-19 a 21 yn unig.
- Trosglwyddwyd pŵerau'r Ysgrifennydd Gwladol dan y darpariaethau uchod i'r Cynulliad gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (SI 1999 Rhif 672). Trosglwyddwyd pŵerau statudol y Cynulliad i Weinidogion Cymru dan adran 162 Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 30 yn Atodlen 11 i'r ddeddf. Cynhwyswyd Gweinidogion Cymru fel Buddiwr yn yr hawliad hwn, ond nid ydynt wedi chwarae rhan weithredol ynddo.
- Effaith y Mesur oedd diddymu'r Bwrdd, a throsglwyddo'i swyddogaethau dan Ran II Deddf 1993 i'r Comisiynydd. Dan baragraff 4 Atodlen 12 i'r Mesur, mae unrhyw gyfeiriad at y Bwrdd yn Neddf 1993 i'w ddeall, cyn belled ag y mae'n ymwneud â swyddogaeth gan y Bwrdd a drosglwyddwyd i'r Comisiynydd, fel cyfeiriad at y Comisiynydd. Yn gyson ag egwyddorion ac amcan Deddf 1993, mae adran 3 y Mesur yn darparu mai prif nod y Comisiynydd wrth arfer y dyletswyddau hynny yw hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg.
Y Ffeithiau
- Fel yr ydym wedi nodi, nid yw'r ddyletswydd a osodwyd ar gyrff cyhoeddus i baratoi cynllun iaith Gymraeg yn berthnasol i adrannau'r llywodraeth na chyrff y Goron. Fodd bynnag, yn ystod ail ddarlleniad Mesur yr Iaith Gymraeg yn Nhŷ'r Arglwyddi, dywedodd y Gweinidog Gwladol yn y Swyddfa Gartref ar y pryd (Iarll Ferrers):
"Bydd adrannau'r llywodraeth a chyrff y Goron fel ei gilydd yn cynhyrchu cynlluniau, ac fe gaiff eu paratoi yn union yr un ffordd ac i'r un safonau â rhai cyrff cyhoeddus eraill ….
Bydd adrannau'r llywodraeth hefyd yn cyflwyno cynlluniau i Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn union fel petai'r ddeddfwriaeth yn gosod dyletswydd arnynt i wneud hynny. Bydd y cynlluniau hyn yn rhoi sylw i'r un canllawiau â'r rhai a fydd yn berthnasol i bob corff cyhoeddus arall." (Hansard HL, 19 Ionawr 1993).
- Cymerodd y Bwrdd y Llywodraeth ar ei gair. Ym mis Mawrth 1996, dan adran 9 Deddf 1993, cyhoeddodd ganllawiau, "Cynlluniau Iaith Gymraeg: Eu paratoi a'u cymeradwyo yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993". Dywedasant (ym mharagraff 1.4):
"Mae adrannau'r llywodraeth, cyrff y Goron a chyrff cyhoeddus (y cyfeirir atynt yn dorfol fel 'sefydliadau' yng ngweddill y ddogfen hon) felly dan rwymedigaeth i baratoi cynlluniau iaith Gymraeg".
Mewn geiriau eraill, roedd y Bwrdd yn ystyried bod adrannau'r llywodraeth a chyrff y Goron dan rwymedigaeth i baratoi cynlluniau o ganlyniad i ymrwymiad y Llywodraeth y gwnaent hynny, tra bod cyrff cyhoeddus eraill dan y rhwymedigaeth o ganlyniad i'r darpariaethau statudol. Rhaid bod y canllaw polisi hwnnw wedi'i gymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol dan adran 9(2) Deddf 1993 (gweler paragraff 9 uchod). Mae'n dal mewn grym.
- Yn unol â datganiad y Gweinidog a wnaed yn ystod pasio Deddf 1993 a'r canllawiau hynny, wedi sicrhau cymeradwyaeth gan y Bwrdd i gynllun arfaethedig, mabwysiadodd CBC eu cynllun iaith Gymraeg cyntaf ym 1998. Ym mis Gorffennaf 2007, disodlwyd hwnnw gan y Cynllun y mae a wnelom ni ag ef, a gymeradwywyd hefyd gan y Bwrdd.
- Paratowyd y Cynllun yn benodol dan adran 21 Deddf 1993, a hynny'n unol â'r canllawiau a gyhoeddwyd gan y Bwrdd, a grybwyllwyd gennym uchod. Dywed y rhagair mai cenadwri cyffredinol CBC yw helpu lleihau'r gost i'r trethdalwr sy'n codi yn sgîl benthyca'r Llywodraeth, ac felly mai ei "un amcan strategol yw darparu cyllid adwerthol i'r Llywodraeth sy'n gost-effeithiol o'i gymharu â chodi arian ar y farchnad agored." Mae'n cyfeirio at y ddyletswydd dan Ddeddf 1993 a osodwyd ar gyrff cyhoeddus i baratoi cynllun iaith, ond gan nodi'n glir hefyd nad yw "cyrff cyhoeddus" yma'n cynnwys cyrff sy'n gweithredu mewn capasiti sy'n cynrychioli'r Goron. Dywed mai dyma'r cynllun y mae CBC serch hynny wedi ei baratoi, sy'n amlinellu mesurau i hybu ymwybyddiaeth o wasanaethau a ddarperir ac i wella mynediad at amrediad eang o wasanaethau yn unol ag egwyddor Deddf 1993 y dylid, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, drin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Bwriedir i'r Cynllun adlewyrchu gwerthoedd CBC, sef "Diogelwch, didwylledd, uniondeb, i gyd wedi'u cyflenwi â chyffyrddiad dynol" wrth ymdrin â'r cyhoedd yng Nghymru. Dywedir ymhellach y bydd CBC yn cefnogi defnyddio'r Gymraeg ac y bydd, pryd bynnag y bo modd, yn helpu'r cyhoedd yng Nghymru i ddefnyddio'r Gymraeg fel rhan o'u bywydau beunyddiol.
- Aiff y Cynllun ymlaen wedyn i amlinellu manylion y ffordd y bydd CBC yn ymdrin â'r cyhoedd Cymraeg eu hiaith, sy'n cynnwys gwasanaeth ymholiadau ffôn Cymraeg yn ystod oriau swyddfa, ateb gohebiaeth Gymraeg yn yr un iaith trwy gyflogi asiantaeth gyfieithu, hwyluso defnyddio'r Gymraeg mewn cyfarfodydd cyhoeddus yng Nghymru, hysbysebion dwyieithog yng Nghymru, a darparu gwybodaeth ar wefan CBC ynglŷn â'i wasanaethau Cymraeg. Dywedir y gwelir y wefan fel sianel allweddol i gyfathrebu â chwsmeriaid, ac y byddai CBC yn sicrhau y byddai'r wefan Gymraeg yn cynnwys o leiaf wybodaeth benodol a restrir, sy'n cynnwys y Cynllun, ffurflenni i'w lawrlwytho sydd fel arfer ar gael dros y cownter mewn Swyddfeydd Post, gwybodaeth gwirio Bondiau Premiwm a gwybodaeth am gynnyrch.
- O ran gweithredu, dywed CBC y gwnaiff baratoi a pharhau i ddiweddaru cynllun gweithredu manwl i'w gytuno gyda'r Bwrdd, yn amlinellu sut y bydd CBC yn sicrhau y bydd yn gweithredu'n unol â'r Cynllun, ac y gwnaiff fonitro'r camau a gymerir i weithredu'r Cynllun yn erbyn y targedau a bennir yn y cyfryw gynllun.
- Dan y pennawd, "Adolygu a diwygio'r cynllun", dywed:
"Byddwn yn adolygu'r cynllun hwn o fewn tair blynedd wedi iddo ddod i rym.
O bryd i'w gilydd, hefyd, mae'n bosibl y bydd angen i ni adolygu'r cynllun hwn, neu gynnig diwygiadau i'r cynllun hwn, oherwydd newidiadau i'n swyddogaethau, neu newidiadau i amgylchiadau ymgymryd â'r swyddogaethau hynny, neu am unrhyw reswm arall.
Ni wneir newidiadau i'r cynllun hwn heb gymeradwyaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg."
- Does dim tystiolaeth uniongyrchol ger ein bron ynghylch sut y daethpwyd i gynnwys y darn hwn yn y Cynllun. Fodd bynnag, mae'r ddwy ochr yn derbyn iddi gael ei chynnig, yn ôl pob tebyg, gan y Bwrdd a'i chytuno gan CBC, ac mae'n debyg mai dyna oedd yn wir am y rhan fwyaf os nad y cyfan o'r cynlluniau a gymeradwywyd gan y Bwrdd ar ran cyrff cyhoeddus a'r rheiny o gyrff y Goron a baratôdd gynlluniau.
- Nid yw'r Comisiynydd yn gwneud unrhyw gŵyn am y modd y gweithredodd CBC y Cynllun yn y cyfnod hyd at 2013. Yn 2010, ysgrifennodd y Bwrdd at CBC ynglŷn â'r trefniadau monitro ac adrodd ar gyfer y Cynllun. Atebodd CBC na fyddai'n ymateb yn sylweddol tra'r oedd wrthi'n cynnal adolygiad gwariant. Mewn ymateb i lythyr dilynol oddi wrth y Bwrdd, mewn llythyr dyddiedig 12 Ebrill 2011 dywedodd CBC:
"Wrth inni adolygu ein hopsiynau, bydd angen inni wneud yn siŵr fod y gwasanaethau y gallwn eu darparu i'n cwsmeriaid yn seiliedig ar asesiad o flaenoriaethau cymharol a defnydd cwsmeriaid.
