Gwnaed
8 Gorffennaf 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Gorffennaf 2009
Yn dod i rym
1 Hydref 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ailstrwythuro Cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol: Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2009 ac mae'n dod i rym ar 1 Hydref 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae Gorchymyn Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Tâl am Wasanaethau Fferyllol – Trefniant Arbennig) 1991(2) wedi'i ddirymu i'r graddau y mae'n gymwys o ran Cymru.
3. Mae effaith i'r Atodlen (sy'n cynnwys diwygiadau i is-ddeddfwriaeth).
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Gorffennaf 2009
Erthygl 3
1.–(1) Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Clefydau Gwenerol) 1974(3) wedi'u diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (cyfrinachedd gwybodaeth) –
(a) yn lle "Regional Health Authority and every District Health Authority" rhodder "Local Health Board and NHS Trust"; a
(b) yn lle "Authority" rhodder "Local Health Board or the NHS Trust".
2.–(1) Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Ffioedd a Godir ar Ymwelwyr Tramor) 1989(4) wedi'u diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(2) (enwi, cychwyn a dehongli) –
(a) hepgorer y diffiniad o "Authority";
(b) yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor mewnosoder y diffiniad canlynol –
""Local Health Board" has the meaning assigned to it by section 11 of the National Health Service (Wales) Act 2006(5);".
(3) Ym mhob un o'r rheoliadau canlynol, yn lle "Authority" ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder "Local Health Board"–
(a) rheoliad 1 (enwi, cychwyn a dehongli);
(b) rheoliad 2 (codi ac adennill ffioedd);
(c) rheoliad 4 (ymwelwyr tramor sy'n esempt rhag ffioedd); ac
(ch) 8 (ad-daliadau).
3.–(1) Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(6) wedi'u diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn a dehongli) –
(a) ym mharagraffau (c) ac (f) o'r diffiniad o "responsible authority", ar ôl y geiriau "NHS Trust", mewnosoder "or Local Health Board";
(b) ym mharagraff (b) o'r diffiniad o "voucher", ar ôl y geiriau "NHS Trust" ym mhob man y maent yn digwydd, mewnosoder "or Local Health Board.".
(3) Ym mharagraff (2) o reoliad 2 (ffioedd am sbectolau a lensys cyffwrdd) ar ôl y geiriau "NHS Trust" mewnosoder ", Local Health Board".
(4) Ym mharagraff (5) o reoliad 8 (cymhwyster – cyflenwi offer optegol) ar ôl y geiriau "NHS Trust" ym mhob man y maent yn digwydd mewnosoder "or Local Health Board".
(5) Yn rheoliad 10 (dyroddi talebau gan ymddiriedolaethau GIG) –
(a) yn lle'r pennawd, rhodder "Issue of Vouchers by NHS Trusts and Local Health Boards";
(b) ar ôl y geiriau "NHS Trust" ym mhob man y maent yn digwydd, mewnosoder "or Local Health Board".
(6) Yn Atodlen 1 (codau llythrennau ar dalebau ac wynebwerthoedd – cyflenwi ac amnewid), ym mharagraff 10 ar ôl y geiriau "NHS Trust" mewnosoder "or Local Health Board".
(7) Yn Atodlen 2 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromig, sbectolau bach a sbectolau arbennig ac offer cymhleth) ym mharagraff(1)(g), ar ôl y geiriau "NHS Trust" ym mhob man lle y maent yn digwydd, mewnosoder "or Local Health Board".
4.–(1) Mae Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dwr) 2001(7) wedi'u diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle'r geiriau "National Public Health Service for Wales" ym mhob man y maent yn digwydd, rhodder "Public Health Wales National Health Service Trust".
(3) Yn rheoliad 2 (dehongli) –
(a) hepgorer y diffiniadau canlynol –
(i) "health authority", a
(ii) "National Public Health Service";
(b) yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor ,mewnosoder y diffiniad canlynol –
""Public Health Wales National Health Service Trust" means a National Health Service Trust within the meaning of the National Health Service (Wales) Act 2006(8) if, and in so far as, it has the function of providing services in relation to public health in Wales;".
5.–(1) Mae Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 (9) wedi'u diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1)(ch) (sefydliadau sydd wedi'u heithrio) –
(a) ar ddiwedd paragraff (i) dileer "neu";
(b) ar ddiwedd paragraff (ii) dileer ";" ac mewnosoder ", neu (iii) mewn Bwrdd Iechyd Lleol;".
