Offerynnau Statudol Cymru
Y Gymraeg
Gwnaed
15 Mawrth 2016
Yn dod i rym
31 Mawrth 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 154 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn briodol gwneud y Gorchymyn hwn mewn cysylltiad â darpariaethau Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, neu er mwyn rhoi effaith lawn iddynt.
Gosodwyd drafft o'r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe'i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 150(2)(k) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
1.-(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Darpariaethau Canlyniadol) 2016.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Mawrth 2016.
2. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006(2) wedi ei diwygio fel a ganlyn-
(a)yn adran 78-
(i)hepgorer is-adrannau (2) a (3);
(ii)yn is-adran (4)(a) hepgorer "both" ac "and the Welsh language scheme";
(iii)yn is-adran (4)(b) yn lle "scheme or revise them" rhodder "revise it".
(iv)yn is-adrannau (5), (6) a (7), ym mhob man lle y mae'n digwydd, hepgorer "or scheme";
(v)yn is-adran (6) hepgorer "and the Welsh language scheme";
(vi)yn is-adran (6)(b) hepgorer "or the Welsh language scheme"; ac
(vii)yn lle is-adran (8) rhodder-
"(8) After each financial year the Welsh Ministers must publish a report of how the proposals set out in the Welsh language strategy were implemented in that financial year and how effective their implementation has been in promoting and facilitating the use of the Welsh language and must lay a copy of the report before the Assembly."; a
(b)ym mharagraff 48 o Atodlen 11-
(i)hepgorer is-baragraff (2); a
(ii)yn is-baragraff (3) yn lle "Sub-paragraphs (1) and (2) do" rhodder "Sub-paragraph (1) does".
Carwyn Jones
Prif Weinidog Cymru
15 March 2016
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Creodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ("y Mesur") swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a diddymodd Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Roedd y Mesur hefyd yn darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau Bwrdd yr Iaith Gymraeg i'r Comisiynydd.
Mae adran 154 (darpariaeth drosiannol a darpariaeth ganlyniadol etc) o'r Mesur yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru, drwy orchymyn, i wneud unrhyw ddarpariaeth drosiannol, ganlyniadol neu arall y maent yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu'n briodol mewn cysylltiad â'r Mesur, neu er mwyn rhoi effaith lawn i'r Mesur. Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 154 o'r Mesur.
Mae erthygl 2(a) o'r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 78 (y Gymraeg) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ("Deddf 2006"). Mae adran 78 o Ddeddf 2006 yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i fabwysiadu strategaeth ar gyfer y Gymraeg a chynllun iaith Gymraeg. Mae hefyd yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru mewn perthynas ag adolygu a chyhoeddi'r strategaeth honno a'r cynllun hwnnw. Mae erthygl 2(b) yn diwygio paragraff 48 o Atodlen 11 er mwyn dileu cyfeiriad at y cynllun iaith Gymraeg.
Mae'r Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i Weinidogion Cymru yn unol â Phennod 6 o Ran 4 (hysbysiadau cydymffurfio) o'r Mesur. Mae Gweinidogion Cymru o dan ddyletswydd i gydymffurfio â'r safonau a nodir yn yr hysbysiad cydymffurfio hwnnw ("y safonau") ar ôl bodloni'r holl amodau yn adran 25 o'r Mesur. Felly, mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i adran 78 o Ddeddf 2006 er mwyn hepgor cyfeiriadau at gynllun iaith Gymraeg Gweinidogion Cymru. Rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â'r safonau o 31 Mawrth 2016 ymlaen, sef y dyddiad a nodwyd yn yr hysbysiad cydymffurfio, ac o ganlyniad, ystyriwyd nad yw'n briodol i Weinidogion Cymru barhau i fabwysiadu cynllun iaith Gymraeg.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r manteision sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn.
2011 mccc 1.
/>2006 p. 32.