Fe barhawn ni i weithio o fewn y Cynllun Iaith Gymraeg gyfredol y cytunwyd arno, a byddwn mewn sefyllfa i gadarnhau ein hagwedd fwy hirdymor yn rhan olaf 2011."
- Mewn llythyr dyddiedig 13 Mai 2011, gwahoddodd y Bwrdd CBC i ystyried a ddylid diwygio'r Cynllun yn unol ag adran 16 Deddf 1993, ond gwrthodwyd y gwahoddiad hwnnw fel a ganlyn:
"Fel yr ydym eisoes wedi nodi, rydym ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad strategol o'r modd yr ydym yn gweithredu canlyniadau'r Adolygiad Gwariant. Mae hyn yn profi i fod yn broses lawer hwy ac anoddach nag a ragwelwyd yn wreiddiol, ac mae ystod eang o faterion y mae angen inni eu hystyried mewn perthynas â sawl agwedd ar ein cynnig i gwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys ffurf ein hymrwymiad i'r cynllun iaith Gymraeg yn y dyfodol."
Gwyddom ar sail yr ohebiaeth ddiweddarach y sbardunwyd adolygiad CBC o'i ymrwymiad i'r Gymraeg gan y Mesur, a'r trosglwyddiad swyddogaethau yn sgîl hynny oddi wrth y Bwrdd i'r Comisiynydd.
- Ymatebodd Prif Weithredwr y Bwrdd yn brydlon ar 27 Mai 2011, gan ddweud:
"Deallaf nad oes modd i chi ystyried diwygiadau i'r cynllun iaith Gymraeg ar hyn o bryd am y rhesymau a amlinellwyd yn eich llythyr. Pan fydd yn briodol ystyried diwygio'r cynllun, ni ddylai'r ymrwymiadau i ddarparu gwasanaethau Cymraeg gael eu lleihau. Efallai y bydd CBC yn dymuno ystyried y modd y darperir y gwasanaethau hynny, ond mae'n bwysig bod lefel y gwasanaeth i'r cyhoedd yn cael ei gynnal."
- Cymerodd adolygiad strategol manwl CBC o'i holl waith, yn cynnwys darpariaeth gwasanaethau Cymraeg, gryn amser. Ar 4 Chwefror 2013, ysgrifennodd ei Brif Weithredwr at y Comisiynydd (a oedd erbyn hynny wedi ymgymryd â swyddogaethau'r Bwrdd) gan grynhoi'r dystiolaeth yr oedd wedi gweithredu arni, fel a ganlyn:
"…[Yn] 2012, ar ôl 14 mlynedd o gynnig Cynllun yr Iaith Gymraeg, [dim] ond 107 o gwsmeriaid a oedd yn gohebu â ni yn y Gymraeg, sef 0.007% o'r 1,549,577 o gwsmeriaid sydd gan NS&I yng Nghymru ac yn cynrychioli dim ond 0.06% o swm yr arian o Gymru. Mae hyn yn golygu fod pob cwsmer sy'n siarad Cymraeg yn costio £899 y flwyddyn i NS&I, neu gost ychwanegol o 3.78% am bob punt o'u harian. Mae'n golygu hefyd nad yw ein Cynllun yr Iaith Gymraeg yn ddefnydd effeithiol o arian cyhoeddus."
Cyfeiriodd y llythyr hefyd at roi'r gorau i werthu cynnyrch CBC ym mhob Swyddfa Bost yn y Deyrnas Unedig, a oedd yn golygu nad oedd gan CBC mwyach unrhyw bresenoldeb corfforol yng Nghymru o gwbl. Ni fu ganddo, wrth gwrs, erioed swyddfeydd yng Nghymru.
- Daeth y llythyr i ben fel a ganlyn:
"Casgliad [yr adolygiad] oedd y dylem roi'r gorau i gynnig y gwasanaeth ac mae CBC wedi cael cymeradwyaeth gan Ysgrifennydd Masnachol Trysorlys EM y dylai CBC ddod â'i Gynllun Iaith Gymraeg i ben o 1 Ebrill 2013.
Ni fu CBC erioed dan ddyletswydd statudol i baratoi cynllun dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg (Adran 21): fe baratôdd gynllun oherwydd datganiad a wnaed gan lywodraeth y dydd a oedd yn rhwymo pob adran llywodraeth neu gorff arall dan y Goron i anrhydeddu Deddf yr Iaith Gymraeg. Roedd CBC yn un o'r ychydig rai a gymerodd y cyfarwyddyd gan y llywodraeth bryd hynny ar ei gair.
Yn 2011, dywedodd Ysgrifennydd Economaidd y Trysorlys ar y pryd, Justine Greening, mewn ymateb i gwestiwn i Ganghellor y Trysorlys, wrth Dyŷ'r Cyffredin: 'nad ystyrir bod Trysorlys Ei Mawrhydi ynghyd ag adrannau eraill o'r llywodraeth yn "gorff cyhoeddus" dan ddarpariaeth Deddf yr Iaith Gymraeg (Adran 21), sy'n golygu nad yw'n ofynnol iddo baratoi Cynlluniau Iaith Gymraeg'. Mae CBC yn Asiantaeth Weithredol i'r Trysorlys.
…
Byddaf yn ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac wrth gwrs at ein cwsmeriaid Cymraeg i'w hysbysu am y newid a fwriedir. "
- Dywedodd ateb y Comisiynydd ar 8 Chwefror 2013, tra'n derbyn y pwynt nad oedd dim dyletswydd statudol ar CBC i baratoi cynllun, fod cynllun, unwaith y byddai mewn gwirionedd wedi'i fabwysiadu gan gorff y Goron, yn mynd yn gynllun statudol a bod adrannau 17-19 y Ddeddf yn berthnasol lle methwyd â cydymffurfio. Âi'r llythyr yn ei flaen:
"Nid oes unrhyw ddarpariaeth o fewn y Ddeddf yn caniatáu i gorff y Goron, nac unrhyw berson ar ei ran, benderfynu peidio gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg a gymeradwywyd. Nid wyf yn ymwybodol am unrhyw ddarpariaeth o fewn deddfwriaeth arall sy'n eich awdurdodi chi nac unrhyw berson arall i ddiddymu'r ddyletswydd statudol sydd arnoch i weithredu'r Cynllun Iaith Gymraeg dan sylw.
O ystyried hynny nid wyf yn barod i gydnabod y bydd eich Cynllun Iaith Gymraeg yn dod i ben ar 1 Ebrill eleni.
Mae Adran 21(4) y ddeddf yn darparu ar gyfer diwygio Cynlluniau Iaith ac os dymunwch wneud hynny dylech gysylltu â ni er mwyn trafod."
- Ymatebodd CBC ar 20 Mawrth 2013, yn y termau canlynol:
"Sylweddolwn mai gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw gweld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru, ac mai eich rôl chi fel Comisiynydd yw helpu i wireddu'r weledigaeth honno.
Felly rydym wedi dwys ystyried y pwyntiau a wnaethoch yn eich llythyr, gan dalu sylw arbennig i'r cyfeiriad at Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Fodd bynnag, rydym wedi penderfynu y bydd CBC yn parhau â'i fwriad i ddod â'i Wasanaeth Cymraeg i ben am y rhesymau a ddatganwyd yn fy llythyr atoch dyddiedig 4 Chwefror 2013.
Bydd CBC yn hysbysu'r holl gwsmeriaid sydd ar hyn o bryd yn delio â ni yn y Gymraeg ac yn rhoi rhybudd dyledus iddynt fel y rhagnodir dan y gyfraith gyhoeddus."
- Rhwng dyddiad y llythyr hwnnw a 29 Ebrill 2013, derbyniodd y Comisiynydd bedwar cwyn neu ymholiad gan gwsmeriaid CBC a oedd wedi derbyn yr hysbysiad na fyddai eu gwasanaethau Cymraeg ar gael mwyach, yn ogystal â llythyr oddi wrth Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru'n mynegi pryder a llythyr oddi wrth Ferched y Wawr yn mynegi siom. Ymatebodd y Comisiynydd i'r llythyrau hyn, gan gynghori'r gohebwyr i gysylltu â CBC yn uniongyrchol.
- Ar 31 Hydref 2012, roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ysgrifennu at y Comisiynydd, yn nodi ei fod am roi arweiniad yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar faterion perthnasol i'r Gymraeg. Felly, ar 26 Mawrth 2013, ysgrifennodd y Dirprwy Gomisiynydd at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gofyn iddo drafod y mater gyda'r Gweinidog perthnasol, gan ddweud hyd yn oed pe gallai CBC (yn groes i farn y Comisiynydd) ddod â'r Cynllun i ben, y dylasid bod wedi ymgynghori â'r Comisiynydd cyn gwneud hynny. Trwy lythyr dyddiedig 15 Ebrill 2013, atebodd yr Ysgrifennydd Gwladol fel a ganlyn:
"Fel y nodwch yn eich llythyr, ar sail wirfoddol y paratoir cynlluniau gan gyrff y Goron, ac unwaith y byddir wedi cydsynio arnynt a'u mabwysiadu, byddant yn ddarostyngedig i'r drefn orfodi statudol a amlinellir yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993. Fodd bynnag, gall Gweinidogion y Goron dynnu cydsyniad i gynllun corff y Goron yn ôl ar unrhyw bryd ac, yn yr amgylchiadau hynny, byddai'r corff perthnasol yn peidio â bod yn rhwymedig gan ofynion statudol y cynllun.
