Gwnaed
10 Mawrth 2010
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2005 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2010.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "Deddf 2005" ("the 2005 Act") yw Deddf Addysg 2005.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2005 ac at Atodlenni iddi.
2. Daw'r darpariaethau canlynol o Ddeddf 2005 i rym ar 1 Ebrill 2010 o ran Cymru:
(a) adran 101 (ariannu ysgolion a gynhelir) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 16 isod,
(b) adran 117 (diwygiadau pellach) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 18 isod,
(c) adran 123 (diddymu) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 19 isod,
(ch) Atodlen 16, paragraffau 1 i 7 (ariannu ysgolion a gynhelir),
(d) Atodlen 18, paragraffau 5, 7-9, 11, 13, 14 (diwygiadau pellach),
(dd) yn Atodlen 19, yn Rhan 4, diddymu Deddf Safonau ac Fframwaith Ysgolion 1998, adran 45A(5) a (6), Deddf Addysg 2002, adrannau 41(2), 42 ac yn Atodlen 21, paragraffau 124(3) a 125(3), Deddf Llywodraeth Leol 2003, yn Atodlen 7, paragraff 66.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
10 Mawrth 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2010 adran 101 o Ddeddf Addysg 2005 ac Atodlen 16 iddi (a diwygiadau canlyniadol perthynol a diddymiadau yn Atodlenni 18 a 19) ynghylch ariannu ysgolion a gynhelir.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2005 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Darpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
Adrannau 19 i 47 | 1 Medi 2006 | O.S. 2006/1338 (Cy.130) |
Adrannau 50 i 52 | 1 Medi 2006 | O.S. 2006/1338 (Cy.130) |
Adran 53 yn rhannol | 1 Medi 2006 | O.S. 2006/1338 (Cy.130) |
Adran 54 | 1 Medi 2006 | O.S. 2006/1338 (Cy.130) |
Adrannau 55 i 57 | 1 Ebrill 2007 | O.S. 2006/1338 (Cy.130) |
Adrannau 58 i 60 | 1 Medi 2006 | O.S. 2006/1338 (Cy.130) |
Adran 61 yn rhannol | 1 Medi 2006 | O.S. 2006/1338 (Cy.130) |
Adran 71 | 1 Medi 2006 | O.S. 2006/1338 (Cy.130) |
Adran 105 | 1 Medi 2006 | O.S. 2006/1338 (Cy.130) |
Adran 106 | 1 Medi 2006 | O.S. 2006/1338 (Cy.130) |
Adran 115 | 1 Medi 2006 | O.S. 2006/1338 (Cy.130) |
Adran 116 | 1 Medi 2006 | O.S. 2006/1338 (Cy.130) |
Adran 117 yn rhannol | 1 Medi 2006 | O.S. 2006/1338 (Cy.130) |
Adran 118 | 1 Medi 2006 | O.S. 2006/1338 (Cy.130) |
Adran 123 yn rhannol | 1 Medi 2006 | O.S. 2006/1338 (Cy.130) |
Adran 123 yn rhannol | 1 Ebrill 2007 | O.S. 2006/1338 (Cy.130) |
Atodlenni 2 i 6 | 1 Medi 2006 | O.S. 2006/1338 (Cy.130) |
Atodlen 7 yn rhannol | 1 Medi 2006 | O.S. 2006/1338 (Cy.130) |
Atodlen 8 | 1 Medi 2006 | O.S. 2006/1338 (Cy.130) |
Atodlen 9 yn rhannol | 1 Medi 2006 | O.S. 2006/1338 (Cy.130) |
Atodlen 18 yn rhannol | 1 Medi 2006 | O.S. 2006/1338 (Cy.130) |
Atodlen 19 yn rhannol | 1 Medi 2006 | O.S. 2006/1338 (Cy.130) |
Atodlen 19 yn rhannol | 1 Ebrill 2007 | O.S. 2006/1338 (Cy.130) |
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg 2005 wedi'u dwyn i rym o ran Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2005/2034, O.S. 2006/2129.