Gwnaed
8 Mehefin 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Mehefin 2010
Yn dod i rym
26 Gorffennaf 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 161(3) a (4), 167(2) a 170(3) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008(1) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 4, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2010.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn–
(a) ystyr "Deddf 1984" ("the 1984 Act") yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(2); a
(b) ystyr "Deddf 2008" ("the 2008 Act") yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008.
2. 26 Gorffennaf 2010 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau canlynol o Ddeddf 2008–
(a) adran 129, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b) adran 130(1), ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud ag adrannau 13 i 15 a 76 o Ddeddf 1984 yn peidio â chael effaith;
(c) adran 130(2);
(ch) adran 166, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau o Ran 3 o Atodlen 15 a gychwynnir gan baragraff (dd);
(d) Atodlen 11; ac
(dd) Rhan 3 o Atodlen 15 ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â diddymu adrannau 13 i 15 a 76 o Ddeddf 1984.
3. Mae'r darpariaethau trosiannol ac arbed a bennir yn Atodlen 1 yn cael effaith.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Mehefin 2010
Erthygl 3
1. Yn yr Atodlen hon–
ystyr "y Rheoliadau Hysbysu" ("the Notification Regulations") yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010(3); ac
ystyr "y Rheoliadau Pwerau Awdurdodau Lleol" ("the Local Authority Powers Regulations") yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Pwerau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2010(4).
2. Mae adran 9 o Ddeddf 1984 (llongau ar ddyfroedd mewndirol neu arfordirol) yn parhau mewn grym at ddibenion adran 13 o Ddeddf 1984 (rheoliadau ar gyfer rheoli clefydau penodol) (er gwaethaf diddymu adran 9 gan Ddeddf 2008).
3.–(1) Pan fo–
(a) dyletswydd ar ymarferydd meddygol cofrestredig o dan adran 11 o Ddeddf 1984 (adrodd am achosion o glefyd hysbysadwy a gwenwyn bwyd) wedi codi cyn 26 Gorffennaf 2010 ond heb ei chyflawni cyn y dyddiad hwnnw; a
(b) y ddyletswydd honno yn gysylltiedig â chlefyd hysbysadwy a restrir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau Hysbysu (Clefydau a Syndromau Hysbysadwy),
rhaid i'r ymarferydd meddygol cofrestredig gydymffurfio â rheoliad 2 o'r Rheoliadau Hysbysu (dyletswydd i hysbysu ynghylch amheuaeth o glefyd, haint neu halogiad mewn cleifion).
(2) At ddibenion is-baragraff (1), rhaid trin yr ymarferydd meddygol cofrestredig fel pe bai wedi ffurfio amheuaeth o dan reoliad 2(1) o'r rheoliadau Hysbysu ar 26 Gorffennaf 2010.
4.–(1) Pan fo–
(a) swyddog priodol awdurdod lleol wedi cael tystysgrif yn unol ag adran 11(1) o Ddeddf 1984 (adrodd am achosion o glefyd hysbysadwy a gwenwyn bwyd);
(b) y swyddog priodol heb gyflawni'r ddyletswydd o anfon copïau o'r dystysgrif honno at bartïon penodedig eraill o dan adran 11(3) o'r Ddeddf honno(5) cyn 26 Gorffennaf 2010; ac
(c) y dystysgrif yn ymwneud â chlefyd hysbysadwy a restrir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau Hysbysu (Clefydau a Syndromau Hysbysadwy),
rhaid trin y dystysgrif honno fel hysbysiad a anfonwyd o dan reoliad 2 o'r Rheoliadau Hysbysu (dyletswydd i hysbysu ynghylch amheuaeth o glefyd, haint neu halogiad mewn cleifion).
(2) At ddibenion is-baragraff (1), rhaid trin y swyddog priodol fel pe bai wedi cael yr hysbysiad ar 26 Gorffennaf 2010.
5. Pan fo–
(a) swyddog priodol awdurdod lleol wedi gwneud cais o dan adran 20 o Ddeddf 1984(6) (atal gwaith er mwyn rhwystro clefyd rhag lledaenu); a
(b) pan na chydymffurfiwyd â'r cais hwnnw cyn 26 Gorffennaf 2010 a'r cais heb ddod i ben nac wedi ei dynnu'n ôl,
rhaid trin y cais fe cais a wnaed o dan reoliad 8 o'r rheoliadau Pwerau Awdurdodau Lleol (ceisiadau am gydweithredu at ddibenion diogelu iechyd).