Rwyf yn cydnabod bod y nifer fach o gwsmeriaid CBC sy'n defnyddio'r gwasanaeth Cymraeg yn ystyried ei fod yn werthfawr, ac efallai nad oedd pob un o gwsmeriaid Cymraeg CBC yn ymwybodol o'r gwasanaeth.
Yr wyf, felly, yn codi'r mater hwn gyda Sajid Javid, Ysgrifennydd Economaidd i'r Trysorlys, sydd yn gyfrifol am CBC. Wrth wneud hyn, yr wyf wedi pwysleisio fy mhryder y dylai fod gan CBC wasanaethau i fodloni gofynion cwsmeriaid CBC sy'n dymuno gwneud ymholiadau, neu ymgymryd â thrafodion, drwy gyfrwng y Gymraeg.
Unwaith y bydd CBC wedi egluro'i safbwynt, fe ysgrifennaf atoch eto."
- Ar 17 Mai 2013, ysgrifennodd y Comisiynydd eto at CBC, yn gofyn am fwy o wybodaeth am y penderfyniad, sef (i) y wybodaeth a ystyriwyd neu y dibynnwyd arni gan CBC cyn gwneud eu penderfyniad, ar wahân i honno a ddatgelwyd eisoes yn y llythyr dyddiedig 4 Chwefror; a (ii) eglurhad o'r ddarpariaeth gyfreithiol a alluogai CBC neu Ysgrifennydd Masnachol Trysorlys Ei Mawrhydi i wneud penderfyniad i ddiddymu cynllun gan gorff y Goron unwaith y bo wedi'i sefydlu. Anfonodd ail lythyr at CBC y diwrnod hwnnw, yn eu hysbysu ei bod wedi penderfynu, ar sail cynnwys llythyrau CBC ar 4 Chwefror a 20 Mawrth 2013 ynghyd â chwynion ac ymholiadau gan y cyhoedd, gynnal ymchwiliad statudol i weithrediad y Cynllun gan CBC, dan adran 17 Deddf 1993.
- Atebodd CBC ar 24 Mai 2013. Dywedasant "nad oedd yn glir" a oedd gan y Comisiynydd bwerau cyfreithiol i gynnal y cyfryw ymchwiliad "gan fod CBC eisoes wedi dadfabwysiadu ei Gynllun Iaith Gymraeg"; ond byddai CBC yn hapus i'r Comisiynydd gynnal unrhyw ymchwiliad o'r fath ar sail yr wybodaeth a oedd yn ei meddiant yn barod. ynglŷn â'r pŵer cyfreithiol i ddadfabwysiadu'r Cynllun, ychwanegodd y llythyr y canlynol:
"Nid yw adran 21 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn mynnu bod CBC yn mabwysiadu Cynllun Iaith Gymraeg. Fel corff y Goron, mae gan CBC bŵer i benderfynu a ydyw'n briodol ai peidio iddo fabwysiadu cynllun o'r fath.
Os mai Deddf 1993 a roddodd y pŵer hwnnw i CBC, yna, yn absenoldeb darpariaeth yn datgelu'r bwriad i'r gwrthwyneb, effaith adran 12(1) y Ddeddf Ddehongli yw caniatáu i CBC ailystyried y mater 'o bryd i'w gilydd fel y myn yr achlysur'. Nid oes dim byd yn Neddf 1993 sy'n dileu'r safle diofyn hwn ac, felly, barn CBC yw fod ganddo'r pŵer, fel mater o gyfraith, i ddadfabwysiadu ei hen Gynllun Iaith Gymraeg …
Fe wnaethom, wrth gwrs, ystyried effaith y penderfyniad hwn ar y cwsmeriaid yr effeithid arnynt gan y newid hwn, gan edrych yn fanwl ar nifer y cwsmeriaid a ddefnyddiai'r gwasanaeth (gweler uchod) ac a oedd opsiynau amgen ymarferol i'r cynllun. Wrth ystyried yr effaith, gwelsom fod llawer o ddarparwyr gwasanaethau ariannol eraill a chanddynt bresenoldeb corfforol yng Nghymru sy'n cynnig gwasanaethau Cymraeg llawn. Buom yn ystyried yn hir a oes modd cynnig cynllun rhannol ond ni chredem y gellid gwneud hynny, o ystyried cymhlethdod y gwasanaeth gweithredol llawn a gynigid. Wrth gyrraedd ein penderfyniad a'i gyfleu, fe drafodasom y mater gyda Gweinidog Trysorlys Ei Mawrhydi a Swyddfa Cymru, yn ogystal ag ysgrifennu at Brif Weinidog Llywodraeth Cymru, Comisiwn yr Iaith Gymraeg ac at bob cwsmer y byddai'r newid yn effeithio arnynt. Ddeufis wedi anfon yr hysbysiad hwn, nodwn mai tair cwyn yr ydym wedi'u derbyn oddi wrth gwsmeriaid blaenorol y gwasanaeth. Gallwn eich sicrhau y byddwn yn parhau i adolygu ymarferoldeb ailgyflwyno ateb Cymraeg isel ei gost."
- Aeth y Comisiynydd ati i wneud ei hymchwiliad. Ar 18 Mehefin 2013, anfonodd adroddiad terfynol at CBC ("yr Adroddiad"), lle daeth i'r casgliad fod CBC wedi methu gweithredu'r Cynllun yn llawn yn ei gyfanrwydd, a'i fod wedi honni diddymu'r cynllun heb yr awdurdod i wneud y cyfryw benderfyniad (paragraff 5.1). Cyfeiriwyd yn benodol at y methiant i weithredu dwy ddarpariaeth benodol o eiddo'r Cynllun, sef:
"Polisïau a Mentrau: Bydd polisïau, mentrau a gwasanaethau CBC yn gyson â'r cynllun hwn. Byddant yn cefnogi'r defnydd ar y Gymraeg a, lle bynnag y bo modd, byddant yn helpu'r cyhoedd yng Nghymru i ddefnyddio'r Gymraeg yn rhan o'u bywydau bob dydd.
Adolygu a diwygio'r cynllun: Ni wneir newidiadau i'r cynllun hwn heb gymeradwyaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg."
- Gwnaed yr argymhellion canlynol yn adran 6 yr Adroddiad:
"Dylai Asiantaeth Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol ail afael yng ngweithrediad eu cynllun iaith Gymraeg cyfredol ar unwaith. Gofynnir am ohebiaeth yn cadarnhau parodrwydd i ail afael yn y cynllun iaith o fewn 5 niwrnod gwaith o dderbyn adroddiad terfynol ymchwiliad Comisiynydd y Gymraeg."
- Ar 24 Mehefin 2013, daeth yr ymateb canlynol i law'r Comisiynydd, trwy ebost, oddi wrth Ms Sarah Tebutt, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol CBC:
"Diolch am eich llythyr at Jane Platt [Prif Weithredwr CBC], yn amgáu eich adroddiad ymchwiliad terfynol ar weithrediad Cynllun Iaith Gymraeg CBC. Fel y Cyfarwyddwr cyfrifol, rwyf yn ateb ar ei rhan:
Yn ngolau eich adroddiad, rydym yn cadw'r sefyllfa dan adolygiad."
- Ystyriodd y Comisiynydd fod yr ymateb hwn i ymchwiliad statudol yn gwbl annigonol, ac, ar 25 Mehefin, ysgrifennodd at CBC eto gan ofyn iddynt ddatgan yn glir erbyn 28 Mehefin 2013:
"…a ydyw adroddiad ymchwiliad Comisiynydd y Gymraeg wedi newid meddwl Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol ynglŷn ag a oedd ganddo bŵer cyfreithiol i ddad-fabwysiadu ei gynllun iaith Gymraeg. Yn ail a ydyw Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn parhau i ddibynnu ar y dadansoddiad cyfreithiol a gynigiodd yn ei lythyr i'r Comisiynydd ar 24 Mai 2013…".
- Ni chafwyd ateb oddi wrth CBC erbyn y dyddiad hwnnw; ond, ar 2 Gorffennaf, cafodd y Comisiynydd ebost swta arall oddi wrth Ms Eugenie Biddle ar ran Ms Tebbutt yn dweud:
"Diolch am eich llythyr dyddiedig 25 Mehefin. Mae CBC yn parhau i gadw'r sefyllfa dan adolygiad. Nid ydym mewn sefyllfa i ymateb ichi'n syth, ond gobeithiwn wneud hynny yn y pythefnos nesaf."