6.–(1) Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002(10) wedi'u diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 3 o Atodlen 1 (yr wybodaeth sydd i'w darparu ar gyfer cofrestru fel person sy'n rhedeg sefydliad neu asiantaeth) a pharagraff 8 o Atodlen 2 (y dogfennau sydd i'w cyflenwi gyda chais am gofrestru fel person sy'n rhedeg sefydliad neu asiantaeth) yn lle'r geiriau "except where the applicant is a local authority or NHS trust," rhodder "except where the applicant is a local authority, an NHS trust or a Local Health Board,".
7.–(1) Mae Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003(11) wedi'u diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor, mewnosoder y diffiniad canlynol–
"mae i'r term "Bwrdd Iechyd Lleol" ("Local Health Board") yr ystyr a briodolir iddo gan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;".
(3) Yn rheoliad 3 (asiantaethau sydd wedi'u heithrio)–
(a) ar ôl y geiriau "ymddiriedolaeth GIG" mewnosoder "a Bwrdd Iechyd Lleol";
(b) ar ôl y geiriau "ymddiriedolaethau GIG eraill" mewnosoder "a Byrddau Iechyd Lleol eraill".
(4) Yn rheoliad 19(2)(iii) a (3)(c) (adolygu ansawdd y gofal), yn lle'r geiriau "unrhyw awdurdod lleol neu ymddiriedolaeth GIG" rhodder "unrhyw awdurdod lleol, ymddiriedolaeth GIG neu Fwrdd Iechyd Lleol".
8.–(1) Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007(12) wedi'u diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor, mewnosoder y diffiniad canlynol –
"mae i'r term "Bwrdd Iechyd Lleol" ("Local Health Board") yr ystyr a briodolir iddo gan adran 11 o'r Ddeddf;".
(3) Yn rheoliad 11 (ad-daliadau) –
(a) ym mharagraff (1)(a), ar ôl y geiriau "Ymddiriedolaeth GIG" ym mhob man y maent yn digwydd, mewnosoder "neu Fwrdd Iechyd Lleol"; a
(b) ym mharagraff (2), ar ôl y geiriau "Ymddiriedolaeth GIG" mewnosoder ", Bwrdd Iechyd Lleol".
9.–(1) Mae Rheoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008(13) wedi'u diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 12 (pwerau i wneud datganiadau a hunanasesiadau yn ofynnol, fel rhan o drefniadau monitro ac archwilio swyddogion atebol neu fel arall), yn lle paragraff (2) rhodder y canlynol –
"(2) Caiff AGIC ofyn am ddatganiad cyfnodol priodol a hunanasesiad priodol gan –
(a) Ymddiriedolaeth GIG, neu gan berson sydd wedi'i gofrestru gyda'r Ymddiriedolaeth GIG honno ac sy'n darparu gofal iechyd; a
(b) Bwrdd Iechyd Lleol.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn gwneud diwygiadau i amrywiol ddarpariaethau mewn is-ddeddfwriaeth benodedig. Daw'r diwygiadau o ganlyniad i sefydlu strwythur newydd i ddarparu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru o 1 Hydref 2009 ymlaen.
Mae Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/778 (Cy.66)) ("Gorchymyn 2009") yn diddymu un ar hugain o'r ddau Fwrdd Iechyd Lleol ar hugain presennol yng Nghymru ar 1 Hydref 2009 ac yn darparu bod Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys yn parhau ar ei ffurf bresennol fel y'i sefydlwyd o dan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148 (Cy.18)). Mae Gorchymyn 2009 yn sefydlu chwech o Fyrddau Iechyd Lleol newydd hefyd.
Mae Gorchymyn Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diddymu) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/1306 (Cy.117)) yn diddymu saith o Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru ar 1 Hydref 2009. Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, fel y'i sefydlwyd o dan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) 1998 (O.S. 1998/678), ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre, fel y'i sefydlwyd o dan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993 (O.S. 1993/2838), yn parhau mewn bodolaeth.
Mae Erthygl 2 o'r Gorchymyn yn dirymu Gorchymyn Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Tâl am Wasanaethau Fferyllol – Trefniant Arbennig) 1991.
Mae Erthygl 3 o'r Gorchymyn yn rhoi ei heffaith i'r Atodlen sy'n gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth amrywiol er mwyn adlewyrchu strwythurau newydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
2006 (p.42). Back [1]
O.S. 1991/509. Back [2]
O.S. 1974/29. Back [3]
O.S. 1989/306. Back [4]
2006 p.42. Back [5]
O.S. 1997/818. Back [6]
O.S. 2001/3911. Back [7]
2006 (p.42). Back [8]
O.S. 2002/324 (Cy. 37). Back [9]
O.S. 2002/919 (Cy.107). Back [10]
O.S. 2003/2527 (Cy.242). Back [11]
O.S. 2007/1104 (Cy.116). Back [12]
O.S. 2008/3239 (Cy.286). Back [13]