Gwnaed
2 Chwefror 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
3 Chwefror 2010
Yn dod i rym
1 Ebrill 2010
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Consesiynau Teithio (Gwasanaethau Cymwys) (Diwygio) 2010 a daw i rym ar 1 Ebrill 2010.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Diwygir Gorchymyn Consesiynau Teithio (Gwasanaethau Cymwys) 2002(3) yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn erthygl 3(1)(a)(i), yn lle "adran 509 o Ddeddf Addysg 1996" rhodder "adrannau 3, 4 a 6 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008".
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
2 Chwefror 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Gorchymyn Consesiynau Teithio (Gwasanaethau Cymwys) 2002 ("Gorchymyn 2002").
Mae Gorchymyn 2002 yn gosod beth sydd yn wasanaeth cymwys at ddibenion adran 94 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 ac adran 146 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000. Mae'r cyfryw wasanaethau yn gyfranogwyr mewn cynlluniau consesiynau teithio gorfodol. Mae gwasanaeth bws cymwys, mewn amgylchiadau penodedig, yn cynnwys gwasanaeth a ddarperir neu a sicrheir gan awdurdod lleol at ddibenion teithio gan ddysgwyr.
Gosododd adran 509 o Ddeddf Addysg 1996 ("y Ddeddf") rwymedigaeth ar awdurdodau addysg lleol yng Nghymru i wneud trefniadau ar gyfer darparu cludiant i hwyluso presenoldeb personau sy'n derbyn addysg mewn ysgolion a sefydliadau penodol eraill. Disodlwyd adran 509 o'r Ddeddf yng Nghymru gan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 ("y Mesur"). Adrannau 3, 4 a 6 o'r Mesur sydd bellach yn gwneud darpariaeth o ran swyddogaethau awdurdod lleol mewn perthynas â threfniadau teithio i ddysgwyr.
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio erthygl 3(1)(a)(i) o Orchymyn 2002 er mwyn cyfeirio at adrannau 3, 4 a 6 o'r Mesur yn hytrach nag adran 509 o'r Ddeddf.
1985 p.67. Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [1]
2000 p.38. Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]
O.S. 2002/2023 (Cy.207). Back [3]