- Ym marn y Comisiynydd nid oedd yr ateb hwn yn darparu graddfa amser briodol ar gyfer darparu ateb sylweddol, a daeth i'r casgliad fod CBC, eto, heb ymateb i'r ymchwiliad statudol yn briodol. Felly anfonodd lythyr protocol cyn-cyfreitha at CBC ar 5 Gorffennaf 2013, yn datgan ei bwriad i wneud cais am adolygiad barnwrol ar fethiant CBC i ailgychwyn cydymffurfio â'r Cynllun, oni cheid ateb digonol i'r llythyr erbyn 16 Gorffennaf 2013. Amlinellodd ei llythyr, mewn cryn fanylder, y seiliau cyfreithiol dros y cyfryw gais, yn cynnwys methiant CBC i ymgynghori â'r Comisiynydd na chael ei chymeradwyaeth cyn penderfynu diddymu'r Cynllun.
- Anfonwyd llythyr ateb gan Ms Tebbutt ar y dyddiad hwnnw, yn dweud hyn:
"Hyd yma ni fu CBC mewn sefyllfa i ddatgelu'n ddiffiniol unrhyw ddiweddariad ar ein penderfyniad i gau ein Gwasanaeth Cymraeg. Fodd bynnag, yr wyf bellach yn gallu gwneud hynny.
Yr Ysgrifennydd Economaidd, sy'n Weinidog y Trysorlys, yw'r gweinidog cyfrifol am CBC. Mae wedi ystyried y mater ac wedi penderfynu y dylai CBC gyhoeddi gwybodaeth am ei gynnyrch cynilo a buddsoddi yn y Gymraeg. Hyd a lled y wybodaeth a gynigir fydd hysbysu cwsmeriaid am yr amrediad cynnyrch, a bydd yn gymesur â'r defnydd o ddeunydd Cymraeg yn fwy cyffredinol. Yn ogystal bydd CBC yn glynu at ei egwyddorion Trin Cwsmeriaid yn Deg.
Gobeithio y deallwch mai eisiau sefydlu ein sefyllfa'n glir cyn ymateb i chi yr oeddem.
Fe ysgrifennaf atoch erbyn 2 Awst 2013 gyda manylion y wybodaeth a gynigir yn y Gymraeg."
- Nid yw Mr Jones ar ran CBC yn awgrymu bod y llythyr hwnnw'n cydymffurfio â gofynion Rhan B Protocol Cyn-cyfreitha Rheolau Trefniadaeth Sifil ar gyfer Adolygiad Barnwrol – yn wir, ni allai wneud hynny. Nid yw'r ateb yn dechrau rhoi sylw i'r haeriadau yn y llythyr cyn-cyfreitha, ac yn wir nid yw'n cyfeirio at y Cynllun, nac at benderfyniad CBC i'w ddiddymu, o gwbl.
- O ganlyniad, cofnododd y Comisiynydd yr hawliad hwn am adolygiad barnwrol ar 25 Gorffennaf 2013.
Y Seiliau
- Cynigiwyd tair sail gan Mr Lewis pam yr oedd diddymu'r Cynllun yn anghyfreithlon:
Sail 1: Wedi mabwysiadu cynllun iaith Gymraeg dan Ddeddf 1993, nid oes gan CBC rym cyfreithiol i'w ddiddymu.
Sail 2: Mae penderfyniad CBC i ddiddymu'r Cynllun yn rhwystro diben deddfwriaethol Adran 21(5) Deddf 1993.
Sail 3: Yn wyneb cytundeb CBC yn y Cynllun i beidio â gwneud unrhyw newidiadau iddo heb gymeradwyaeth y Comisiynydd, roedd methiant CBC i ymgynghori â'r Comisiynydd a/neu gael ei chymeradwyaeth cyn y penderfyniad i ddadfabwysiadu'r Cynllun yn anghyfreithlon oherwydd (i) roedd yn groes i ddisgwyliad cyfreithiol gweithrediadol y Comisiynydd, (ii) wrth wneud y penderfyniad, methodd CBC ag ystyried y cytundeb hwnnw fel ystyriaeth berthnasol, a (iii) golygodd hynny fod y penderfyniad yn afresymol.
- Derbyniodd Mr Lewis yn ddibetrus fod Sail 2 o ran sylwedd yn un wedd ar Sail 1 – oherwydd mae a wnelo'r ddwy â dehongliad statudol, ac argymhella fod telerau adran 21(5) yn gefnogaeth bwysig i'r gosodiad nad yw'r cynllun statudol, fel mater o adeiladwaith, yn caniatáu i gorff y Goron ddiddymu cynllun iaith y mae wedi ei fabwysiadu. Felly gellir ymdrin â Seiliau 1 a 2 yn gyfleus gyda'i gilydd.
Seiliau 1 a 2
- Nid oedd dadl rhwng y partïon ynghylch dwy egwyddor berthnasol i ddehongliad statudol, ac nid ydynt yn ddadleuol. Yn gyntaf, ni all corff cyhoeddus a grëwyd trwy statud ddim ond gwneud yr hyn y mae wedi'i awdurdodi i'w wneud gan gyfraith y teyrn (gweler, e.e., R v Secretary of State for Health ex parte B [1999] 1 FLR 656 per Buxton LJ yn 668G). Yn ail, dylid dehongli darpariaethau statudol yn unol ag amcan a bwriad y Senedd fel y'u mynegwyd yn y geiriau a ddefnyddiwyd ganddynt. Fel y dywedodd yr Arglwydd Bingham yn R (Quintavalle) v Secretary of State for Health [2003] UKHL 13 yn [8]:
"Gorchwyl sylfaenol y llys yw canfod a rhoi effaith i wir ystyr yr hyn y mae'r Senedd wedi'i ddweud yn y deddfiad sydd i'w ddehongli. Ond nid yw hynny'n gyfystyr â dweud y dylid cyfyngu sylw a rhoi dehongliad llythrennol i'r darpariaethau penodol sydd i'w dehongli… Caiff pob statud ac eithrio statud cydgrynhoi pur, wedi'r cwbl, ei ddeddfu i wneud rhyw newid, neu ddatrys rhyw broblem, neu ddileu rhyw nam, neu beri rhyw welliant ym mywyd y genedl. Gorchwyl y llys, o fewn ffiniau caniatadwy dehongliad, yw gweithredu amcan y Senedd."
Pwysleisiodd yr Arglwydd Steyn yn [21] fod "symudiad tuag at ddehongli bwriadus", gan ychwanegu:
"... mae gan statudau bob amser ryw fwriad neu amcan i'w gyflawni, y bydd eu darganfyddiad cydymdeimladol a dychmygus yn rhoi'r arweiniad sicraf i'w hystyr".
- Fel yr ydym wedi nodi, nid yw deddf 1993 yn gosod dyletswydd ar gyrff y Goron i fabwysiadu cynllun iaith Gymraeg (gweler paragraff 11 uchod). Yr oedd yn dir cyffredin cywir ger ein bron, er nad yw'r Ddeddf yn benodol yn rhoi i gyrff y Goron bŵer i fabwysiadu cynllun, fod y cyfryw bwer yn ymhlyg: yn ôl adran 21(5), mae adrannau 17-19 yn berthnasol i gyrff y Goron ac ni all yr adrannau hynny ddim ond bod yn berthnasol os gall y corff dan sylw fabwysiadu a'i fod wedi mabwysiadu cynllun dan y Ddeddf.
- Fodd bynnag, yn y fan honno mae Mr Lewis a Mr Jones yn gwahanu, wrth i Mr Lewis argymell, unwaith y bo corff y Goron wedi mabwysiadu cynllun, nad oes ganddo rym i'w ddiddymu; ac wrth i Mr Jones haeru'r gwrthwyneb.
- I gorff cyhoeddus (heb, wrth gwrs, gynnwys corff y Goron), unwaith y bydd wedi cael rhybudd i wneud hynny, rhaid iddo fabwysiadu cynllun; ac, unwaith y bydd wedi gwneud, mae darpariaethau cydymffurfio manwl yn adrannau 17 ymlaen. Nid oes grym i ddiddymu'r cynllun, dim ond ei ddiwygio dan ddarpariaethau adran 16.
- Argymhellodd Mr Lewis fod adran 21(5), sy'n cymhwyso adran 17-19 i gyrff y Goron sy'n mabwysiadu cynllun, yn anghyson â'r gosodiad fod corff y Goron, unwaith y bydd wedi mabwysiadu cynllun, yn rhydd i'w ddiddymu pryd y myn; oherwydd gallai corff o'r fath felly rwystro'r darpariaethau cydymffurfio y mae'n ddarostyngedig iddynt, drwy'r cam syml o ddiddymu'r cynllun yn wyneb ymchwiliad gan Gomisiynydd. Ni all hynny fod wedi bod yn fwriad gan y Senedd. Felly, ni ellir ymhlygu'r grym i ddiddymu cynllun. Ni allwch ymhlygu grym lle byddai'r grym hwnnw'n mynd yn groes i'r darpariaethau statudol datganedig dan sylw.