6. Pan fo–
(a) hysbysiad wedi ei ddyroddi i berson sydd â gofal am blentyn, o dan adran 21 o Ddeddf 1984 (allgáu plentyn o'r ysgol os yw'n dueddol o drosglwyddo clefyd hysbysadwy); a
(b) tystysgrif hed ei dyroddi gan swyddog priodol cyn 26 Gorffennaf 2010 mewn perthynas â'r hysbysiad hwnnw,
bydd adran 21 o Ddeddf 1984 yn parhau mewn grym at ddibenion yr hysbysiad (er gwaethaf diddymu'r adran honno gan Ddeddf 2008).
7. Mewn achos–
(a) pan fo swyddog priodol awdurdod lleol wedi gofyn i bennaeth ysgol ddarparu rhestr o enwau a chyfeiriadau disgyblion o dan adran 22 o Ddeddf 1984(7) (rhestr o ddisgyblion dydd mewn ysgol sydd ag achos o glefyd hysbysadwy);
(b) pan nad yw'r amser ar gyfer cydymffurfio â'r cais wedi dod i ben; ac
(c) pan na chydymffurfiwyd â'r cais cyn 26 Gorffennaf 2010,
rhaid trin y cais fel cais a wnaed o dan reoliad 3 o'r Rheoliadau Pwerau Awdurdodau Lleol (gofyniad i ddarparu manylion am blant sy'n mynychu ysgol).
8. Pan fo–
(a) yr awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad i feddiannydd o dan adran 31 o Ddeddf 1984 (diheintio mangre); a
(b) y camau a bennwyd gan yr awdurdod lleol yn ei hysbysiad heb eu cyflawni gan yr awdurdod lleol na'r meddiannydd cyn 26 Gorffennaf 2010,
bydd adran 31 o Ddeddf 1984 yn parhau mewn grym at ddibenion yr hysbysiad (er gwaethaf diddymu'r adran honno gan Ddeddf 2008).
9. Yn union cyn 26 Gorffennaf 2010, os oes gorchymyn mewn grym, a wnaed gan ynad heddwch o dan un neu ragor o adrannau 35 i 38 a 40 o Ddeddf 1984(8) (sy'n ymwneud â gorchmynion ynadon heddwch)–
(a) rhaid trin y gorchymyn fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 45G (pŵer i orchymyn mesurau iechyd mewn perthynas â phersonau) ac, os cyfunwyd y gorchymyn â gwarant, adran 45K (gorchmynion Rhan 2A: atodol) o Ddeddf 1984;
(b) bydd y gorchymyn yn peidio â bod mewn grym ar ôl cyfnod o 14 diwrnod sy'n dechrau gyda 26 Gorffennaf 2010, neu ar ôl pa bynnag gyfnod byrrach a bennir yn y gorchymyn; ac
(c) ni chaniateir estyn y gorchymyn, ond nid yw hynny'n rhwystro ynad heddwch rhag gwneud gorchymyn newydd o dan adrannau 45G neu 45K o Ddeddf 1984, yn ôl fel y digwydd.
10. Yn union cyn 26 Gorffennaf 2010, os oes gorchymyn mewn grym, a wnaed gan lys ynadon o dan adran 42 o Ddeddf 1984 (cau llety cyffredinol oherwydd clefyd hysbysadwy)–
(a) rhaid trin y gorchymyn fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 45I o Ddeddf 1984 (pŵer i orchymyn mesurau iechyd mewn perthynas â mangre);
(b) bydd y gorchymyn yn peidio â bod mewn grym ar ôl cyfnod o 14 diwrnod sy'n dechrau gyda 26 Gorffennaf 2010 (neu ar ôl pa bynnag gyfnod byrrach a bennir yn y gorchymyn); ac
(c) ni chaniateir estyn y gorchymyn, ond nid yw hynny'n rhwystro ynad heddwch rhag gwneud gorchymyn newydd o dan adran 45I o Ddeddf 1984.
11. Pan fo–
(a) swyddog priodol awdurdod lleol neu ymarferydd meddygol cofrestredig wedi ardystio, o dan adran 43 o Ddeddf 1984 (person â chlefyd hysbysadwy, a fu farw mewn ysbyty), na ddylid symud corff marw o ysbyty ac eithrio at y diben o'i symud yn uniongyrchol i gorffdy neu i'w gladdu neu'i amlosgi yn ddi-oed; a
(b) y corff sy'n destun yn ardystiad yn parhau yn yr ysbyty hwnnw yn union cyn 26 Gorffennaf 2010,
bydd adran 43 o Ddeddf 1984 yn parhau mewn grym at ddibenion yr ardystiad a'r corff (er gwaethaf diddymu'r adran honno gan Ddeddf 2008).
