Gwnaed
3 Rhagfyr 2009
Yn dod i rym
11 Rhagfyr 2009
1. Daw'r briffordd newydd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei hadeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym.
2. Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y map a adneuwyd.
3. Yn y Gorchymyn hwn:-"
Mesurir pob mesur pellter ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;
i. ystyr -y map a adneuwyd- (-the deposited map-)
yw'r map sy'n dwyn y Rhif HA 10/2 WAG 3 ac sydd wedi'i farcio -Gorchymyn Cefnffordd Llundain i Abergwaun (yr A40) (Gwelliant wrth The Kell, Trefgarn) 2009-, wedi'i lofnodi ar ran Gweinidogion Cymru ac wedi'i adneuo yn Uned Storio ac Adfer Cofnodion (RSRU) Llywodraeth Cynulliad Cymru, Neptune Point, Ocean Way, Caerdydd.
ii. ystyr -y gefnffordd newydd- (-the new trunk road-)
yw'r briffordd a grybwyllir yn erthygl 1 o'r Gorchymyn hwn;
iii. ystyr -y gefnffordd- (-the trunk road-)
yw Cefnffordd Llundain i Abergwaun (yr A40).
4. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 11 Rhagfyr 2009 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Llundain i Abergwaun (yr A40) (Gwelliant wrth The Kell, Trefgarn) 2009.
Llofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru
J Collins
Dirprwy Gyfarwyddwr Cynllunio a Llywodraethu Trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru
3 Rhagfyr 2009
Mae llwybr y gefnffordd newydd yn llwybr o oddeutu 0.48 o gilometrau o hyd, yn cychwyn wrth bwynt ar y gefnffordd oddeutu 622 o fetrau i'r de o linell ganol y gyffordd â chefnffordd yr A40 â'r ffordd C3059 i Spittal ac sy'n ymestyn i gyfeiriad gogleddol yn gyffredinol at bwynt 112 o fetrau i'r de o gyffordd y gefnffordd â'r ffordd C3059 i Spittal.