- Argymhellodd Mr Jones fod rhaid darllen adran 21(5) yng nghyd-destun Rhan II Deddf 1993 o'i darllen yn ei chyfanrwydd. Rhaid i gyrff y Goron allu addasu'r ffordd y cyflawnant eu swyddogaethau parhaus; a bwriad amlwg y Ddeddf yw y dylent fod yn ddarostyngedig i drefn lai caeth na chyrff cyhoeddus eraill. Yn bwysig, mae'r Senedd wedi eu heithrio o'r darpariaethau manwl ynglŷn â diwygio cynlluniau (adran 16), a'r posibilrwydd (bellach) fod gan Weinidogion Cymru'r grym i roi cyfarwyddiadau gorfodadwy i gorff y Goron mewn perthynas ag argymhellion y Comisiynydd yn dilyn ymchwiliad (adran 20). Mae adran 21(4) yn galluogi'r Comisiynydd i awgrymu diwygiadau i gynllun gan gorff y Goron a rhaid i'r corff hwnnw egluro i'r Comisiynydd pam nad yw'n derbyn y cyfryw ddiwygiadau, os felly y bo hi – ond nid oes gan y Comisiynydd ddim pŵer i fynnu bod y corff yn diwygio'i gynllun. Gan nad yw adran 16 yn berthnasol, nid oes unrhyw beirianwaith yn y Ddeddf ar gyfer diwygio cynllun corff y Goron. Yr unig ffordd y gellir newid cynllun o'r fath yw trwy i'r corff gynnig cynllun newydd ger bron, i'w fabwysiadu dan ddarpariaethau adran 21 yng nghyswllt cynlluniau newydd. Unwaith y derbynnir bod gan gyrff y Goron yr hawl i fabwysiadu cynlluniau newydd, argymhellodd, rhaid ei bod yn dilyn fod pŵer ymhlyg i ddiddymu cynlluniau sy'n bodoli, gan na all y ddau gyd-fodoli. Pe bai'r Senedd wedi bwriadu i arferiad y grym ymhlyg i fabwysiadu cynllun esgor ar ddyletswydd i gynnal cynllun yn barhaol, buasai wedi dweud hynny'n benodol. Roedd rheswm ymarferol da pam na wnaeth hynny; oherwydd gallai'r cyfryw ymgloddiad atal cyrff y Goron rhag mabwysiadu cynlluniau o gwbl, ac felly rwystro amcan Deddf 1993. Amcan adran 21(5) yw peri bod cyrff y Goron yn atebol, yn hytrach na chyfyngu ar eu pŵerau yn y modd a awgrymwyd gan Mr Lewis. Er y gall y Comisiynydd gynnig gwelliannau i gynllun newydd arfaethedig, neu i gynllun sy'n bodoli, mater i gorff y Goron ei benderfynu bob amser yw cynnwys y cynllun.
- I gefnogi'r haeriad hwnnw, dibynnodd Mr Jones ar adran 12(1) Deddf Ddehongli 1978, sy'n dweud:
"Lle bo Deddf yn rhoi pŵer neu'n gosod dyletswydd, mae'n ymhlyg, onid ymddengys bwriad croes i hynny, y gellir arfer y pŵer, neu fod rhaid cyflawni'r ddyletswydd, o bryd i'w gilydd fel y myn yr achlysur."
Amcan adran 12(1) yw sicrhau bod y rhai a ymddiriedir i ddefnyddio pŵerau a chyflawni dyletswyddau o natur gyhoeddus yn ymwybodol o natur barhaus y pŵerau a'r dyletswyddau hynny (gweler, e.e., In Re Wilson [1985] AC 750, R v Ealing LBC ex parte McBain (1985) 1 WLR 1351, R (Francis) v Secretary of State for the Home Department [2004] EWHC 2143 (Admin)). Argymhellodd Mr Jones fod y pŵer ymhlyg i gael cynllun iaith Gymraeg, trwy rinwedd y ddarpariaeth hon, ar gael yn barhaol i gyrff y Goron ei ddefnyddio yn ôl y gofyn.
- O'r argymhellion gwrthwynebus hyn, mae'n well gennym argymhellion Mr Jones. Mae gwahaniaethau clir yn y modd y mae Deddf 1993 yn trin cyrff cyhoeddus ar y naill law, a chyrff y Goron ar y llall. Er bod amcanion hyrwyddo defnydd y Gymraeg a'r egwyddor o gydraddoldeb yn gymwysadwy i bob corff o'r fath, mae'r drefn ar gyfer cyflawni'r amcanion hynny yng nghyswllt cyrff cyhoeddus yn wahanol i honno yng nghyswllt cyrff y Goron, ac yn llawer mwy caeth na hwy. Dan ddarpariaethau Deddf 1993, nid oes angen i'r olaf fabwysiadu cynllun o gwbl. Os dewisant wneud hynny, yn amlwg mae'n ddymunol iddo fod yn gynllun sy'n cyflawni'r amcanion hynny, a dyna beth y mae adrannau 21(3) a (4) wedi'u cynllunio i'w sicrhau, trwy roi'r grym i'r Comisiynydd awgrymu gwelliannau. Fodd bynnag, nid oes ganddi unrhyw rym i orfodi corff y Goron i dderbyn ei hawgrymiadau. Rôl arweiniol, anogol a darbwyllol yw ei rôl hi yma. Yn y pen draw, fodd bynnag, mater i gorff y Goron yw penderfynu derbyn unrhyw welliannau neu beidio. Barnwn ei bod yn gwbl eglur fod y drefn statudol fel yr haera Mr Jones, ac na chollir yr hyblygrwydd sydd gan gorff y Goron parthed cynlluniau iaith Gymraeg os a phan fo'r corff hwnnw'n mabwysiadu cynllun. Mae'r cyfryw gorff yn cadw'r gallu i bennu cynnwys y cynllun, gan gynnwys a ydyw am gynnal cynllun ai peidio, yn y dyfodol; er, wrth gwrs, i hynny fod yng ngolau'r argymhellion a'r arweiniad a roddir gan y Comisiynydd dan adran 21. Er nad ystyriwn bod angen dibynnu arni – gan yr ystyriwn fod geiriad y statud yn ddigon eglur hebddi – nodwn fod adran 12(1) Deddf Ddehongli 1978 hefyd yn cefnogi argymhelliad Mr Jones.
- Nid ydym yn ystyried bod adran 21(5) Deddf 1993 yn anghyson â'r dehongliad hwnnw. Unwaith y bo cynllun wedi'i fabwysiadu gan gorff y Goron, rhydd adran 21(5) bwerau i'r Comisiynydd ymchwilio ac argymell yng nghyswllt methiannau ymddangosiadol i weithredu'r cynllun, ond dim pŵerau pellach. Mae arfer y pŵerau hynny'n galluogi corff y Goron, a'r cyhoedd, i gael gwybod am unrhyw fethiannau fel y'u canfyddir gan y Comisiynydd ac am unrhyw argymhellion gan y Comisiynydd ynglŷn â chamau i'w cymryd er mwyn cywiro'r methiant neu (os yw'r cynllun yn dal mewn bodolaeth) osgoi methiant yn y dyfodol. Wedyn mater i gorff y Goron yw penderfynu a ddylai weithredu'r argymhellion hynny ai peidio.
- Er nad yw gweithdrefn adran 20 ar gyfer mynnu cydymffurfiad yn berthnasol i gorff y Goron, (gweler paragraff 10 uchod), mae'r Comisiynydd yn dal swydd statudol, ac mae'r Senedd wedi rhoi iddi'r swyddogaeth statudol i gynghori, rhoi arweiniad a gwneud argymhellion ynghylch cynnig gwasanaethau yn y Gymraeg. Ni allai unrhyw gorff y Goron yn briodol beidio â rhoi pwys sylweddol ar ei barn, ac yn enwedig ei hargymhellion yn dilyn ymchwiliad statudol. Ni all Corff y Goron ychwaith osgoi darpariaethau cydymffurfio adrannau 17-19 Deddf 1993 dim ond trwy ddiddymu cynllun, a dibynnu wedyn ar y gosodiad fod pŵerau'r Comisiynydd dan adrannau 17-19 wedi'u trechu gan ffaith y diddymiad hwnnw. Hyd yn oed lle bo corff y Goron yn diddymu ei gynllun, mae'r darpariaethau hynny'n aros mewn grym i alluogi'r Comisiynydd i ymchwilio i gŵynion ac ati a gwneud argymhellion mewn perthynas â'r cynllun. Yn amlwg ni ddirymir y pŵerau hynny trwy ddiddymu'r cynllun. Maent yn parhau, yn union fel y bydd gweithdrefnau disgyblu'n parhau wedi i unigolyn adael ei swydd neu broffesiwn. Ni ellir dirnad y gallasai'r Senedd fod wedi bwriadu fel arall.
- Am y rhesymau a roesom, mae'r pŵer sydd wedi'i ymhlygu yn Neddf 1993 i gorff y Goron fabwysiadu cynllun iaith Gymraeg yn cynnwys pŵer ymhlyg i'r corff hwnnw hefyd ddadfabwysiadu neu ddiddymu'r cyfryw gynllun.
- Am y rhesymau hynny, mae Seiliau 1 a 2 yn methu.
Sail 3
- Mae Seiliau 1 a 2 yn troi ar ddehongliad statudol. Mae Sail 3 yn canolbwyntio ar dermau'r Cynllun ei hun; ac yn enwedig y frawddeg ganlynol, dan y pennawd "Adolygu a diwygio'r cynllun":
"Ni wneir dim newidiadau i'r cynllun hwn heb gymeradwyaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg [bellach, wrth gwrs, y Comisiynydd]."
