Gwnaed
8 Gorffennaf 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Gorffennaf 2010
Yn dod i rym
30 Gorffennaf 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 84 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1).
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Compartmentau Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2010. Mae'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 30 Gorffennaf 2010.
2. Yn y Gorchymyn hwn:–
ystyr "safle cynhyrchu" ("production site") yw mangre lle mae dofednod yn cael eu cadw at ddibenion bridio, magu, pesgi neu gynhyrchu wyau ac sy'n destun cais o dan Orchymyn Compartmentau Dofednod (Cymru) 2010; ac
ystyr "safle gweinyddol" ("administrative site") yw mangre lle mae dogfennau neu gofnodion sy'n ymwneud â safle cynhyrchu yn cael eu cadw.
3. Mae'r ffioedd ar gyfer arolygiadau yn rhinwedd Gorchymyn Compartmentau Dofednod (Cymru) 2010(2) a osodir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn daladwy i Weinidogion Cymru gan y ceisydd o fewn 30 o ddiwrnodau o'r arolygiad.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru.
8 Gorffennaf 2010
Erthygl 2
Gweithgaredd | Ffi |
---|---|
Y diwrnod cyntaf neu ran o ddiwrnod arolygiad ar safle gweinyddol | £1,400 + TAW |
Pob diwrnod ychwanegol neu ran o ddiwrnod ar safle gweinyddol | £1,000 + TAW |
Arolygiad safle cynhyrchu | £1,000 + TAW |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer talu ffioedd am arolygiadau o ran ceisiadau ar gyfer cydnabyddiaeth yn gompartment o dan Orchymyn Compartmentau Dofednod (Cymru) 2010. Mae'r Gorchymyn hwnnw yn gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 616/2009 sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer cydnabod compartmentau dofednod sy'n bodloni safonau uchel mewn bioddiogelwch (OJ Rhif L 181, 14.7.2009, t. 16).
Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn.
1981 p. 22. Mae swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i "the Minister" a "the Ministers", i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), trosglwyddwyd hwy i Weinidogion Cymru. Back [1]
O.S. 2010/1780 (Cy.169). Back [2]