12. Bydd unrhyw ddiffiniad yn adran 74 o Ddeddf 1984 (9) (dehongli) a ddefnyddir yn–
(a) adrannau 13 i 15 neu 76 o Ddeddf 1984; neu
(b) unrhyw ddarpariaeth o Ddeddf 1984 sy'n parhau mewn grym at ddibenion penodedig yn rhinwedd paragraffau 2 i 11 o'r Atodlen hon,
yn parhau mewn grym at ddibenion dehongli'r adrannau a'r darpariaethau hynny (er gwaethaf eu diddymu, a diddymu adran 74 o Ddeddf 1984, gan Ddeddf 2008).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, ar 26 Gorffennaf 2010, rai darpariaethau yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 ("y Ddeddf") sy'n diwygio Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984. Mae'r rhain yn cynnwys pwerau diwygiedig ac ehangach i ddiogelu iechyd drwy wneud rheoliadau ynglŷn â lledaenu heintiau a halogi o ganlyniad i deithio rhyngwladol, ac ar gyfer darpariaeth ddomestig i ddiogelu rhag, ac ymateb i, heintio a halogi. Darperir pwerau newydd i ynadon heddwch, i wneud gorchmynion sy'n gorfodi cymryd camau i ddiogelu iechyd mewn perthynas â phersonau, pethau a mangreoedd. Bydd modd i ynadon heddwch roi cyfarwyddyd hefyd i weithredu ym mha bynnag fodd sy'n briodol er mwyn cyflawni eu gorchmynion. Gwneir addasiadau i'r hawliau mynediad a'r trefniadau gorfodi mewn perthynas â mesurau diogelu iechyd. Yn ychwanegol, gwneir nifer o ddarpariaethau trosiannol ac arbedion, yn bennaf ynglŷn â'r gofynion hysbysu o dan y ddeddfwriaeth flaenorol.
Nodyn ynghylch gorchmynion cychwyn blaenorol
Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan orchmynion cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Darpariaeth | Dyddiad Cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
adran 140 (yn rhannol) | 21 Mai 2010 | 2010/1457 (Cy.130) |
adran 166 (yn rhannol) | 21 Mai 2010 | 2010/1457 (Cy.130) |
Rhan 2 o Atodlen 12 | 21 Mai 2010 | 2010/1457 (Cy.130) |
Rhan 4 o Atodlen 15 (yn rhannol) | 21 Mai 2010 | 2010/1457 (Cy.130) |
adran148 | 19 Ebrill 2010 | 2010/989 (Cy.98) |
adran 147 | 6 Ebrill 2009 | 2009/631 (Cy.57) |
adran 166 (i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 5 o Atodlen 15) | 6 Ebrill 2009 | 2009/631 (Cy.57) |
Atodlen 13 | 6 Ebrill 2009 | 2009/631 (Cy.57) |
Rhan 5 o Atodlen 15 | 6 Ebrill 2009 | 2009/631 (Cy.57) |
2008 p.14. Gweler adran 171(2) o'r Ddeddf honno am ddiffiniad o "appropriate authority", sy'n berthnasol i'r pŵer a arferir. Back [1]
1984 p.22. Back [2]
O.S. 2010/1546 (Cy.144). Back [3]
O.S. 2010/1545 (Cy.143). Back [4]
Cyn ei diddymu, diwygiwyd adran 11(3) gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), Atodlen 2, Rhan 2, paragraffau 50(1) a (2). Back [5]
Cyn ei diddymu, diwygiwyd adran 20 gan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (p.16), Atodlen 3, paragraff 28. Back [6]
Cyn ei diddymu, diwygiwyd adran 22 yn rhinwedd Proclamasiwn Brenhinol dyddiedig 31 Rhagfyr 1984 a oedd yn diddymu'r ddimai. Back [7]
Cyn ei diddymu, diwygiwyd adran 37 gan: Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p.19), Atodlen 9, paragraff 26(2), Atodlen 10; Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43), Atodlen 4, paragraffau 60 a 62; O.S. 2000/90, Atodlen 1, paragraff 17(1) a (4)(b); O.S. 2002/2469, Atodlen 1, Rhan 1, paragraff (11)(1) a (4)(a) a (b); ac O.S. 2007/961, yr Atodlen, paragraff 14(1) a (6)(a) a (b). Back [8]
Cyn ei ddiddymu, diwygiwyd y diffiniad o "NHS Trust", a roddir yn adran 74, gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p.43), Atodlen 1, paragraffau 78 a 79. Nid yw'r diwygiadau eraill i adran 74 yn berthnasol yma. Back [9]