Argymhellodd Mr Lewis fod hynny'n gyfystyr ag addewid pendant a diamwys gan CBC i'r Comisiynydd na fyddai'n newid y Cynllun heb ei chymeradwyaeth hi; neu, o leiaf, addewid i beidio â gwneud hynny heb ymgynghori â hi. Yr oedd yn addewid nas anrhydeddwyd.
- Mae'r gyfraith eto wedi'i setlo'n dda: yn fyr, "rhwymir awdurdod cyhoeddus gan ei addewidion ynglŷn â'r weithdrefn y bydd yn ei dilyn, ar yr amod nad ydynt yn gwrthdaro â'i ddyletswydd" (Attorney General for Hong Kong v Ng Yuen Shiu [1983] 2 AC 629 ar dudalen 638G).
- Lle bo cwestiwn ynghylch addewid ynglŷn â sut y byddai corff cyhoeddus yn ymddwyn yn y dyfodol wrth arfer swyddogaeth statudol, ystyriwyd rôl y llys gan y Llys Apêl yn R v North East Devon Health Authority ex parte Coughlan [2001] QB 213 yn [55] ac ymlaen, achos y dibynnwyd arno gan y ddau barti ger ein bron. Yn [57], nododd yr Arglwydd Woolf MR dri chanlyniad posibl. Gall y llys benderfynu (i) nad oes ond rhaid i'r corff cyhoeddus ystyried ei bolisi blaenorol, gan roi iddo'r pwysau sy'n briodol yn ei dyb ef, cyn penderfynu newid cwrs neu beidio; (ii) bod yr addewid yn creu disgwyliad dilys y ceir budd trefniadol, e.e. cael ymgynghoriad cyn y gwneir penderfyniad; a (iii) bod yr addewid wedi creu disgwyliad dilys y ceir budd sylweddol, a bod rhwystro'r disgwyliad hwnnw mor annheg nes bod yn gyfystyr â chamddefnyddio grym.
- Argymhellodd Mr Lewis fod y Cynllun yn yr achos hwn yn achosi (ii), sef disgwyliad trefniadol y byddai CBC, cyn gwneud unrhyw newid i'r Cynllun, yn ymgynghori â'r Comisiynydd a chael ei chymeradwyaeth. Roedd ei achos sylfaenol yn seiliedig ar ymgynghori. Derbyniodd fod ei achos o ran cymeradwyaeth yn fwy heriol, ond serch hynny argymhellodd fod CBC yn ddiamwys wedi addo peidio â newid y cynllun heb gymeradwyaeth y Comisiynydd, ac y dylid ei gadw at yr addewid hwnnw. Ni fyddai hynny'n anymarferol, oherwydd pe bai'r Comisiynydd yn gwrthod rhoi cymeradwyaeth, a hynny'n afresymol, yna gallai hynny fod yn destun her ar ffurf adolygiad barnwrol.
- Addefodd CBC drwy Mr Jones fod y Cynllun yn achosi disgwyliad dilys yr ymgynghorid â'r Comisiynydd cyn y gwneid unrhyw newid iddo, ond argymhellodd nad oedd disgwyliad dilys ehangach. Am y rhesymau canlynol, rydym yn cytuno.
- Yn Coughlan, ymhelaethodd yr Arglwydd Woolf ar ddisgwyliad dilys trefniadol, fel a ganlyn:
"57. ... Gall y llys benderfynu bod yr addewid neu'r arferiad yn creu disgwyliad dilys, er enghraifft, yr ymgynghorir cyn gwneud penderfyniad penodol. Yma nid oes dadl y bydd y llys ei hun yn mynnu y rhoddir y cyfle i ymgynghori oni bai fod rheswm hollbwysig dros ymgilio rhag hynny... os felly bydd y llys ei hun yn barnu pa mor ddigonol yw'r rheswm a gynigiwyd dros y newid polisi, gan gymryd gofynion tegwch i ystyriaeth.
…
62. Ni fu erioed unrhyw gwestiwn fod priodoldeb torri gan awdurdod cyhoeddus ar ddisgwyliad dilys o'r ail gategori, budd trefniadol – sef, yn nodweddiadol, addewid i gael gwrandawiad neu ymgynghoriad – yn fater i'w adolygu'n llawn gan y llys. Rhaid i'r llys, mewn geiriau eraill, archwilio'r amgylchiadau perthnasol a phenderfynu drosto'i hun a oedd yr hyn a ddigwyddodd yn deg …
…
64. Mae'n wireb na all awdurdod cyhoeddus y mae ei fodolaeth a'i bwerau'n deillio o statud weithredu'n ddilys y tu allan i'r pŵerau hynny …. Gan y bydd y cyfryw bwerau'n gyffredin yn cynnwys unrhyw beth gweddol atodol i'r cylch gwaith datganedig, gall corff statudol yn gyfreithlon fabwysiadu a dilyn polisïau (British Oxygen Co Ltd v Board of Trade [1971] AC 610) a gwneud ymgymeriadau ffurfiol. Ond gan na all ildio'i gylch gwaith cyffredinol, nid yn unig rhaid iddo barhau'n rhydd i newid polisi; mae ei ymgymeriadau yn yr un modd yn agored i'w haddasu neu eu bwrw ymaith. Y cwestiwn sy'n codi o hyd yw pa le a pha bryd a pha fodd y mae'r llysoedd i ymyrryd i ddiogelu'r cyhoedd rhag niwed di-alw-amdano yn y broses.…
65. Gorchwyl y llys yn yr holl achosion hyn yw peidio â rhwystro gweithgaredd gweithredol ond cysoni ei angen parhaus i newid, neu i ymateb i newid, â budd neu ddisgwyliadau dilys dinasyddion neu ddieithriaid sydd wedi dibynnu, a hynny gyda chyfiawnhad, ar bolisi cyfredol neu addewid sy'n bodoli. Y cwestiwn allweddol yw yn ôl pa safon y mae'r llys i ddatrys y cyfryw wrthdrawiadau.
…
82. Dylai'r ffaith na wnaiff y llys ddim ond rhoi effaith i ddisgwyliad dilys o fewn y cyd-destun statudol y cododd ynddo osgoi peryglu'r egwyddor bwysig na ddylai pŵerau llunio polisïau'r corff gweithredol gael eu rhwystro gan y llysoedd … A pholisi'n fater (o fewn y gyfraith) i'r awdurdod cyhoeddus yn unig, fe'i derbynnir, ynghyd â'r rhesymau dros ei fabwysiadu neu ei newid, gan y llysoedd fel rhan o'r data ffeithiol – mewn geiriau eraill, fel rhywbeth nad yw'n gyffredin yn agored i adolygiad barnwrol."
- Roedd yr ymgymeriad a wnaed gan CBC i beidio â newid y Cynllun heb gymeradwyaeth y Comisiynydd – a wnaed gyda bendith y Llywodraeth, ac ar sail polisi'r llywodraeth oedd yn gyfredol ar y pryd – yn eglur a diamwys. Yr oedd i bob pwrpas yn ymgorffori addewidion i ymgynghori â'r Comisiynydd ynghylch unrhyw newid, i geisio'i chymeradwyaeth ac i beidio â gwneud unrhyw newid heb y gymeradwyaeth honno. Fodd bynnag, yn ein barn ni, nid oedd polisi'r llywodraeth y gwnaed yr addewid arno i beidio â newid y Cynllun heb gymeradwyaeth y Comisiynydd, ac ni allai fod, yn ddi-syfl: yng ngolau'r darpariaethau statudol, roedd gan y llywodraeth hawl i'w newid. Buasai sefyllfa ddi-syfl yn anghyson â rhwymedigaeth CBC i gadw polisïau dan adolygiad. Fel y dywedodd yr Arglwydd Woolf yn Coughlan (yn [73]):
"Ni all yr unigolyn gael disgwyliad uwch na chael i'r penderfynwr ystyried ei amgylchiadau unigol yng ngoleuni'r polisi sydd mewn grym ar y pryd"
Nid ystyriwn fod posibilrwydd damcaniaethol adolygiad barnwrol ar benderfyniad gan y Comisiynydd i beidio â rhoi cymeradwyaeth yn ddigonol i unioni'r anghysondeb hwnnw: rhaid i gyrff cyhoeddus, gan gynnwys adrannau llywodraeth a chyrff y Goron, allu newid polisi i gyfateb i amgylchiadau newidiol, gan gynnwys newidiadau mewn blaenoriaethau gwleidyddol.
- Felly, ni dderbyniwn argymhelliad Mr Lewis y creodd y Cynllun ddisgwyliad dilys na fyddai CBC yn gwneud unrhyw newidiadau iddo heb gael cymeradwyaeth y Comisiynydd.
- Fodd bynnag, addefodd Mr Jones ei fod yn briodol wedi arwain at ddisgwyliad dilys ar ran y Comisiynydd na fyddai CBC yn gwneud unrhyw newidiadau i'r Cynllun cyn ymgynghori â hi. Yn ein barn ni, gwnaed y consesiwn hwnnw'n briodol iawn.
