Gwnaed
16 Hydref 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 28(2) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (Cychwyn Rhif 2) 2009.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Mesur" ("the Measure") yw Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.
2.–(1) Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 30 Hydref 2009:
(a) adran 1(4)(j) (y prif dermau a ddefnyddir yn y Mesur hwn) at ddibenion adran 12;
(b) adran 12 (cod ymddygiad wrth deithio);
(c) adran 26 (diddymiadau) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 2 isod;
(ch) yn Atodlen 2 (diddymiadau), diddymu paragraff 4 o Atodlen 10 i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006.
(2) Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 4 Ionawr 2010:
(a) adran 13 (gorfodi cod ymddygiad wrth deithio: disgyblion mewn ysgolion perthnasol);
(b) adran 14 (gorfodi cod ymddygiad wrth deithio: tynnu'n ôl drefniadau teithio);
(c) adran 17(4) (cydweithredu: gwybodaeth neu gymorth arall).
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
16 Hydref 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn darpariaethau Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 i rym ar 30 Hydref 2009 a 4 Ionawr 2010.
Mae effaith y darpariaethau yn y Mesur sy'n cael eu dwyn i rym ar 30 Hydref 2009 fel a ganlyn:
Mae adran 1(4) yn diffinio "mannau perthnasol" ac mae paragraff (j) sy'n cyfeirio at fannau lle yr ymgymerir â phrofiad gwaith yn cael ei ddwyn i rym at ddibenion adran 12 er mwyn i'r cod ymddygiad wrth deithio gwmpasu teithio i fannau o'r fath.
Mae adran 12 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio cod ymddygiad wrth deithio sy'n nodi'r safonau ymddygiad y mae'n ofynnol i ddysgwyr eu harddel tra byddant yn teithio i'w mannau dysgu ac oddi yno.
Mae adran 26 ac Atodlen 2 yn cynnwys diddymiadau.
Mae effaith y darpariaethau yn y Mesur sy'n cael eu dwyn i rym ar 4 Ionawr 2010 fel a ganlyn:
Mae adran 13 yn diwygio adran 89 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 yn y fath fodd ag i ymgorffori'r cod ymddygiad wrth deithio ym mholisi ymddygiad ysgol.
Mae adran 14 yn caniatáu i awdurdod lleol dynnu cludiant oddi wrth ddysgwr sy'n methu â chydymffurfio â'r cod ymddygiad wrth deithio.
Mae adran 17(4) yn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth gynorthwyo awdurdod lleol i orfodi'r cod ymddygiad wrth deithio.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 wedi eu dwyn i rym gan Orchmynion Cychwyn a gafodd eu gwneud cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
Adran 1 (ac eithrio is-adran (4)(j)) | 6 Mawrth 2009 | 2009/371 (Cy.39) |
Adran 2 | 6 Mawrth 2009 | 2009/371 (Cy.39) |
Adran 3 | 1 Medi 2009 | 2009/371 (Cy.39) |
Adran 4 | 1 Medi 2009 | 2009/371 (Cy.39) |
Adran 5 | 6 Mawrth 2009 ac 1 Medi 2009 | 2009/371 (Cy.39) |
Adran 6 | 6 Mawrth 2009 | 2009/371 (Cy.39) |
Adran 7 | 1 Medi 2009 | 2009/371 (Cy.39) |
Adran 8 | 1 Medi 2009 | 2009/371 (Cy.39) |
Adran 9 | 1 Medi 2009 | 2009/371 (Cy.39) |
Adran 10 | 6 Mawrth 2009 | 2009/371 (Cy.39) |
Adran 11 | 6 Mawrth 2009 | 2009/371 (Cy.39) |
Adran 15 | 6 Mawrth 2009 | 2009/371 (Cy.39) |
Adran 16 | 6 Mawrth 2009 | 2009/371 (Cy.39) |
Adran 17 yn rhannol | 6 Mawrth 2009 ac 1 Medi 2009 | 2009/371 (Cy.39) |
Adran 18 | 1 Medi 2009 | 2009/371 (Cy.39) |
Adran 19 | 6 Mawrth 2009 | 2009/371 (Cy.39) |
Adran 20 | 1 Medi 2009 | 2009/371 (Cy.39) |
Adran 21 | 6 Mawrth 2009 | 2009/371 (Cy.39) |
Adran 22 | 1 Medi 2009 | 2009/371 (Cy.39) |
Adran 23 | 6 Mawrth 2009 | 2009/371 (Cy.39) |
Adran 24 | 6 Mawrth 2009 | 2009/371 (Cy.39) |
Adran 25 | 6 Mawrth 2009 ac 1 Medi 2009 | 2009/371 (Cy.39) |
Adran 26 yn rhannol | 6 Mawrth 2009 ac 1 Medi 2009 | 2009/371 (Cy.39) |
Atodlen 1 | 6 Mawrth 2009 ac 1 Medi 2009 | 2009/371 (Cy.39) |
Atodlen 2 yn rhannol | 6 Mawrth 2009 ac 1 Medi 2009 | 2009/371 (Cy.39) |
Gweler hefyd adran 28(1) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 10 Chwefror 2009 (deufis ar ôl cymeradwyo'r Mesur gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor).
2008 mccc 2. Back [1]