- Os dymunai CBC newid telerau'r Cynllun o ran y gofyniad am gymeradwyaeth y Comisiynydd ar sail newid polisi, yna roedd y newid hwnnw ei hun, yn ein barn ni, yn amlwg yn un a syrthiai o fewn paragraff 57 Coughlan fel un oedd yn gofyn am ymgynghori yn gyntaf. Trwy ei addewid yn y Cynllun, a'i weithredoedd a'i ohebiaeth wedi hynny, roedd CBC wedi creu amgylchiadau lle roedd gan y Comisiynydd hawl resymol fel arall i ddibynnu ar barhad y Cynllun. Fodd bynnag, ni fu dim ymgais gan CBC i ymgynghori â'r Comisiynydd ynghylch y newid polisi pwysig hwnnw, y buasai gan y Comisiynydd, yr un mor amlwg, yn briodol rywbeth i'w ddweud amdano. Yn sicr – ac yn amlwg – roedd gofyn i CBC ymgynghori â'r Comisiynydd os dymunai wneud unrhyw newid sylweddol i'r Cynllun, yn nhermau lefel y gwasanaeth Cymraeg a ddarperid, heb sôn am ddiddymu'r Cynllun yn gyfan gwbl.
- Fel yr ydym wedi nodi, mae CBC trwy Mr Jones yn derbyn bod ganddo ddyletswydd i ymgynghori â'r Comisiynydd cyn gwneud unrhyw newid. Fodd bynnag, argymhellodd Mr Jones fod (i) y cyfryw ymgynghori wedi digwydd mewn gwirionedd, ac (ii) os na ddigwyddodd, fod unrhyw ddiffyg ymgynghori'n amherthnasol, oherwydd bod CBC yn gwybod yn iawn beth oedd safbwynt y Comisiynydd (h.y. roedd hi'n anfodlon derbyn lleihad mewn gwasanaethau Cymraeg) ac roedd CBC, gyda chefnogaeth penderfyniad gan Drysorlys Ei Mawrhydi, yn benderfynol o ddod â'r Cynllun i ben.
- Fodd bynnag, ni allwn dderbyn yr argymhellion hynny.
- ynglŷn â'r awgrym fod ymgynghori digonol wedi digwydd mewn gwirionedd, eto mae'r gyfraith wedi'i hen sefydlu, a hithau'n ffurfiedig gan Stephen Sedley CF mewn dadl yn R v London Borough of Brent ex parte Gunning (1985) 84 LGR 168, fel a ganlyn:
"Yn gyntaf… rhaid i ymgynghori ddigwydd ar adeg pan fo cynigion yn dal ar gyfnod ffurfiannol. Yn ail … rhaid i'r cynigydd roi rhesymau digonol dros unrhyw gynnig i ganiatáu ystyriaeth ac ymateb deallus. Yn drydydd… rhaid rhoi amser digonol i ystyried ac ymateb ac, yn olaf, yn bedwerydd … rhaid cymryd canlyniad yr ymgynghori yn gydwybodol i ystyriaeth wrth gwblhau unrhyw … gynigion."
Mae'r fformiwleiddiad hwnnw wedi'i gymeradwyo fel "y datganiad clasurol o ofynion sylfaenol ymgynghori" gan Auld LJ yn R v London Borough of Barnet ex parte B [1994] ELR 357 ar dudalen 370H-371A, ac mewn sawl achos ers hynny.
- Pwysodd Mr Jones ar yr ohebiaeth rhwng CBC a'r Comisiynydd a'i Dirprwy, y cyfeiriwn ati uchod (paragraffau 22 ac ymlaen). Argymhellodd ymhellach y rhoddwyd cyfle i'r Comisiynydd fynegi barn ar y penderfyniad yn ystod y cyfnod rhwng llythyr CBC dyddiedig 4 Chwefror 2013 a gweithredu'r penderfyniad hwnnw ar 22 Ebrill 2013. Cyfeiriodd hefyd at y ffaith fod CBC wedi cael cyngor cyfreithiol ynglŷn â'r modd y bwriadai weithredu, y mae hefyd yn ei alw yn gymorth i'w ddadl.
- Fodd bynnag, nid yw hynny, gellir dadlau, yn dod yn unlle'n agos at fodloni'r gofynion trefniadol ar gyfer ymgynghori. Addefodd Mr Jones, yn ddi-flewyn ar dafod, fod penderfyniad i ddiddymu'r Cynllun wedi'i wneud gan (neu gyda chymeradwyaeth) Drysorlys Ei Mawrhydi cyn anfon llythyr 4 Chwefror 2013, h.y. cyn y gallai unrhyw ymgynghori posibl fod wedi digwydd. Derbyniodd Mr Jones, eto'n ddi-flewyn ar dafod os yn llednais, nad oedd CBC "wedi ennill bri mawr iddo'i hun" yn y modd y bu iddo weithio gyda'r Comisiynydd, ac ymateb i bryderon, cyngor ac argymhellion y Comisiynydd, a gyflwynwyd yn ei gohebiaeth, yr adroddiad yn dilyn ei hymchwiliad statudol ac mewn ymateb i'r llythyr cyn-cyfreitha a ysgrifennwyd ar ran y Comisiynydd. Ar unrhyw olwg, roedd ymwneud CBC â'r Comisiynydd yn gwbl annigonol. Ar adeg pryd yr oedd y Comisiynydd yn ceisio cyflawni ei swyddogaethau statudol, ac yn ceisio gweithio gyda CBC, roedd yr ymatebion a gafodd oddi wrth uwch swyddogion o fewn CBC yn swta, yn amhriodol, yn anghwrtais ac yn amharchus tuag at swydd y Comisiynydd a'i swyddogaethau. Y mae, yn ein barn ni, yn siomedig – gallai eraill ddefnyddio termau cryfach – y byddai un corff statudol, wrth arfer ei swyddogaethau statudol, yn trin corff statudol arall, oedd yn ceisio arfer ei swyddogaethau statudol yntau, yn y fath fodd. Mae llywodraeth dda yn gofyn am barch, y naill at y llall, rhwng canghennau llywodraeth a chyrff, parch yr ymddengys iddo fod yn gwbl absennol ar ran CBC yn yr achos hwn.
- Beth bynnag, yn ein barn ni, mae'n amlwg nad oedd yr ohebiaeth y pwyswyd arni gan Mr Jones yn gyfystyr ag ymgynghori synhwyrol. Fel yr argymhellodd Mr Lewis, ni ddywedodd CBC yn yr ohebiaeth yn 2010 a 2011 ei fod yn bwriadu dadfabwysiadu'r Cynllun, ond os unrhyw beth rhoddodd yr argraff groes i hynny. Nid cyfnod ymgynghori oedd y cyfnod o Chwefror i Ebrill 2013 gan fod CBC eisoes wedi datgan y gweithredid y penderfyniad ym mis Ebrill, ac roedd CBC yn llwyr yn erbyn gweithio gyda'r Comisiynydd. Pa bynnag sylwadau y gallasai'r Comisiynydd eu gwneud, nid oedd dim bwriad ar ran CBC i ailystyried ei safiad mewn modd "teg, meddwl-agored a chynhwysfawr" (gweler R (Banks) v Secretary of State for the Environment, Food and Rural Affairs [2004] EWHC 416 (Admin)); ac ni wnaeth hynny. I'r graddau y rhoddwyd unrhyw gyfle i'r Comisiynydd gynnig ei sylwadau i CBC, nid oedd hynny'n gyfystyr ag unrhyw ffurf ar ymgynghori o gwbl. Ni allai unrhyw gyngor a roddid i CBC ynglŷn â'i allu i ddiddymu'r Cynllun newid natur unrhyw ddisgwyliad dilys y byddid wedi'i ennyn yn y Comisiynydd.
- Yn yr holl amgylchiadau, roedd y broses yn brin iawn, iawn o fod yn ymgynghoriad priodol a chyfreithlon; ac, ar ôl cyflwyno cynllun iaith Gymraeg ar gyfer darparu ei wasanaethau pwysig a gwerthfawr yng Nghymru lle'r addawodd beidio â gwneud dim newidiadau heb gymeradwyaeth y Comisiynydd, a chynnal y Cynllun hwnnw'n llwyddiannus am ryw 14 blynedd, mae ymddygiad CBC wrth roi rhyw ddau fis o rybudd o'i benderfyniad i ddadfabwysiadu'r cynllun hwnnw, heb ymgynghori â'r Comisiynydd a heb weithio gyda hi mewn ffordd ystyrlon, yn cwympo gryn dipyn yn is na'i disgwyliad dilys yr ymgynghorid â hi ynghylch unrhyw newid a gynigid.
- Nid yw argymhelliad Mr Jones fod unrhyw ddiffyg ymgynghori'n amherthnasol yn cario mwy o rym ychwaith yn ein barn ni. Fel sydd yn glir oddi wrth Coughlan, gorchwyl y llys yw ystyried a oedd yr hyn a ddigwyddodd yn deg. Yn absenoldeb ymgynghori priodol, nid oedd yn deg. Yn yr amgylchiadau hynny, mae'r penderfyniad a wnaed – sef diddymu'r Cynllun – yn anghyfreithlon beth bynnag fo'r rhagfarn.
- Ond beth bynnag, nid yw'n glir o gwbl ar sail y dystiolaeth fod y diffyg, fel mater o ffaith, yn amherthnasol. Er i'r Comisiynydd nodi'n gyntaf na dderbynnid unrhyw leihad yn lefel y gwasanaethau Cymraeg, ni chafodd hynny fyth ei brofi'n iawn oherwydd methiant CBC i ymgynghori'n briodol. Pe bai CBC wedi gweithio gyda'r Comisiynydd fel y dylasai, efallai y gallasid cyrraedd cyfaddawd rhyngddo a'r Comisiynydd, e.e. ar ffurf ffyrdd eraill o ddarparu ei wasanaethau yn y Gymraeg. Ni wyddom: ond nid ydym wedi'n bodloni y buasai penderfyniad CBC, oni bai am yr ymddygiad anghyfreithlon, o reidrwydd wedi aros yr un fath. Pe buasai'r ymgynghori'n ddiffuant, gallasai'r canlyniad fod yn wahanol. Dyna holl ddiben ymgynghori, a'r gofyniad trefniadol i wneud.
- Mae'r ddwy ffordd arall y ceisiodd Mr Lewis gyflwyno'r drydedd sail hon yn darparu sylfeini eraill ar gyfer yr un sail. Wedi canfod fel y gwnaethom ynghylch disgwyliad dilys, nid yw'n angenrheidiol inni ystyried y sylfeini eraill hynny ymhellach, ac eithrio dweud ein bod yn cytuno na fyddai unrhyw gorff cyhoeddus rhesymol, yn amgylchiadau'r achos hwn, yn cyhoeddi newid mor sylweddol â hwnnw a gyhoeddwyd gan CBC heb o leiaf ymgynghori â'r corff oedd yn statudol gyfrifol am oruchwylio'r cyfryw gynlluniau. Ni ellir goresgyn hynny drwy ddadlau bod agweddau eraill ar y penderfyniad yn rhesymol.
Oedi
- Yn ôl Rheol 54.5(1) y Rheolau Trefniadaeth Sifil, rhaid cyhoeddi hawliad am adolygiad barnwrol yn brydlon, a "beth bynnag ddim hwyrach na 3 mis wedi i'r sail dros wneud yr hawliad godi gyntaf". Hysbyswyd y Comisiynydd am benderfyniad CBC i ddiddymu'r Cynllun drwy'r llythyr dyddiedig 4 Chwefror 2013, a'i gadarnhau (yn dilyn sylwadau'r Comisiynydd) drwy'r llythyr dyddiedig 20 Mawrth 2013. Peidiodd CBC â gweithredu'r Cynllun o 22 Ebrill 2013. Cyhoeddwyd yr hawliad ar 25 Gorffennaf 2013.
- Argymhellodd Mr Jones fod yr hawliad felly wedi'i gyhoeddi yn anamserol, ac na ddylai'r llys estyn yr amser. Dywedodd fod llythyr 4 Chwefror 2013, yn groes i argymhelliad Mr Lewis, yn fwy na cham paratoadol yn unig: cyhoeddiad ydoedd o benderfyniad a oedd wedi ei wneud, er yn un y byddai oedi cyn ei weithredu. Roedd ymchwiliad y Comisiynydd wedi hynny, yn y cyd-destun priodol, yn "ddiystyr" – oherwydd erbyn hynny roedd y Cynllun wedi dod i ben, a'r unig bwynt a wnaed gan y Comisiynydd oedd cyfreithlondeb penderfyniad CBC i'w derfynu fel y gwnaeth. Nid oes dim cyfiawnhad dros yr oedi; ac mae CBC wedi dioddef rhagfarn oherwydd yr oedi hwnnw, oherwydd yn awr bydd yn fwy costus ailaddasu'r Cynllun nag a fuasai pe bai'r hawliad wedi'i gyhoeddi'n brydlon.
- Derbyniodd Mr Jones, yn gyfiawn, fod teilyngdod yr hawliad yn ystyriaeth bwysig pan fo'r llys yn ystyried arfer ei ddisgresiwn i estyn amser i berson gyhoeddi adolygiad barnwrol. Ystyriwn fod her y Comisiynydd ar sail diffyg ymgynghori yn un cryf: derbyniodd CBC fod ganddo ddyletswydd i ymgynghori â'r Comisiynydd, ac yn ein barn ni roedd yr awgrym ei fod wedi bodloni'r rhwymedigaeth honno yn wan iawn yn wir.
- Beth bynnag, rhaid edrych ar y rheswm dros yr oedi. Yn yr achos hwn, fel y dengys y gronoleg yr ydym wedi'i hamlinellu, treuliwyd yr amser rhwng y penderfyniad a chyhoeddi'r hawliad hwn drwy i'r Comisiynydd geisio ymwneud â CBC. Ateb ar gyfer pan aiff pethau i'r pen yw adolygiad barnwrol, ac, yn ein barn ni, peth rhesymol oedd i'r Comisiynydd gynnal ymchwiliad statudol ac aros i weld a gâi ei hargymhellion eu derbyn, cyn cyflwyno hawliad. Wedi derbyn cwynion, roedd yn ofynnol i'r Comisiynydd naill ai ymchwilio i'r cwynion hynny dan adran 17, neu hysbysu'r achwynwyr pam na chyflawnid y cyfryw ymchwiliad gan y Comisiynydd. Er na ellir rhoi corff y Goron dan unrhyw orfodaeth i dderbyn unrhyw argymhellion, roedd y Comisiynydd yn gywir i dybio y byddai corff statudol fel CBC yn ystyried ei hargymhellion ffurfiol gyda pharch a gofal; a gallasai hynny fod wedi arwain at ddatrys y materion rhwng CBC a'r Comisiynydd, o leiaf i'r graddau y byddai CBC yn ymwneud yn briodol gyda'r Comisiynydd. Nid bai'r Comisiynydd oedd bod CBC wedi gosod ei wyneb yn erbyn y cyfryw ymwneud priodol, ac wedi methu ystyried ei hargymhellion yn briodol a methu ymateb yn briodol i'r llythyr cyn-cyfreitha. At hynny, pan ddaeth yn amlwg nad oedd CBC yn mynd i gymryd yr argymhellion o ddifrif, roedd angen i'r Comisiynydd drafod yr achos ar lefel briodol, a chael cyngor cyfreithiol. Nid ydym yn ystyried y gellir dweud i'r Comisiynydd weithredu'n afresymol yn hyn o gwbl. Deilliodd yr ymddygiad afresymol oddi wrth CBC.
- A dilyn yr egwyddorion ar gyfer arfer y cyfryw ddisgresiwn a amlinellwyd gan Maurice Kay J (fel yr oedd bryd hynny) yn R v Secretary of State for Trade and Industry, ex p. Greenpeace [2000] Env LR 221 ar dudalennau 261-4, yn ein barn ni yr oedd rheswm gwrthrychol rhesymol pam na chychwynnwyd y cais o fewn tri mis, sef penderfyniad rhesymol y Comisiynydd i gynnal ymchwiliad statudol i'r mater dan adran 17; ac ystyriwn fod yr hawliad wedi'i gyflwyno'n rhesymol brydlon yn holl amgylchiadau'r achos.
- Cyn belled ag y bo unrhyw niwed yn y cwestiwn, ni dderbyniwn fod y sefyllfa mor ddu ag yr haera CBC. Dywedwyd yn y Cynllun ei hun na fyddai angen unrhyw newidiadau mewn TG i'w weithredu, na chynigid gwasanaeth ffôn Cymraeg cyflawn, ac mai'r unig ymrwymiad o safbwynt recriwtio staff Cymraeg oedd yr angen i ailwerthuso staff sy'n siaradwyr Cymraeg yn ôl angen y cwsmeriaid. Ni ddangoswyd bod adfer darpariaeth ffurflenni Cymraeg a'r wefan Gymraeg yn dasg anodd. Nid awgrymodd Mr Jones fod y Comisiynydd dan rwymedigaeth i gyhoeddi achos cyn i CBC ddadfabwysiadu'r Cynllun, yr hyn a wnaeth ar 22 Ebrill 2013. Felly yr oedd adfer y Cynllun bob amser yn mynd i fod yn ofynnol. Nid ydym wedi'n darbwyllo o gwbl fod CBC wedi dioddef unrhyw wir niwed yn sgîl yr oedi – ychydig fisoedd ar y mwyaf – cyn cyhoeddi'r hawliad hwn.
- Yn olaf, mae'n fater o ddiddordeb a phwysigrwydd cyhoeddus, yn enwedig i rai sy'n defnyddio gwasanaethau Cymraeg y corff hwn a chyrff eraill y Goron, fod materion a godir yn yr achos hwn yn cael eu hystyried a'u penderfynu gan y llys.
- Am y rhesymau hynny, rydym wedi'n darbwyllo y dylem arfer disgresiwn y llys ac estyn yr amser ar gyfer cyflwyno'r hawliad hwn fel ei fod mewn gwirionedd wedi'i gyflwyno mewn pryd.
Casgliad
- I gloi, rydym wedi canfod bod penderfyniad CBC i ddiddymu ei gynllun iaith Gymraeg o 22 Ebrill 2013 yn anghyfreithlon. Gan mai gwrandawiad cyflawn (rolled-up) yw hwn, rhoddwn ganiatâd felly i fwrw ymlaen allan o amser; caniatáu'r cais sylweddol; cofnodi dyfarniad o blaid yr Hawlydd; a dileu'r penderfyniad hwnnw. Mae hynny'n gadael y Cynllun yn weithredol, oni bai a hyd nes y penderfyna CBC ei newid, yn dilyn proses sy'n gyfreithlon o fewn telerau'r dyfarniad hwn.